Neidio at y cynnwys

S4C

Rhagfyr 2011

Gwahaniaeth mewn blwyddyn!!

Gyda'r Nadolig rownd y gornel 'sdim sôn am eira eleni, yn wahanol i fel odd hi llynedd.

Ar hyn o bryd ma'r llif aer mwyn o'r de orllewin yn parhau, felly mwy o dywydd cymylog gyda'r tymheredd ymhell uwchben y cyfartaledd arferol ar gyfer diwedd mis Rhagfyr. Bydd hi'n troi'n wlyb 'fory wrth i ffrynt oer groesi'r wlad a thu ôl i'r ffrynt aer oerach yn ein cyrraedd o'r gogledd orllewin. Felly 'fory y tymheredd rhyw 3 i 5°C yn is na heddi' a hyn yn arwain at noson oer a rhewllyd, felly byddwch yn ofalus os yn teithio. Ond buan iawn bydd yr aer oerach yn cael ei ddisodli gan aer mwynach unwaith eto. Er bydd Noswyl Nadolig yn dechrau'n oer a braf,  dirywio neith hi yn ystod y dydd ac yn arwain at ddiwrnod Nadolig cymylog a mwyn! Felly wedi diwrnod nadolig oer iawn llynedd, -18.2 yn Yr Alban, stori wahanol iawn fydd hi ar gyfer Nadolig 2011.

Ar ôl gwaith nos 'fory mi fydda i yn mynd tua'r gorllewin ar gyfer yr Ŵyl, a 'dwi ffili aros! Nadolig Llawen i chi gyd a Blwyddyn Newydd Dda.

 

 

Yn ôl i'r brig

 

Wythnos stormus arall!

A ninnau wedi cael Hydref mor fwyn....mae pethau'n sicr wedi newid erbyn hyn. Mae wedi oeri gryn dipyn ac wrth i gyfres o wasgeddau isel dwys 'sgubo heibio ni dros y dyddiau nesaf, mi welwn ni law trwm, cawodydd gaeafol, gwyntoedd cryfion ac o bosib peth llifogydd yn datblygu yng Nghymru wrth i'r holl law syrthio ar dir gwlyb.

Yr wythnos diwethaf, yr Alban welodd y gwaethaf o'r amodau wrth i'r gwynt hyrddio dros 100mya ond heno, wrth i ganolbwynt y system wasgedd isel orwedd ymhellach tua'r de, arfordiroedd Lloegr a Chymru sy'n debygol o weld y gwynt cryfaf a'r hyrddiadau cyn gryfed â 80mya. Mi allai droi hyd yn oed yn fwy stormus erbyn nos Iau a dydd Gwener felly'r neges yr wythnos hon, heb os, ydi i gadw golwg fanwl ar y rhagolygon.

 

Yn ôl i'r brig

 

Storm perffaith?

Bore dydd Mawrth, dwi am siarad ar Radio Cymru am y tywydd stormus yma, a`r obsesiwn braidd sydd gan rhai pobl o rhoi enw neu term ar y fath yma o dywydd. Yn yr achos yma. y ``storm perffaith``. A oes na fath beth? Ai e`r ffaith fod y gwasgedd uchel i`r de o Brydain, ar y cyfandir; a bod gwasgedd isel naill ochr i Brydain? A bod mwy nag un gwasgedd isel allan dros for yr Iwerydd? A bod y ffryntie yn troi`n berffaith o`u hamgylch? Ac yn ogystal a hynny, ma`r jet-lif yn gorwedd i`r de o Brydain ar hyn o bryd, yn galluogi`r gwyntoedd i ymosod ar Brydain o`r Gogledd/Gogledd Orllewin? Ai dyna diffiniad ``storm perffaith``?

Ma`r jet-lif yn symud drwy`r amser wrth gwrs ac yn rheoli ein tywydd ni, felly nid yw`r fath yma o beth mor anghyffredin a hynny. Mae na dywydd stormus yn debygol o effeithio ar Ogledd Ddwyrain yr UD yn y dyddiau nesaf yma hefyd, felly a fydd honno`n ``storm perffaith``?

Nid yw`r gwyntoedd yn debygol o gyrraedd 165mya fel yn yr Alban yn ddiweddar, felly yn yr ystyr hynny, fydd hon ddim mor ``berffaith`` a hynny. Ond i fod yn ddifrifol, mae na law trwm yn mynd i ddisgyn yn ystod yr wythnos hon ym Mhrydain felly ma angen bod yn ofalus o`r llifogydd posib a`r dwr yn casglu ar y ffyrdd.

Ond yn hytrach nag ofni`r fath yma o dywydd, beth am ei fwynhau? Ewch allan yn y gwynt a`r glaw a mwynhewch y pwer a`r egni a`r bwrlwm. O fewn rheswm wrth gwrs!

chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Mel a Nia

Ers mis Mai eleni, mae Mel a Nia Parry wedi bod wrthi yn trefnu ffair Nadolig gymunedol ac yfory ym Mhenygroes, rhwng 12 a 5, fe ddylie hi aros yn sych ar gyfer y ffair gydag ambell i gyfnod braf, er yn ddigon oer.

Pob lwc felly i'r ddau ac i'r gymuned.

A gwyliwch y gyfres, MEL A NIA, bob Nos Fercher ar S4C

Chris tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Tywydd rhyfedd!!!!

Bois bach ma`r tywydd ma yn rhyfedd! Fi newydd rhoi dillad allan i sychu yn yr haul bore ma ac yn sydyn iawn, mae hi`n glawio`n drwm!!! Mae na wythnos ansefydlog iawn o`n blaenau ni dwi`n meddwl. Ddoe, es i a`r cynhyrchydd i fyny am gyfarfod buddiol iawn gyda Llen Natur tu allan i Borthmadog.(Plas Tan y Bwlch yn le diddorol tu hwnt) a`r haul yn gwenu`n braf drwy`r dydd. Bore ma, a finne a `day off` eto, yn braf hefyd, er yn oer. Ac erbyn hyn? Cymylog, gwyntog, gwlyb, diflas. Y ci yn ysu am gael mynd mas a dro a`r `boilyr` gwres canolog wedi torri!! Gorfod aros mewn i`r peiriannydd o British Gas i ddod! O! y `glamour`!!!!!!!!

chris tywydd

Yn ôl i'r brig