Neidio at y cynnwys

S4C

Ionawr 2012

Eira????

Fe ddisgynodd dipyn o eira yn Sir Benfro neithiwr a pheth cyntaf bore ma ond erbyn hyn, mae hi wedi clirio a sychu. Rhai cawodydd gaeafol yn bosib heno o gwmpas y tir uchel ond sych a chymarol glir ar y cyfan. Ond yn oer iawn yn y gwyntoedd de ddwyreiniol ac o bosib yn rhewi heno!

Newydd fod allan yn Llanelli amser cinio a mae hi YN oer! Dal yn oer dros y dyddiau nesaf yma hefyd ond dim golwg o'r eira ar hyn o bryd, sy'n siomedig iawn i rai fi'n siwr!

Dwi'n teithio i Benygroes dydd Iau yma i siarad a Merched y Wawr, Penygroes a dwi'n siwr fydd y croeso'n gynnes iawn!

Cyn hynny beth bynnag, mae pawb yn yr adran yn cyfarfod nos Fercher yma i feirniadu cystadleuaeth ffotograffiau tywydd. Disgwyl mlaen!

chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Mynd yn hen!!

Ges i gyfle i fynd i gerdded gyda fy mrawd yng nghyfraith ddoe, o Bontneddfechan i Ystradfellte yng Nhwm Nedd, a cherdded tu ôl i raeadr Sgwd yr Eira. Anhygoel o brofiad a gwerth y cerdded anodd ar lethrau'r afon ac yn y mwd a'r glaw! Jac y ci wedi byhafio'n wych chwarae teg ond wedi blino'n lan heddiw druan.

Ma 'na gerdded gwych yn yr ardal honno a hanes diddorol iawn a mae'r rheadrau amrywiol yn werth eu gweld. Ond ewch a map gyda chi! A pharatowch am dywydd gwahanol o fewn oriau. Tywydd ddoe ar y cyfan yn sych ond ambell gawod wedi diflasu pethe braidd yn y pnawn a Jac yn crynu tra'n sefyll tu ôl i Sgwd yr Eira!

Dwi'n ''Stiff'' heddiw!

Chris Tywydd

 

 

 

 

 

Yn ôl i'r brig

 

Cymysgedd!

Dwy awr a deng munud i gyrraedd y swyddfa yn Llanelli heddiw!! Damwain 11 car ar yr M4. Lwcus 'i bod hi'n sych.

Gorfod tynnu dant ddoe felly dim ond cawl a ffrwyth meddal i fwyta heddiw, sy'n anodd iawn!

Ma'r tywydd yn gymysglyd iawn ar hyn o bryd; cyfnodau braf a chawodydd ysgafn. Ddim mor oer a hynny gyda'r tymheredd yn codi i rhyw 12°C erbyn dydd Sul, felly yn fwynach o lawer.

Mae Mari Grug yn sgïo yn Ffrainc ac yn ôl pob sôn, mae rhannau o Ewrop, gan gynnwys Ffrainc ac Awstria, yn gweld eira gwych ar gyfer y tymor sgïo, felly mae'n swnio'n berffaith.

Neis i weld y ddwy "bos" yn y swyddfa heddiw.

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Dyna wahaniaeth!!

Wel dyma fi, adre unwaith eto. Wedi bod allan am dro gyda Jac y ci bore ma yn barod ond bois bach, dyna wahaniaeth yn y tywydd. Braf ond oer ddoe ac echddoe, ond heddiw??!! Glaw man a chyson, niwlog iawn, diflas diflas diflas. Dwi`n siwr eich bod yn gwybod erbyn hyn mod i`n hoffi cerdded, ond mae hi`n anodd iawn i godi`r awydd i fynd allan yn y fath yma o dywydd. Ac i neud pethau`n waeth, dwi`n gorfod mynd i`r deintydd mewn awr, ac efallai yn gorfod cael ``extraction`` ! O leiaf dyw hi ddim mor oer a ddoe sbo.

Hwyl am y tro. Mewn yn y swyddfa yfory am 4 diwrnod.

chris tywydd

 

 

 

 

 

Yn ôl i'r brig

 

Nol yn y gwaith!

Bore da! Dwi nol yn y swyddfa heddiw ar ol dyddiau o salwch ers y flwyddyn newydd. Ac yn brwydro yn erbyn y pesychu drwy'r amser.

Mae Elena Mai y gynhyrchwraig mor amyneddgar beth bynnag a dwi'n ddiolchgar iawn i Erin a Mari am fod mor gefnogol.

Tywydd? Digon syml a sefydlog ar hyn o bryd, er mae rhaid dweud, dwi'n edrych ymlaen at y tywydd yn oeri erbyn diwedd yr wythnos! I gael rhewi'r afiechydon a'r ''jyrms''! Cwpl o ddyddiau bant ar ol heddiw a dwi wedyn yn mynd i fynd ati GO IAWN i gael gwaith siarad o gwmpas Cymru, fel rhan o fy ymgyrch cyflwyno'r tywydd am 21 mlynedd! Cawn weld.

Hwyl am y tro

chris 

Yn ôl i'r brig