
Yn wreiddiol o Aberaeron. Ar ôl graddio o Goleg
Normal Bangor mewn Cyfathrebu a Darlledu, dechreuodd Chris ei yrfa
fel gwr camera yn gweithio o gwmpas Cymru, Ewrop a’r byd ar brosiectau
niferus. Yn 1991, o ganlyniad i gyflwyno darn i S4C o St Moritz, yn
y Swistir, cafodd gyfle i fod yn rhan o dîm cyflwyno'r tywydd ar S4C.
Yn ogystal â’r tywydd, mae Chris wedi ffilmio a chyfarwyddo rhaglenni
a hysbysebion amrywiol i S4C, BBC, ITV Cymru, Sky, ZDF a nifer fawr
o gleientiaid corfforaethol. 2008 yw ei ail flynedd ar bymtheg o gyflwyno’r
tywydd ar S4C. Mae Chris yn byw ger y môr ym Mro Morgannwg. Mae ei
ddiddordebau’n cynnwys cerdded, trefnu teithiau ar gyfer elusennau,
gwaith gwirfoddol, sinema a ffilmiau, cerddoriaeth, syrffio, garddio
(dipyn bach!) a threulio gymaint o amser â phosib gyda'i 4 o blant…
Ac wrth gwrs, y tywydd.
Merch
ffarm o Fynachlog-Ddu, Sir Benfro yw Mari Grug. Bu’n ddisgybl yn Ysgol
y Preseli cyn mynd ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd i astudio
Cymraeg. Cafodd Mari flas cynnar ar fyd teledu pan gafodd gyfle i
actio rhan Catrin yn y gyfres ddrama 'Darn o Dir' ar S4C. Ar ôl graddio
dechreuodd Mari ar ei gyrfa fel cyflwynydd gyda Planed Plant. Yn ystod
ei chyfnod yno cafodd gyfle i gyd-weithio gydag amryw o gwmnïau annibynnol.
Uchafbwynt ei gyrfa hyd yn hyn oedd cyflwyno o’r Sioe Fawr a’r Eisteddfod
Genedlaethol yn 2007, gan ei bod wedi mynychu’r digwyddiadau hyn yn
rheolaidd ers oedd hi’n ddim o beth. Ar 1 Tachwedd 2007 ymunodd Mari
â thîm tywydd S4C ac mae'n edrych ymlaen at y sialens newydd yma yn
ei bywyd. Pan nad yw'n cyflwyno’r tywydd, mae’n mwynhau mynd allan
am fwyd, mynd adre i Sir Benfro i weld ei theulu, ac unrhyw beth sy’n
ymwneud â cherddoriaeth a phan fo amser yn caniatáu, glanhau'r ty.
Mae Erin Roberts, yn wreiddiol o ardal Caernarfon,
bellach yn byw yng Nghaerdydd. Wedi graddio mewn Daearyddiaeth o Brifysgol
Lerpwl, fe dreuliodd ddeng mlynedd yn dysgu Daearyddiaeth yn ysgolion
uwchradd Cwm Rhymni a Rhydfelen. Bellach mae hi wedi penderfynu dilyn
ei diddordeb ym maes rhagolygon y tywydd yn llawn amser. Er iddi weithio
i S4C fel cyflwynydd tywydd ers bron i bedair blynedd bellach, mae
Erin yn mwynhau y sialens newydd o weithio llawn-amser gyda thîm cynhyrchu’r
tywydd wrth iddynt barhau i ddatblygu gwasanaeth tywydd cynhwysfawr
ar gyfer y gwylwyr. Mae ei diddordebau’n cynnwys dysgu Eidaleg (ychydig
o eiriau ar y tro), rhedeg (ond ddim yn bell), coginio a theithio.
Mae’n cefnogi tîm pêl-droed Everton yn frwd, ac yn gobeithio gweld
eu llwyddiant yn parhau. © 2008 S4C O Gymru / Made in Wales