Wel mae'r tywydd di bod yn ddigon cecrus yn ddiweddar,
ambell ddiwrnod sych ond dal gormod o law a dim digon o wres,
yn sgil hyn dyw'r porfa dal ddim yn tyfu'n arbennig o dda gyda ni,
yn enwedig ar y ddaear trwm clai. Erbyn amser hyn llynedd roedd y
defaid wedi eu cneifo ers pythefnos, ond does dim sôn am gneifo
eleni mor belled. Ma'r gwartheg i gyd bron wedi eu gwerthu
nawr, fe aeth 4 bore 'ma a mae disgwyl i'r 5 ola' fynd i'r mart
wythnos nesa', fydd en amser trist ar ôl i'r fuwch ola' ein
gadel ni. Mae'r ŵyn yn dod yn eu blaen yn araf bach, ac ar ôl eu
pwyso yn ddiweddar fe ges i sioc ar yr ochr orau i weld pwysau
da y rhai gorau, ond does dim y sglein arferol arnyn nhw
'leni, rwy'n ei roi e lawr i'r holl law i ni wedi ca'l!
Oddi ar i mi 'sgwennu ddiwethaf rwyf wedi bod yn y CCB lawr
yn Torquay lle gaethwyd cael amser gwych. Mi roedd hi'n
llwyddiannus iawn i aelodau Cymru gan cynnwys Aled Jones
o CFfI Dyffryn Cothi yn ennill Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru a
Lloegr, yn ogystal â chlwb Llanfair-ym-Muallt yn cipio gwobr y
Pantomeim. Llongyfarchiadau i'r holl aelodau a fuodd yn
llwyddiannus yn Torquay. Mae'r Ralis hefyd wedi dechrau, a chyn
belled rwyd wedi ymweld â Ralis Sir Gâr a Morgannwg, gyda
nifer o rai eraill ar y gorwel. Mae'r sioeau amaethyddol ar fin
dechrau yn ein ardal ni hefyd, a braf fydd cael mynd i Sioe
Sanclêr y penwythnos yma er mwyn derbyn fy ngwahoddiad
cynta' i farnu defaid Texel.
I gloi mae'n ddrwg 'da fi weud bod ymarfer ar y beic wedi bod yn
anobeithiol dros yr wythnosau diwethaf, rhwng y tywydd ar
cyfarfodydd mae'r beic wedi bod yn y sied mwy na mas ar yr hewl,
fydd gofyn tynnu bys mas os dw i am lwyddo ar y daith yma heb ladd
fy hun!! Gobeithio erbyn i fi 'sgwennu nesa fyddai wedi
llwyddo i ymarfer tipyn mwy, yn ogystal â cneifio a bwrw
mlan â gwaith ar y tŷ!!
Hwyl am y tro
Beefy
Yn ôl i'r brig