A ninnau wedi cael Hydref mor fwyn....mae pethau'n sicr wedi
newid erbyn hyn. Mae wedi oeri gryn dipyn ac wrth
i gyfres o wasgeddau isel dwys 'sgubo heibio ni dros y dyddiau
nesaf, mi welwn ni law trwm, cawodydd gaeafol, gwyntoedd cryfion ac
o bosib peth llifogydd yn datblygu yng Nghymru wrth i'r holl law
syrthio ar dir gwlyb.
Yr wythnos diwethaf, yr Alban welodd y gwaethaf o'r amodau wrth
i'r gwynt hyrddio dros 100mya ond heno, wrth i ganolbwynt y
system wasgedd isel orwedd ymhellach tua'r de, arfordiroedd
Lloegr a Chymru sy'n debygol o weld y gwynt cryfaf a'r
hyrddiadau cyn gryfed â 80mya. Mi allai droi hyd yn oed
yn fwy stormus erbyn nos Iau a dydd Gwener felly'r neges
yr wythnos hon, heb os, ydi i gadw golwg fanwl ar y
rhagolygon.