Cyflwynwyr
1. Pa Ŵyl neu ddigwyddiad wyt ti'n edrych ymlaen
ato yn 2012?
Penblwydd fy nhad yn 70 oed a phenblwydd cyntaf fy nai
bach newydd, Moi!
2. Wyt ti'n mynd ar dy wyliau blwyddyn yma?
Gobeithio medrai fynd i'r Alban am gyfnod yn yr
haf...awydd aros ychydig yn agosach at adref eleni.
3. Dy hoff olygfa yng Nghymru?
Yr olygfa o gaban bwyta Llangrannog.
4. Pa fis yw dy ffefryn a pham?
Ebrill, mis penblwydd a dwi'n cael yr argraff bod y
tywydd wastad yn braf.
5. Swydd ddelfrydol?
Ymddeol!
6. Beth oedd dy swydd gyntaf?
Gweithio mewn siop leol yn rhoi'r cylchgronnau i gyd yn y
papurau Sul.....roedd y Sunday Times yn arbennig o hunllefus!
7. Dy gar cyntaf?
Vauxhall Corsa bach glas.
8. Hoff gân?
Quicksand gan David Bowie ar hyn o bryd....mae'n newid
yn reit aml.
9. Hoff ffilm?
Twelve Angry Men.
10. Parti gorau i ti erioed fod ynddo?
Nos Calan 2007-2008...gwell peidio egluro pam!
11. Os byddet ti'n cael y cyfle i fynd mewn peiriant
amser, pa gyfnod byddet ti'n hoffi ymweld?
Y 50au...roedd bywyd i weld llawer symlach ac roedd y ffrogiau yn
neis!
12. Ffaith ddiddorol amdant ti dy hun?
Yn ôl pob sôn dwi'n gallu neud dynwarediad da o E.T!
13. Beth sydd yn dy wylltio neu yn dy wneud yn
anhapus?
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
(sori!)
14. Beth sy'n codi dy galon?
Ffilm da a potel neis o win.