Neidio at y cynnwys

S4C

Gwahaniaeth mewn blwyddyn!!

Gyda'r Nadolig rownd y gornel 'sdim sôn am eira eleni, yn wahanol i fel odd hi llynedd.

Ar hyn o bryd ma'r llif aer mwyn o'r de orllewin yn parhau, felly mwy o dywydd cymylog gyda'r tymheredd ymhell uwchben y cyfartaledd arferol ar gyfer diwedd mis Rhagfyr. Bydd hi'n troi'n wlyb 'fory wrth i ffrynt oer groesi'r wlad a thu ôl i'r ffrynt aer oerach yn ein cyrraedd o'r gogledd orllewin. Felly 'fory y tymheredd rhyw 3 i 5°C yn is na heddi' a hyn yn arwain at noson oer a rhewllyd, felly byddwch yn ofalus os yn teithio. Ond buan iawn bydd yr aer oerach yn cael ei ddisodli gan aer mwynach unwaith eto. Er bydd Noswyl Nadolig yn dechrau'n oer a braf,  dirywio neith hi yn ystod y dydd ac yn arwain at ddiwrnod Nadolig cymylog a mwyn! Felly wedi diwrnod nadolig oer iawn llynedd, -18.2 yn Yr Alban, stori wahanol iawn fydd hi ar gyfer Nadolig 2011.

Ar ôl gwaith nos 'fory mi fydda i yn mynd tua'r gorllewin ar gyfer yr Ŵyl, a 'dwi ffili aros! Nadolig Llawen i chi gyd a Blwyddyn Newydd Dda.