Neidio at y cynnwys

S4C

Rhagfyr 2010

Blwyddyn Newydd Oerach!

Pethau'n ddigon tawel eto heddiw a fory ond mi fydd hi'n oeri Nos Galan a 2011 yn cychwyn ar nodyn oerach o lawer...lapiwch yn gynnes os byddwch chi allan yn dathlu a chofiwch ddanfon eich lluniau tywydd ato ni os fyddwch chi allan yn cerdded i glirio'r cur pen ddydd Calan!

Yn ôl i'r brig

 

Lluniau gan ein gwylwyr!

Ffordd Osgoi A487 Dyffryn Nantlle gan Donna Sheret.

Yn ôl i'r brig

 

Lluniau gan ein gwylwyr!

Llun gan Manon Owen o Benygroes, Gwynedd.

Yn ôl i'r brig

 

Lluniau gan ein gwylwyr!

Yr Wyddfa gan Alma Jones-Davies o Lanllyfni.

Yn ôl i'r brig

 

Lluniau gan ein gwylwyr!

Tref y Cofis dan flanced o eira, tynnwyd gan Arwyn Roberts o Rosgadfan.

Yn ôl i'r brig

 

Pibonwy, pigau-iâ, pigau-rhew - Beth fyddech chi'n eu galw?

Mae'r olygfa fel y llun uchod yn gyffredin iawn ar hyd y wlad ar hyn o bryd - er eu bod yn hardd i edrych arnynt, cymerwch ofal - maent yn hynod beryglus pan yn syrthio oddi ar adeiladau!
Diolch i Donna Sheret am y llun.

Yn ôl i'r brig

 

Cymru dan eira!

Mae'r ymateb i'r tywydd oer ar ein tudalen facebook wedi bod yn wych....diolch i bawb gyfrannodd eu gwybodaeth a'u lluniau. Wedi bod yn benwythnos anhygoel a Chaerdydd dan flanced o eira nad ydwi wedi gweld ei thebyg o'r blaen. Mae hyd yn oed cartref fy rhieni ym Mhontllyfni wedi gweld pum modfedd o eira ac mae hynny yn anghyffredin iawn yno, mor agos i'r môr.

Ac mae mwy ar ei ffordd ddydd Mercher a dydd Iau....mi alla hynny fod yn broblem i'r rheiny fydd yn teithio 'nôl a 'mlaen o'r gogledd i'r de dros gyfnod y Nadolig. Cadwch olwg ar y wefan am y diweddara yn ystod yr wythnos!

Yn ôl i'r brig

 

Eira!

Ydy ma'r glaw yn mynd i droi'n eira heno ac yfory. Heno, o gwmpas tir uchaf y gogledd yn arbennig. Yfory, yn ymledu i'r canolbarth yn y bore a'r de ddwyrain erbyn y prynhawn. Mwy o eira dydd Sadwrn hefyd, felly byddwch yn ofalus a byddwch yn barod.

Bydd y ffyrdd yn rhewllyd heno a dros nos nos a pheth cyntaf bore fory, gyda'r gwyntoedd yn cryfhau o'r gogledd orllewin, felly mae hi yn mynd i deimlo'n oer iawn ac yn rhewllyd! Byddwch yn ofalus.

Gwella rhywfaint erbyn dydd Sul a dydd Llun. Ond yn oer o hyd!

Rhy gynnar i sôn am ddiwrnod Nadolig eto.

Yn ôl i'r brig

 

Wythnos oer arall...

Ar ôl penwythnos cymharol fwyn mi fydd hi'n oeri i ni eto yr wythnos hon. Yn rhewi yn galed dros nos ac erbyn dydd Iau, mewn gwyntoedd oer o'r Arctig mi welwn ni'r glaw yn dechrau troi'n eira, Mae'r cawodydd eira yn debygol o barhau ddydd Gwener....a rheiny yn drwm ar brydia. Felly byddwch barod!

Yn ôl i'r brig

 

Diwedd yr wythnos yn edrych yn fwynach!

Wythnos arall wedi dechrau ar nodyn oer a rhewllyd a'r ffyrdd yn hynod o beryglys bore 'ma 'to ond gobeithio fod pawb wedi cyrraedd y gwaith a'r ysgol yn ddiogel. Ond o leiaf mae'n sych gyda chyfnodau braf o heulwen i'r mwyafrif. Ma'r tywydd oer yn parhau dros y dyddiau nesa gyda pheth cawodydd gaeafol yn bosib fory yn y gogledd ond ma'r rhagolygon yn dangos y bydd hi'n cynhesu ychydig erbyn diwedd yr wythnos. O'r diwedd! Ar hyn o bryd 'ma dydd Iau a dydd Gwener yn edrych yn fwynach. Wrth i wasgedd uchel symud yn agosach digon o dywydd sych a braf i ddod gyda'r tymheredd erbyn dydd Gwener yn cyrraedd 7/8°C sy'n fwy arferol ar gyfer mis Rhagfyr. Ond cadwch yn gynnes dros y diwrnodau nesa!

Yn ôl i'r brig

 

Noson oer ond machlud ffantastig!

Newydd fod allan yn cerdded gyda Jac y ci ac er 'i bod hi'n oer o hyd, ma'r olygfa o'r pysgotwyr ar y creigiau a'r traeth, gyda'r haul yn machlud tu ôl iddynt, yn un gwerth ei gweld! Mae hi dal yn oer beth bynnag!!

Dylie hi fod yn ddiwrnod braf arall yfory, ond yn weddol oer o hyd a byddwch yn wyliadarus iawn o'r niwl trwchus mewn ambell ardal.

Wedi bod yn dathlu pen-blwydd fy nhad heddiw yn Y Polyn, yng Nghapel Dewi.

Setlo lawr i wylio The Trip ar BBC2 heno. Gwych! A gwely cynnar. Wythnos brysur arall.

Chris Tywydd

*Un stori fach am Jac. Fy ngwraig wedi neud cacen bore Sadwrn ar gyfer ffair ysgol. Wedi ei gadael ar bwrdd y gegin am eiliad.......Jac wedi claddu'r cyfan! That's my boy!!!!!

Yn ôl i'r brig

 

Diwrnod bant!

Oes wir ma na ddiwrnod bant (prin iawn) 'da fi heddiw.

Dyma fy amserlen:

1. Mynd a'r plant i'r ysgol (''treat'' bach)

2. Mynd a Jac am 'walk' go iawn ar hyd y comin a'r traeth. (gweler llun). Edrych yn oer iawn.

3. Cyfarfod ynglŷn â mynd i Machu Picchu y flwyddyn nesaf.

4. Siopa am rhai anrhegion Nadolig, mynd i'r siop ffotograffiaeth, mynd a'r ryg i'r dry cleaners. (Siwr gai goffi bach yn rhywle).

5. Casglu'r plant o'r ysgol a mynd a nhw i wersi amrywiol (merlota/clwb achub bywyd).

6. Gwneud calendyrs ar gyfer anrhegion Nadolig.

7. Yn gwbl ddibynnol ar y tywydd, mynd i barti Nadolig Tinopolis yn Llanelli.

Diwrnod bant????? Ha!

Mwynhewch.

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Dechrau dadmer!

Wedi wythnos gyfan o fethu gweld y glaswellt, o'r diwedd mae'r eira a'r rhew yn yr ardd gefn wedi dechrau dadmer. Dim rhew ar y car yng Nghaerdydd bore 'ma chwaith... 'chydig mwynach dros y penwythnos ond fawr o arwydd o'r tywydd oer 'ma yn clirio ar hyn o bryd.

Yn ôl i'r brig

 

Sioc!

Do wir! Ges i ddrinc allan ohoni! Odd hi mor braf cael cinio gyda fy mhlentyn cyntaf!!! Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig

 

Rhy oer i foch cwta!!

Ydy, ma hi'n rhy oer i'r moch cwta! Odd Angelina Ballerina a Lara Croft yn y tŷ neithiwr! Yn y cêj. Odd Jac yn hollol ''put out''! I fod yn deg iddyn nhw, roedd hi yn anhygoel o oer yn Aberogwr neithiwr a bore 'ma, ac ma'r ''thermals'' wedi cael 'outing' fach arall heddiw! Neis.

Fi 'di bod yn ateb cwestiynau drwy'r bore am eira/rhew/tywydd Nadolig ayb, gan nifer o bobl o fewn S4C (gan gynnwys y cadeirydd!).

Mae 'na luniau da gan Mari Grug ar ein cyfrif Facebook erbyn hyn a dwi newydd weld y newyddion yn dangos lluniau o faes awyr Gatwick.....mae'n edrych yn debyg i olygfa allan o ''The day after tomorrow''!

Cyfarfod â'r cyntaf enedig amser cinio heddiw. Anrhydedd. Efallai gai ddrinc mas ohoni.

Chris Tywydd

Yn ôl i'r brig