Dwy awr a deng munud i gyrraedd y swyddfa yn Llanelli heddiw!!
Damwain 11 car ar yr M4. Lwcus 'i bod hi'n sych.
Gorfod tynnu dant ddoe felly dim ond cawl a ffrwyth meddal i
fwyta heddiw, sy'n anodd iawn!
Ma'r tywydd yn gymysglyd iawn ar hyn o bryd; cyfnodau braf a
chawodydd ysgafn. Ddim mor oer a hynny gyda'r tymheredd yn codi i
rhyw 12°C erbyn dydd Sul, felly yn fwynach o lawer.
Mae Mari Grug yn sgïo yn Ffrainc ac yn ôl pob sôn, mae rhannau o
Ewrop, gan gynnwys Ffrainc ac Awstria, yn gweld eira gwych ar gyfer
y tymor sgïo, felly mae'n swnio'n berffaith.
Neis i weld y ddwy "bos" yn y swyddfa heddiw.
Chris Tywydd