Neidio at y cynnwys

S4C

Ionawr 2011

Y Great Barrier Reef mewn peryg

Os oes 'na ddiddordeb gan unhryw un ynglyn â dyfodol a ffawd y Great Barrier Reef yn Awstralia, yna darllenwch yr erthygl fer ar http://www.theweatherclub.org.uk/news. Ma'r ferch hynaf yn mynd i weld y ffenomenon naturiol yma rhywbryd cyn bo hir, felly dwi di bod yn darllen amdano, 'dyw pethe ddim yn edrych yn addawol o gwbl!

Mynd i gerdded eto yfory. Bydd hi'n oer dwi'n meddwl ond gobeithio welai'r heulwen o leiaf.

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Lluniau ar ddiwrnod perffaith!

Ewch i http://www.flickr.com/photos/tywydds4c/ ar gyfer lluniau o fy niwrnod perffaith yn cerdded mewn tywydd perffaith!

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

2010... y flwyddyn gynhesaf... bron.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau ffigyrau tymheredd bydol ar gyfer 2010, sy'n dangos mai llynedd oedd y flwyddyn cynhesaf ond un, erioed, gyda'r tymheredd ar gyfartaledd, yn cyrraedd 14.50°C.

A'r rhesymau dros hyn? El Nino oedd yn gyfrifol am gynhesu'r byd ar ddechrau'r flwyddyn, er mai La Nina, y cryfa ers mwy na 30 blynedd, oedd yn dylanwadu erbyn diwedd 2010. Ac wrth gwrs ffenomenon La Nina sy' mwy na thebyg, yn gyfrifol am yr holl law a'r llifogydd yn Awstralia yn ddiweddar.

Chris Tywydd

 

 

 

 

Yn ôl i'r brig

 

Tywydd perffaith!

Perffaith medde chi? Wel perffaith ar gyfer cerdded ma' hynny'n sicr. Heulog ond oer, gyda gwyntoedd ysgafn. Ar ddiwrnod bant prin, ro'dd ddoe yn ddiwrnod perffaith ar gyfer cerdded o tŷ ni, i lawr i'r traeth ac ar hyd yr afon tuag at Castell Ogwr. Fi, Jac y ci a chi cymydog i ni. Ro'dd y ddau'n caru rhedeg gyda'i gilydd ar y traeth ac yn falch o'r cyfle o gael hoe fach yn y dafarn leol!

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Llifogydd o gwmpas y byd

Dwi'n fawr obeithio nad yw'r llifogydd lleol yng Nghymru wedi creu gormod o draffeth ac anhwaster i chi. Mae heddiw yn debygol o fod yn fwy sefydlog ar y cyfan ond byddwch yn barod am fwy o law ddydd sadwrn a dydd sul, cyn gwella erbyn dechrau wythnos nesaf. Felly gan bo'r ddaear more wlyb yn barod ma' unrhyw law yn debygol o aros ar y wyneb a chreu pyllau mawr. Yn ogystal â hynny, ma rhai o'r afonydd yn debygol o or-lifo hefyd; ewch i 'Rhybudd Llifogydd' ar ochr chwith y sgrîn ar gyfer y diweddaraf neu ffoniwch 0845 988 1188. A fel y profais fy hun neithiwr, ma unrhyw law ar y ffyrdd yn medru bod yn beryglus dros ben, felly gyrrwch yn ofalus!

Erbyn heddiw, ma trigolion Brisbane yn Awstralia wedi dechrau clirio rhywfaint wrth i lefelau'r dŵr ddisgyn yn raddol, a mae 'na ambell stori anhygoel yn ymddangos yn y papurau ynglŷn â dewrder pobl a'r ysbryd gymunedol. Yn anffodus, mae 'na o leiaf 61 person ar goll o hyd, a fydd ail-adeiladu'r ddinas yn dasg anodd dros ben.

Yn anffodus, anoddach fyth fydd ail adeiladu pentrefi ym Mrasil ar ôl i dros 500 o bobl golli eu bywydau oherwydd glaw trwm yn arwain at lifogydd a llithriadau mwd; y drychineb naturiol fwyaf yn y wlad am 40 mlynedd. Ma' 'na ddeunydd ffilm trist a dychrynllyd ar y wê yn dangos yr holl ddifrod a phobl ac anifeiliaid yn dioddef. Ydy hi'n iawn i ddangos y fath olygfeydd? Beth yw eich barn chi?

Ac ar ochr arall y byd, mae Sri Lanka yn ddigon cyfarwydd â llifogydd a cholled i fywydau o ganlyniad, ond mae'r difrod a'r llanast sy'n effeithio ar rannau o'r wlad ar hyn o bryd ymhlith y gwaethaf ers difrod Tsunami yn 2004. Gyda dros 25 wedi marw yn barod a dros 325,00 yn colli eu cartrefi. Effaith a chanlyniad y monsŵn yw hyn i gyd wrth gwrs, yn gwthio lawr o'r gogledd orllewin rhwng Rhagfyr a Chwefror, a fel y soniais, mae'r wlad yn hen gyfarwydd a glaw trwm cyson ac eithafol.

Cadwch yn ddiogel ac yn sych yng Nghymru, ond peidiwch ag anghofio'r trychinebau o gwmpas y byd, da chi.

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Llifogydd ymhobman!

Ma llifogydd yn mynd i fod yn bosib o gwmpas Cymru heddiw wrth gwrs ar ôl yr holl law 'ma, a ma rhai o'n ffyrdd ni ar gau yn barod ar ôl i'r afonydd godi mor uchel. Os y'ch chi yn poeni, cysylltwch â 0845 988 1188 a chadwch mewn cysylltiad gyda ni ar Twitter a Facebook.

OND, fi'n siwr newch chi gytuno fod ein problemau llifogydd ni yn ddim o'i gymharu â'r llifogydd anhygoel sydd yn effeithio ar ogledd ddwyrain Awstralia ar hyn o bryd. Mae fy merch hynaf allan yn Sydney fel mae'n digwydd. Nes i siarad â hi neithiwr ar Skype a mae'r tywydd yn boeth, yn glòs ac yn gymylog iawn yn y rhan hynny o'r wlad, ac nid yw trigolion Sydney wedi gweld y glaw trymaf......eto.

Yn ogystal ag Awstralia, mae na lifogydd dychrynllyd ym Mrasil hefyd, ble mae 'na 350 o fobl wedi marw. Ac yn Sri Lanka lladdwyd 13 o fobl ar ôl y llifogydd mawr, oherwydd glaw arbennig o drwm.

Ac os nad yw hynny'n ddigon, mae stormydd eira yn debygol o effeithio ar ogledd ddwyrain America, gan gynnwys Efrog Newydd, yn ystod y dyddiau nesaf.

Felly, tywydd garw ac eithafol o gwmpas y byd!

Cadwch yn ddiogel yma yng Nghymru beth bynnag.

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Gwlyb, gwyntog, niwlog, diflas, oer. Heblaw hynny, iawn!

Maddeuwch i fi os fi'n swnio fel plentyn deg oed yn sgrifennu, ond bois bach, 'na beth odd bore! Allan gyda Jac y ci am 7.45 bore ma cyn mynd i'r gwaith, ac odd hi fel rhyw blaned arall, fel rhywbeth allan o Star Trek. Methu gweld y traeth a'r môr oherwydd y niwl trwchus, yn wlyb sopen oherwydd y glaw, yn oer oherwydd y gwynt cryf! Heblaw hynny, odd hi'n 'walk' fach neis ben bore.

Ma'r tywydd heddiw yn ddiflas go iawn, yn Llanelli o leiaf. Ac effaith y system dywydd yn gwthio mewn o'r gorllewin yw hynny wrth gwrs, sy'n debgyol o barhau yn ystod gweddill yr wythnos a'r penwythnos! O grêt. Rhywbeth i edrych mlaen ati. Ni'n mynd i Aberaeron dros y penwythnos felly mae'n biti fydd hi mor wlyb. Bydd rhaid i ni dreulio gymaint o amser a phosib yn yr Harbourmaster!

Ond wrth gwrs, glaw trwm neu beidio, ni'n weddol lwcus i gymharu â thrigolion Brisbane a Gogledd Ddwyrain Awstralia sy'n dioddef yn ofnadwy. Ma'r ffilm dwi 'di gweld o'r cerbydau yn arnofio yn yr afon yn anhygoel ac yn profi cryfder ac effaith dŵr.

Os ydych chi YN poeni am lifogydd yn y wlad yma, ffoniwch 0845 988 1188.

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Newid yn y tymeheredd!

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Wrth i'r mwyafrif fynd nôl i'w patrwm arferol ers y Nadolig ma'r tywydd yn eithaf tawel dros Gymru heddiw a ddim mor oer! Dwi wedi gweld lot o newid yn y tymheredd ers y tro diwethaf i mi fod yn y gwaith. Bore Nadolig ar fy nhaith o Fynachlogddu i Lanelli gwelwyd y tymheredd yn gostwng i -12.5C yn rhannau o Sir Gâr, diolch byth bod y gwres canolog mlaen yn y swyddfa. Ond doedd hynny yn ddim i gymharu â'r tymheredd yn yr Eidal. Ar ddydd San Steffan hedfanodd wyth ohonom i Turin am wythnos o wyliau sgïo ac eirafyrddio yn Sauze d'oulx.  Cawsom amser gwych a braf odd cael dathlu'r flwyddyn newydd mewn gwlad dramor am y tro cyntaf. Ma'r Eidalwyr yn gwbod shwt 'ma joio! A dwi'n falch iawn fod fy sgiliau eirafyrddio wedi gwella a fy mod i wedi cyrraedd getre mewn un pishyn!!  Nôl i'r arfer nawr ac am unwaith dwi'n falch i weld bach o law, er ar hyn o bryd ma'r rhagolygon yn dangos peth eira ar gyfer dydd Gwener!!!!!!! Ond cofiwch gewch chi'r diweddara gyda ni ar S4C!

Cofion,
Mari

 

Yn ôl i'r brig