Neidio at y cynnwys

S4C

Storm perffaith?

Bore dydd Mawrth, dwi am siarad ar Radio Cymru am y tywydd stormus yma, a`r obsesiwn braidd sydd gan rhai pobl o rhoi enw neu term ar y fath yma o dywydd. Yn yr achos yma. y ``storm perffaith``. A oes na fath beth? Ai e`r ffaith fod y gwasgedd uchel i`r de o Brydain, ar y cyfandir; a bod gwasgedd isel naill ochr i Brydain? A bod mwy nag un gwasgedd isel allan dros for yr Iwerydd? A bod y ffryntie yn troi`n berffaith o`u hamgylch? Ac yn ogystal a hynny, ma`r jet-lif yn gorwedd i`r de o Brydain ar hyn o bryd, yn galluogi`r gwyntoedd i ymosod ar Brydain o`r Gogledd/Gogledd Orllewin? Ai dyna diffiniad ``storm perffaith``?

Ma`r jet-lif yn symud drwy`r amser wrth gwrs ac yn rheoli ein tywydd ni, felly nid yw`r fath yma o beth mor anghyffredin a hynny. Mae na dywydd stormus yn debygol o effeithio ar Ogledd Ddwyrain yr UD yn y dyddiau nesaf yma hefyd, felly a fydd honno`n ``storm perffaith``?

Nid yw`r gwyntoedd yn debygol o gyrraedd 165mya fel yn yr Alban yn ddiweddar, felly yn yr ystyr hynny, fydd hon ddim mor ``berffaith`` a hynny. Ond i fod yn ddifrifol, mae na law trwm yn mynd i ddisgyn yn ystod yr wythnos hon ym Mhrydain felly ma angen bod yn ofalus o`r llifogydd posib a`r dwr yn casglu ar y ffyrdd.

Ond yn hytrach nag ofni`r fath yma o dywydd, beth am ei fwynhau? Ewch allan yn y gwynt a`r glaw a mwynhewch y pwer a`r egni a`r bwrlwm. O fewn rheswm wrth gwrs!

chris tywydd