Neidio at y cynnwys

S4C

Ffermio

Chwefror 1af

Ar ddechru mis newydd, rydym wedi derbyn canlyniadau glawiad mis Ionawr o Orsaf Dywydd answyddogol John Jones ym Mhelcomb, Sir Benfro.

Glawiad Ionawr 2012

Cyfanswm - 102.0mm

Ychydig llai na chyfartaledd y ganrif sy'n 113mm

Amrywiaeth ryfeddol o flwyddyn i flwyddyn-

2000 - 57.0mm

2009 - 213mm

Mae'r siart yma'n dangos y cyfanswm blynyddol o Ionawr 2000 i 2012.

 

John Jones

Cofion gorau,

John

 

 

Ionawr 5ed

Blwyddyn Newyddyn Dda! Mae John Jones wedi bod yn cadw llygaid barcud ar sefyllfa'r glaw yn ystod 2011 yn ei orsaf dywydd answyddogol ym Mhelcomb, Hwlffordd. Dyma ganlyniadau mis Rhagfyr a 2011.

Glawiad mis Rhagfyr 2011

Cyfanswm y mis - 148.0mm

Gwlypach na chyfartaledd y ganrif - 118.2mm

Gwybodaeth ychwanegol

Cyfartaledd 2000/2011 - 1166.4mm (46modfedd)

Tipyn o amrywiaeth o flwyddyn i flwyddyn.

2000/2011 - Sychaf - 2003 - 1031.5mm (40.61modfedd) a

2000/2011 - Gwlypaf -  2009 - 1409mm (55.47mofedd)

 

Graff yn dangos cyfartaledd y glaw rhwng Ionawr a Rhagfyr 2000/ 2011 -

Graff_Hwlffordd

Graff yn dangos cyfanswm misol y glaw - Ionawr i Ragfyr 2011 - 

Graff2

 

Pob hwyl,

John

 

Rhagfyr 5ed

Mae mis Tachwedd wedi bod yn gymharol sych eleni - dim hanner cymaint o law a gafwyd ym mis Hydref.

Dyma'r manylion-

Glawiad mis Tachwedd 2011

Cyfanswm Tachwedd 2011 - 89.0mm (3.5modfedd)

Cyfartaledd y ganrif - 145.5mm

Tachwedd gwlypaf - 2002 - 254.5mm

Tachwedd sychaf - 2007 - 72.5mm

2011 oedd y trydydd sychaf y ganrif hon.

Hwyl,

John

 

Tachwedd 21ain

Gyda'r tywydd yn gymylog a chawodlyd heddiw dyma ddywediad am dywydd digalon Tachwedd o gyfrol Twm Elias 'Am y Tywydd';

"Tachwedd ddwg y gwynt a'r glaw,
 Chwyth y crinddail yma a thraw".

Os oes gennych chi ddywediad am dywydd Tachwedd neu'r gaeaf gyrrwch nhw atom ar Facebook, Twitter neu tywydd@s4c.co.uk

 

Tachwedd 8fed

Dywediad o gyfrol Twm Elias, Am y Tywydd, sy'n berthnasol i'r tywydd digon digalon yng Nghymru heddiw -

"Tachwedd a'i darth a'i niwl o hyd
Sydd yn gwneud i ni aniddan fyd."

Tybed a oes gennych chi ddywediad am y Tywydd? Anfonwch nhw draw atom, tywydd@s4c.co.uk

 

Tachwedd 3ydd

Dyma gofnod glawiad mis Hydref o orsaf dywydd answyddogol John Jones, Pelcomb, Hwlffordd

Cyfanswm mis Hydref 2011 - 179.5mm

Cyfartaledd y ganrif (2000/2011) - 153.2mm

Hydref gwlypaf - 2005 - 227.5mm

Hydref sychaf - 2007 - 58.5mm

Syrthiodd y rhan fwyaf o'r glaw, 121.5mm mewn tridiau o'r 22ain tan y 24ain o'r mis.

Roedd dydd Llun, 24ain o Hydref yn ddiwrnod eithaf gwlyb - 59.5mm, ond nid y gwlypaf o'r ganrif.

Ar Hydref yr 11eg yn 2005 cafwyd 114mm (4.5modfedd)

Pob hwyl,

John.

 

 

Hydref 6ed

Dyma gofnod glawiad mis Medi 2011 gan John Jones o Hwlffordd -

Cofnod glawiad mis Medi 2011;

Cyfanswm y mis - 75.0mm sy'n agos iawn i gyfartaledd y ganrif sef - 78.0mm

Sychaf - 2009-  24.0mm

Gwlypaf - 2000 - 170.5mm

Pob hwyl,

John

 

 

Medi 5ed

Wedi dechrau addawol i fis Medi erbyn hyn mae'r tywydd wedi troi'n wyntog, cawodlyd ac yn gyffredinol, yn hydrefol. Digon siomedig fuodd tywydd mis Awst hefyd fel mae cofnod glawiad John Jones, Hwlffordd yn ei ddangos;

Cofnod glawiad mis Awst 2011;

Cyfanswm y mis - 2011-88.5mm

Cyfartaledd (2000/2011) - 85.00mm

Gwlypaf - 2004 - 142.5mm

Sychaf - 2003 - 46.0mm

Diolch John!

 

 

Medi 1af

Dywediad y Dydd

Mae'n gyntaf o Fedi heddiw ac yn ddiwrnod sych, braf a heulog ac yn teimlo'n gynhesach na'r dyddiad diwetha'. 'S'gwn i os ydi hyn yn arwydd ein bod am gael Haf bach Mihangel eleni? Dyma bennill gan y Prifardd Eifion Wyn yn croeswu'r mis;

Croeso Medi, fis fy serch,
Pan fo'r mwyar ar y llwyni,
Pan fo'r cnau'n melynu'r cyll,
Pan fo'n hwyr gan ddyddiau'n nosi.



Awst 1af

Mae John Jones o Hwlffordd wedi bod yn brysur eto yn ystod mis Gorffennaf yn casglu gwybodaeth am y tywydd ac yn cofnodi faint o law sydd wedi bod yn ystod y mis! Dyma ystadegau mis Gorffennaf-

Cofnod glawiad mis Gorffennaf 2011;

Cyfanswm - 66.5mm

Cyfartaledd y Ganrif (2000/2011) - 102.2mm

Sychaf - 2002 - 37.5mm

Gwlypaf - 2008 - 236mm

Felly amrywiaeth mawr o flwyddyn i flwyddyn hyd yn oed ym misoedd yr haf.

Pob Hwyl,

John.

 



Gorffennaf 5ed

Wedi mis Mehefin digon cawodlyd, mae John Jones o Pelcomb, Hwlffordd wedi gyrru Cofnodion Glawiad y mis i ni. Llawer mwy gwlyb na mis Mai!

Cofnod glawiad mis Mehefin 2011;

Cyfanswm - 109.0mm

Cyfartaledd y Ganrif - 2000/2011 - 69.0mm

Sychaf - 2006 - 23.5mm

Gwlypaf - 2007 - 131.3mm

Cyfanswm chwe mis cyntaf 2011 -  465.5mm (18.3 modfedd)

 



Mehefin 7fed

Faint o law a gafwyd ym mis Mai? Mae John Jones o Hwlffordd yn cadw cofnodion glaw a dyma gofnod glawiad mis Mai;

Cofnod glawiad mis Mai 2011;

Cyfanswm - 51.5mm

Cyfartaledd y ganrif -2000/2011 - 79.7mm

Sychaf y Ganrif - 2001 - 43.5mm

Gwlypaf y ganrif - 2002- 142.0mm

Cyfanswm Mawrth,Ebrill a Mai 2011-118.5m.m.(4.7modfedd).

Cyfartaledd y tri mis hyn -226.3m.m.

46.6 % yn is na'r cyfartaledd eleni.

Tan mis nesaf,

John.

 

Mai 26ain

Dywediad y Dydd

Mae'r dywediad yma'n nodi pwysigrwydd glaw Mai, ond nid pawb sy'n cytuno!!

Glaw Mai - tywydd tyfu i'r ffarmwr, tywydd chwyn i'r garddwr.

Cofiwch, os oes gennych chi ddywediad am y tywydd, gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk

 

 

Mai 24ain

Dywediad y Dydd

Dyma bennill o'r gerdd 'Mai' gan Eifion Wyn sy'n cyfleu hoffter y bardd o'r mis;

Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda'i firi yn yr helyg,
Gyda'i flodau fel y barrug-
Gwyn fy myd bob tro y dêl.

Os oes gennych chi ddywediad neu ddarn o farddoniaeth am fis Mai neu'r tywydd yn gyffredinol, gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk

 

Mai 12fed

Dywediad y Dydd

Dyma ddywediad gan Hywel Jones sy'n nodi pwysigrwydd glaw Mai os am weld mêl ym Medi;

'Dim glaw Mai, dim mêl Medi'

Diolch i chi Hywel.

 

Mai 11eg

Dywediad Y Dydd

Ydi'r dywediad yma'n wir?! A fydd tywydd mis Mai yn wael gan ein bod wedi mwynhau tywydd bendigedig yn ystod Ebrill?

'Ebrill glas, Mai bras'.

Os oes gennych chi ddywediad Cymraeg neu Saesneg sy'n ymwneud â'r tywydd gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk

 

 

Mai 3ydd

Dyma gofnod o lawiad mis Ebrill gan John Jones o Hwlffordd. Fel mis Mawrth mi fuodd Ebrill yn sych iawn gyda 22 diwrnod yn hollol sych;

Cofnod glawiad mis Ebrill 2011:

Cyfanswm glawiad Ebrill - 30.5mm

Cyfartaledd y ganrif 2000/ 2011 - 72.6mm

Sychaf y ganrif - Yr un cyfanswm a 2007 sef 30.5mm

Gwlypaf y ganrif - 2001 - 107.0mm

Hwyl fawr,

John.

 

Ebrill 19eg

Dywediad y Dydd

Dyma bennill am fis Ebrill, y gog a thyfiant newydd y flwyddyn;

Mis Ebrill bellach, cais dy og,
Prysura hau dy dir;
Tydi gei glywed llais y gog
Ar frigau'r goedwig îr.

Fe bair effeithiau gwlith y nen
I bob glaswelltyn godi ei ben.

Os oes gennych chi ddywediadau am y gwanwyn neu'r haf gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk

 

 

Ebrill 13eg

Dywediad y Dydd

'Un wennol, ni wna wanwyn.'

Ydych chi wedi gweld y wennol eto? Gadewch ni wybod pryd ac ym mhle? tywydd@s4c.co.uk



Ebrill 11eg

Dywediad y Dydd

Gyda gwynt a glaw ar y ffordd ddydd Mercher, dw i'n siwr y bydd ffermwyr a'r garddwyr yn ein plith yn falch o weld ychydig o wlybaniaeth -

'Gwlybyn a gwres yn Ebrill a wna i'r ffermwyr ganu.'

Cofiwch os oes gennych chi fwy o ddywediadau amaethyddol, gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk

 

Ebrill 7fed

Dywediad y Dydd

Dywediad sy'n cyfeirio at y Gog -

'Ei hamser i ganu yw Ebrill a Mai'

Tybed faint ohonoch sydd wedi ei chlywed? Ac os ydych, yn lle a phryd? Gadewch ni wybod - tywydd@s4c.co.uk




Ebrill 6ed

Dywediad y Dydd

'Gwlybyn a gwres yn Ebrill a wna i'r ffermwyr ganu'


 


Ebrill 5ed

Dywediad y Dydd

Dyma ddywediad perthnasol iawn i heddiw sy'n sôn am wynt mis Ebrill!

'Gwynt Ebrill a chwyth
Y neidr oddi ar ei nyth.'

Oes gennych chi ddywediad am fis Ebrill? Gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk


 

Ebrill 4ydd

Diolch i Derec Owen o Lanfairpwll am y lluniau o'r ŵyn bach yma. Cofiwch yrru eich lluniau gwanwyn atom tywydd@s4c.co.uk

Wyn 2 Wyn bach 1

Wyn bach 3Wyn bach 5

Wyn bach 4


 

Ebrill 4ydd

Dyma gofnod o lawiad mis Mawrth gan John Jones o Hwlffordd. Mae'r cofnod yma'n dangos ei bod hi wedi bod yn fis sych iawn gyda 20 diwrnod o'r mis yn hollol sych.

Cofnod glawiad mis Mawrth 2011:

Cyfanswm glawiad Mawrth - 36.5mm

Cyfartaledd y ganrif 2000/ 2011 - 74.0mm

Sychaf y ganrif - 2000 - 29.0mm

Gwlypaf y ganrif - 2006 - 132.5mm



Ebrill 1af

Dywediad y Dydd

Gyda'r tywydd yn ddigon diflas ar y cyntaf o Ebrill 'sgwn i os yw'r dywediad yma'n wir?!

'Ebrill, tywydd teg a ddaw
Gydag ambell gawod law.'

Cofiwch yrru eich dywediadau tywydd atom tywydd@s4c.co.uk

 



Ebrill 31ain

Dywediad y Dydd

Mae'r dywediad 'Daw Mawrth i mewn fel oen ac allan fel llew' yn berthnasol iawn i heddiw fel diwrnod ola mis Mawrth. Wedi dechrau addawol o dywydd braf mae'r tywydd wedi troi yn wyntog a diflas erbyn ddiwedd y mis. Hyrddiadau o dros 50mya wedi eu cofnodi mewn nifer o lefydd yng Nghymru am 10.00 bore 'ma -  Aberdaron - 57mya, Llyn Efyrnwy - 59mya, Capel Curig - 53mya ac Aberporth - 55mya.

 

 

Ebrill 30ain

Dywediad y Dydd

Gyda'r glaw yn prysur ledu ar hyd y wlad y pnawn ma, dyma ddywediad am dywydd newidiol y gwanwyn;

'Ceir tri math o dywydd mewn diwrnod o wanwyn'

Gyrrwch eich dywediadu tywydd chi atom tywydd@s4c.co.uk

 

 

Ebrill 29ain

Dywediad y Dydd

Gwnewch y gorau o'r ysbeidiau heulog heddiw gan bod glaw ar y ffordd ganol yr wythnos. Dyma ddywediad am haul y gwanwyn;

'Haul gwanwyn yn waeth na gwenwyn' .

Cofiwch yrru eich dywediadau tywydd atom tywydd@s4c.co.uk

 

 

Ebrill 25ain

Dywediad y Dydd

Dyma ddywediad a yrrwyd atom gan Catrin Siriol am dywydd cyfnewidiol mis Mawrth;

'Daw Mawrth i mewn fel oen, allan fel llew.'

Diolch Catrin. Cofiwch os oes gennych chi ddywediad am y gwanwyn gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk

 

 

Ebrill 24ain

Dywediad y Dydd

Hwrê, mae'r gwanwyn wedi cyrraedd a hyd yn hyn mae'r tywydd wedi bod yn fendigedig! Gobeithio bod y dywediad yma'n wir!

'Fel bo Mawrth y bydd yr haf.' (Am y Tywydd, Twm Elias)

Os oes gennych chi ddywediad yn ymwneud ar gwanwyn gyrrwch nhw atom tywydd@s4c.co.uk

 

 

Mawrth 23ain

Dyma lun o haul bendigedig y gwanwyn yn taro fferm Moelfre Bach pnawn dydd Mawrth, llun gan Owi Ellis o Lanaelhaearn.

OwiEllis

 

Mawrth 1af

Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi. Mae John Jones o Pelcomb, Hwlffordd wedi bod yn brysur yn casglu cofnodion glaw mis Chwefror ar ein cyfer. Dyma nhw'r ffigurau;

Glawiad mis Chwefror 2011

Cyfanswm glawiad Chwefror 2011 - 98.5mm (wedi glawio yn ystod 21 diwrnod o fis Chwefor!)

Diwrnod gwlypaf mis Chwefror - 18.02.11 - 17mm

Cyfartaledd y ganrif - 87.0mm. Yn amrywio o 40.5mm yn 2009 i 135.5mm yn 2000.

 

 

Chwefror 2il

Dyma gofnod glawiad mis Ionawr gan ein cofnodwr glaw o Hwlffordd, John Jones;

Glawiad Ionawr 2011

Cyfanswm glawiad Ionawr 2011 - 139.0mm

Cyfartaledd y ganrif 2000/2011  -   114.0mm

Ionawn Gwlypa'r ganrif - 2009 - 213.0mm

Ionawr Sycha'r ganrif - 2000 - 57.0mm

  Cofion gorau,

John.

 

 

Ionawr 11eg

Dyma fwy o ystadegau gan John Jones sy'n cofnodi glaw yn fisol;

Glawiad 2010;

Cyfanswm 2010 - 1047.5mm

Cyfartaledd 2000/ 2009 - 1184.0mm

Blwyddyn Gwlypa'r ganrif - 2009 - 1409mm

Blwyddyn Sycha'r ganrif - 2003 - 1031.5mm

 

Ionawr 10fed

BLWYDDYN NEWYDD DDA GAN DÎM TYWYDD S4C!

Dyna gofnod glawiad mis Rhagfyr gan John Jones o Hwlffrodd. Mae John wedi bod yn cadw cofnodion glaw yn fisol ers 1989.

Glawiad Rhagfyr

Cyfanswm glawiad Rhagfyr 2010 - 69.5mm

Cyfanswm Rhagfyr 2000 - 147mm

Cyfartaledd Rhagfyr 2000/2009 - 113.0mm

 

 

Rhagfyr 2il

Cofnod glawiad mis Tachwedd gan John Jones o Hwlffrodd, Sir Benfro. Mae John wedi bod yn cadw Cofnodion Glaw ers 1989.

Glawiad Tachwedd

Cyfanswm glawiad Tachwedd 2010 - 142.5mm

Cyfartaledd Tachwedd 2000/2009 - 151.5mm

Tachwedd Gwlypaf - 2002 - 254.5mm

Tachwedd Sychaf - 2007 - 72.5mm

Cofion gorau,

John.

 

 

Tachwedd 15fed

Tynnwyd y llun yma gan Owain Llyr o Uwchmynydd, Aberdaron ddydd Llun, 15.11.10

Tornado Uwchmynydd

 

Tachwedd 10fed

Tynnwyd y llun yma gan un o wylwyr y Tywydd  - Copa'r Wyddfa dan haenen o eira.

Yr wyddfa a'r Eira

 

Tachwedd 9fed

YDI'R GAEAF WEDI CYRRAEDD EICH ARDAL CHI ETO? 

Gyrrwch luniau gaeafol o'ch fferm neu'ch tir i Dîm y Tywydd tywydd@s4c.co.uk

Dyma lun gan un o wylwyr y Tywydd o dir uchel Dyffryn Nantlle ar yr 8fed o Dachwedd.

Eira Tachwedd

Tachwedd 1af

Mae John Jones o Hwlffrodd yn Sir Benfro yn cadw Cofnodion Glaw ers 1989. Bydd tîm Tywydd S4C yn derbyn cofnodion glaw ganddo yn fisol.

Glawiad Hydref;

Cyfanswm glawiad Hydref - 105.5mm

Diwrnod gwylpaf Hydref - 06.10.10 - 28.5mm

Cyfartaledd Hydref 2000/2009 - 155.3m.m


Mis Hydref gwlypaf - 2005 - 227.5mm

Mis Hydref sychaf - 200 7 -  58.5mm            

Felly mae mis Hydref eleni wedi bod dipyn sychach na'r cyfartaledd.

Cofiwch os hoffech gyfrannu i'r adran hon, neu os ydych am inni roi sylw i ddigwyddiad amaethyddol yn eich ardal chi, cysylltwch â ni tywydd@s4c.co.uk