Neidio at y cynnwys

S4C

Cyflwynwyr

  • Chris Jones
  • Mari  Grug
  • Erin Roberts
Mari Grug

1. Pa Ŵyl neu ddigwyddiad wyt ti'n edrych ymlaen ato yn 2012?
Pencampwriaeth y chwe glwad! Wedi Cwpan y Byd llwyddiannus i Gymru dwi'n obeithiol iawn i fechgyn Cymru! Mi fyddai'n canu yn y stadiwm cyn gêm Cymru yn erbyn yr Eidal gyda Chôrdydd, felly'n edrych mlaen at brofi'r awyrgylch.  A dwi'n siwr bydd y gêm olaf yn hynod gyffrous, gan y bydd Cymru yn eiddgar iawn i daro'n nôl yn erbyn y Ffrancwyr wedi'r gêm gynderfynol ddadleuol yng Nghwpan y Byd.

2. Wyt ti'n mynd ar dy wyliau blwyddyn yma?
Y bwriad ers sawl blwyddyn bellach yw mynd i Seland Newydd am fis a theithio rhwng y ddwy ynys mewn camperfan! Ma' Gareth a fi'n gobeithio y gallwn ni fynd ddiwedd y flwyddyn, h.y os yw Chris ac Erin yn medru ymdopi hebddai!!

3. Dy hoff olygfa yng Nghymru?
Yr olygfa o gopa Tal Mynydd, Sir Benfro yn ei holl ogoniant!

4. Pa fis yw dy ffefryn a pham?
Mis Ebrill gan bod tywydd misoedd Ebrill y gorffennol wedi bod yn fwy fel tywydd yr haf. Mae rhyw deimlad newydd yn yr aer, golwg dda ar y tir a mae'n gyfnod hyfryd ar ein fferm ni achos dyna pryd y mae'r defaid yn dod ag ŵyn bach.

5. Swydd ddelfrydol?
Mynd o amgylch bwytai yn feirniad seren Michelin.

6. Beth oedd dy swydd gyntaf?
Fy swydd gyntaf oedd gweithio fel gweinyddes yng Nghaffi Beca, Efailwen. Dechreuais i weithio yno pan yn 14 yn ystod y gwyliau a pharhau i wneud hynny tan yn 21. Roeddwn wrth fy modd yno!!

7. Dy gar cyntaf?
Corsa Du

8. Hoff gân?
Bohemian Rhapsody gan Queen, a 'dwi wrth fy modd gyda'r emyn Rhys.

9. Hoff ffilm?
The Sound of Music

10. Parti gorau i ti erioed fod ynddo?
Ein Priodas. Cael ein teulu a ffrindiau gyda'n gilydd i ddathlu a diolch i'r Dhogie Band buodd y llawr danwsio yn llawn drwy'r nos!

11. Os byddet ti'n cael y cyfle i fynd mewn peiriant amser, pa gyfnod byddet ti'n hoffi ymweld?
Y 1920au. Roedd hi'n ymddangos fel degawd llawn hŵyl gyda phobl yn teimlo'n eithaf optimistaidd wedi'r Rhyfel. Roedd dillad y cyfnod yn apelio ac roedd cerddoriaeth Jazz yn ei anterth.

12. Ffaith ddiddorol amdant ti dy hun?
Mae rhai aelodau o fy nheulu yn fy nghymharu i Gorwynt.

13. Beth sydd yn dy wylltio neu yn dy wneud yn anhapus?
Pobl anghwrtais a phobl sy'n gyrru'n araf yn y lôn ganol ar y draffordd.

14. Beth sy'n codi dy galon?
Bwyd da, cwmni difyr a glased mawr o win coch!