Neidio at y cynnwys

S4C

Chwefror 2012

Hen ddywediad

''Os ddaw Mis Mawrth i mewn fel oen, fe eith allan fel Llew''...... cawn weld!

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi yfory.

chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Prysur!!!!

Ydy wir mae hi'n brysur yma heddiw! Paratoi ar gyfer rhaglen newydd HENO sy'n cychwyn fory a rhaglen olaf Wedi 3 heddiw....lot o sŵn a rhedeg o gwmpas y swyddfa! Pob lwc i'r rhaglenni newydd!

O yfory ymlaen fydd 'na un bwletin Tywydd ychwanegol gyda ni ar S4C yn ddyddiol. Ar hyn o bryd ma'r tywydd yn sefydlog, yn braf ac yn fwyn heddiw, yn Llanelli o leiaf. Erbyn y penwythnos be bynnag, fydd hi wedi dechrau oeri a 'ni yn disgwyl glaw o'r gorllewin wrth i system o ffryntie ymosod arno ni.

Fe ddylie hi aros yn fwyn ac yn sych ond yn gymylog yn ystod gêm bêldroed Gary Speed heno am 19:45 yng Nghaerdydd a chofiwch am raglen uchafbwyntiau'r gêm ar SGORIO am 22:35.

Cefais awr fach ddymunol dros ben gyda Beti George a David Parry Jones neithiwr yn edrych yn ôl ar hen luniau o'n hamser gyda chwmni Merlin. Mor falch fy mod i wedi neud yr ymdrech i weld DPJ.

Mae'r tymor ŵyna yn brysur barhau ar y funud a fi'n siwr bod ffermwyr yn cymryd mantais o'r tywydd sych a sefydlog yma. Yn wir gobeithio fydd 'na waith i fi yn helpu gyda'r ŵyna ddydd Mawrth nesaf yng Nghapel Issac ger Llandeilo ar fferm Meinir Jones!

Hwyl am y tro

*y cynhyrchydd yn ôl yn y swyddfa yfory!! Lwc owt!!!!!!

chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Niwlog!!

Mae'r niwl yn styfnig iawn bore ma ar hyd yr arfordiroedd agored! Gyrrwch yn ofalus a rhowch y goleuadau 'na ymlaen! Fe ddyle hi wella prynhawn yma a fe ddyle hi deimlo'n gymharol fwyn eto. Dydd Mercher yw'r diwrnod gorau wythnos yma mae'n debyg.

Gai dynnu eich sylw at rhaglen arbennig fydd ar S4C Nos Fercher yma am 9.00. UN O BOB TRI, sy'n bwrw golwg ar dementia ac alzheimer's, gyda Beti George yn cyflwyno ac yn edrych ar gyflwr ei phartner David Parry Jones, neu DPJ i fi. Fe ddysgodd David llawer i fi, yn fachgen ifanc a ddi-brofiad, flynyddoedd yn ôl, tra'n gweithio i gwmni Merlin.

chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Wythnos a hanner

Wel am benwythnos! Rygbi, pêl droed a bocsio...a thywydd bendigedig! Roedd cerdded gyda Lily Haf (9oed) a Jac bore ddoe ar hyd traeth Aberogwr yn berffaith. Yn gynnes a braf er roedd na lawer gormod o bobl yna efo'u cwn afreolaidd!

Ta beth, bore ma, roedd yr hen niwl yna yn ôl unwaith eto. A mae'r niwl yn debygol o aros gyda ni ar rai dyddiau eto, yn arbennig yn y de a'r de ddwyrain. Rhai cawodydd ysgfan hefyd, er yn gymharol fwyn trwy'r wythnos, gyda rhai cyfnodau braf erbyn dydd Gwener.

Mae hon yn mynd i fod yn wythnos digon prysur i fi. 7 diwrnod o gyflwyno yn Llanelli, fy nhad yn mynd am law-driniaeth yn ysbyty Caerdydd a fy nhad-yng-nghyfraith yn cychwyn triniaeth yng nghanolfan Felindre. Lwcus i'r nefoedd am gymorth ac agwedd bositif fy ngwraig!

chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

wsnos o dywydd!

Dwi'n cyflwyno am 7 diwrnod yn olynol o heddiw ymlaen! Gobeithio blogio bob dydd! Ond dim eto......

chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Wythnos amrywiol!

Wedi mwynhau mas draw yn noson elusennol Marie Curie nos Wener. FFANTASTIG o noson a diolch i bawb nath drefnu. Yn flinedig iawn ddydd sadwrn!

 

Er ei bod hi'n weddol oer heddiw o hyd, ac er fydd na law o gwmpas yfory a ddydd Mercher, mae'r tymheredd yn sicr o godi yn ystod y dyddiau nesaf, felly fe fydd hi'n fwynach o lawer. Tua 15°C. O'r diwedd medde rhai ohonoch chi!

Mae 'na wythnos amrywiol o'm mlaen i wsnos yma, a dweud y lleiaf! Yn Llanelli heddiw yn y stiwdio dywydd ac wedi croesawu plant o ysgol Uwchradd Rhydywaun. Wedi bod yn y stiwdio gyda nhw yn sefyll o flaen camera, pawb i'w gweld yn mwynhau'r profiad!

Yn anffodus (wps, y gair yna eto!) fi'n mynd at y deintydd bore Mercher i gael dant ARALL allan ac yn cynhyrchu deunydd hyrwyddo yn S4C pnawn Mercher a Iau. Edrych ymlaen at hynny.

Yna ddydd Gwener, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau ac ar alwad ffôn, 'dwi'n mynd i helpu gyda'r ŵyna ar fferm Meinir Jones, cyflwynydd Ffermio, a'i theulu, yn agos at Landeilo. Nawr fi WIR edrych ymlaen at hynny, er mae Meinir wedi rhybuddio fi i ddisgwyl lot o dynnu coes! Dim problem!

Nai flogio am y profiad nos Wener a'r penwythnos.

Hwyl am y tro

Chris

Yn ôl i'r brig

 

Ddim mor oer a Rwsia!

Nac ydy wir! -37C yn Moscow heddiw, ond fydd hi'n teimlo'n oer iawn, iawn heno ac yn rhewllyd, ac er mai diwrnod sych a heulog arall fydd na yfory, byddwch yn barod am y tymheredd yn disgyn i -8C nos yfory. Mwy o dywydd oer dydd Gwener hefyd.

Ond dwi'n CARU'R tywydd yma!!! Heulog ac oer. Wrth fy modd.

chris tywydd

Yn ôl i'r brig