Ges i gyfle i fynd i gerdded gyda fy mrawd yng nghyfraith ddoe,
o Bontneddfechan i Ystradfellte yng Nhwm Nedd, a cherdded tu ôl i
raeadr Sgwd yr Eira. Anhygoel o brofiad a gwerth y cerdded anodd ar
lethrau'r afon ac yn y mwd a'r glaw! Jac y ci wedi byhafio'n wych
chwarae teg ond wedi blino'n lan heddiw druan.
Ma 'na gerdded gwych yn yr ardal honno a hanes diddorol iawn a
mae'r rheadrau amrywiol yn werth eu gweld. Ond ewch a map gyda chi!
A pharatowch am dywydd gwahanol o fewn oriau. Tywydd ddoe ar y
cyfan yn sych ond ambell gawod wedi diflasu pethe braidd yn y pnawn
a Jac yn crynu tra'n sefyll tu ôl i Sgwd yr Eira!
Dwi'n ''Stiff'' heddiw!
Chris Tywydd