Fe ddisgynodd dipyn o eira yn Sir Benfro neithiwr a pheth cyntaf
bore ma ond erbyn hyn, mae hi wedi clirio a sychu. Rhai cawodydd
gaeafol yn bosib heno o gwmpas y tir uchel ond sych a chymarol glir
ar y cyfan. Ond yn oer iawn yn y gwyntoedd de ddwyreiniol ac o
bosib yn rhewi heno!
Newydd fod allan yn Llanelli amser cinio a mae hi YN oer! Dal yn
oer dros y dyddiau nesaf yma hefyd ond dim golwg o'r eira ar hyn o
bryd, sy'n siomedig iawn i rai fi'n siwr!
Dwi'n teithio i Benygroes dydd Iau yma i siarad a Merched y
Wawr, Penygroes a dwi'n siwr fydd y croeso'n gynnes iawn!
Cyn hynny beth bynnag, mae pawb yn yr adran yn cyfarfod nos
Fercher yma i feirniadu cystadleuaeth ffotograffiau tywydd. Disgwyl
mlaen!
chris tywydd