Ar ol Llun gwyl y banc cynnes, un o'r rhai cynhesaf ers
blynyddoedd, mae'r tywydd wedi newid yn ol eto i'r un hen batrwm.
Hynny yw, cymylau, cawodydd a gwyntoedd cryfion. Dipyn bach o
bopeth!
Ac unwaith eto, y jetlif felltigedig yna sydd ar fai, ar ol
plymio i'r de o Brydain, ac nid yn unig yn caniatau i'r aer
oerach i effeithio ar Gymru, ond hefyd yn cyfeirio un gwasgedd isel
ar ol y llall i'n cyfeiriad ni. Ac i wneud pethau yn waeth, mae'r
gwasgedd isel presennol yn debygol o aros gyda ni drwy'r wythnos,
yn dod a mwy o dywydd gwlyb ac ansefydlog iawn, gyda rhai cyfnodau
braf prin iawn. Ond pam? Gan amlaf, mae'r jet lif yn llwyddo i
wthio gwasgedd isel i'r neilltu. Ond wythnos yma, mae'r gwasgedd
isel wedi gwahanu o'r jet lif ac wedi aros dros ynysoedd Prydain! A
felly paratowch am dywydd cyfnewidiol dros ben yn ystod y dyddiau
nesaf, cyn gwella rhywfaint erbyn y penwythnos o bosib.
A'r rhagolygon ar ol hynny? Mae na arwyddion fod na wasgedd
uchel yn debygol o adeiladu i'r gogledd ddwyrain o Brydain, dros
Scandinafia. Fyddai hynny'n dod a gwyntoedd dwyreiniol a felly
tymereddau is. Fyddai'r glawiad yn agos at y cyfartaledd ond gyda'r
gwasgedd uchel yma yn weddol agos, mae na ma siawns go lew o dywydd
sychach hefyd. Cawn weld!
Ond wrth gwrs, mae pethe yn medru newid o ddydd i ddydd, felly
cadwch lygad ar ein rhagolygon.
chris tywydd
Yn ôl i'r brig