Neidio at y cynnwys

S4C

Cyflwynwyr

  • Chris Jones
  • Mari  Grug
  • Erin Roberts
Chris Jones

1. Beth yw dy hoff beth am dymor y gaeaf?
Cerdded y ci ar y traeth yn yr oerfel, ond gan obeithio fod yr haul yn gwenu hefyd, a chyrraedd adre i fwynhau'r gwres a phaned!

2. Hoff fath o dywydd yn ystod misoedd y gaeaf?
Llonyddwch a phrydferthwch yr eira.

3. A oes gen ti ddywediad am dywydd y gaeaf?
'Nadolig las. . . Mai cas'.

4. Tri pheth mae'n rhaid i ti gael yn ystod y gaeaf?
Eira, mynd allan fel teulu am ddiod Nadoligaidd a ffilm deuluol ar y teledu.

5. Hoff ddilledyn gaeafol?
Thermals!

6. Hoff leoliad yn ystod misoedd y gaeaf?
Tafarn a thŷ bwyta y Plough & Harrow ar arfordir Bro Morgannwg, gan eistedd o flaen tân poeth gyda pheint o Guinness!

7. Ffaith ddiddorol am dywydd y gaeaf?
Rhagfyr 1964, ar ddiwrnod fy ngeni, bu rhaid i mam a dad yrru trwy eira mawr a llywchio ar y ffordd i Ysbyty Rhydaman. Bu bron i mi gael fy ngeni yn y car!!

8. Siocled poeth a thanllwyth o dân neu allan yn yr eira?
Allan yn yr eira, gyda siocled poeth!

9. Beth yw'r peth gorau am weithio ar Wasanaeth Tywydd S4C yn ystod misoedd y gaeaf?
Y peth gorau mwy na thebyg, yw sôn am y posibilrwydd o eira yn y rhagolygon. Er bod eira yn medru creu trafferthion mawr, dwi wrth fy modd gyda'r stwff! Er mae teithio mewn i'r stiwdio yn medru bod yn ddiddorol weithiau!!

10. Atgof cyntaf o'r Nadolig?
Cerdded lawr gyda fy nhad i Aberaeron o'n tŷ ni, yn yr eira mawr, i nôl llaeth a bara!

11. Sut a lle fyddwch chi'n treulio'r Nadolig eleni?
O bois bach! Petae chi ond yn gwybod am y trafferth a'r ffws a'r cymhlethdod sydd yn ein teulu ni ynglŷn â ble i dreulio'r Nadolig o flwyddyn i flwyddyn!

12. Beth ydych chi'n obeithio ei gael gan Santa eleni?
Y ticed buddugol ar y loteri.

13. Hoff garol Nadoligaidd a pham?
Tawel nos, 'dw i'n gallu canu'r melodi iddi!

14. Unrhyw draddodiad teuluol yn ystod yr Ŵyl?
1. Cwmpo mas am y goeden Nadolig - O ble? Pa fath? Pa faint? A phryd i'w thynnu lawr 2. Mynd i'r dafarn leol am ddiod Nadoligaidd ar Noswyl Nadolig. 3. Pan oedd y plant yn llai, cuddio yng ngwaelod yr ardd a chanu clychau i'r plant chwilio am Siôn Corn.

15. Sut wyt ti am groesawu'r Flwyddyn Newydd?
Cerdded ar hyd traeth Aberogwr, y teulu cyfan a Jac y ci, â chyfarfod ffrindiau yn y dafarn leol amser cinio. 'Dwi ddim yn gweithio ar y diwrnod hwnnw!