Neidio at y cynnwys

S4C

Wythnos amrywiol!

Wedi mwynhau mas draw yn noson elusennol Marie Curie nos Wener. FFANTASTIG o noson a diolch i bawb nath drefnu. Yn flinedig iawn ddydd sadwrn!

 

Er ei bod hi'n weddol oer heddiw o hyd, ac er fydd na law o gwmpas yfory a ddydd Mercher, mae'r tymheredd yn sicr o godi yn ystod y dyddiau nesaf, felly fe fydd hi'n fwynach o lawer. Tua 15°C. O'r diwedd medde rhai ohonoch chi!

Mae 'na wythnos amrywiol o'm mlaen i wsnos yma, a dweud y lleiaf! Yn Llanelli heddiw yn y stiwdio dywydd ac wedi croesawu plant o ysgol Uwchradd Rhydywaun. Wedi bod yn y stiwdio gyda nhw yn sefyll o flaen camera, pawb i'w gweld yn mwynhau'r profiad!

Yn anffodus (wps, y gair yna eto!) fi'n mynd at y deintydd bore Mercher i gael dant ARALL allan ac yn cynhyrchu deunydd hyrwyddo yn S4C pnawn Mercher a Iau. Edrych ymlaen at hynny.

Yna ddydd Gwener, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau ac ar alwad ffôn, 'dwi'n mynd i helpu gyda'r ŵyna ar fferm Meinir Jones, cyflwynydd Ffermio, a'i theulu, yn agos at Landeilo. Nawr fi WIR edrych ymlaen at hynny, er mae Meinir wedi rhybuddio fi i ddisgwyl lot o dynnu coes! Dim problem!

Nai flogio am y profiad nos Wener a'r penwythnos.

Hwyl am y tro

Chris