News

Sian Roberts - Ebrill 2013
Wel rydym wedi cael ambell i nosweithiau stormus yma yn Sir
Fôn dros y bythefnos ddiwetha a dipyn o law  -
reit dda chwadal dad! Roedd y tir wedi mynd yn eithaf sych ac yn
ddi-faeth, ond erbyn hyn mae hi'n dechrau glasu a thyfu.
Mae'r gwartheg godro i gyd allan yn ystod y dydd erbyn hyn a
mewn yn y siediau gyda'r nos, mae gwelliant y tir yn help mawr. Ac
wrth gwrs gan fod y gwartheg allan yn mwynhau maeth y gwair,
mae eu cyfrif llaeth ar i fyny sydd wrth gwrs yn newyddion
arbennig! Fel mae'r haf yn agosáu rwan, wrth gwrs mai'n bryd i ni
drio gael trefn ar y tir, gan gychwyn gyda'r rowlio gan fod na
dipyn o stopio wedi bod rhwng y tywydd. Dwy ddafad sydd ar ôl
i ddod â ŵyn ac mi fydd y cyfnod ŵyna ar ben am flwyddyn
arall. Yna mi fyddwn yn symud ymlaen i'r cneifio mewn ychydig o
wythnosau ac yna'r cynhaeaf wrth gwrs.

Ar hyn o bryd rydym wrthi yn paratoi at Rali'r Ffermwyr Ifanc,
felly gan mai ond 10 aelod sydd ganddom yn ein clwb ni, mae hi'n
andros o brysur gyda'r clwb yn cyfarfod ddwy neu dair gwaith
yr wythnos. Mae'r Rali yn cael ei gynnal am 9yb eleni ar y 11eg o
Fai, 2013 yn Safle Sioe Môn, Mona. Y thema leni ydi 'Y celtiaid' yn
arwain y ffordd. Mae cryn dipyn o waith peintio ar hyn o bryd,
mae ein Harwydd Hysbyseb a fydd yn hysbysebu'r Rali i fod
i fyny erbyn dydd Iau. Mae bob clwb yn gwneud arwydd ac yn ei
osod o gwmpas y sir, mae'n ffordd o dderbyn marciau at farciau
clybiau'r Rali. Yn ogystal mae'r genod wrthi yn brysur hefo'r llyfr
lloffion neu 'scrap book' y clwb a fydd yn olrain hanes y flwyddyn
ddiweddaf...sydd yn adlonni niferoedd ar ddiwrnod y Rali - (ac oes,
mae na ddigon o luniau doniol!) Os ydachi yn yr ardal, cofiwch ddod
i gefnogi'r aelodau, fe allai sicrhau diwrnod pen-i-gamp i'r teulu
oll!

O'R DIWEDD, mae'r traethawd hir wedi ei gwblhau ac wrthi'n cael
ei farcio! Un traethawd yn llai ond mae'n rhaid symud
mlaen i'r traethawd nesa rwan, arholiad a chyflwyniad.
Felly mi fyddai o flaen y cyfrifiadur am sbelan eto. Er hynny,
roedd hi'n braf ofnadwy mynd allan ar y fferm efo dad dros y
penwythnos - mymryn o awyr iach yn gwneud gwahaniaeth. Tua diwedd
yr wythnos rwyf yn mynd i galafantio i Gaeredin i gynhadledd
Bydwreigiaeth. Mae'r gynhadledd yn cynnwys awdurion enwocaf y byd
Bydwrieigiaeth felly rwyf yn edrach ymlaen i glywed mwy eu
hanes a'u cynlluniau nesaf.

Dyna ni ar hyn o bryd, gewchi fwy o hanes y Rali tro nesaf!
Diolch i chi am ddarllen!

Hwyl am y tro!

Siân Roberts

Sian - Ebrill 2013
Sudachi erbyn hyn? Gobeithio bod yr eira 'ma ddim wedi bod yn
ormod o broblem i chi. Mae'n hynod dorcalonnus i nifer o ffermwyr
sydd wedi cael trafferthion gyda'r eira 'ma dros y
bythefnos diwetha, gyda defaid yn cael trafferthion ar y caeau
a hwythau yn ceisio gwarchod eu hŵyn. Daeth yr eira ar
amser anffodus iawn, dani heb weld Pasg gwyn fel hyn ers
sbel!

Nid yn unig mai'n sobor ar y defaid yn nghanol yr eira 'ma,
ond mai'n sobor ar y ffermwyr, gyda nifer o golledion yn
ogystal â safon y tir yn cael ei ddifetha. Nid yw'r tir
mor ffrwythlon a ddylai fod adeg yma o'r flwyddyn, mae fy nhad
rhwng dau feddwl a ddylai adael y gwartheg godro allan
gan nad ydi'r borfa mor gryf ag arfer. Mae defaid fy nhad a fy
mrawd canol wedi gorffen ŵyna erbyn hyn, ond newydd gychwyn
ers tua wythnos mae fy mrawd hynaf felly mwy
o nosweithiau prysur i ni am 'chydig eto!

Rwyf yn gobeithio fod pawb wedi cael Pasg bendigedig ac wedi
bwyta digon o siocled!! Ar hyn o bryd rwyf yng nghanol gwneud fy
nhraethawd hir, sydd yn golygu mai dyma un o'r traethodau
diwetha' cyn gorffen yn y Brifysgol. Mae angen dipyn o wyau
Pasg arnai er mwyn rhoi mymryn o hwb i'r geiria'. Ar ôl i mi
gwblhau y traethawd, dim ond un traethawd, un arholiad ac un
cyflwyniad fyddai ar ôl, yn ogystal â'r profiad gwaith tan fis Medi
wrth gwrs. Ond mae'r amser yn prysur fynd, mae tri mis cyntaf
o 2013 wedyn hedfan yn barod!

Rwyf wrth fy modd gyda'r adeg yma o'r flwyddyn wrth i'r dydd
ymestyn wrth i ni droi'r clociau ymlaen wrth gwrs. 'Edrych ymlaen
am yr haf' dyna sut y bydda i yn cofio pa ffordd i droi y
clociau - ac yn wir i chi, dwi yn edrach ymlaen! Mae ganddom haf
eitha cyffrous o'n blaen gan mai Sir Fôn yw sir nawdd y Sioe
Frenhinol eleni. Yn ogystal, mae ganddom holl ddigwyddiadau'r
Ffermwyr Ifanc, gyda'r Rali, y ras rafft, ac fel soniais yn
gynharach, mi fyddai yn gorffen yn y Brifysgol ym mis Medi.

Reit mi fysai'n well i mi fynd yn ôl i sgwennu'r traethawd hir
'ma...gan fwynhau mymryn o siocled a phaned o de i roi fymryn o
'ysbrydoliaeth' i mi... (unrhyw esgus am siocled!)

Diolch i chi am ddarllen, hwyl am y tro,

Siân

Dylan - Mawrth
Oni'n dechrau meddwl bod y gaeaf tu cefn i ni ond o na! Roedd y
defaid a'r ŵyn cynnar yn mwynhau'r tywydd braf allan yn y caeau,
ond erbyn hyn rwyf wedi dechrau dod a nhw nôl mewn gyda'r nos.
Fyswni ddim yn meddwl neud shwd beth gydag ŵyn sydd bellach ymhell
dros bythefnos oed, ond rhwng y diffyg cysgod a diffyg porfa mae'r
defaid a'r ŵyn yn fwy na pharod i gysgu yng nghornel sied dros
nos!!

Rydym wedi dechrau ar beth gwaith allan yn y caeau, ac yn ysu
i'r tywydd wella i ni gael aredig ychydig, a mynd allan a pheth
gwrtaith allan i'r caeau. Mae hefyd angen i ni wneud ychydig o
waith ffensio yn ogystal â phlanu peth coed afalau er mwyn creu
berllan newydd (fel rhan o gwaith Glastir). Felly digon i gadw ni'n
brysur dros yr wythnosau/misoedd nesaf.

Braf yw cael adrodd bod Betsan fach yn dod mlaen yn grêt. Y
teulu oll wrth eu bodd gyda hi, a hithau'n tyfu 'fflat owt'!! I fod
yn deg mae hi'n cysgu yn reit dda ar y funed, ac yn gadael i mam a
dad gael tamaid o gwsg nawr ac yn y man! Er, rwy'n siwr fydd na yn
newid rywbryd, felly rydym yn gwenud y mwyaf o'r peth nawr. Er
gweud hynny, mae'r grŵp nesaf o ddefaid ar fin dechrau ŵyna nawr,
felly fydd rhaid codi yn nos i weld rheini!!

Felly dim amser i orffwys gormod ar hyn o bryd!

Pob hwyl am nawr,

Beefy

Sian - Mawrth 2013
Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb!! Ma'n braf gweld y cennin pedr
allan sy'n rhoi mymryn o liw i'r ardd. Mai'n gyfnod prysur i bawb
ar hyn o bryd. Os da chi'n mwynhau canu, llefaru, dawnsio…ma'r
rhestr yn parhau, yna da chi'n Eisteddfotwr yr Urdd siwr o fod.
Yndi mae Eisteddfodau Cylch yr Ynys wedi cychwyn gyda 'steddfod bob
ddydd Sadwrn tan ddiwedd y mis. Ar y llaw arall os ydych yn
ffermio...yna da chi mwy na thebyg ar eich traed fwy nag yn cysgu
dyddiau yma yn cynhesu'r colostrwm, chwistrellu cefnau'r ŵyn ac yn
gwneud mwy a mwy o binnau bob dydd. Fel arfer, dw i'n reit dda'n
deilo gyda'r cyfnod yma. Fel da chi'n gwybod eisioes, dw i'n
perthyn i Aelwyd yr Ynys a felly'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd
bob blwyddyn- ond eleni, yn anffodus, fydda i ddim yn cymryd
rhan gan fod gwaith y Brifysgol yn gorfod cael blaenoriaeth. Yn
ogystal - rwy'n gadael y swydd magu i fy mrodyr eleni!

Ers i mi siarad hefo chi ddiwetha, mae genai newyddion cyffrous
i chi. Ers i mi fentro i fewn i'r maes Bydwreigiaeth, rwyf wedi dod
i ddysgu cryn dipyn am yr elusen SANDS (Stillbirth and neonatal
death society). Mae'r elusen yma'n cynnig cefnogaeth i rieni, teulu
neu ffrindiau sydd wedi cael eu heffeithio gan golli babi, yn
ogystal â hyrwyddo ymchwil i ddarganfod rhagor o atebion a ffyrdd o
ostwng y nifer o fywydau sy'n cael eu colli. Mae'r elusen yma yn
agos iawn at fy nghalon ac felly roeddwn yn teimlo fy mod eisiau eu
helpu, felly rwyf yn mynd ar daith ar draws y Sahara ym mis Mawrth
2014 i godi arian i'r elusen. Mi fyddwn yn cerdded ar draws y
Sahara am gyfnod o 9 diwrnod ac yn gwersylla ar hyd y daith gan
gychwyn yn Quarzazate, Morocco ac yn gorffen yn Mhamid cyn
dychwelyd adre o Quarzazate ar ddiwedd y daith. Rwyf angen
codi £2,250 o arian nawdd felly mi fyddai'n brysur iawn o hyn allan
yn trefnu digwyddiadau codi arian. Rwy'n edrach ymlaen yn arw at y
daith a chodi arian at elusen arbennig.

Mae'r Ffermwyr Ifanc yn brysur iawn hefyd. Mae'r gystadleuaeth
ddrama newydd gael ei gynnal yma yn Sir Fôn gyda Chlwb Rhos-y-bol
yn dod i'r brig ac ymlaen a nhw i Abertawe i gystadlu yng
nghystadleuaeth Cymru gan ddod yn ail yno. Llongyfarchiadau mawr
iddynt. Buan iawn daw'r Rali ym mis Mai unwaith eto gyda digonoedd
o gystadleuthau at dâst pawb. Rwyf hefyd ar bwyllgor y panel codi
arian ar gyfer y sioe Frenhinol eleni felly'n brysur yn trefnu
digwyddiadau codi arian yr haf. Fe ddaw mwy o fanylion yn fy mlog
nesa am y digwyddiadau hyn a gallwch chi fod yn rhan
ohonynt.

Wel diolch i chi am ddarllen, mi fyddai yn ôl yn fuan,

Pob hwyl,

Siân Pierce Roberts

Dylan Jones - Chwefror
Braf iawn yw cael cyhoeddi, am 13:23 ar y 29ain o
Ionawr gaeth Betsan Grug ei geni, 8lb 6oz o hapusrwydd pur!! A
dyw pethe ddim di bod r'un peth yn tŷ ni ers hynny. Llond lle
o deulu, dadcu's a mamgu's a wncwl's ac anti's i gyd wedi dotio'n
llwyr, a ninnau yn rieni hapus iawn, blinedig, ond hapus iawn!

Fuon ni'n poeni dipyn am y tywydd tra'n aros am enedigaeth
Betsan, eira trwm yn disgyn mewn nifer o lefydd, ond gethoni ddim
llawer o gwbl i fod yn deg, oedd yn braidd yn siomedig ar un
llaw, ond hefyd yn fendith ar y llaw arall. Rydym wedi cael
hen ddigon o wynt a glaw (fuoni'n 'styried galw'r babi yn Morus neu
Ifan petai'n fachgen!!) ac ar adegau o dywydd garw
nawr rydym yn falch iawn ein bod ni wedi symud allan o'r
garafan!

Mae amser ŵyna wedi cychwyn hefyd, ac ar ôl cyfnod diflas iawn
cyn ŵyna a phryderon am iechyd y diadell, braf yw cael gweud bod
gyda ni ŵyn cryf a iach o gwmpas nawr. Yn ôl ar ddechrau mis
Ionawr oni yn poeni yn fawr os fyddwni'n medru dweud hynna.
Gobeithio y gwneith y cyfnod ŵyna barhau'n ddiffwdan nawr. Er
dweud hynny, tu fewn fydd y defaid a ŵyn am ychydig gan fod y
tywydd mor wael ar caeau mor wlyb. Felly ry'ni'n gobeithio
nawr am ychydig o dywydd gwell.

Does dim llawer mwy genai ddweud ar hyn o bryd, mae pethau yn
brysur iawn ma rhwng gwaith, ŵyna ac edrych ar ôl Louise a Betsan!!
Reit well i fi fynd, credu fod cewyn ishe newid rhywle
'ma!

Hwyl,

Beefy

P.S. Pob wwc i Gwenno Griffith (Cadeirydd CFfI Cymru) sydd
yn dechrau ei her 12 copa yn Gwent y penwythnos yma er mwyn
codi arian at elusen y British Heart Foundation

Sian - Ionawr 2013
2013...2013?? I ble ma'r blynyddoedd 'ma yn mynd?! Dwi'n cofio'r
mileniwm fel ddoe!

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Gobeithio eich bod chi gyd wedi
cael 'dolig gwerth chweil gyda digon o siocled...a geriach...ac er
bod pawb wedi laru erbyn diwedd yr Ŵyl...twrci!! Mae'r Nadolig yn
adeg bendigedig yn dydi? Ond rhaid deud'i bod hi'n braf cal yn ôl i
'normal'!!  Dwi wedi cychwyn yn ôl  yn yr ysbyty ers tair
wythnos bellach,  mae o yn fy nychryn i mai ond wyth mis sydd
i fynd!!! Ia wyth mis o fod yn fyfyriwraig sydd ar ôl ...yna mi
fyddai yn fydwraig! Rhywbeth dwi wedi bod yn breuddwydio amdano ers
blynyddoedd...gobeithio bydd y freuddwyd felly yn cael ei gyflawni
ymhen yr wyth mis nesa'! Dw i mor falch o ddweud fy mod i yn mynd
mewn i faes rwy'n ei garu ac yn mwynhau pob eiliad o'r swydd hynod
freintiedig yma!!

Cyn i mi fwrw 'mlaen, gai ddiolch i chi gyd am ddarllen yn 2012
- rwyf yn gobeithio bod hanesion y Ffermwyr Ifanc wedi eich diddanu
yn ystod y dyddiau gwlyb. Er na chawsom Nadolig gwyn...cawsom
ddigon o eira wythnos diwetha'!  Er ei fod yn brydferth iawn o
ran gwedd a golwg, mae o yn gallu bod yn boen mawr i lot fawr o
bobl. Cawsom 5 i 6 modfedd fan hyn, sydd yn andros o anghyffredin,
ni sydd olaf i weld unrhyw eira fel arfer. Roedd ambell i
ddyn/ddynes eira o gwmpas a phawb yn mwynhau.

Mai'n flwyddyn newydd i'r Ffermwyr Ifanc gyda digon o
ddigwyddiadau ar y gweill. Dros y Penwythnos buom yn codi arian ar
gyfer y Mudiad yng Nghae Sioe Môn, Mona, gyda noson arall o godi
arian nos Wener yma yn y Gwobrau Twristiaeth. Heno mae Clwb
Ffermwyr Ifanc Bodedern yn cynnal cystadleuaeth dartiau, pŵl a
thenis bwrdd. Buan iawn ddaw y 'Penwythnos o Adloniant' sef
cystadlaethau Aelod Iau a Aelod hŷn y flwddyn ar cystadleuaeth
ddrama. Felly mae digon ar y gweill i'r Ffermwyr Ifanc ar hyn o
bryd.

Wel rydym wedi cychwyn ŵyna yma, gyda dipyn o ŵyn o gwmpas.
Mae'n adeg oer iawn iddynt - yn enwedig pan mae'r eira yn ystod y
dyddiau diwetha' - felly mae'r rhan fwyaf o'r ŵyn i mewn ganddom am
ychydig o ddyddia'!  Ar y llaw arall, dim ond newydd sganio eu
defaid mae nifer o ffermwyr a ddim yn cychwyn dod ag ŵyn tan
oddeutu diwedd mis Mawrth neu gychwyn  Ebrill. O ran y
farchnad - nid oes llawer wedi newid gyda phrisiau ŵyn tew dal i
fod yn reit isel a phrisiau gwarthaig biff wedi gostwng ychydig yr
wythnos yma.

Unwaith eto, gai ddiolch i chi am ddarllen a gobeithio eich bod
chi wedi mwynhau!

Cymerwch ofal yn y tywydd 'ma!

Siân Pierce Roberts

Dylan Jones - Ionawr
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau dros y 'Dolig a bod y flwyddyn
newydd wedi dechrau ar nodyn da. Fe wnaethom fwynhau mas draw yn
ein cartref newydd (er rydym dal i ddad-bacio a throsglwyddo pethau
o'r garafan!!). Yr un ystafell sydd wedi bod yn barod ers tro yw
ystafell y babi, ond ry'ni dal i aros i Beefy
bach i ddangos i wyneb!!!!

Wrth sgwennu hwn mae'n debyg fod y rhan fwya' o Gymru yn
paratoi i dderbyn rhywfaint o eira heno, dyw'r rhagolygon am
orllewin Cymru ddim yn edrych yn rhy ffôl, felly gobeithio
fydd dim gormod o problemau ar y ffyrdd yn ein hardal ni (yn
enwedig os fydd angen taith brys i'r ysbyty!!) Gewn ni weld beth a
ddaw yn y dyddiau nesaf.

Mae'r defaid sy'n disgwyl ŵyn eleni mewn ers rhyw 10 diwrnod, ac
mae nhw'n setlo mewn yn dda. Rwy'n llawer hapusach nawr eu bod
nhw yn y sied, rwy'n gallu cadw llygad barcud arnyn nhw
nawr. Rydym wedi cael tipyn o drafferth gyda'r defaid dros y
misoedd diwethaf, ond gobeitho bod hynny tu ôl i ni nawr.
Rwy'n edrych ymlaen nawr at dymor yr ŵyna, ond nid yw'r ŵyn
cyntaf i fod i gyraedd tan ddiwrnod San Ffolant, ac rwy'n siwr
fydd nifer o bethau eraill wedi digwydd cyn hynny!!

Reit well i fi fynd i weld bod Louise yn iawn, tro
nesa' fyddai'n siarad gyda chi rwy'n siwr bydd newyddion am y
baban.

Pob Hwyl,

Beefy

P.S. Fe wnaeth Mali'r ci defaid gael cŵn bach dros dymor y
Nadolig, cŵn bach hyfryd!!!

Carwyn - Rhagfyr
Annwyl ddarllenwyr, mae cryn dipyn o gyffro wedi digwydd ers i
mi flogio ddiwethaf. Daeth yr amser o'r flwyddyn unwaith eto i
gyflwyno'r hyrddod i'r defaid magu. Penderfynais eleni i wahanu'r
Suffolks a'r Texels i mewn i ddwy ddiadell wahanol, gyda'r gobaith
o gynyddu'r nifer o ddefaid Suffolk yn y ddiadell. Mewn blynyddoedd
diweddar, da ni wedi defnyddio hyrddod Texel a Beltex yn bennaf
felly wedd hi'n hen bryd i ailgyflwyno'r Suffolk. Des i ben a
phrynu Suffolk blwydd newydd lawr yn y Farchnad Ddefaid lleol yng
Nghrymych, a hefyd dau Dexel a daliodd y llygad. Felly, gyda'r
hwrdd Suffolk gyda'r defaid Suffolk a'r hyrddod Texel gyda gweddill
y ddiadell - gobeithiwn am ganlyniadau addawol dyfod y tymor ŵyna
ar ddechrau mis Ebrill. Fe wneith amser ddatgelu, fodd bynnag dwi
gydag ambell i ofid am ffrwyddlondeb y ddiadell eleni gyda'r porfa
sy'n gymharol isel mewn maeth oherwydd y diffyg heulwen yn ystod yr
haf. Serch hynny, dwi wedi gwneud yn siŵr fod y defaid yn cael
digonedd o wair yn eu diet yn ogystal ag olew pysgod hanfodol gyda
Omega 3 ychwanegol er mwyn hybu ffrwythlondeb. Dewch obeithio cawn
ddigonedd o efeilliaid pan ddawn rownd i sganio'r ddiadell ar
ddiwedd mis Ionawr!

Mae'r economi aflonydd sydd ohoni yn Ewrop yn sicr wedi
effeithio ar y prisiau mae ffermwyr y wlad yn derbyn am ei
chynnyrch y gaeaf yma. Y farchnad ddefaid sydd wedi ei effeithio'r
gwaethaf yn fy marn i, sylwer fod prisiau ŵyn wedi disgyn rhyw
20-25%. Ar ôl tymor pori anodd gyda'r haf gwlypaf mewn dros ganrif,
gorfodwyd sawl ffermwr i fwydo silwair a dwysfwyd ychwanegol. Gall
hyn ddim ond golygu costau cynhyrchu uwch a chyllideb dynnach.
Dwi'n synhwyro bydd cyllideb sawl ffermwr yn cael ei herio yn ystod
y flwyddyn sydd i ddod o ganlyniad, a fydd yn sialens i'r mwyafrif.
Dwi wedi sylwi newid yn hyder y prynwyr rownd y martiau yn barod,
sydd dim ond yn dangos pa mor ansicr yw'r diwydiant
amaethyddol.

Mae'r gwartheg wedi bod tu fywn nawr ers canol mis Hydref ac
erbyn hyn yn bwydo'n jicôs ar y silwair a gynaeafwyd yn ystod
heulwen prin y Gorffennaf. Ma' nhw'n ymddangos i fod yn ddigon
hapus i eistedd yn y gwellt cynnes wrth iddynt wrando ar y glaw yn
pitran patran ar dô'r sied uwchben. Mewn newyddion arall, dwi jyst
wedi dychwelyd o wyliau ar ynys Phuket a leolir yn Ne Orllewin
Thailand. Fy mhrofiad tramor cyntaf i mewn sawl blwyddyn a ma'
rhaid cyfaddef odd e'n bythefnos anghofiadwy! Cewch glywed mwy am y
'travels' ma yn fy mlog nesa i yn y flwyddyn newydd. Fodd bynnag am
y tro, dwi'n mawr obeithio eich bod wedi mwynhau'r Nadolig a
dymunaf y gorau i chwi ar gyfer eich dathliadau blwyddyn
newydd!

Pob hwyl,

Carwyn Bwlchclaw'.

Sian Roberts - December
Saaaaaith diwrnod i fynd a mi fydd hi'n 'Ddolig!!! Dw i fel
hogan fach yr adeg yma o'r flwyddyn...methu aros i roi'r
addurniadau fyny, gwneud mins peis, siopa 'dolig (gan brynu un neu
ddau o betha i fi fy hun wrth gwrsi!)...lapio'r
anrhegion...'sgwennu'r cardia'! Bois bach, mae'n hi'n adeg eithaf
prysur yn dydi! Mi fyddai wrth fy modd hefyd yn mynychu
digwyddiadau'r tymor, yn gyngherddau a charolau. I ddweud y gwir,
mae noson Carolau Ffermwyr Ifanc Môn, nos Iau yma  am 7:30 y.h
yng Nghapel Gosen, Llangwyllog.

Dani wedi cael mymryn o rew hyd yn hyn  ond diolch byth dim
gormod. Er bod eira yn achosi helynt i nifer ohonom ni, mi fysa
'Nadolig Gwyn' yn neis! Er, fysa fo ddim yn effeithio gormod atrna
I, yn tŷ fyddai yn stwffio siocled fydda i drwy'r dydd siwr o
fod!

Ar ddiwedd mis Tachwedd roedd Sioe Nadolig ein mart lleol ni sef
Mart Gaerwen. Un cystadleuaeth oedd i ddyfalu pwysau bustach! Mi
gesi gyntaf o dan 21oed gyda fy nghyd-aelod Gareth Roberts yn dod
I'r big o dan 26oed, felly roedd hi'n ddathliad a hanner i'r clwb.
Rydym yn edrach mlaen yn arw at y cystadleuaethau a ddaw yn
2013!!

Dim ond dau shift i fynd yny Brifysgol a mi fyddai ar fy
ngwyliau Nadolig. Rwy'n edrach 'mlaen i gael gwario'r Nadolig gyda
fy nheulu er mai gwenud aseiniad ac ymchwil fyddai! Ta waeth.

Nadolig Llawen Iawn i chi gyd a gobeithio bydd Sion Corn yn
hael!

Diolch i chi am ddarllen…am y tro,

Siân Pierce Roberts

Dylan Beefy - Rhagfyr
Wel Nadolig Llawen i chi gyd! Gobeithio eich bod i gyd yn barod
am lond bol o dwrci a gwario amser gyda teulu a ffrindiau. Rwy'n
gwybod fy mod i bendant am fwynhau, a braf yw gallu cyhoeddi ein
bod ni wedi symud mewn i'r tŷ. Ar ôl 9 mis o fyw mewn carafan, mae
symud mewn i dŷ gyda gwres canolog a moethusion bach eraill yn
rhywbeth newn ni byth gymryd yn ganiataol byth eto!! A ry'ni'n wedi
llwyddo i wneud y cwbl (wel bron, mae dal cwpwl o bethau angen eu
gorffen!!) cyn i'r babi gyrraedd. Felly ceisio mwynhau'r wythnosau
nesaf a dal fyny gyda chwsg yw'r tasg mawr am yr wythnosau nesaf a
gwneud yn siwr ein bod ni yn barod i'r baban newydd.

Mae'r tywydd wedi bod yn ddiflas iawn dros yw wythnosau
diwethaf, ac ar wahan i ambell ddiwrnod oer iawn, dros yr wythnos
ddiwethaf mae'n teimlo fel ei bod hi wedi bwrw glaw bron bob dydd.
Nid yw hyn yn dywydd delfrydol i weithio yno, ond mae rhaid cadw
fyny gyda gwaith y fferm. Fe gethom ychydig o newyddion drwg yn
ddiweddar tra'n sganio'r defaid er mwyn gweld faint o ŵyn i
ddisgwyl blwyddyn nesa. Llynedd fe wnaethom lwyddo i cael canlyniad
sganio o 190% (1.9 oen I bob dafad), ond eleni rydym lawr i 97%.
Rydym yn trafod gyda'r milfeddyg i geisio gweithio allan pam mae'r
canran wedi cwympo cymaint, ond dim ateb mor belled. Llyngyr yr Iau
a feirws Schmallenberg yw'r ddau haint sy'n fwya tebygol i
effeithio'r stoc ar y funed, ond aroswn i dderbyn canlyniadau'r
profion  er mwyn cael gwybod mwy.

Wel dw i ddim am gadw chi'n hir tro yma felly unwaith eto dw i'n
dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ac efallai
erbyn i chi glywed genai tro nesa fydd yna gyhoeddiad arbennig I'w
wneud.

Hwyl yr Ŵyl

Beefy

Sian Robetrs - Tachwedd
Wel bois bach dwi'n gobeithio bod y tywydd 'ma ddim wedi amharu
gormod arno chi. Mai'n bechod gweld gymaint o dai a phentrefi yn
cael eu heffeithio ac amryw o lonydd wedi cau. Yn sicr mae'r
glaw yma yn gwenud sefyllfa'r tir hyd yn oed yn waeth i ffermwyr!
Beth fydd yr rhagolygon dros y gaeaf tybed? Mwy o law, yntau
rhew neu eira?

Fel y gwyddoch o ddarllen fy mlog diwetha', roedd aelodau
clybiau'r Ffermwyr Ifanc ar drothwy'r Eisteddfodau sirol. Cawsom
gryn lwyddiant yn ein Eisteddfod ni gydag amryw o'r eitemau clwb yn
dod i'r brig. Cefais ddau gyntaf, dau ail a dau drydydd!
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran yn Eisteddfod Cymru a
oedd yn hynod o lwyddiannus. Llongyfarchiadau hefyd i Beefy am ei
flwyddyn fel Cadeirydd C.FF.I Cymru gan gynnwys yr holl filltiroedd
o feicio er mwyn codi arian tuag
at elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Pob lwc i Gwenno Griffith
sydd wedi cael ei hethol fel Cadeirydd eleni. Cynhaliwyd parti
'Hollywood' i ddathlu'r holl waith mae ein llywydd
sirol ni wedi ei wneud dros y flwyddyn diwethaf - dyma
chi hwyl....o'r carped coch i Superman a Batman, roedd pawb weid
gwneud ymdrech i wisgo fyny a diolch yn fawr iawn i Sion Tai hen am
ei holl waith i'r mudiad dros y flwyddyn diwethaf. Pob lwc i Jac
Jones, Sarn, Llanfechell sydd wedi ei ethol fel ein
llywydd blwyddyn nesaf.

Roedd ein Ffair Aeaf ni yn cael ei chynnal ar y 10fed o Dachwedd
ar Safle Sioe Môn yng Ngwalchmai. Cawsom Sioe lwyddiannus iawn
gyda'r stoc gwerth eu gweld yn cystadlu. Roedd amryw o'r ffermwyr
yn ein Ffair Aeaf ni yn anelu at gystadlu yn y Ffair
Aeaf yn Llanelwedd syddl wedi ei chynnal ddoe ac eto
heddiw wrth gwrs. Eleni, penderfyniad C.FF.I oedd
i gynnal cystadleuthau barnu ŵyn tew a beef tu allan i'r ffair
ar ffermydd o amgylch Sir Fôn, gan fod llawer o'n haelodau yn
brysur yn cystadlu ar fore Sadwrn ein Ffair Aeaf. Felly cynhaliwyd
y beef yn gynharach, diwedd mis Medi a chynhaliwyd y barnu ŵyn tew
ar gychwyn mis Tachwedd. Cefais y fraint o ddod yn gyntaf yn y
barnu ŵyn tew o dan 21 oed a chyntaf yn barnu'r carcass o dan 21
oed ond yn anffodus, dwi 'di methu mynd i Lanelwedd i gystadlu gan
fy mod ar leoliad gwaith. Felly pob lwc i bawb o Fôn a fu'n
cystadlu yn Llanelwedd ddoe ac eto heddiw.

Mae petha'n mynd yn dda iawn yn y Brifysgol ar hyn o bryd, dim
ond 10 mis i fynd tan fyddai yn Fydwraig!!! Dwi dal i
fwynhau...dwi'n mwynhau mynd ar leoliad bob dydd. Gobeithio dy
fod di Beefy a Louise wedi mwynhau'r baby show a rwy'n dymuno pob
lwc i'r ddau ohona chi.

Am y tro, cymerwch digon o ofal ar y lonydd 'na, pob hwyl,

Siân Pierce Roberts

Dylan Jones- Hydref
Wel mae fy nghyfnod fel Cadeirydd CFfI Cymru wedi dod i ben, a
dw i wedi mwynhau'r profiad ond mae rhaid gweud braf yw cael
trosglwyddo'r awennau i Gwenno Griffiths o Eryri, a hoffwn ddymuno
pob lwc iddi hi am y flwyddyn nesaf. Daeth y cwbl i ben yn y
cyfarfod blynyddol yn Nghaerdydd ar y 6ed o Hydref, roedd hi'n
dipyn o benwythnos!!! Dyma lle daeth y daith fecico i ben hefyd, a
wedi i ni deithio 568 o filltiroedd o gwmpas Cymru fach, roedd hi'n
dipyn o brofiad cael cyrraedd Stadiwm y Mileniwm i gwblhau'r daith.
Roedd cyrraedd y linell derfyn yn gymysgedd o ryddhad, poen a
phleser! Ond roedd y pleser mwyaf i ddod... yn y cyfarfod blynyddol
cefais yr anrhydedd o gyflwyno siec anferthol i Ambiwlans Awyr
Cymru. Roedd maint y siec yn adlewyrchu gwaith caled holl
aelodau'r Mudiad dros y flwyddyn yn codi arian at elusen
haeddiannol iawn. Ar y diwrnod roedd y siec yn £37,759 ond rwy'n
sicr y bydd y swm terfynol yn croesi £40,000 gan bod
yr arian yn dal i lifo mewn. Roedd y teimlad o fod yn
gadeirydd ar y Mudiad a  dynodd at'i gilydd i godi'r swm
anferthol yma yn un "overwhelming" iawn, a rhaid cyfaddau i mi fod
yn eitha emosiynol. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth, a
phob lwc i Gwenno wrth iddi afael yn y sialens y flwyddyn
nesaf wrth godi arian at y British Heart
Foundation Cymru. Dros y penwythnos cafom hefyd y cyfle i
ymlacio a mwynhau gyda ffrindiau gan wisgo gwisg ffansi "Where's
Wally?", cael parti popcorn a phrynhawn o fwynhau yng
nghwmni ein llywydd Nigel Owens, rwy'n siwr bod pawb wedi mwynhau
mas draw.

Nawr bod fy nyletswyddau CFfI wedi gorffen mae digon o waith
arall yn galw, ac un o'r pethau mwyaf yw canolbwntio ar orffen y
tŷ, yn enwedig gyda bod yr un bach ar y ffordd ym mis Ionawr!
Rhaid gweud dyw byw mewn carafan gyda menyw feichiog a hithau
yn feichiog ers 6 mis ddim yn rywbeth y byddwn yn ei argymell,
ond os na eith dim o'i le dylwn ni fod yn y tŷ cyn diwedd mis
Tachwedd (gobeithio!!!)

Ar y fferm mae wedi bod yn gymharol dawel. Mae'r hyrddod allan
gyda'r defaid yn gweithio'n galed, a does dim llawer i'w wneud
allan ar y tir, a diolch byth am hynny. Mae'r caeau gyda'r
gwlypaf rwyf i erioed wedi eu gweld, ac rwyf yn
barod yn falch nad oes gennym ni wartheg eleni yn poetsio'r
ddaear. Er yr holl dywydd gwael, mae cymydog i ni wedi
mentro i wneud ychydig rhagor o silwair wythnos diwetha'. 'Wn
i ddim os yw hyn'n beth call neu beidio ond amser a
ddengys beth fydd ansawdd y silwair yma. Mae'r glaw rydym
wedi cael yn ddiweddar wedi bod yn anhygoel, ac rwyf yn cyfri ein
hunain yn lwcus iawn bod dim gormod o stoc gyda ni eleni, a fod 99%
o waith tu allan y tŷ wedi ei orffen. Teimlaf trueni
mawr dros y ffermwyr sydd wedi gorfod dod a'u stoc
mewn yn gynnar, neu brynu rhagor o silwair neu mewn rhai
achlysuron y ddau. Mae costau cynhyrchu wedi codi yn sylweddol dros
y blynyddoedd diwethaf, a dyw'r tywydd yma ddim yn helpu dim.
Gyda'r gaeaf yn dod does dim llawer o bwrpas mewn gofyn i'r tywydd
i wella, dim ond na wneith hi ddim gwaethygu. Er gweud hynny
dw i newydd weld adroddiadau ei fod hi'n bwrw eira yn yr Alban bore
ma!

Reit well i fi fynd, ry'ni'n mynd i Lundain prynhawn
ma, penwythnos bach i ffwrdd, mwy na thebyg y cyfle olaf cyn i'r
babi bach ddod. Er y babi yw un o rhesymau dros y daith hyn,
ry'ni'n mynd i Earls Court ar gyfer y "Baby Show", fydd e dipyn
yn wahanol i'r Sioe Frenhinol dw i'n siwr!!!
Well i fi beidio anghofio ein bod ni'n dathlu penblwydd
ein priodas hefyd...felly Penblwydd Priodas Hapus
Louisexxxx

Pob Hwyl

Beefy

Sian Roberts - Hydref_1
Helo! Sut ydachi?

Mae tymor yr hydref wedi cyrraedd eto a golau dydd yn
lleihau, does dim digon o oriau mewn diwrnod. Wrth gwrs -
dwi'n sôn am Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Mae ein Eisteddfod ni yn
cael ei chynnal eleni ddydd Sadwrn yma, y 27ain o Hydref yn
Ysgol Uwchradd David Hughes.

Wyth eitem sydd ar fy rhestr i eleni; pedair unawd, sgets, y
meim, parti adrodd ar ddeuawd doniol. Ar hyn o bryd dw i fel
robot yn dysgu fy ngeiriau bob eiliad sy'n sbâr, dw i'n siwr
fod pawb yn tŷ ni'n giwsgo ear plugs erbyn hyn! Ond er yr holl
ymarfer, mae hwyl i'w gael ym mhob 'steddfod ac wrth
gwrs rydym yn gobeithio cael llwyddiant - mi fydd newyddion y
'steddfod yn fy mlog nesaf.

Mae tymor yr hydref wedi ein cyrraedd mwya' sydyn
eleni gydag amryw o ffermwyr yn cwyno fod y tir yn wlyb
oherwydd haf siomedig. Mae'r anifeiliaid wedi dod i mewn i'r
ierdydd yn gynt na'r arfer gan gynyddu côst bwydo'r ffermwyr. Yr
wythnos diwetha', roedd ein milfeddyg lleol yn dweud bod eisiau
i ffermwyr defaid fod yn ofalus iawn eleni gan fod rhagolygon
ffliwc yn gryf iawn o ganlyniad i dymor gwlyb iawn. Mae
prisiau anifeiliaid yn dda iawn ar hyn o bryd gyda gwartheg stôr yn
gwerthu'n dda iawn yn ein mart leol heddiw. Er hyn, mae prisiau'r
ŵyn ychydig yn isel. Mae ein hufenfa leol wedi cynyddu prisiau
llefrith o 1.5 ceiniog y litr ers cychwyn mis Hydref, sydd yn help
mawr i ffermwyr llaeth gan fod y gôst o gynhyrchu yn dueddol o
godi.

Diolch yn fawr iawn i chi am ddarllen,

Hwyl am y tro,

Siân Pierce Roberts

Sian Roberts - Hydref
Wel beth yw'r pwynt i mi ddweud ei bod hi wedi bod yn wlyb
yma'n Sir Fôn dros yr 'haf' gan mai dyna gân Cymru gyfan! Fel
dywedodd Carwyn yn ei flog diwetha', mae leni wedi profi pa mor
bwysig yw tywydd sych i'r ffermwr- mae'r haf wedi bod yn sialens
fawr i ni gyd! Yn fy mlog diwetha' roeddwn yn sôn am Sioe
Amaethyddol Môn, dyma amser prysur o'r flwyddyn i ni fel teulu
gyda'r Adran Foch. Mae'n bleser genai ddweud fy mod wedi fy
ethol fel sylwebydd yr Adran a hynny ar ail ddiwrnod y sioe o
flwyddyn nesaf ymlaen.

Fel y gwyddoch mae Sir Fôn wrthi'n brysur iawn ar hyn o bryd yn
codi arian ar gyfer Sioe Frenhinol 2013 gan mai ni yw'r sir nawdd.
Mae'r paratoadau yn mynd fel wats. Yng nghanol mis Medi cawsom
benwythnos o gampio ym Mharc Carafanio Penrhyn, Llanfwrog. Dw
i'n siwr eich bod i gyd yn meddwl - be oedd ar ein
pennau ni yn gwersylla yng nghanol mis Medi gwlyb iawn?! Ond os
oedd hi'n bosib i ni gael un diwrnod heb ddiferyn o law...mi ddaeth
y dydd hwnnw ar y dydd Sadwrn! Roedd hi'n benwythnos bendigedig
gyda digon o adloniant yn ystod y dydd i'r plant a digon o ganu a
hwyl i'r rhai hŷn gyda'r nos. Roedd teulu Penrhyn yn du hwnt o
groesawgar ac hoffwn ddiolch yn arw iddynt am y pygau a
phenwythnos mor fendigedig!

Mae ganddom sioe ffashiwn yn Nhreysgawen ar y 10fed o'r mis yma,
byddwn yn modelu dillad o siop 'Elsa' ym Mhorthaethwy. Yn ffodus
mae'r ticedi i gyd wedi mynd, newyddion anffodus i rai! Diolch i
bawb am eich cefnogaeth! Mi fydd genai ddiweddariad o'r
digwyddiadau codi arian i chi yn fy mlog nesaf.

Mae tymor y Ffermwyr Ifanc newydd ail-gychwyn, gan groesawu
aelodau newydd i bob clwb yn y Sir. Llongyfarchiadau mawr i Beefy
am ei holl waith caled yn teithio ar ei feic o amgylch
Cymru ar gyfer achos mor dda! Y digwyddiad
nesaf sydd ar y gweill yw'r Eisteddfod wrth gwrs! Mae ein
Eisteddfod Sirol ni'n cael ei chynnal yn Ysgol David Hughes ar y
27ain o Hydref gan gychwyn am 5y.h. Dewch yn llu i gefnogi!! Cewch
hanes yr Eisteddfod yn fy mlog nesaf!

Felly tan y tro nesaf,

Hwyl,

Siân Pierce Roberts

Carwyn James Medi
Wrth i ddail yr Hydref dawel ddisgyn, mae gwaith y fferm yn bell
o dawelu ar ôl tymor cynhaeaf bishi. Mae 2012 wedi bod yn wir
agoriad llygad ar pa mor ddibynnol mae ffermwyr ar y tywydd ac
effaith y tywydd ar ein gwaith o ddydd i ddydd. Ar ôl yr haf
gwlypaf mewn dros ganrif, amcangyfrif fod yr ormodaeth o law wedi
costio dros £600 miliwn i ffermwyr Prydain; o ganlyniad i ddiffyg
cnwd, cnydau yn cael ei difetha gan lifogydd yn ogystal â gorfod
prynu dwysfwyd ychwanegol i mewn ar gyfer bwydo'r stoc. Ond ar
ddiwedd y dydd sdim pwynt achwyn - dyna yw gorfoledd amaeth!
Efallai dwi yn y job anghywir, bydde gyrfa fel rhagolygwr tywydd
wedi bod yn ddelfrydol yr haf 'ma gyda'r addewid o law dyddiol. Ond
ar ôl dweud ni 'fyd, mae hi siŵr a fod wedi bod yn jobyn digon
anodd i feddwl am ffordd wahanol o ddweud dylwn ddisgwyl tywydd
ansefydlog pellach o ddydd i ddydd wrth bobl Cymru!

Ar ôl i minnau a'm mrawd ddysgu i gneifio yn gynnar yn y
flwyddyn, penderfynodd y ddau ohonom haf eleni i gneifio'r oddeutu
250 o ddefaid sydd gennym adref. Wel bobl bach, na 'fistake'!!
Rhwng ffeindio'r tywydd iawn i gneifio yn ogystal â ffeindio amser
cyfleus ble odd y ddau ohonom ar gal, wedd e'n dipyn o job! Ond
llawenydd mawr o newyddion da, ar ôl digonedd o boen cefn fe
ddaethon ni i ben a'r cneifio erbyn diwedd mis Awst, odd y pleser o
gneifio'r ddafad wlanog ddiwethaf 'na yn amhrisiadwy! Mae'n waith
caled ond yn sicr yn grefft sy'n werth chweil i ddysgu fel dau o
ffermwyr defaid y dyfodol. Bydd y gwlân nawr yn cael ei werthu i'r
Bwrdd Gwlân Prydeinig, ble efallai geith ei brosesu yma ym Mhrydain
neu ei allforio dramor i farchnadoedd megis Tsiena.

Ges i dri diwrnod bishi o dorri silwair eleni, a
chafodd y cynhaeafu ei gwblhau cyn baglu bant i'r Sioe
Frenhinol! Dw i wrth fy modd ar y silwair, mae'n adeg cyffroes o'r
flwyddyn a does 'na ddim byd dwi'n joio mwy na gweld y cynhaeaf yn
dod mewn! Torrwyd rhyw 80 erw o silwair eleni; 50 i'w roi yn y
clamp a chafwyd ryw 40 erw ei felio a'i lapio. Y porthiant yma y
byddwn yn ei ddibynnu arno yn ystod misoedd oer y gaeaf i borthi'r
gwartheg, felly dwi'n gobeithio ei fydd e o safon uchel! Ac mae'n
edrych yn debygol fydd y gwartheg i gyd mewn cyn hir gyda'r amodau
tywydd presennol, mae'r perci i gyd yn wlyb stecs!! Ar hyn o bryd,
rydym yn bwydo belen o wair y dydd i'r gwartheg er mwyn cynnig
ychydig o help iddynt gan fod y porfa mor wlyb. Mae lefelau siwgr y
porfa wedi disgyn yn sylweddol o ganlyniad i'r diffyg heulwen
eleni, sy'n golygu fod y gwartheg yn amsugno llai o ddaioni ac
felly mae gofyn cynnig hwb maethlon iddynt yn eu deiet trwy'r ffurf
o naill ai gwair, silwair neu fwcedi maeth (minerals).

Cafodd yr ŵyn eu didoli o'r defaid ar ddechrau mis Awst,
ac erbyn hyn yn pori'n braf ar adlau. Adlau yw'r porfa cychwynnol
sy'n tyfu ar ôl torri'r silwair, mae'n borfa llawn daioni ac yn
adnodd gwerthfawr i bob ffermwr defaid sy'n dymuno magu ŵyn tew o
safon uchel. Cyn hir fe ddaw'n amser i bwyso'r ŵyn i weld sut maent
yn dod yn eu blaenau. Mae'r calendr amaethyddol yn hedfan
heibio!!

Ond tan y tro nesaf pan wnai sôn am dymor yr hwrdda, diolch am
ddarllen!

Carwyn Bwlchclaw'.

Dylan Jones (1)
Yn gyntaf, dw i am ymddiheuro; mae wedi bod yn sbelen rhy hir
ers i mi siarad gyda chi ddiwetha'! Mae'r Sioe Frenhinol i weld mor
bell yn ôl erbyn hyn, ond fe gaethom amser gwych yna, a fuoni'n
ffodus iawn o'r tywydd! Fe atynnodd weithgareddau'r CFfI dipyn
o sylw yn ystod yr wythnos a rhaid llongyfarch pawb a gymerodd ran.
Roedd y digwyddiadau yn y Pentref Ieuenctid yn hynod o lwyddiannus
hefyd, gyda phobl ifanc o hyd a lled Cymru (a phellach na hynny)
wedi dod i fwynhau'r adloniant nosweithiol. Yr unig beth trist oedd
taw hon oedd yr wythnos gyntaf i ni gael yn hollol sych ers amser
hir iawn, felly fe wnaeth sawl un fethu dod i Lanelwedd yn ystod yr
wythnos oherwydd eu bod nhw adref yn brysur wrth y silwair ayb. Er
hynny, mae'n llawer gwell gennyf gwyno am wythnos rhy sych na rhy
wlyb!!

Rwyf hefyd wedi dechrau ar fy nhaith feico gyda'r CFFI.
Beicio o amgylch Cymru i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru (elusen
y flwyddyn CFfI Cymru) yw'r sialens a mae hi wedi bod yn dipyn o
her cyn belled wrth i mi ceisio ymweld â'r siroedd i gyd, ond mae
wedi bod yn siwrne gymharol hwylus. Hyd yn hyn ry'ni wedi teithio
470 milltir gan wibio drwy Frynbuga, Aberhonddu,
Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanidloes, Y Drenewydd, Trallwng,
Bwlch yr Oernant, Rhuthun, Bae Cinmel, Bangor, Gwalchmai, Dinas
Dinlle, Bryncir, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth, Llambed,
Castell Newydd Emlyn, Eglwyswrw, Clarbeston Road, San Cler a
Chaerfyrddin. Ry'ni'n nesáu at y diwedd nawr gyda dim ond teithiau
cymharol fyr i faes awyr Abertawe, Pencoed a Chaerdydd ar ôl. Mi
fydd hi'n braf iawn cyrraedd Stadiwm y Mileniwm wrth gwblhau'r
daith. Mae'r tywydd wedi bod yn ddigon cymysglyd ar hyd y daith;
ambell i ddiwrnod sych a braf, sych ond gwyntog, a rhai
diwrnodau yn wlyb a gwyntog, mae'n rhaid dweud bod y diwrnodau
gwlyb a gwyntog wedi bod yn dipyn o sialens, ond mae'r
croeso yr ydym wedi dderbyn wrth gyrraedd pob sir wedi bod yn wych.
Rhaid dweud ein bod wedi cael llawer o hwyl! Os ydych am fy noddi
mi fyddwn yn ddiolchgar iawn, dilynwch y ddolen;
http://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-web/fundraiser/showFundraiserProfilePage.action?userUrl=WalesYFC

Wedi cyrraedd Caerdydd, mi fydd hi'n amser am Gyfarfod Blynyddol
y Mudiad, ac fy amser i fel cadeirydd y CFfI yng Nghymru yn dod i
ben! Cewch glywed hanes y penwythnos hynny (yn ogystal â chyfanswm
yr arian a godwyd) tro nesa'!

Gartref mae pethau di bod yn brysur hefyd! Mae'r tŷ'n dod yn ei
flaen yn gyflym iawn nawr gyda'r drysau a'r ffenestri newydd yn eu
lle ac mae'r peintio wedi dechrau! Gobeithio y byddwn yn barod i
symud mewn tua mis Tachwedd, digon o amser cyn i'r babi gyrraedd ym
mis Ionawr. Rydym wedi llwyddo i neud tipyn o silwair da eleni, ond
mae'r caeau yn gwlyb ofnadwy, rhywbeth sy'n peri tipyn o ofid i ni
gan bod y ffarm yn un eithaf gwlyb yn y gaeaf ta'beth, gobeithio
neith hi sychu ychydig wrth i ni barhau trwy'r Hydref.

Rydym hefyd wedi bod yn ymweld gydag ambell arwerthiant defaid
Texel a pharatoi'r diadell ar gyfer yr Hydref. Mae'n braf gweud ein
bod wedi derbyn yn fwy na be ry'ni wedi wario yn yr
arwerthiannau eleni, ond mae amser cyffrous a phryderus o'm blaenau
wrth i'r amser hwrdda agosáu. Am y tro cynta' eleni mi fyddwn yn
gwneud gwaith ET (Embryo transfer) er mwyn helpu i wella'r diadell,
amser a ddengys i weld pa mor llwyddiannus fydd hwnnw! Rydym yn
croesi ein bysedd dros y defaid a'r tywydd!

Reit well i fi fynd 'to, pethau i'w gwneud cyn neidio yn ôl ar y
beic y penwythnos yma, dw i'n addo nai ddim ei gadael hi mor hir
cyn siarad gyda chi eto!!

Pob Hwyl

Beefy

Dylan Jones
Wel mae wedi bod yn amser o newid mawr yn ein tŷ ni'n ddiweddar,
a mae 'na dipyn o newid o'n blaenau ni hefyd!! Mae'n rhoi pleser
enfawr i mi gael cyhoeddi fy mod i a Louise am ddechrau
teulu...babi bach ar y ffordd ym mis Ionawr! Ry'ni ein dau wedi'n
cyffroi'n llwyr ond hefyd ychydig yn nerfus, ry'ni'n ddiolchgar
iawn i'n teulu a ffrindiau am y gefnogaeth. Bydd rhaid clatsio mlan
â'r tŷ nawr, fyddai'n sicr yn y "doghouse" os geith y babi 'ma ei
eni a ninnau dal yn y garafan! Ond ma' pethau'n dechrau siapo nawr;
ffenestri a drysau ar fin cael eu rhoi mewn a ma'r bois wedi dachre
rhoi plaster ar y walydd, mae'n dechrau edrych fel tŷ go iawn!

Ond dim na'r unig newid sydd wedi digwydd yn y wythnosau
diwethaf. Ar ôl dwy flynedd o weithio yn y Ganolfan Datblygu Llaeth
rwyf wedi dweud ffarwel wrth Gelli Aur er mwyn cael dechrau ar
yrfa newydd. Rwy'n ymuno gyda'r NFU fel Ysgrifenydd Grwp yn y
swyddfa yn San Cler, ac yn edrych ymlaen yn fawr i ddatblygu'r
busnes yno a chreu gyrfa lewyrchus i fi fy hun ac i'r cwmni. Roedd
yn amser trist wrth adael Gelli Aur, ond dw i'n credu mai dyma'r
amser iawn ac rwy'n barod am newid. Hoffwn ddiolch i'm holl
gydweithwyr yng Ngelli Aur am eu cefnogaeth a chyfeillgarwch.

O ran y fferm mae wedi bod yn dawel iawn yn ddiweddar, ar rheswm
syml iawn am hynny yw ein bod hi'n rhy wlyb i wneud dim o werth!
Rydym wedi osgoi unrhyw lifogydd, ond mae'r caeau yn ofnadwy o
wlyb, 'na'r oll allwn ni wneud nawr yw gwylio'r borfa'n mynd yn hen
tra'n aros am gyfle i wneud gwair neu silwair. Mae'n 'itha
torgalonnus i ddweud y gwir, ond o leia' ma digon o bethau eraill
gyda ni i'n cadw ni'n fishi!

Mae'n rhaid i mi gydymdeimlo gyda'r holl ffermwyr llaeth sy'n
dioddef ar hyn o bryd, yn gweithio'n galed i gynhyrchu cynnyrch o
safon ond ar hyn o bryd yn derbyn swm sydd tipyn yn llai
na'r gost o gynhyrchu. Os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud i
helpu'r ffermwyr yma cyn hir, mi fydd llawer yn gorfod rhoi'r
gorau i'w bywoliaeth, dw i ddim yn siwr os all economi Cymru (na'r
Deyrnas Unedig) ddelio gyda'r golled honno. Mae'n amser caled a
gofidus iawn yn y byd amaethyddol ar y funud.

Wedi dweud hynny, mae un o uchafbwyntiau calendr Amaethyddol
Cymru ar y gorwel. Mae'r Sioe Frenhinol bron yma, ac mae
paratoadau'r Ffermwyr Ifanc yn bwrw 'mlaen ar garlam. Galwch mewn i
weld yr holl fwrlwm ar faes y Sioe, neu dewch lawr i'r Pentre
Ieuenctid am wacen gyda'r nos, ma' digon da'r CFfI i ddangos i
chi.

Hwyl am y tro,

Beefy

Sian Roberts
Helo! Wel mae'r tywydd wedi gwella o'i gymharu gyda thywydd
diwedd wythnos diwetha'. Ta waeth! Mae bob mymryn o ysbaid
sych yn help! Gan fy mod i ar wyliau o'r Brifysgol ar hyn o bryd,
rwy'n cael amser i helpu o gwmpas y fferm a gyda'r busnes coginio
teuluol. Mae hi'n brysur ofnadwy yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn
gan fod Sioe Amaethyddol Môn newydd fod wrth
gwrs. Roedd y dyddiau cyn y sioe  yn brysur
ofnadwy wrth olchi'r moch. Roedd yr Adran Foch
yn y Sioe yn ben-i-gamp eleni gyda phawb yn ennill rhywbeth ac
felly pawb yn hapus! Rydym ni'n cadw moch 'Landrace' a
'Saddlebacks' ac yn cystadlu gyda rhain yn y sioe. Ar y
diwrnod cynta', mi gafoni'r wobr gyntaf, ail a thrydydd gyda'r
hychod 'Landrace' ac ennill y grŵp 'Landrace' gorau y diwrnod
hwnnw. Yr ail ddiwrnod oedd cyfle'r bridiau traddodiadol ac ein
cyfle ni i ddangos y 'Saddlebacks'. Daethom yn gyntaf
gyda un o'r hychod ac fe enillodd honno'r gil-wobr yn yr
adran. Cawsom Bencampwr dosbarth Ynys Môn gyda hwch Saddleback
'Arthen rosette'. Prefix ein fferm ni yw 'Arthen' sy'n golygu fod y
moch wedi eu geni a'u magu ar ein fferm ni, ac er mwyn dilyn
traddodiad y genhedlaeth mae'r ail enw 'rosette' wedi datblygu.
Cawsom gyntaf yn y dosbarth masnachol ac fe ddaeth yr hwch hon yn
gil-wobr i 'Arthen 'rosette'. Ar y cyfan, fel gawsom sioe
lwyddiannus iawn.

Dw i wedi bod yn brysur gyda'r Ffermwyr Ifanc yn y Sioe
eleni. Dechreuodd y Sioe yn adeilad y Ffermwyr
Ifanc gyda'r gystadleuaeth Llysgennad neu Lysgynhades y sioe
ar gyfer y flwyddyn 2012/2013. Cefais i'r fraint o ennill y
gystadleuaeth hon yn 2010 a wir i chi - roedd yn gyfle gwych i
gyfarfod pobl newydd ac i weld sut mae sioeau eraill yn
cyd-weithio. Siom oedd gweld mai ond dau ymgeisydd oedd ar gyfer y
swydd eleni â'r cyfle mor arbennig! Ond wedi dweud hyn...fel mae'r
Sais yn dweud 'Quality not quantity' gyda'r ddau ohonynt yn rhoi
cyfweliad arbennig. Felly Llysgynhades Sioe Amaethyddol Môn eleni
yw Bethan Mair Williams o Langwyllog, Sir Fôn gyda Gareth Pritchard
Jones o Lanfechell, Sir Fôn yn ddirprwy - Lysgennad iddi. Mae'r
ddau ohonynt yn aelodau brwdfrydig o'r Ffermwyr Ifanc a dwi'n siwr
y caiff y ddau flwyddyn arbennig. Llongyfarchiadau i'r ddau
ohonynt. Roedd aelodau'r Ffermwyr Ifanc yn gwneud paneidiau o
dê ac yn cynnal gemau yn yr adeilad gydol y
ddau ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o waith y Ffermwyr
Ifanc.

Dim ond wythnos sydd genai ar ôl o fy ngwyliau, felly rwyf
wrthi'n brysur yn sortio manion ar gyfer fy nhrydedd flwyddyn.
Felly tra bod genai amser sbâr...rwy'n mynd allan i odro efo
dad!!

Hwyl i chi!! Tan y tro nesaf...

Siân Pierce Roberts

Sian Roberts
Helo bawb! Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw'n iawn!

Dw i ddim yn meddwl bod y tywydd o'n
hochr ni'r dyddiau yma! Ma'i yn anodd iawn i ddod o hyd i
amser i wneud y silwair heb sôn am wair! Dim ond gobeithio y daw'r
haul dros y bryn cyn bo' hir! Er hyn, pythefnos yn ôl cefais
wythnos fendigedig yn y Sioe Frenhinol! Does dim rhaid i chi fynd i
ffwrdd i gael tymheredd o bron i 30°C w'chi!! Roedd hi'n wythnos
arbennig yn llawn hŵyl, chwerthin a chystadlu! Oni yna o'r dydd
Sadwrn cyntaf tan y dydd Iau a mi fyswni wedi gallu aros yno
am gryn dipyn yn hirach er mai campio mewn pabell oni! Roedd y
Ffermwyr Ifanc yn brysur yn cystadlu gydol y sioe gyda chryn dipyn
o eitemau o Sir Fôn yn llwyddiannus. Llongyfarchiadau mawr i Bedwyr
Williams o glwb Llangefni am ddod yn gyntaf yn y barnu moch Cymreig
o dan ddeunaw oed ac hefyd am ddod i'r brig gyda'r araith orau drwy
gyfrwng y Gymraeg. Roedd Cain Owen o glwb Llangefni yn fuddugol yn
y barnu defaid a'r barnu Holstein o dan un ar bymtheg oed. Daeth
Sioned Williams o glwb Bodedern yn ail yn y barnu Holstein!
Llongyfarchiadau mawr i chi gyd!!

Y prif ddigwyddiad nesaf sydd ar gorwel yw Sioe Amaethyddol Môn
2012 ar safle Sioe Môn ym Mona, Gwalchmai a hynny ddydd Mawrth a
Mercher nesaf, 14eg ar 15fed o Awst. Mae dad wedi bod yn brif
stiward yn yr adran foch ers sawl blwyddyn bellach gyda mam wrth
law yn is-stiward yr adran. Bob blwyddyn, rydym ni fel teulu yn
dangos moch yn y sioe ac yn mwynhau croesawu ffermwyr eraill ar hyd
a lled Prydain i gymryd rhan! Felly os ydych chi awydd diwrnod
arbennig...dewch draw i'r sioe.

Rwyf  newydd orffen fy ail flwyddyn yn y coleg a rwan
yn mwynhau tair wythnos i ffwrdd cyn cychwyn yn ôl ddiwedd Awst fel
myfyriwr y drydedd flwyddyn! Mae blwyddyn wedi mynd mor
gyflym...mae'n anodd credu!

Wel dyna'r oll genai am heddiw!

Diolch i chi am ddarllen!

Hŵyl am y tro!

Siân Pierce Roberts

Dylan Jones
Hyd yn hyn mae mis Mehefin wedi bod yn un o'r rhai gwlypaf
erioed, a digon diflas yw ceisio osgoi'r cawodydd
di-ddiwedd. Mae nifer o ffermwyr yn yr ardal wedi bod yn aros
am y cyfnod sych yma ers amser hir er mwyn mynd ati i wneud eu
silwair, ond dy'ni ddim yn barod eto am ryw wythnos arall. Er
hyn fe ddaeth y tywydd sych mewn amser i gneifio
ond mae'r defaid wedi bod yn cysgodi wrth ochr y cloddiau ers
hynny! Yn ddiweddar rydym wedi cael ychydig o anlwc gyda dwy
ddafad yn dioddef o lid y fron neu mastitis. Gyda gobaith mi nawnhw
oroesi ond mae'n debygol iawn y byddanhw'n colli'r defnydd o hanner
eu cadeiriau. Canlyniad hyn yw ei bod hi'n anhebygol iawn y byddant
yn aros ar y fferm.

Erbyn nawr mae tymor Rali C.Ff.I sirol wedi dod i ben gan orffen
gyda Rali yng Nghlwyd a Gwent dros y penwythnos. Yn ôl  yr
adroddiadau ar hyd a lled siroedd Cymru mae'n debyg bod cyfnod y
Rali wedi bod yn llwyddiannus iawn ar y cyfan,. Mae pawb yn
awr yn troi eu golygon tuag at y Sioe Frenhinol.

Dw i'n edrych ymlaen i gael ychydig o amser i ffwrdd er mwyn
mynd ar daith!! Taith astudio am bedwar diwrnod yn yr Alban gyda'r
C.FF.I, mai'n debyg mai dyma'r unig gyfle am wyliau eleni! Ar y
daith mi fyddwni'n ymweld âg ambell i fferm wych ac hefyd yn ymweld
â Sioe Fenhinol yr Alban, rwyf wedi dyheu am ymweld ar sioe
yma ers peth amser nawr, felly rwy'n edrych ymlaen yn arw.

Mae'r tŷ wedi cymryd camau mawr ymlaen dros yr wythnos diwethaf,
gyda "plaster boards" yn dechrau cael eu gosod. Mae'n gwneud tipyn
o wahaniaeth i strwythur mewnol y tŷ.

Tan y tro nesa'...

Beefy

Sian Roberts
Helo!

Gobeithio bod pawb yn iawn ar ôl tywydd garw yr wythnos diwetha'!
Yn sicr fe gawsom ddigonedd o law. Biti garw ei bod hi wedi glawio
mor drwm â hithau yn...

1)      wyliau hanner tymor y plant

2)      yn wythnos Eisteddfod yr Urdd

Soniais yn fy mlog diwetha' fy mod yn cystadlu yn yr
Eisteddfod ddydd Sadwrn, ac yn wir i chi, y gair gora' i
ddisgrifio'r sefyllfa oedd 'stomp!'. Diolch i'r nefoedd bod
Wellingtons, côt law ac ymbarel yn bodoli! Mi gychwynom am 8 y bore
rhag ofn i ni gael problemau trafnidiaeth ac roeddem yn yr
Eisteddfod yn brydlon am 9 y bore i gael ymarfer ensembl cyn y
rhagbrawf. Wel mi aeth y dydd fel y gwynt, cyn i mi droi rownd
roedd hi'n dri! Buom yn ffodus i gael llwyfan gyda'r ensembl a
dod yn drydydd ar y llwyfan. Buom hefyd yn ddigon ffodus i gael
llwyfan gyda'r parti merched a'r ddau gôr SATB o dan 40 mewn nifer
a dros 40 mewn nifer. Mae'r Eisteddfod yn brofiad gwych i fagu
hyder, profiad ac i greu her i unigolion, grwpiau a chorau. Erbyn 4
y pnawn, ar ôl stryffaglu drwy'r mwd a'r glaw mi frafiodd hi ar y
maes ac ers hynny mae'r tywydd wedi bod yn eithaf boddhaol yma.

Buan ddaw y Sioe Frenhinol, a'r wythnos ddiwetha' fe gychwynodd
y cystadlaethau barnu stoc. Barnu Texels ym Mryngarth,
Llanerchymedd oni, ac fe gesi gyntaf o dan 21oed, felly rwyf yn
cael mynd i farnu yn y Sioe Frenhinol eleni. Fel arall, am unwaith
rydym yn eithaf distaw yn y Sir o ran cystadlu, brêc
bach ar ôl y Rali mae'n rhaid!

Wel mae Gwyn a Gethin, fy mrodyr wrth eu boddau wythnos yma gan
fod prisiau ŵyn tew wedi codi. Felly drwy'r penwythnos maent
wedi bod yn brysur iawn yn hel ŵyn tew parod. Buan iawn wrth
gwrs daw adeg y cynhaeaf, hynny yw os y cawn dywydd da i gynnal a
pharatoi'r cnydau. Roedd y ddau yn ryw sôn am dorri'r
cnwd cyntaf wythnos yma os fydd y tywydd yn ffafriol wrth gwrs. Mae
gan fy mrodyr fusnes contractor eu hunain sydd yn golygu eu bod yn
mynd i lapio bêls mawr i ffermwyr eraill. Felly 'dw i'n siwr y
byddan nhw'n ddigon prysur yn yr wythnosau i ddod.

Ar hyn o bryd rwyf yn ysgrifennu'r blog yma ar drên ar
y ffordd i Wrecsam. Fel rhan o fy nghwrs bydwreigiaeth,
mae'n rhaid i mi dreulio hanner fy narlithoedd yn Wrecsam dros y
dair blynedd. Felly bob diwrnod yr wythnos yma a'r wythnos nesaf
rwyf yn teithio ar y trên. Rwy'n mwynhau'r rhan yma o'r
cwrs gan ei fod yn siawns gwych i glymu'r wybodaeth rydym yn
ei ddysgu mewn darlithoedd gyda'r lleoliad gwaith.

Wel dyna'r cyfan oddi wrtha i am y tro.

Cymerwch ofal! Diolch i chi am ddarllen,

Siân Pierce Roberts

Sian Roberts
Wel 'dw i'n siwr bod pawb wedi bod yn gweddïo am dywydd boddhaol
ar gyfer yr wythnos hon, gan fod Eryri eleni yn croesawu Eisteddfod
yr Urdd i safle Glynllifon. Roedd hi'n braf gweld sawl un
yr oeddwn yn nabod yng nghyngerdd agoriadol yr Urdd nos Sul -
gwledd o dalent. Er mai o Sir Fôn ydw i, mae'r Eisteddfod yn agos
iawn at fy nghalon eleni. Cafodd mam ei magu lawr y lôn yn
Ninas Dinlle ac roedd hithau wedi cael llawer o wobrau
cyntaf yn yr Urdd pan yr oedd hi'n cystadlu. Mae hi wedi bod yn
eithaf sych yn ddiweddar, dim ond gobeithio y gwneith hi
barhau fel hyn. Un o brif newyddion yr wythnos yw
trafnidaeth yr Eisteddfod! Rwy'n gobeithio'n arw y
bydd pethau'n gwella tuag at ddiwedd yr wythnos gan
fy mod i angen bod mewn rhagbrawf erbyn 9:30yb yn brydlon
fore Sadwrn. Rwyf wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfod
ers yn saith mlwydd oed gyda'r ysgol gynradd (diolch i
hwb mam!). Un o fy hoff ddiddordebau yw canu! Ac eleni rwyf yn
cystadlu mewn 5 cystadleuaeth. Mi fydda i'n cystadlu yn
nghystadleuaeth Côr aelwydydd SATB o dan 40 mewn nifer, dros 40
mewn nifer a chôr merched gydag Aelwyd yr Ynys. Rwyf yn cystadlu
gyda phedair geneth arall yn yr ensembl lleisiol gydag Aelwyd
JMJ ac yn unigol a rwy'n cystadlu yn yr Unawd allan o unrhyw
sioe gerdd 19 - 25oed. Felly mae hi'n mynd i fod yn ddiwrnod eithaf
prysur i mi ddydd Sadwrn.

Yn ogystal rydym wedi dilyn holl ddathliadau'r Frenhines yr
wythnos hon gan ei bod wrth gwrs yn dathlu'r Jiwbili. Braf oedd
gweld ein cymdogion Wills a Kate yn Llundain wythnos yma... a
Waitrose, Porthaethwy wythnos diwetha'!! Dyma i chi ddau fyd
hollol wahanol! Mi nes i a mam wylio'r cyngerdd fawreddog nos
Lun ar y teli bocs a mwynhau'n arw. Mae gennym dalent arbennig
drwy'r wlad ac wrth gwrs roedd yr hen Tom Jones unwaith eto yn
serennu ac yn gwneud i ni fod yn browd o fod yn Gymry!!!

Wel, y tro diwetha' i mi flogio, roedd hi'n ddiwrnod
cyn y Rali....ac rwy'n falch iawn i ddweud bod y diffyg cwsg
wedi talu'i ffordd!! Er mai dim ond 9 aelod oedd genym yn y Rali
daethom yn gyntaf fel clwb bach. Dim ond 30 o farciau oedd
rhyngddom ni a'r clwb enillodd prif wobr y Rali!! Roedd hi'n
ddiwrnod arbennig gan orffen gyda pharti gwerth
chweil i ddathlu gyda'r nos. Ond na, tydani y ffermwyr ifanc
ddim yn rhoi'r gorau iddi yn fan'no... yr wythnos wedyn roeddem yn
rhedeg y bar mewn gig or enw 'Soch, Swig a Jig' i gasglu arian ar
gyfer Sioe Frenhinol 2013. Diolch i bawb am eich cefnogaeth rydym
yn gwir werthfawrogi eich cyfraniad!! Roedd y tywydd yn
fendigedig, roeddem yn lwcus iawn! Er ein bod ar ein traed
tan tua 1 neu 2 y bore, roeddem yn cystadlu yng
nghystadleuaeth y Ras Rafft ar y Fenai o Felinheli i Borthaethwy y
diwrnod canlynol. Wel dyma i chi hwyl! Un rafft sydd gennym fel
arfer, ond eleni penderfynwyd gwneud dwy rafft, un i'r merched a'r
llall i'r bechgyn. Yn ogystal pendefynodd rhai o gyn-aelodau'r
Ffermwyr Ifanc ymuno hefyd a gwneud rafft oedd yn cynnwys rhai o
arweinyddion y clybiau!! Wel pan saethwyd y gwn, mi redodd pawb i'r
dŵr yn syth! A dyma i chi gychwyn helbulys o drio cael pen-ôl pawb
ar y rafft. A finnau'n meddwl bod pawb ar y rafft a gweiddi "pawb i
bedlo" cyn sylweddoli bod tair dal heb gyrraedd!! Wel, am
olygfa! Un o'r genod yn gweiddi'n ddramatig, "mae'n iawn
genod...ewch hebddai!", ambell un ohonom wedi colli ein hesgidiau,
siaced achub un o'r genod wedi chwythu, ond er hyn
oll, fyddwch yn falch o glywed, o'r diwedd fe gychwynom ar ein
taith i Borthaethwy! Roedd yna dipyn o raffts o'n blaenau erbyn
hyn. Roedd un o'r genod wedi gwneud brechdanau ŵy a sosij i
ddod hefo hi rhag ofn y byddai rhywun angen 'power snack'! Felly
dyna lle oedd ein rafft ni ynghanol y Fenai yn byta brechdanau
ŵy! Fedrwchi goelio'r ffasiwn beth? Fe orffenom y ras yn safle
22ain. Daeth y bechgyn yn 12fed a daeth y cyn-aelodau
neu'r 'hen-stejars' yn 2il!!! Llongyfarchiadau! Mae'n rhaid
ychwanegu, er mai safle 22ain oeddem ni yn y ras, ni oedd
yr unig rafft oedd yn cynnwys dim ond merched ac felly fe
gawsom y wobr gyntaf yn y dosbarth merched!! Sôn am hwyl!

Wel dyna i chi fy hanes i ar hyn o bryd! Diolch i chi am
ddarllen!

Hwyl am y tro!

Siân Pierce Roberts

Carwyn James
Ble ddechreuai bois?

Croesawon rhyw 200 o ŵyn i'r fferm ar ddechrau'r Gwanwyn ar
ôl tymor ŵyna llwyddianus serch y tywydd ansefydlog a fu. Dw i'n
bles iawn i adrodd bod yr ŵyn i gyd eleni wedi eu geni heb
ormodaeth o ffwdan, sy'n syndod wrth ystyried eu maint. Mae'r
hyrddod Texel a brynais fis Medi diwethaf wedi bod yn lwyddiant
ysgubol yn ystod y tymor, gyda'r ŵyn yn gadarn ac yn gryf. Roedd
wir angen ŵyn caled y Gwanwyn yma gyda'r tywydd mor gyfnewidiol.
Wedd angen cadw llygad clos arnynt ar ddyddiau lle oedd y gwynt yn
chwibannu a'r glaw'n pistyllu. Y gwynt a'r glaw yw'r ddau beth sy'n
beryglus i ŵyn sydd newydd gael eu geni gan fod yn achosi i
dymheredd y corff i ddisgyn, ac o ganlyniad mae'r oen yn mynd mewn
i gyflwr o sioc a 'hyperthermia'. Mewn achos o'r fath, bydden ni'n
dod mewn a'r fam a'i oen a'i gosod o dan llusern isgoch (infrared
lamp) i'w twymo. Syndod yw gweld sut all ychydig o wres wella eu
cyflwr yn sydyn iawn. Ar adegau lle mae hwyliau'r oen yn fregus, mi
ddewn ni mewn a'r newydd ddyfodiad i'r gegin a'i roi yn ffwrn
gwaelod y 'Rayburn'. Os yw shwt beth a gwyrthie yn digwydd bois,
'Rayburn' yw'r boi sydd ishe ar bob ffarmwr defaid! Yr unig broblem
yw pan ddeith ymwelwyr i'r tŷ ac yn edrych yn syn at waelod y
'Rayburn' a gweld cynffon oen bach yn siglo. Gyda digonedd o wres a
colostrym yn y 24 awr cyntaf, cynigir y dechreuad gorau i fywyd
ifanc. Erbyn diwedd Ebrill, roedd y ddiadell i gyd wedi ŵyna ar
wahan i un ddafad fach. Roeddwn innau bythefnos dros amser a
jobyn 'caesarean' wedd hi yn y diwedd i Mam poor dab. Gobeithiwn y
gorau felly am y ddafad fach yma, hasta lan nawr!

Mae'r defaid a'u hŵyn ifanc wedi ymadael a pherci cyfagos y clós
erbyn hyn ac yn pori'n jicos lan yn y caeau top ar borfa gwyrdd y
Gwanwyn. Tro'r gwartheg yw hi nawr i loia, gyda rhyw ddeg ar hugain
yn disgwyl i ddod yn ystod y mis nesaf. Gyda hyn daw gwaith tagio,
dihornio ac ysbaddu - digon i gadw'n fishi yn ystod misoedd cynnar
yr haf.

Mae wedi bod yn gyfnod reit fishi gyda'r CFfI hefyd. Ychydig o
wythnosau yn ôl bues yn barnu stoc gyda'r nos lawr ar faes mart
Hendy Gwyn - y defaid bridio oedd i'w barnu. Hon oedd fy mlwyddyn
gyntaf i gystadlu ac yn lwcus i finne, defaid brid Texel oedd o dan
sylw. Yn gryn dipyn o sioc i finne, cipiais y brig yn y dosbarth o
dan 26! Wel bois bach, we ni'n 'chuffed to bits' a wedd Mam yn
falch dros ben hefyd! O leiaf fod ambell beth wedi sinco mywn
ar ôl y blynyddoedd o bregethu mas ar y clós oddi wrth mam.
Byddai bant i'r Sioe Frenhinol nawr ym mis Gorffennaf i gystadlu ar
ran Shir Benfro. Mae cystadleuaeth rygbi 7 bob ochr y sir y
penwythnos yma hefyd, c'mon bois!!

Mae arholiadau'r Brifysgol wedi dod i ben o'r diwedd am y
flwyddyn gyntaf sy'n fy ngalluogi i ganolbwyntio ar waith y fferm,
heb anghofio mwy o amser i flogio dros fisoedd yr haf! Ambell i
stori fach arall i chwi ddarllenwyr - efallai fe welsoch chi fi ar
raglen 'Heno' ychydig o wythnosau yn ôl yn modelu dillad ffasiwn
gwledig a oedd yn addas ar gyfer unrhyw fonheddwr cefn gwlad sy'n
poeni am ei ddelwedd ffasiwn. Ges i lot o sbort yng nghwmni Huw
Ffash a odd e'n brofiad hollol unigryw i finne fel ffermwr bach
cyffredin y wlad!

Gyda'r dyddiau'n parhau i ymestyn a nawr fod y nosweithiau
digwsg tymor yr ŵyna wedi dod i ben am flwyddyn arall, mae'n amser
i gymryd hoi ac edrych. Sdim byd mor odidog i finnau 'na chymryd
ychydig o funudau ar nosweth ffein o haf i wylio'r ŵyn bach i gyd
yn rhedeg lan yn y caeau top wrth i'r haul ddistaw fachlud. Un o
olygfeydd rhyfeddol ffermio.

Pob hwyl a diolch am ddarllen,

Carwyn Bwlchclaw'.

Dylan Jones
Wel mae'r tywydd di bod yn ddigon cecrus yn ddiweddar,
ambell ddiwrnod sych ond dal gormod o law a dim digon o wres,
yn sgil hyn dyw'r porfa dal ddim yn tyfu'n arbennig o dda gyda ni,
yn enwedig ar y ddaear trwm clai. Erbyn amser hyn llynedd roedd y
defaid wedi eu cneifo ers pythefnos, ond does dim sôn am gneifo
eleni mor belled. Ma'r gwartheg i gyd bron wedi eu gwerthu
nawr, fe aeth 4 bore 'ma a mae disgwyl i'r 5 ola' fynd i'r mart
wythnos nesa', fydd en amser trist ar ôl i'r fuwch ola' ein
gadel ni. Mae'r ŵyn yn dod yn eu blaen yn araf bach, ac ar ôl eu
pwyso yn ddiweddar fe ges i sioc ar yr ochr orau i weld pwysau
da y rhai gorau, ond does dim y sglein arferol arnyn nhw
'leni, rwy'n ei roi e lawr i'r holl law i ni wedi ca'l!

Oddi ar i mi 'sgwennu ddiwethaf rwyf wedi bod yn y CCB lawr
yn Torquay lle gaethwyd cael amser gwych. Mi roedd hi'n
llwyddiannus iawn i aelodau Cymru gan cynnwys Aled Jones
o CFfI Dyffryn Cothi yn ennill Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru a
Lloegr, yn ogystal â chlwb Llanfair-ym-Muallt yn cipio gwobr y
Pantomeim. Llongyfarchiadau i'r holl aelodau a fuodd yn
llwyddiannus yn Torquay. Mae'r Ralis hefyd wedi dechrau, a chyn
belled rwyd wedi ymweld â Ralis Sir Gâr a Morgannwg, gyda
nifer o rai eraill ar y gorwel. Mae'r sioeau amaethyddol ar fin
dechrau yn ein ardal ni hefyd, a braf fydd cael mynd i Sioe
Sanclêr y penwythnos yma er mwyn derbyn fy ngwahoddiad
cynta' i farnu defaid Texel.

I gloi mae'n ddrwg 'da fi weud bod ymarfer ar y beic wedi bod yn
anobeithiol dros yr wythnosau diwethaf, rhwng y tywydd ar
cyfarfodydd mae'r beic wedi bod yn y sied mwy na mas ar yr hewl,
fydd gofyn tynnu bys mas os dw i am lwyddo ar y daith yma heb ladd
fy hun!! Gobeithio erbyn i fi 'sgwennu nesa fyddai wedi
llwyddo i ymarfer tipyn mwy, yn ogystal â cneifio a bwrw
mlan â gwaith ar y tŷ!!

Hwyl am y tro

Beefy

Sian Roberts
Helo bawb! Gobeithio bod pawb yn cadw'n iawn!!

I fod yn onast fedrai'm coelio ei bod hi'n fis Mai! Allwch chi?
Ma 'dolig yn teimlo fatha ddoe!! Ond 'ta waeth...fflio mae amser
medda' nhw! Dim digon o oria mewn dydd...yn enwedig pam mae rali y
Ffermwyr Ifanc ddydd Sadwrn!! Am unwaith, eleni da ni fel clwb yn
teimlo ein bod ni ar y blaen...wedi cychwyn mewn da bryd...ond na!
Mai di mynd yn funud ola' eto! Mai'n beintio, dawnsio, canu,
crefft bob nos wythnos yma! Fy ffrind gora' i ar hyn o bryd ydi
paent a PVA glue! Ond wir i chi, dyma un o 'highlight' y
flwyddyn i mi yn bendant! Pawb yn dod at ei gilydd am ddiwrnod
llawn hwyl! Bril!! Dim ond gobeithio neith y tywydd ddal i ni!!
Neu mi fyddwni'n socian yn trio tynnu rhaff!! Felly os ydach
chi yn yr ardal...dewch i ymuno gyda ni ar safle Sioe Môn,
dydd sadwrn y 12fed o Fai, cychwyn am 9yb! Fedrai addo diwrnod pen
i gamp i chi!!

Fel rhan o fy nghwrs, rwyf yn cael y cyfle i dreulio
diwrnod yng nghwmni gweithwyr eraill o fewn y byd iechyd. Wythnos
yma rwyf wedi treulio diwrnod gyda'r ymwelydd iechyd. Fel myfyriwr
bydwreigaeth rwyf yn gweld pwysigrwydd perthynas bydwraig a'r
ymwelydd iechyd gan ein bod yn cysylltu a chyfarthrebu gyda hwy yn
aml pan rydym yn rhyddhau'r ferch ar ôl geni. Yna mae'r ymwelydd
iechyd yn parhau'r berthynas gyda'r fam a'i phlentyn nes
bydd y plentyn yn dechrau'r Ysgol Gynradd. Mae'n bwysig
iawn ein bod yn cydweithio mewn tîm i alluogi gofal effeithiol i'r
merched. Rwyf hefyd yn mynd i dreulio diwrnod gyda'r nyrs feddygfa
er mwyn gweld a dysgu am eu rôl hwy yn y byd iechyd.

Dyna ni am y tro, diolch i chi am ddarllen!!

Cofion,

Siân Pierce Roberts

Dylan Jones
Wel mae'r tywydd sych a gaethon ni yng nghynt yn y flwyddyn
i weld ym mhell yn ôl nawr, ac mae'n anodd iawn credu bod
rhannau o'r DU yn dal i ddioddef o sychder. Cafodd y
gwartheg eu troi allan yn gynnar eleni ond mae'n ddigon posib y
byddwn yn ystyried dod a nhw nôl mewn os wneith y tywydd yma
barhau a'r caeau yn troi'n wlypach. Mae'r defaid a'r ŵyn yn
cael tipyn o amser caled hefyd, dy'nhw ddim yn gwerthfawrogi'r
holl dywydd gwlyb yma. Fyddai pethau ddim mor wael petai'r porfa'n
tyfu, ond mae'n debyg nad yw'r pridd yn ddigon mwyn
i hybu'r tyfiant. Rydym hefyd wedi derbyn canlyniadau ein
profion pridd, ac roeddwn yn hapus i weld bod lefelau'r prif
faetholion (Nitrogen,Potasiwm a Ffosfforws) yn dda iawn ar y cyfan,
er hyn mae'r pridd yn eithaf asidig, a rydym wedi cael ein cynghori
i roi dwy dunnell yr erw o galch ar y ddaear er mwyn
cywiro'r pH.

Fel cadeirydd CFfI Cymru, mae o hyd yn amser prysur. Penwythnos
diwethaf mi fues i'n ddigon ffodus i gael
gwahoddiad i fynd allan i Ogledd Iwerddon am CCB CFfI Ulster.
Penwythnos yma rwy'n bwrw lawr i Torquay am CCB CFfI Cymru a Lloegr
(dw i heb ysgrifennu fy araith eto!!) Hefyd mae yna nifer o
ddiwrnodau gwaith maes wedi bod yn ddiweddar gan ddiweddu gyda
diwrnod gwaith maes CFfI Cymru yn Aberhonddu. Fydd y siroedd nawr
yn dechrau paratoi ar gyfer eu Rali Sirol ac yn edrych ymlaen tuag
at y Sioe Frenhinol. Siarad am y Sioe, rwyf newydd edrych ar y
dyddiadur a newydd sylwi fod rhywbeth 'mlaen pob
penwythnos tan hynny. Felly digon i fy nghadw'n
fishi!!

Rwyf wedi bod allan yn ymarfer ar y beic yn ddiweddar hefyd,
araf bach mae pethau'n dod, ond rwyf yn llwyddo i gael mwy a mwy o
amser ar gefn y beic, a gobeithio wrth i'r diwrnodau ymestyn mwy a
mwy (a sychu gobeithio) gai fwy o amser. A gan bod 500 milltir
'da fi i feicio, ma ishe cymaint o amser ymarfer
a fedra i ei gael!

Oh a bron i mi anghofio, raid i mi longyfarch fy
nghwraig, Louise. Yn yr wythnosau diwetha' mae hi wedi cael ei
dewis fel Llysgenhades CFfI Sir Gar am 2012/13, mae'n uchelgais
ganddi ers blynyddoedd bellach ac rwyf yn hapus iawn drosti. Edrych
mlaen i'w gweld hi yn ei ffrog newydd ar diwrnod Rali CFfI Sir
Gâr ar y 5ed o Fai.

Tan tro nesa',

Beefy

Sian Roberts
Helo!

Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw'n iawn.

Mae'n eithaf oer yma yn Sir Fôn ar hyn o bryd.
Mae'r ŵyna wedi gorffen erbyn hyn, ac felly mae'r ŵyn
bach i gyd allan yn mwynhau yn y caeau. Mae'r
gwartheg godro allan ers ryw dair wythnos bellach ac yn wir
mae gwair da yn gwneud byd o les. Pan yn godro gallwch
weld y gwahaniaeth o ran safon a'r cynnydd yng nghyfanswm
terfynol y llaeth.

Mae'r amser wedi dod ar gyfer un o uchafbwyntiau calendr y
Ffermwyr Ifanc sef y Rali flynyddol. Ac wrth gwrs, mi fydd
yr enillwyr i gyd yn mynd yn eu blaenau i'r Sioe Frenhinol ym
mis Gorffennaf. Thema'r flwyddyn hon yw 'Priodas', felly mi fydd y
rhan fwyaf o'r cystadlaethau yn gystylliedig â'r thema. Thema
diddorol iawn i ddweud y gwir (dw i wrth fy modd 'efo
priodasa'!!) .Mi fydd yna amryw o gystadlaethau'n cael eu
cynnal fydd yn siwtio pob aelod- o grefft, i ddawnsio, i
ganu, i dynnu rhaff!! Mae yna ddigon o ddewis! Rydym wedi
penderfynu pa aelodau fydd yn cymryd rhan mewn gwahanol
gystadlaethau ac rydym wedi cychwyn ar ambell gystadleuaeth yn
barod. Mae'r hogia' ar hyn o bryd wrthi'n adeiladu'r arwydd! Mae
hon yn gystadleuaeth ychwanegol er mwyn hyrwyddo'r Rali o
gwmpas y sir, felly mae pob clwb yn gyfrifol am wneud arwydd
a'i osod o fewn eu cylch nhw. Os ydych yn yr ardal ar y 12fed o
Fai, dewch i safle Sioe Môn yn Mona, Llangefni i gefnogi ac i ymuno
yn yr hwyl!

Roedd gan y Mudiad barti nos Wener i ddathlu, llongyfarch
ac i ddiolch i'n Llywydd sirol am ei holl waith dros y flwyddyn
diwetha'! Rydym wedi bod yn lwcus iawn i ddweud y gwir i
gael llywydd mor frwdfrydig a pharod ei help mewn unrhyw sefyllfa!!
Penderfynwyd i roi thema i'r noson, ac felly gwisgodd
aelodau'r Ffermwyr Ifanc fel staff 'Casualty' ar y
noson...roedd y parti'n llawn doctoriaid, nyrsus a chleifion!!

Diolch yn fawr i chi am ddarllen,

Hwyl am y tro,

Siân Pierce Roberts

Sian Roberts
Heloooooo!

Ewadd tydi 'di bod yn dywydd bendigedig!! Wel yn bendant mae hi
wedi bod yn braf iawn yma yn Sir Fôn. Wrth basio'r caeau bob dydd
rwyf yn gweld ambell i ffarmwr wedi cychwyn hau neu aredig sydd yn
dangos bod y tywydd yn plesio! Rwyf yn gwybod bod fy mrodyr wedi
bod yn hau ond mae hi wedi mynd ychydig yn rhy sych erbyn hyn i
fedru rowlio'r caeau. Dw i wrth fy modd gyda'r amser yma o'r
flwyddyn i ddweud y gwir. Does dim byd gwell 'na gweld llwyth
o ŵyn bach yn mwynhau eu hunain yn y caeau, y peiriannau
allan a chychwyn holl weithgareddau'r haf! Ma ŵyn fy mrawd yn
dal i fynd cofiwch....'tua cant ar ôl' medda' fo! Hefyd mae prisiau
stoc yn dda iawn yn ddiweddar felly...rydym newydd werthu mymryn
o'r gwartheg bîff a'r grwp olaf o ŵyn a anwyd yn hwyr
llynedd.

Ers cystadleuaeth y Pantomeim rydym wedi cael ambell i noswaith
ddiddorol iawn yn y clwb gan gychwyn gyda Mari Jones o gwmni
'Agriscop'. Bwriad Agriscop yw helpu criw o ffermwyr/plant
fferm i ddod at ei gilydd dros ychydig o sesiynnau. Roedd yna
ddiddordeb mawr gan rai o aelodau hŷn y clwb felly dwi'n siwr fod y
noson wedi bod yn diddorol iawn iddynt ac i weddill yr aelodau. Mi
fuon i i weld milfeddyg lleol i ddysgu ychydig am y gwaith ac
i ymweld ar filfeddygfa. Dyma noson gwerth chweil gyda phob aelod
wedi mwynhau eu hunain. Cawsom weld pob agwedd - o'r ddesg
blaen yn y filfeddygfa, i'r storfa, i'r ystafelloedd sgan i'r
ystafelloedd triniaeth. Rydym yn cael seibiant bach ar hyn o
bryd dros wyliau'r Pasg, yna mi fyddwn yn cychwyn yn ôl yng
nghanol mis Ebrill, ac wrth gwrs...beth fydd ar y meddyliau adeg
honno??....Rali!! Buan ddaw!!

Rwyf ar hyn o bryd ar gyfnod lleoliad yn y gymued ac yn mwynhau'
profiad yn arw. Rwyf yn cyfri'n hun yn fraintiedig iawn mae rhaid
deud! Dw i wrth fy modd gyda'r cwrs ac rwyf yn dysgu rhywbeth
newydd bob dydd!! Rwyf wrth fy modd!!

Wel dyna ni am rwan...

Mwynhewch yr haul!!

Sian Pierce

Dylan Jones
Mae 'na dros fis wedi bod ers i mi 'sgwennu fy mlog diwetha', ac
mae hi wedi bod yn amser digon prysur. Mae'r ŵyna'n mynd yn eithaf
hwylus, dim ond un bach sydd ar ôl nawr.

Mae hi wedi bod yn ddigon mwyn yn ystod y mis diwetha', ond er
yr holl sôn am y tywydd sych yn nwyrain Lloegr, digon gwlyb yw hi
dan draed gyda ni, ac araf iawn ma'r pridd yn cynhesu hefyd, felly
ry'ni'n aros am ragor o borfa i dyfu. Ond rydym wedi mentro i
droi'r defaid ac ŵyn allan, mae hi'n llawer iachach iddyn nhw mas
tu fas nag mewn yn y sied. Mae'r defaid tac wedi mynd gartre erbyn
hyn fyd, felly dylai bod mwy o borfa i'n defaid ni dros y
wythnosau nesa'. Ry'ni hefyd yn bwriadu mynd allan i brofi'r pridd
o gwmaps y ffarm dros yr wythnos nesaf er mwyn gweld beth yw pH y
ddaear, yn ogystal a gweld pa mor ffrwythlon ydyw a gweld faint a
pha fath o wrtaith sydd angen ei ddefnyddio. Gobeithio fydd hyn yn
weithgaredd gwerth chweil, achos dyma'r tro cynta' i ni fentro
gwneud hyn.

Rwyf wedi bod i sawl perfformiad o bantomeims y C.FF.I dros y
mis diwetha' a phleser oedd cael gweld pob un ohonynt. Mae diolch
mawr yn mynd i'r holl wahoddiadau ges i, ond trueni mawr nad oeddwn
yn medru mynd iddyn nhw i gyd! Er hyn, penwythnos diwethaf fe
wnaeth C.Ff.I Cymru groesawu aelodau o bob cwr o Gymru i Landudno
ar gyfer y Gwledd Adloniant, rownd derfynol y Cystadleuaeth y
Pantomeims yng Nghymru eleni, a llongyfarchaidau mawr i G.FF.I Bro
Ddyfi a Llanfair-ym-Muallt am ennill yr adrannau Cymraeg a Saesneg.
Mi roedd hi'n benwythnos a hanner. Rwy'n edrych ymlaen yn awr i
weld yr uchafbwyntiau ar S4C.

Wel mae amser yn symud yn ei flaen unwaith eto, ac os rwyf am
gael cyfle i wylio Cymru yn herio Ffrainc am y "Grand Slam", fydd
raid i fi siapo hi; "Things to do and people to see!!"

Pob lwc Cymru!

Dylan Beefy.

Sian Roberts
Wel dyma i ni gychwyn bendigedig i'r gwanwyn gyda'r haul yn
tywynnu arnom. Mai'n parhau'n ddigon oer cofiwch, ond o leiaf mae'r
glaw a'r eira yn cadw draw. Mae'r tywydd yn bwysig i ni yn ystod
yr adeg yma o'r flwyddyn gan fod ganddom domen o ŵyn bach
eisiau mynd allan er mwyn iddynt gryfhau yn yr awyr iach a mwynhau
eu hunain yn rhedeg o gwmpas y caeau. Erbyn hyn mae'r rhan gyntaf
o'r ŵyna wedi dod i ben ond does dim cadw ar y colostrwm ar hyn o
bryd gan fod yr ail ran, sef defaid Cymreig fy mrawd yn cychwyn
mewn pythefnos. Fel daw'r gwanwyn yn nês gwelwn fod llawer o
ffermwyr yn paratoi ar gyfer aredig y tir a'r hau, felly mae tywydd
da yn bwysig iawn.

Dw i ddim cweit yn cofio os ydw i wedi sôn am y cŵn bach o'r
blaen. Ond rhyw dri mis yn ôl cawsom dipyn o 'syrpreis' pan welsom
dri ci bach yng nghwt Jill yr ast! Sioc medda' chi? Does dim
rhyfadd bod ci y fferm drws nesa' yn licio dod acw!! Be bynnag, ma'
dad wedi cael modd i fyw gyda Lili, Mali a Jess, y tri aelod newydd
o'r teulu, ond yn anffodus rydym wedi gwerthu dau ohonynt wythnos
yma...felly roedd rhaid dweud ffarwel!!

Y tro diwetha' i mi siarad gyda chi, roeddwn wrthi'n brysur yn
paratoi ar gyfer y pantomeim ac yn wir i chi roedd pob panto ar y
llwyfan yn wych!!  Yn anffodus, nid ein clwb ni ddaeth i'r
brig ond roedd clwb Llangefni a ddaeth yn gyntaf yn ffantastig!
Dyma i chi griw andros o dda a dymunaf pob llwyddiant iddynt nos
Sadwrn yn nghystadleuaeth Cymru yn Llandudno.

Cynhaliwyd gweithgaredd eithaf gwahanol ar gyfer C.FF.I
Môn wythnos diweddaf sef y 'gynhadledd sirol'. Bwriad y gynhadledd
oedd i edrych ar ddelwedd y mudiad ym Môn h.y logo'r sir,
blwyddlyfr, marchnata ayb. Roedd hi'n noson lwyddiannus iawn i
ddweud y gwir gyda dipyn o syniadau diddorol yn cael eu rhannu a'u
trafod gan yr aelodau.

Ynys Môn yw sir nawdd Sioe Frenhinol Cymru 2013 ac rwyf i a mam
yn aelodau o bwyllgor codi arian y sir. Yn bendant, mae yna dipyn o
nosweithiau hwyliog wedi eu trefnu. Mi fyddai'n eich cadw
'up-to-date' gyda'r holl drefniadau rhag ofn bod unrhyw beth yn
cymryd eich ffansi!! Mi fyswn i'n falch iawn o'ch cefnogaeth.

Yn fy mlog nesaf, cewch fwy o hanes yr ŵyna a mwy o hanesion y
ffermwyr ifanc.

Felly hwyl am y tro,

Siân Pierce Roberts

Carwyn James
Nid wyf i erioed wedi bod yn un am dywydd oer - ond drwy
bob cawod o eira a phob hyrddiad o wynt, mae cyfrifoldebau'r
ffarmwr yn parhau.

Cadw fynd yw'r nod. Ymhlith y tasgau sydd wedi bod fy nghadw'n
fisi yn ystod yr wythnosau diwethaf mae edrych ymlaen tuag at
dymor yr ŵyna. Mae'r paratoadau wedi hen ddechrau erbyn hyn. Bues i
ati yn pigo hyrddod addas ar gyfer ein defaid bridio ym Marchnad
Ddefaid Crymych ar ddiwedd mis Medi. Yna cafodd yr hyrddod eu
cyflwyno i'r ddiadell hynny o ryw 130 ar y 5ed o
Dachwedd; pedwar hwrdd lwcus iawn. Mae dafad yn feichiog am ychydig
yn llai na 5 mis, felly os yw'r hwrdd yn cael ei gyflwyno ar Noson
Guto Ffowc (5ed o Dachwedd), dylid disgwyl ein ŵyn
cyntaf ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill (1af o Ebrill). Mae
ambell un ar y llaw arall yn penderfynu ŵyna'n gynharach er mwyn
manteisio ar brisiau uwch y farchnad yn ystod Gwyliau'r Pasg. Dylid
cofio serch hynny fod costau cynhyrchu uwch i'w hystyried, yn
ogystal a tywydd garw o bosib. Un o'r rhesymau pennaf ein bod ni
fel teulu yn penderfynu ŵyna yn ystod mis Ebrill yw bod tyfiant
porfa ar ei orau erbyn hynny. Golyga hyn y gallwn droi'r
defaid a'u ŵyn allan yn gynharach ac o ganlyniad, disgwylir costau
is. Y cyn lleied o sieciau dylid Mam i'w arwyddo'r gorau! Croesawir
amodau tywydd ffafriol y gwanwyn er lles yr ŵyn bach, ac wrth gwrs
mae'n wyliau Pasg i finne' ac Aled i ffwrdd o'r ysgol a'r brifysgol
er mwyn fod gartre' ar y fferm i fugeilio'r defaid. Ar ddiwedd
Ionawr, buom yn sganio'r ddiadell (fel gynt y gwartheg) am
feichiogrwydd er mwyn rhagweld beth allwn ddisgwyl pan ddechreuwn
ŵyna. Rhyddhad oedd darganfod fod y rhan helaeth o'r ddiadell yn
disgwyl gyda dros 80 ohonynt yn disgwyl gefeilliaid. Gwaith graenus
bois! Mae'n ymddangos fod yr hyrddod a ddewisais wedi cymryd eu
gwaith o ddifri, dim whare'! Edrychwn ymlaen at groesawi'r newydd
ddyfodiad bach a ddaw dechrau Ebrill. Dwi ddim yn siŵr os ydw
i'n edrych ymlaen at y prinder cwsg cymaint cofiwch!

Ar y 23ain o Ionawr, fe ddaeth amser i ffarwelio a
gweddill ŵyn tew'r tymor diwethaf. Serch hynny, penderfynais gadw
un oen gwryw eleni fel hwrdd 'Suffolk' ifanc. Clywch fwy
amdano yn agosach i fis Medi dwi'n siŵr. Ond i weddill yr ŵyn tew
gwelwyd unwaith yn rhagor fasnach frwd yn Mart Aberteifi er
gwaethaf yr oerfel. Soniais mewn blog blaenorol cyn y Nadolig am
brisiau o ryw £99.50 y pen. Nodir fod hinsawdd economaidd Ewrop
wedi gadael dylanwad nodedig ar berthynas yr ewro (€) yn erbyn y
bunt (£), yn bennaf oherwydd ansicrwydd dyfodol gwlad Groeg. O
ganlyniad i ddibyniaeth diwydiant amaeth Cymru ar allforio, mae
prisiau'r farchnad wedi gostegu braidd. Er cawlach Ewropeaidd,
llwyddais i werthu'r ŵyn am £92 y pen yn ogystal â sicrhau pris
uchel i'r cilo (kg) - canlyniad addawol!

Buom hefyd yn weithgar iawn gyda'r gwartheg yn ddiweddar.
Buom yn diddyfnu'r lloi oddi wrth eu mamau rhyw fis yn ôl, hynny yw
eu gwahanu gan eu bod yn 8 mis oed. Yn ogystal, fues i ac Aled yn
ail dagio'r rheini a oedd wedi colli eu tag. Mae'n bwysig dros ben
er mwyn sicrhau ein bod ni ffermwyr yn gweddu gyda mesurau
disgwyliedig y Cynulliad. Ac yna finne' a mam yn palu trwy'r gwaith
papur - gwir ymdrech deuluol.

Ambell i ddigwyddiad nodedig arall - llongyfarchiadau mawr
i griw pantomeim CFfI Hermon ar faeddu Eglwyswrw er mwyn parhau i'r
rownd nesaf yn Llandudno. Pob hwyl i'r criw gyda'u hymdrechion!
Fues i hefyd yn rhan o'r gyfres newydd o Jacpot yn ddiweddar ar
S4C, profiad gwefreiddiol! Dim jacpot y tro 'ma, ond daw cyfle i
gystadlu yn yr ail gyfres eto - ffeili aros! Yn fy mlog nesaf
soniaf ychydig yn fwy am baratoadau'r tymor ŵyna yn ogystal â sôn
ychydig am ddiwrnod gwaith maes y Clwb Ffermwyr Ifanc. Cofiwch
gadw'n sych yn y glaw trwm 'ma!

Tan hynny - cymerwch ofal a diolch am ddarllen,

Carwyn Bwlchclaw'.

Sian Robets
Tydi amser yn fflio? Mae'n fis Chwefror yn barod! Y
siopau'n llawn rhosod a siocled gyda'r ŵyau Pasg yn dilyn tu ôl
iddynt. Yn wahanol i ambell ardal yng Nghymru, dwi'n ama fod Sir
Fôn wedi bod yn lwcus iawn o ran yr eira - dim eira i ni hyd yn
hyn! Ond yn bendant mae'r tywydd wedi bod yn arw iawn gyda'r
tymheredd yn disgyn, â chryn dipyn o rew ar y ddaear. Gyda
oriau gwaith ffermwyr yn cynyddu yr adeg yma o'r
flwyddyn achos yr ŵyna mae'r tywydd yn ddifrifol o
oer. Mae mam wastad yn dweud "mai'n dywydd long-johns!!"
Mae'r tywydd yn effeithio ar bawb, hyd yn oed Pencampwriaeth y Chwe
Gwlad gyda gêm Ffrainc yn erbyn Iwerddon yn cael ei ohirio dros y
penwythnos! Ond yn sicr nid oedd y tywydd yn effeithio dim ar
perfformiad ein Tîm Cenedlaethol y penwythnos yma -
gyda'r sgôr terfynol ar 27 i Gymru a 13 i'r Alban! Mae'r goron
driphlyg yn agosáu a gan groesi bysedd - bydd y bois yn dychwelyd
gyda'r Bencampwriaeth!

'Dwi'n gobeithio bod chi gyd wedi mwynhau rhaglen 'Ffermio'
wythnos diwetha'! Yn enwedig y darn gan C.Ff.I Ynys Môn!
Syniad gwerth chweil i ddweud y gwir. Mae'n rhoi cyfle i chi
gyd weld beth mae'r Mudiad yn ei wneud tu ôl i'r cystadlu! Sôn
am 'gystadlaethau' mae'r Panto yn cymryd siâp! Dim ond ychydig dros
wythnos i fynd... gwisgoedd - tic! Props - tic! Dysgu'r sgript -
hanner tic! Set - hanner tic! Rwy'n ama mai brwsh paent fydd yn fy
llaw i bob nos wythnos yma! Braf darllen blog diweddara'
Dylan am y daith feicio! Mi fyddwn i'n edrych 'mlaen i dy groesawu
'di yma i Fôn a nawni'n siwr fod 'na banad a bisgedan yn dy
ddisgwl di!

Roedd gennai wythnos i ffwrdd o'r Brifysgol wythnos
diwetha' ac felly roeddwn yn brysur yn helpu mam gyda'i busnes
coginio. Nid wythnos arferol o goginio oedd hi wythnos yma ond
wythnos ddiddorol iawn gan inni gael cyfarfod gyda chyn-brynwr
'Harrods' a 'Fortnum and Mason' gan fod diddordeb yng nghynyrch Mam
yn Llundain! Rwyf yn falch iawn ohoni! O fusnes bach, mae'n cynyddu
bob diwrnod! I Sôn am fy lleoliad gwaith gyda'r
Brifysgol, ar hyn o bryd rwy'n ffarwelio gyda'r ysbyty ac yn mynd
yn ôl i'r gymuned am gyfnod. Rwy'n falch o ddweud mod i wedi pasio
bob un o'r arholiadau mis Ionawr ac felly un cam yn
nes!

Diolch i chi am ddarllen!

Tan y tro nesaf... Cymerwch ofal!

Siân Pierce Roberts

Dylan Jones
Wel mae'r gaeaf mwyn wedi mynd ac mae'r gaeaf oer wedi dod i'n
croesawu!! Erbyn hyn rydym wedi cael nifer o nosweithie ble mae'r
tymheredd wedi cwympo ym mhell o dan y rhewbwynt ac yn anffodus mae
hyn wedi achosi i rai o'r pibau dŵr rewi yn y siedau (yn ogystal
a'r garafan!!). Ar wahân i'r pibau'n rhewi (sydd wedi dadleth yn
itha rhwydd ar y cyfan), dyw'r tywydd ddim wedi peri gormod o drwbl
i ni, gan fod y stoc i gyd mewn ar y silwair. Edrych 'mlan fyddwn
ni i weld pa mor hir fydd y tywydd oer yn para, oherwydd s'dim
gobaith i'r borfa dyfu pan mae hi mor oer a hyn!!

Mae'r defaid 'di bod mewn ers dros fis bellach, ac mae amser
ŵyna rownd y gornel, felly mae digon o ddiwrnode hir a nosweithie
byr o'n blaenau ni. Pan ddaw ein ŵyn cyntaf wnai drial
rhannu'r lluniau gyda chi yma. Mae'r tŷ wedi symud yn ei flaen yn
gyflym dros y mis diwetha', ond wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen
mae'r biliau yn pentyrru, a s'dim sôn am bethau'n gwella gan bod
mwy o gostau am waith sydd dal ar ôl i'w wneud!! O wel, ma'n
rhaid palu 'mlan!

Mae amser prysur o'n blaenau gyda'r Ffermwyr Ifanc hefyd, gyda
nifer o glybiau ar hyd a lled Cymru'n paratoi i gystadlu yn rownd
derfynol cystadleuaeth pantomeim eu sir. Mae gwahoddiadau wedi
cyrraedd i fynd i wylio'r Pantomeims mewn sawl sir, ond yn anffodus
ni fyddaf yn medru mynychu pob un, ond mi fydda i'n gwneud fy
ngorau i fynd i gymaint ag y medra i. Rwy'n edrych ymlaen i wylio
talent y CFfI ar y llwyfan unwaith eto.

Nes i weud tro diwetha' fy mod yn mynd allan i siopa am feic, ac
rwyf yn medru dweud yn awr fy mod wedi prynu un. Y rheswm? Wel er
mwyn codi arian tuag at Elusen y Flwyddyn - CFfI Cymru
sef Ambiwlans Awyr Cymru. Rwyf wedi penderfynu gwneud taith feicio
gan ymweld â phob swyddfa sirol y CFfI yng Nghymru yn
ogystal a y 3 maes awyr y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu
ohonynt. Fydd yn dipyn o her i mi (yn enwedig o ystyried pa
mor "unfit" i fi!!), ond rwy'n benderfynol o dod i ben a'r
daith 500 milltir er mwyn codi arian i'r achos da yma. Rwyf newydd
dachre tudalen newydd ar Facebook i hybu'r ymgais, felly os ydych
eisiau mwy o wybodaeth am "Daith Feicio Beefy" dilynwch y linc
yma http://on.fb.me/xdu6U3 . Mi
fydda i'n diweddaru'r dudalen yma gyda dyddiadau a'r wybodaeth
ddiweddara'. Os oes gennych unrhyw 'dips' i mi, neu os fedrwch fod
o unrhyw gymorth ar y ffordd, plis cysylltwch â mi.

Wel dyna ddigon am nawr, rwyf am fynd am sbin ar y beic
newydd!

Hwyl am y tro

Sian Roberts
Helo!! Sut 'da chi?

Wel mae mis Ionawr yn brysur hedfan heibio! Bydd yr ŵyau Pasg
allan cyn bo hir!

Mae'r tywydd wedi bod yn eithaf dros y bythefnos diwetha' sydd
yn ei gwneud hi'n llawer haws i'r ŵyn bach sydd newydd ddod
i'r byd! Fel dwedais yn fy mlog diwetha', roeddem yn
cychwyn ŵyna ar y 10fed. . . ond, fel dwi'n gwybod fel
Bydwraig - prin maent yn dod ar amser! Felly yn araf bach,
mae'r ŵyn yn cynyddu.

Mae'r Ffermwyr Ifanc wedi bod yn brysur iawn mis yma. Mae Sioe
Amaethyddol Môn yn dathlu 125 o sioeau y flwyddyn hon
a chynhaliwyd noson fawreddog i ddathlu'r digwyddiad ym
Mhafiliwn Môn ar faes Sioe Môn nos Sadwrn yr 21ain o Ionawr.
Yn wahanol i'r arfer - nid Eisteddfota neu barnu stoc oedd aelodau
y Ffermwyr Ifanc y mis yma, ond yn helpu i baratoi bwyd i'r
cant a hanner o aelodau a ffrindiau'r sioe! Dyma i chi wythnos
brysur iawn o baratoi y carped a'r byrddau yn gynharach yn yr
wythnos, yna y bwyd a'r bar tuag at ddiwedd yr wythnos. Daeth cryn
dipyn o aelodau'r sir at ei gilydd i helpu a mi fuodd yn noson
lwyddiannus. Daeth criw ffilmio y rhaglen "Ffermio" S4C atom
yr wythnos hon i ddilyn hanes C.Ff.I Ynys Môn. Maent yn dilyn un
sir bob mis ar eu rhaglen felly cawsant hwythau ymuno â'r dathlu.
Bydd y darn yn cael ei ddarlledu ar y rhaglen "Ffermio" tuag at
ddiwedd y mis. Yn ogystal, gyda ond tair wythnos i fynd tan y
gystadleuaeth Panto sirol, mae'r ymarferion yn prysuro gyda phawb
wrthi'n brysur yn dysgu eu sgript.

Pedair arholiad yn ddiweddarach, mae'r arholiadau wedi dod i ben
am rŵan yn y Brifysgol. Erbyn hyn, gallai ddweud mod i union hanner
ffordd drwy'r cwrs, ac yn dal i fwynhau! Dyna i chi ychydig o'm
hanes i dros y pythefnos ddiwetha'. Tan y tro nesa. . .

Hwyl fawr!

Siân Pierce.

Carwyn James
Blwyddyn Newydd Dda,

Tybed ai eleni a welwn ddiwedd y byd? Pwy a ŵyr? Tybed ai eleni
a welwn Gymro yn cipio medal aur yn y Gemau Olympaidd? Cawn
obeithio. A tybed ai eleni a welwn dywydd tebyg i Costa Brava yng
Nghrymych? Wel, gallai fod o hyd yn bosibilrwydd (wedd pob un o hyd
yn dweud fy mod i braidd yn optimistaidd). Beth bynnag ddigwyddir
yn 2012, mae'n addo i fod yn flwyddyn gyffrous - diwedd y byd neu
beidio.

Cyn sôn ychydig am ddigwyddiadau'r flwyddyn newydd, hoffwn rannu
ambell i gyhoeddiad pwysig o'r flwyddyn a fu. Llongyfarchiadau mawr
i'm mrawd annwyl Aled ar lwyddo yn ei brawf tractor ychydig o
ddyddiau cyn y 'dolig - campus dros ben! Mae'r pellter o wyth
milltir rhwng y ddwy fferm o hyd wedi bod yn anhawster, ond nawr
gyda'r ddau ohonom wrth y llyw yn gyrru - fydd hi ddim yn broblem.
A hefyd yn hanneru'r amser o garto 'bales' yn yr haf - jacpot!
Soniais yn fy mlog diwethaf am enedigaeth Nadoligaidd posib ar y
gorwel. Wel, bois bach gredwch chi fyth. Ar noswyl y Nadolig,
ganwyd llo Henffordd yng nghanol y dathliadau (wedd y llety unwaith
eto eleni yn orlawn - felly i'r sied gyfagos wedd hi fod). Croeso
mawr i'r byd rhif '432' gyda '532' ein hoff fuches yn fam
browd.

Dechreuodd y flwyddyn yn addawol iawn gyda phrawf TB clir gyda'r
gwartheg, am ryddhad! Mae 'Bovine Tuberculosis' (TB) o hyd yn ofid
i bob ffermwr, ac yn anffodus i ninnau yng Ngogledd Sir Benfro
mae'r clefyd mor fyw ag erioed. Ers y flwyddyn 2000, mae dros £100
miliwn o gyllid llywodraethol wedi cael ei wario yng Nghymru ar
iawndaliadau i ffermwyr sydd wedi colli stoc o ganlyniad i'r
clefyd. Amcangyfrif fod rhyw 100,000 o wartheg wedi cael eu difa yn
y ddegawd ddiwethaf. Mae buchesau cyfan wedi cael eu difa mewn
ambell i achos a bywoliaeth sawl ffermwr wedi cael ei chwalu. Dylid
cynllunio'n fanwl am strategaeth realistig a fydd yn gallu cael ei
weithredu er mwyn gwaredu'r clefyd a'r gofid cysylltiedig oddi ar
ysgwyddau ffermwyr Cymru. Mae gobeithion a hyder ffermwyr ifanc
yn y dyfodol yn y fantol.

Mae'r mis diwethaf wedi bod yn ofnadwy o brysur ymysg gwaith y
fferm adref yn ogystal â godro'n gyson i deulu'r Prichard ar ei
fferm Rhosmaen sydd yn Nhrefdraeth. Fferm laeth o ryw 300 erw yw
Rhosmaen ac erbyn yr adeg yma o'r flwyddyn mae rhyw 240 o wartheg
'Holstein' yn cael eu godro yno. Mae gweithio i rywun arall o hyd
yn brofiad gwerth chweil er mwyn datblygu sgiliau a magu syniadau
newydd a gallai fod o fudd ar gyfer ein fferm ninnau gartref. A
dyma awgrym i unrhyw un sydd am golli ychydig o bwysau ychwanegol y
Nadolig, heb fynd yn agos at unrhyw gampfa - ewch i odro fel hobi!
Mae'n llawer rhatach 'nag aelodaeth campfa leol a fydd dim prinder
llaeth ar gyfer eich 'corn flakes' y bore wedyn yn ogystal! Dylwn i
sôn hefyd fy mod i yng nghanol arholiadau mis Ionawr yn y brifysgol
- rhywbeth bach arall i gadw fy hunan yn fishi yn ystod y
nosweithiau oer yma ar ôl gwaith caled y dydd. Ac yn bendant, mae'n
oerach erbyn hyn! Mae'r tir wedi caledu o'r diwedd, felly ceisiaf
ledaenu'r slyri a'r tail yr wythnos yma cyn i'r glaw ddychwelyd yn
ôl y rhagolygon. Felly, croesi bysedd y bydd hi'n parhau i fod yn
sych am ychydig o ddyddiau eto yma yng Ngogledd Sir
Benfro.

Ysgrifennaf unwaith yn rhagor cyn ddiwedd y mis, felly tan
hynny cofiwch gadw'n gynnes yn yr oerfel 'ma!

Pob hwyl am y flwyddyn newydd,

Carwyn Bwlchclaw'.

Dylan Jones
Blwyddyn newydd a dechrau newydd. Ar ôl gwledda a mwynhau cyfnod
y Nadolig dechreuodd 2012 yn yr un modd â'r arfer gyda llond lle o
addunedau a dros eu hanner nhw wedi'u torri erbyn diwedd yr
wythnos gynta'!! Ry'ni wedi cael y noson rewllyd go
iawn cyntaf o'r gaeaf yn y garafan, gyda'r dŵr a'r nwy 'di
rhewi yn ystod y nos. Ond o ystyried yr amser hyn
llynedd, roeddem bron 'di cael mis cyson o dywydd rhewllyd, dw
i'n siwr fedrwn ni oddef un noson, jyst gobeithio na chewn ni
ddim llawer mwy cyn ddiwedd y gaeaf! Fuodd hi'n eithaf gwlyb dros
gyfnod y Nadolig a roedd y caeau yn llawn dŵr, felly fuodd
rhaid ildio a dod a'r defaid i mewn. Mae hyn yn golygu peth gwaith
ychwanegol, ond mae'n dipyn o gysur i wybod bod y defaid
nawr yn eu gwlau sych a chyfforddus.

Braf yw cael adrodd fod y tŷ yn symud yn ei flaen yn dda, gyda'r
adeiladwyr yn dod y rhan fwyaf o'r dyddiau, ond fydd hi'n
brafiach fyth pan fydda i'n gallu gweud wrthych ein bod ni
wedi symud mewn! Mae'r gwaith wedi bod yn eithaf prysur, mae gennyf
un o fy nigwyddiadau iechyd y fuches laeth ar y gweill, a ma llawer
o waith trefnu i neud yn siwr bod popeth yn ei le. Y tro
hyn mae siaradwr o'r Unol Daleithiau yn dod draw, felly rwyf yn
edrych ymlaen i glywed beth sydd ganddo i'w weud.

Yn ddiweddar rwyf wedi bod allan yn chwilio am feic newydd
a gobeithio erbyn fy mlog nesaf mi fyddai'n medru gweud fy mod
wedi prynu un! Gewch chi gwybod ychydig mwy am y rheswm pam tro
nesa'!!

Hwyl am y tro,

Dylan (Beefy)

Sian Roberts
Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r dathlu a'r gwledda dros
yr Ŵyl!! Rhaid deud...roedd y twrci 31 pwys yn fendigedig!!!
Ac yn wir i chi...diflannodd y cyfan o fewn diwrnodau! Ond dw i'n
siwr bod tŷ ni wedi gweld digon o dwrci tan blwyddyn nesa'!!!

Rhaid deud bod y tywydd wedi bod yn eithaf diflas dros yr
wythnosau diwetha 'ma gydag ambell i gawod fan hyn a fan draw...ond
argian mae hi wedi bod yn stormus dros ben yma dros y diwrnodau
diwetha! Doedd hi ddim yn ddolig gwyn i ni eleni sydd yn gwneud
petha' yn lawer haws o gymharu â'r llynedd!!

Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn dda iawn i ni ar y fferm, yn y
Ffermwyr Ifanc ac rwyf yn sicr wedi dysgu lot mwy fel Bydwraig o
gymharu a blwyddyn yn ôl! Rydym ar fin cychwyn ŵyna ar y 10fed
felly mae'r defaid i mewn o dan do gydag ambell un wedi dod yn
gynnar.

Bu rhaid i mi godi yn fore heddiw, roedd hi'n ddiwrnod recordio
llaeth acw! Y cloc larwm yn canu am chwech ac wrth gerdded lawr y
grisiau roeddwn yn clywed sŵn y gwynt yn taro'r ffenestri, felly
nôl i fyny'r grisiau i lapio fel nionyn... teimlo bo' fy
ngwyliau yn dod i ben!

Yn wir, mae hi'r amser yna o'r flwyddyn eto! O nadi ddim! O
ydi mae hi! Bydd pantomein Ffermwyr Ifanc Môn yn cael ei gynnal fis
nesaf felly mae'n amser cael y sgriptiau allan! Rydym fel clwb yn
ymuno gyda chlwb arall ar yr ynys gan mai dim ond ychydig o aelodau
sydd ganddom. Mae'r aelodau yn frwdfrydig ac yn edrach ymlaen yn
arw, felly rydym yn gobeithio cychwyn yr ymarferion cyn hir. Mae'r
flwyddyn yn edrych yn ddisglair iawn i'r mudiad gyda'r siarad
cyhoeddus ym mis Mawrth, Rali Ffermwyr Ifanc Môn ym mis Mai o dan y
thema 'Priodas', Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Sioe amaethyddol
Môn ac wrth gwrs yr Eisteddfod yn Abergwaun! Yn sicr mae'r flwyddyn
yn llawn gweithgareddau ar gyfer yr aelodau sydd siwr o fod at
ddant pawb! Hoffwn ddiolch o galon i swyddogion y Sir a'r aelodau
am eu holl waith called dros y flwyddyn diwetha', mae hi wedi bod
yn flwyddyn wych!!

Hoffwn ddymuno blwyddyn lewyrchus iawn i bawb. Hwyl am y
tro!

Siân Pierce

Dylan Jones
Nadolig Llawen!

Wel ma mis Rhagfyr wedi hedfan (fel arfer), a rhwng gwaith y
fferm, gwaith y tŷ a'r partion a gwasanaethau Nadolig, mae wedi bod
yn brysur fel arfer gyda digon o amrywiaeth. Yn anffodus yr unig
beth sy di bod yn gyson am y mis cyfan yw y tywydd, gyda'r glaw yn
cadw pethau'n itha diflas ar y cyfan!!

Fe gafon i 'spin' fach i Gaerlywelydd ar dechrau y mis ar gyfer
arwerthiant defaid Texel, ac mi roedd yn dipyn o brofiad i weld
rhai o'r bridwyr enwog yn cael arian mawr am eu stoc, ond roedd
rhaid hastu nôl er mwyn cael mynd i Gaerdydd i weld gêm ffarwel
Shane. Trueni mawr am y canlyniad, ond braf oedd gweld Shane yn
sgori cais i orffen y gêm a'i yrfa, ac er cau y to, fe
wnaeth hi aros yn sych y diwrnod hwnnw.

Roedd hi'n ddiwrnod itha pwysig ar y ffarm y penwythnos
wedyn, diwrnod sganio. Dyma'r diwrnod ble yr ydym yn ffeindio mas
faint o ŵyn ma'r defaid yn ddisgwyl, er mwyn i ni cael paratoi ar
gyfer y tymor ŵyna. A falch da fi weud bo ni di cal sganio gwych
eleni, digon o ŵyn i edrych ymlaen i gael o gwmpas diwrnod San
Ffolant, anrheg gwych i Louise!!!!

Er teimlo'n nadoligaidd rydym hefyd wedi bod yn plufio
twrcis, a mas yn canu carolau gyda'r Ffermwyr Ifanc er mwyn codi
arian i Ambiwlans Awyr Cymru, ac wrth gwrs mae na un neu ddau parti
Nadolig wedi bod! We

Wel dyna ddigon amdana i am eleni, cyfarchion yr Ŵyl i
chi gyd a gobeithio newch chi gyd dod nôl i ddarllen mwy o'n hanes
i yn y flwyddyn newydd.

Sian Roberts
Helo! Su' mai?

Wel mae'r Nadolig yn nesáu a'r siopa 'dolig (dwi'n falch iawn o
ddeud) wedi gorffen!!  A'r batch cynta' o'r mins peis wedi eu
pobi!! Yn bendant mae'r tywydd wedi troi tua Sir Fôn gyda gwyntoedd
cryf ac ambell i bwll dŵr ar y lonydd a digon o sdompio yn y caeau!
Yn wir i chi, mae hi wedi bod yn andros o wlyb yma. Ond oes yna sôn
am eira 'leni? Yn sicr mae hi'n oeraidd yma ym Môn Mam Cymru.

Wel ers i mi 'sgwennu ddiwetha' ma 'na ambell i beth wedi
bod ar y 'go'! O'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i Sioe Nadolig ein mart
lleol. Mae'r gwartheg godro i mewn erbyn hyn hefyd, felly seilej
bob dydd a ddaw!!

Fel i Carwyn ddweud yn ei flog diweddara', mae'r
cyfnod gwerthu wedi cyrraedd!! Yn ystod y dyddiau diwetha'
rwyf wedi bod yn helpu fy mrawd ryw ychydig i sortio'i ddefaid
gan bod prisiau da am wyn tew dyddia' yma!! Yn ogystal rydym wedi
bod yn paratoi y sied ŵyna. Digon o wellt dan draed a digon o
binnau yn barod, mi fydd y defaid yn dod i mewn yn reit fuan o
gwmpas y Nadolig! Mae Sioe 'dolig ein mart lleol, safle Morgan
Evans a'i gwmni yng Ngaerwen, Ynys Môn newydd fod ar yr ail o
Ragfyr! Mae'n rhaid i mi ddweud bod y safon yn arbennig eleni a
phrisiau da i'w cael! Braf oedd cael y gymdeithas ffermwyr yma ym
Môn at ei gilydd cyn y Nadolig.

Pan roeddwn yn 'sgrifennu y tro diwetha' roeddwn ar fin cael fy
ethol yn Gadeirydd Hyffroddiant Mudiad y Ffermwyr Ifanc yma ym Môn
ac erbyn hyn rwyf yn y Gadair ac yn mwynhau! Mi es lawr i Lanelwedd
bythefnos yn ôl ar ran y Mudiad ar gyfer y Ffair Aeaf i farnu
gwartheg Beef. Rwyf yn falch o ddweud mod i wedi dod yn bumed allan
o bedwar ar bymtheg mewn cystadleuaeth o dan 21 oed ac yn sicr rwyf
wedi mwynhau'r profiad. Rwyf yn falch iawn o ddweud bod tîm
barnu ŵyn tew wedi bod yn llwyddianus dros ben gan ddod yn
drydydd! Llongyfarchiada' mawr i chi bois!! Roeddwn yn sôn wrthych
yn gynharach am y Sioe Nadolig yn y mart lleol yma ym Môn. Yn
y sioe bob blwyddyn mae yna gystadleuaeth 'dyfalu'r pwysau' ar
gyfer aelodau'r Ffermwyr Ifanc. Wel toeddwn i 'rioed wedi
trio yn y gystadleuaeth hon o'r blaen, ond mae'r
Mudiad yn sicr yn cynnig cyfleuon gwych ac yn wir i chi,
cefais gyntaf o dan 21 oed neu lai gyda 19kg o wahaniaeth gyda
un bustach a 5kg o'r llall. 'Machi sioc!! Mae criw y clwb wedi bod
acw neithiwr yn gwneud mins peis efo Mam (da 'di mam) ac rhaid
dweud...roedd y ffedog yn siwitio'r hogia i'r dim!! Rydym ar hyn o
bryd yn paratoi ar gyfer y Panto, sgript ayyb! Dwi'n siwr y cawn
hŵyl!

Rwyf yn falch iawn o ddweud mod i dal yn mwynhau'r byd
Bydwreigiaeth yn yr ysbyty. Rwyf yn gorffen wythnos nesa' dros y
'dolig gyda wythnos a hanner o wyliau ond buan ddaw yr arholiadau
ar ôl y Nadolig!!  Felly fy mhen mewn llyfr fyddi!! Ond cyn
hynny fe ddaw y gwledda' a'r mwynhau dros gyfnod y Nadolig - gan
gychwyn gyda'r 'Gloddest' heno 'ma, sef dawns Nadolig Neuadd John
Morris Jones, Prifysgol Bangor! Excitment di-ri!!

Dymunaf Nadolig Llawen i chi a Blwyddyn Newydd Dda!!

Siân!!

Fyn’ hyn, fyn’ co’ a fyn’ draw - Hynt a helynt diweddaraf Carwyn Bwlchclaw'
Gyda gŵyl y Nadolig yn agosáu, mae'n adeg brysur i bawb ymhlith
paratoadau'r dathlu ac yr un sydd yn wir am finne' a'r teulu. Mae'r
gaeaf hyd yn hyn wedi bod yn fwyn ond yn ddychrynllyd o wlyb, ac
mae'r caeau yn ddirlawn o ddŵr y cawodydd trymion. Mae'r gwartheg
wedi bod o dan do ers dechrau mis Tachwedd ac yn falch iawn o fod
yng nghynhesrwydd y gwellt. Daw hyn a'r gwaith ychwanegol o fwydo
silwair yn ddyddiol yn ystod y misoedd nesaf, a gobeithio y gallwn
gynnal eu cyflwr tan y Gwanwyn ble gallant gael eu ail droi mas i
wyrddni'r caeau.

Beth fydd ar eich plât chi'r Nadolig yma? Twrci, neu ŵydd
efallai? Beth am gig eidion neu flas o gig oen? Daw'r tymor unwaith
eto eleni lle mae'r galw am gynnyrch mwyaf safonol ffermwyr Cymru
ar ei uchaf, sydd heb os nac oni bai yn newyddion addawol i'r
diwydiant. Yn bersonol, teimlaf gymysgedd o deimladau yn ystod y
cyfnod yma. Ar ôl adeg hir o waith caled a thor chwys yng nghyfnod
ŵyna'r Gwanwyn, daw'r cyfle o werthu'r cynnyrch gorffenedig, a daw
teimlad naturiol o falchder sydd yn gwneud yr ymdrech i gyd yn
werth chweil. Ond ar y llaw arall, mae'n anodd anwybyddu'r ffaith
fod bywydau'r creaduriaid hynny a fues i'n annog i gymryd eu camau
cyntaf, a'r rhai brwydrais yn ddiflino i gadw'n fyw ar fin dod i
ben. Hwn yw ochr caletaf y diwydiant yn fy marn i, ac rwy'n siŵr
fod y rhan helaeth o ffermwyr Cymru yn cytuno. Dylid cofio serch
hynny mae dyna yw natur ein gwaith - a dylwn sicrhau fod y
creaduriaid hynny sydd yn rhan o'r diwydiant yn cael eu trin a'u
trafod gyda thegwch a'r parch uchaf posib. Mae gofyn bod yn galed
yn y diwydiant 'ma, bois bach!

Reit de, na fi wedi dweud fy nweud a rhoi'r byd yn ei le. Fe
ddaeth bore Mart Nadolig Aberteifi rownd yn ddigon cloi a dewisais
ugain o wŷn a oedd yn gymysgedd o 'Suffolks' a 'Texels' i'w
gwerthu. Gwelwyd masnach o ryw 150 o wartheg a dros 2,000 o ddefaid
gyda'r prisiau yn plesio pawb. O ni'n falch dros ben gyda'r prisiau
terfynol am ein ŵyn ni, a oedd yn amrywio rhwng £94 yr un a'r pum
oen gorau yn cael eu gwerthu am £99.50 yr un! Jacpot! Ar y cyfan,
diwrnod llwyddiannus iawn, llawn masnach gystadleuol sy'n argoeli'n
addawol ar gyfer y dyfodol.

Ar ddydd Mawrth olaf Tachwedd, fues i'n y Ffair Aeaf yn
Llanelwedd i fwynhau'r arlwy o stondinau, gweithgareddau a
chystadlaethau. Braf oedd blasu ambell i gacen a darn o gaws yn y
neuadd fwyd i ffwrdd o'r gwynt a'r glaw, a hefyd gweld ambell i
beiriant newydd. Gewn ni weld eleni eto os fydd Siôn Corn gyda
digon o le ar ei sled i ddod a thractor yr un i finne' a fy mrawd
Aled! Rydym hefyd wedi bod yn brysur gartref yn sganio'r gwartheg
am feichiogrwydd. Anrhydedd yw cyhoeddi fod fy hoff fuwch rhif
'532' yn disgwyl gyda dim ond rhyw fis i fynd! Genedigaeth
Nadoligaidd ar y gorwel - tybed a fydd digon o le yn y llety? Yn
ogystal â hynny, buom yn disbaddu'r tarwod ifanc a anwyd eleni fel
ein bod yn gallu eu cymysgu gyda'r heffrod ifanc eraill. Mae un
enedigaeth Nadoligaidd yn hen ddigon!

Fel y soniais yn gynharach mae'r caeau yn wlyb stecs ar ôl y
glaw diweddar. Dylwn gofio fod y bwydydd yr ydym yn bwydo'r stoc
jyst mor bwysig a beth sy'n cael ei droi allan ar ochr arall y
creadur, ac yn ddigon ffodus mae'n isgynnyrch weddol gyfleus.
Defnyddir slyri a thail fel gwrtaith organig er mwyn annog tyfiant
y borfa. O ganlyniad i gyflwr diweddar y caeau, mae'r peiriant sy'n
cael ei ddefnyddio i'w gorchuddio ar y tir yn gallu difrodi
arwynebedd y ddaear. Trown at y dyn tywydd felly yn y gobaith o
dywydd oerach er mwyn rhewi'r tir sydd o dan draed. Felly, croesi
bysedd! Gyda'r brifysgol ar fin torri am wyliau'r Nadolig, edrychaf
ymlaen at ddala' lan ychydig gyda'r gwaith fferm a heb anghofio i
fwynhau'r ŵyl. Efallai ei bod hi'n amser erbyn hyn hefyd i ddechrau
meddwl am siopa'r Nadolig.. o mowredd mowr!

Pob hwyl a chymerwch ofal,

Carwyn Bwlchclaw'.

Dylan Jones
Wel mae hi wedi bod yn amser prysur iawn yn ddiweddar a digon
diflas mae'r tywydd 'di bod yn gyffredinol. Mae hi wedi bod yn
ddigon mwyn ond yn eithaf gwlyb ar y cyfan ac yn sicr i ni di gweld
y caeau yn trwmhau llawer dros y bythefnos diwethaf. Fydd rhaid
edrych ar ddod ar gwartheg i mewn yn awr. Er, fel arfer bydden nhw
wedi bod mewn ers tipyn yn barod amser hun, felly allwn ni byth
gwyno gormod. I ni wedi bod yn eithaf ffodus eleni i gael digonedd
o borfa tan yn eithaf hwyr yn y tymor, felly mae hun wedi helpu i
gadw costau i lawr ryw dipyn, ac nawr rydym yn achub mantais ar y
cyfle i ddod ar defaid "tack" mewn (defaid rhywun arall
yn dod mewn i bori y borfa sydd dros ben gyda ni, fel arfer defaid
o'r ucheldir fydd rhain, lle nid oes cymaint o borfa yn tyfu).

Mae'r tywydd gwlyb mwynaidd yma yn hala i mi boeni am rhywbeth
arall hefyd, llyngyr yr iau neu ffliwc fel yr ydym yn ei alw. Mae
ffliwc yn gallu bod yn niweidiol iawn i lawer o wahanol
anifeiliaid, ac mae'r amodau gwlyb a mwyn yma yn ddelfrydol i
ffliwci i ffynnu, felly fydda i yn trin y defaid yma yn
erbyn ffliwc ar y cyfle cyntaf gaf i, ac yn annog dad i wneud yr un
peth gyda'r gwartheg.

Mae pethau di bod yn brysur iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc hefyd.
Dechrau'r wythnos fuon ni yng nghanol bwrlwm y Ffair Aeaf yn
Llanelwedd lle fuodd llond lle o gystadlu a chynadledda. Pleser o'r
mwyaf oedd gennyf i gael cyhoeddi Ambiwlans Awyr Cymru fel "Elusen
y Flwyddyn" Mudiad Y Ffermwyr Ifanc yn y Ffair, ac rwy'n siwr
y gwneith holl aelodau'r Mudiad gefnogi'r elusen haeddiannol yma.
Fuodd hi'n sioe lwyddiannus iawn i'r Mudiad, ac mae rhaid dweud fel
un o fy hoff sioeau mae mynd i'r Ffair Aeaf wastad yn un o
uchafbwyntiau'r flwyddyn i mi, a wnaeth eleni
ddim fy siomi! Ond cyn y Ffair Aeaf fuodd yna drip i Rhyl
i Eisteddfod y CFFI. Tywydd bendigedig oedd yn ein disgwyl
yno, ac am ddiwrnod a hanner arall! Nawr, i adael chi mewn ar
gyfrinach fach, 'dwi ddim yn llawer o Eisteddfotwr, ond fe wnes i
fwynhau mas draw yn gweld yr holl aelodau yn cael y cyfle i
gystadlu. Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gymryd rhan yn y ddau
ddigwyddiad yma.

Gan ein bod ni ym mis Rhagfyr nawr, rwy'n siwr bod 'na gyfle i
fwyta, yfed a mwynhau gormod ar y gorwel, ond bydda i dal i gadw'n
fishi rhwng popeth. Ma'r adeiladwyr yn fishi ar y tŷ (a fi yn trial
helpu nhw, ond y gwir yw, sai gatre lot!!), felly gobeithio bydd
mwy da fi weud am hynna tro nesa', yn ogystal a hanes trip bach i
arwerthiant yng Nghaerliwelydd a thaith fach i Gaerdydd ar gyfer
gêm rhyngwladol Cymru v Awstralia, c'mon Shane!!

P.S. Newyddion gwych newydd ddod i mewn, ni newydd baso
ein prawf TB, diolch byth!!

Sian Roberts
Helo bawb! Sud 'da chi?

Sian Pierce Roberts ydw i ac rwyf hefyd yn un o flogwyr newydd
Tywydd S4C. Wel hefo'r tywydd eithaf sych a boddhaol rydym wedi ei
gael yn ddiweddar yma ym Môn, mae'r tywydd wedi troi erbyn hyn ac
mae'n eithaf gaeafol yma!! Cyn i mi fynd ymlaen ymhellach,
cyflwynaf fy hun fel merch fferm o Frynsiencyn, Ynys Môn!
Fferm 'ychydig o bob dim' sydd ganddom o warthaig godro, gwarthaig
stôr, moch a defaid sydd yn ein cadw'n ddigon prysur
drwy'r flwyddyn. Mae genai ddau frawd hŷn (Gwyn a Gethin) sydd
hefyd yn helpu ar y fferm ac yn cadw stoc eu hunain ar gaeau
cyfagos. Ar y fferm mae ganddom fusnes coginio teuluol o'r enw
'Popty'r Bryn'. Rydym yn gwerthu ein cynnyrch mewn siopau lleol yn
Ynys Môn, draw i Ddinbych yn y dwyrain ac i Benllŷn yn y gorllewin.
Felly yn fy amser sbâr rwyf yn helpu i goginio hefo mam neu yn fy
nghar yn eu dosbarthu. Dw i'n astudio Bydwreigaeth (yndi mae'n
air eitha' hir...Midwifery yn y saesneg) ym Mhrifysgol
Bangor ac ar hyn o bryd yn fy ail flwyddyn. Rwyf wrth fy modd
hefo'r cwrs ac yn gobeithio y câf aros yn yr ardal ar ôl
graddio.

Rwyf wedi bod yn aelod o Fudiad y Ffermwyr Ifanc yma ym Môn ers
pan roeddwn yn unarddeg oed ac yn wir rwyf wedi cael cyfleoedd a
hanner drwy'r mudiad. Rwyf wedi derbyn y swydd o fod yn
Ysgrifenyddes y clwb eleni (CFfI Dwyran), swydd ddiddorol iawn a
dweud y gwir a chaf y fraint o ddod o hyd i siaradwyr gwadd i ddod
atom i'r clwb bob wythnos. Rwyf hefyd wedi derbyn y swydd o fod yn
Gadeirydd Hyfforddiant Sirol eleni, ac mae fy mlwyddyn i yn
cychwyn ar ôl Ffair Aeaf Llanelwedd. Dwi'n siwr y câf flwyddyn
penigamp ac rwyf yn edrych 'mlaen yn arw i ddweud y gwir. Os
ydi hi'n 'Steddfod, Rali, Diwrnod Gwaith Maes neu Siarad
cyhoeddus rwyf wrth fy modd yng nghanol bwrlwm y mudiad ac yn wir
heb y mudiad...wel dwn i ddim be 'swni'n ei 'neud. Os oeddech yn
Eisteddfod CFfI Cymru wythnos dwytha', yna mi fydd rhan fwya'
ohonoch wedi fy ngweld i ar y llwyfan yn cystadlu yn y ddeuawd
doniol yn gyffro i gyd am dêc-awê!

Wel dyna i chi 'chydig o fy hanes i! Mi fydda i yn 'sgrifennu
blog i chi ar y wefan bob hyn a hyn felly cewch fwy o hanes y
fferm, fy mywyd o ddydd i ddydd a mudiad y ffermwyr ifanc dros y
misoedd nesa'.

Felly hwyl i chi am y tro,

Siân!

Carwyn James
Shwmai?

Hoffwn ddiolch yn gyntaf am y cyfle i flogio a rhannu fy
mhrofiadau gyda phawb ar wefan Tywydd S4C. I grwtyn bach pedair ar
bymtheg o Grymych, mae'n gryn dipyn o anrhydedd. Carwyn yw'r enw
neu'n fwy na'n aml rownd y martiau rwy'n cael fy adnabod
fel mab Anne Bwlchclaw'.

Saif dwy fferm Bwlchclawdd Bach a Galchen Fawr yng nghysgod y
Preseli yng Ngogledd Sir Benfro. Rwyf finnau erbyn hyn fel y mab
hynaf wedi cymryd at yr awenau o'u rhedeg o ddydd i ddydd gyda fy
mrawd Aled, o dan lygaid barcud Mam wrth gwrs. Lleolir ein cartref
Bwlchclawdd yng nghanol bwrlwm pentref Crymych sydd yn brif
ganolfan i ffermwyr y Preseli am wasanaethau amaethyddol a hefyd yn
gartref i'r farchnad ddefaid poblogaidd. Ryw wyth milltir bant ym
mhentref cyfagos Maenclochog lleolir Galchen, ddim nepell i ffwrdd
o gopa Foel Cwmcerwyn sef mynydd uchaf y Preselau. Mae'r ddwy fferm
yn 300 erw i gyd a'n gartref i ryw 150 o ddefaid bridio
ynghyd â 200 o ŵyn stôr, yn frîd sy'n groes rhwng y 'Suffolk'
a'r 'Texel' yn bennaf. Rydym hefyd yn ffermio rhyw 100 o wartheg
stôr Henffordd heb anghofio am hoff fuwch (drygionus) Charolais
Mam. Ein gobaith yn ystod y blynyddoedd nesaf yw datblygu buches
Henffordd pedigri ar ôl cael cryn lwyddiant gyda'r brîd yn y
gorffennol ac am eu natur tawel amlwg. Ystyriaf fy hun yn lwcus
iawn i ddysgu'r grefft o ffermio gyda Mam wrth y llyw; yn
gyn-enwebydd ac wedi cael cryn lwyddiant yn y gystadleuaeth NFU
Welsh Woman Farmer of the Year, ynghyd â rhyw hanner canrif o
brofiad yn y diwydiant.

Ar adegau pan nad wyf yng nghanol baw mewn pâr o 'wellingtons'
rwy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio BA Economeg a
Daearyddiaeth ac yn cymudo yn ddyddiol. Daw'r ochr economeg yn
naturiol i mi ar ôl plentyndod llawn bwrlwm o werthu stoc mewn
martiau lleol Aberteifi, Hendy-gwyn a Chrymych wrth gwrs. Mae'r
fferm yn profi i fod yn ddihangfa gyfleus o'r llyfrau a does dim
byd gwell na neidio'n syth mewn i dractor, mae'n neis iawn i fynd -
ond bois bach, mae'n neisach byth dod getre! Ar y penwythnosau
rwy'n chwarae'r gêm hirgrwn gyda'r ail dîm yng Nghlwb Rygbi
Crymych. Eleni hefyd, ymunais â Chlwb Ffermwyr Ifanc Hermon am
y tro cyntaf. Yn ffermwr ifanc sy'n frwdfrydig i ddysgu ac am greu
dylanwad yn y diwydiant mae'n adeg cyffrous iawn i finnau a'r
teulu. Edrychaf ymlaen at adrodd yr helyntion sydd i ddod mewn glaw
a hindda, a ddim gormod o ddrygioni gobeithio!

Pob hwyl a diolch am ddarllen,

Carwyn Bwlchclaw'

Dylan Jones
Wel, shwd mae?

Dylan Jones, neu "Beefy" ydw i ac rwyf yn un o flogwyr newydd
gwefan tywydd S4C. Cyn i chi glywed am yr hynt a helynt yr wyf yn
cael 'da'r tywydd (yn ogystal ag ambell i beth arall), 'o ni'n
meddwl bo'n well i fi gyflwyno fy hun yn gyntaf.  'Dwi'n fab
ffarm o ochre' Caerfyrddin, ac wedi tyfu fyny yng nghanol bwrlwm
amaethyddol Dyffryn Tywi. Fferm laeth oedd gartre 'da mam a dad,
ond mae'r gwartheg godro wedi eu gwerthu bellach, ac mae dad yn
cadw gwartheg sugno nawr.  Rwyf i a Louise (fy ngwraig) yn
ddigon ffodus i gadw ychydig o ddefaid Texel Pedigri (o dan yr enw
'Steddfa') ar y fferm hefyd.

Dim ond ychydig o ddefaid sydd gennym oherwydd mae Louise yn
gweithio fel athrawes ac rwyf i yn gweithio yn llawn amser yng
Nghanolfan Datblygu Llaeth yn Gelli Aur fel Swyddog Digwyddiadau
Iechyd y Fuches Laeth. Mae'n lond ceg o deitl crand ond 'na'i gyd
mae'n meddwl yw fy mod yn trefnu digwyddiadau i fferwmyr ar hyd a
lled Cymru er mwyn eu helpu i wybod mwy am sut i ddelio gyda
phroblemau iechyd o fewn eu buchesau. Swydd ddiddorol iawn sy'n fy
helpu i gwrdd â nifer o bobl ddiddorol iawn o fewn y diwydiant, ac
wrth gwrs mae'n gyfle i deithio i bob cwr o Gymru.

Gobeithio bo' chi heb flino darllen amdanaf eto achos ma' mwy da
fi weud 'to! Ynghyd â fy swydd llawn amser mae gennyf swydd arall
hynod o bwysig! Yn ôl ar ddechrau Hydref fe gefais yr anrhydedd o
gael fy ethol yn Gadeirydd Mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (yn
Stadiwm y Mileniwm cofiwch!). Rwyf wedi bod yn aelod o'r mudiad ers
blynyddoedd bellach ac rwyf wedi datblygu tipyn ers y blynyddoedd
cynnar 'na pan nes i ymaelodi gyda CFfi Dyffryn Tywi. Felly mae'r
cyfle hyn yn golygu llawer i mi, ac os wnewch chi barhau i ddarllen
y blog yma dros y flwyddyn nesa rwy'n siŵr gewch chi tipyn mwy o
hanes y mudiad! Yn ogystal â hyn i gyd yr wyf i a Louise ynghanol
adnewyddu tŷ (wrth ddweud "ynghanol", rwy'n golygu rhywle ar ôl y
dechre, ond sbel cyn y diwedd!). Felly ar hyn o bryd rydym yn byw
mewn carafan ar glos y fferm, felly o safbwynt y tywydd rydym yn
gobeithio'n fawr fydd y gaeaf yma'n fwy caredig i ni na'r gaeaf
diwethaf!

Wel 'na ddigon gen i am heddi, fe wnai geisio 'sgwennu eto
wythnos nesa, ac efallai gewch chi ychydig o hanes Eisteddfod y
CFfI yn Y Rhyl a'r Ffair Aeaf o Llanelwedd.

Pob hwyl am nawr

Dylan/Beefy

BLOGWYR NEWYDD
**MI FYDD 'NA DRI BLOGIWR NEWYDD YN TRAFOD EU BYWYD, Y FFERM,
MUDIAD Y FFERMWYR IFANC A LLAWER, LLAWER MWY YMA'N FUAN!**

Teifi Jenkins
Helo, dyma beth hanes y fferm i chi yn ystod yr wythnosau
diwethaf. Rydym wedi cael y cynhaeaf mewn ac wedi
dechrau dod mewn â'r gwartheg i'r siedau dros y gaeaf.
Mae'r gaeaf yn agosáu a'r gwartheg yn torri tipyn ar y tir yr amser
yma o'r flwyddyn. Rydym wedi prynu dros fil o ŵyn er mwyn eu
pesgu yn ystod y gaeaf, felly gobeitho y bydd prisiau'r ŵyn yn
parhau ar i fyny! Mae gwaith y gaeaf eisioes wedi dechrau ac mae'r
nosweithiau yn tynnu mewn yn gyflym. Ar hyn o bryd rwyf wrthi'n
torri ben y cloddiau, ond mae'n jobyn sydd angen amser er mwyn ei
gyflawni'n ddeche.

Hwyl am y tro.

Enfys Evans
On i lawr ar y fferm wythnos diwethaf ar gyfer, be dwi'n tybio
yw diwrnod mwyaf swnllyd y flwyddyn! Y diwrnod hynny pan mae'n bryd
tynnu ŵyn oddi wrth y defaid. Ar un llaw mae'n drist, fel rhannu
mam a merch, ond jiw dyna rhôd natur a dyna ffermio ac mae'r ŵyn
'na wedi cael bywyd penigamp. Ma na dipyn fydd yn cael eu cadw nes
yr hydref i'w gwerthu mewn amryw arwerthiant i fynd yn ddefaid magu
neu'n ŵyn hyrddod. Ond i'r lleill, y plât fydd pen draw'r daith,
wedi'r cyfan prif amcan amaethu yw bwydo'r genedl.

O leiaf roedd hi'n ddiwrnod gweddol ar gyfer y gwaith 'ma, ychydig
o gawodydd annisgwyl yn dod bob yn hyn a hyn, ond roedd hi'n glós
iawn. A dyna'r rheswm am fy steil unigryw i, y trwsus byr a'r
wellingtons! Wel odd hi'n fwdlwyd dan draed ond anghyffyrddus
fydde'r 'waterproofs'! Yr wythnos cyn ni on i'n wridog, diolch i'r
'fake tan', ges i yn barod ar gyfer priodas fy ffrind ond y 'dom
defaid tan' odd yn lliwio fy nghoese i ar ôl bod mas yng nghanol y
defaid a'r ŵyn!

Mae'n ganol Awst yn barod a dau brif ddigwyddiad cenedlaethol yr
haf wedi pasio yn barod. Gymrodd hi bythefnos dda i fi ddod dros y
Sioe Fawr yn Llanelwedd. Dyna oedd wythnos, heb os nac oni bai,
pinacl fy mlwyddyn fel Cadeirydd CFfI Cymru. Roedd hi'n ffantastig
gweld aelodau o bob cwr o Gymru yno yn cystadlu, cymdeithasu ac yn
mwynau'r sioe. Safon gwych eto eleni yng nghystadlaethau'r ffermwyr
ifanc a llongyfarchiadau i Sir Gâr am ddod i'r brig ar ddiwedd yr
wythnos. Mi fu'r tywydd yn garedig iawn i ni, dydd Sul a bore Llun
oedd waethaf o bell ffordd. Ond dyw'r glaw ddim fel bod e'n
effeithio rhyw lawer ar yr aelodau hapus sy'n dod i fwynhau'r
adloniant yn y Pentref Ieuenctid! Ges i esgus i brynu pâr o
wellingtons newydd gan i'm rhai i adel fi lawr yn wael iawn ar y
prynhawn dydd Sul, odd yn nhraed i'n wlyb stecs. Efallai fod y
wellingtons (piws i gyd fynd a logo newydd y CFfI!) wnes i brynu
ben bore Llun wedi cadw'r glaw bant am weddill yr wythnos!

Mae'r sioe'n dod a'r gymuned cefn gwlad at ei gilydd ac mae'n
ddathliad gwych o amaethyddiaeth yng Nghymru. Ces i gyfle bach cloi
ar y prynhawn dydd Iau, i fynd i'r neuadd fwyd am scwlc bach! Dwi'n
joio caws a ma'r dewis o flasau gwahanol sydd ar gael gan y
cynhyrchwyr yn wych. On i ffili dod o na heb brynu cosyn neu ddau i
fynd adre da fi! Bois bach ma bwyd da o Gymru ar gael i'r byd, os
glei.

Es i ar ymweliad bach a'r 'Steddfod fyd. On i heb fod ar y maes ers
sawl blwyddyn, felly wac fach amdani, pam lai! Er on i ddim yn
meddwl hynny pan o'n i'n gyrru lan yn fy nillad hafaidd a'r tywydd
yn diflasu wrth fynd tua'r gogledd. Ond nath Mari Grug fy sicrhau i
drwy gyfrwng 'twitter', fod hi'n sych yn Wrecsam! Da yw cyflwynwyr
Tywydd S4C!

Teifi Jenkins
Braf yw dweud bod Delyth a minnau wedi cael mab bach wythnos
diwethaf sef Steffan Teifi yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Rwy'n
falch i 'weud bo' Delyth a Steff adre yn ddiogel erbyn hyn.

Felly ar ôl cwpwl o ddiwrnodau hamddenol yn y Sioe
Frenhinol ac yn ystod geni Steffan mae hi'n braf i gael bod adre ar
y fferm yn cadw golwg ar y stoc. Tra'n siarad am stoc, yr wythnos
diwethaf fe werthom llwyth lori o wartheg yn y farchnad ac roeddwn
yn bles iawn gyda'r canlyniadau ar y dydd.

Wythnos cyn y Sioe Fawr cefais y fraint o fod ar banel o
feirniaid i ddewis enillydd Gwobr Goffa cynta Mr Brynle
Williams yn y Drenewydd.  Mi wnes i fwynhau'r
diwrnod yn fawr ac fe gafodd Aled Llyr o Dalybont ei wobrwyo
ym Mhrif Gylch y Sioe ar y prynhawn dydd Mercher.

Mae pris yr ŵyn tew wedi gostwng yn raddol yn ystod y
bythefnos ddiwethaf, ond er dweud hyn mae'r prisau yn ddigon
derbyniol am yr adeg yma o'r flwyddyn.

Y dasg nesaf ar y fferm fydd i gael y llafur oddi ar y caeau yn
ystod y bythefnos nesa' ac yna mynd ati i hau rêp er mwyn
tewhau ŵyn nes ymlaen.

Gwell mynd nôl at y gwaith. Hwyl am nawr!!!

Bethan Griffiths
Ma'r wythnosau 'ma'n hedfan! Does dim digon o oriau mewn diwrnod
weithiau dwi'n dweud wrthoch chi!  Adeg y cneifio wedi gorffen
ar y fferm ers tro bellach a'r gwlân wedi cael eu pacio a'i lwytho
ar lorri ac wedi cyrraedd y ffatri wlân erbyn hyn hefyd. Does dim
llawer o elw yn y gwaith 'ma cofiwch ond rhaid gwneud rhag bod y
defaid yn dioddef. 'Ma dad yn gwneud y gwaith cneifio ei hunan gyda
ni adref felly ma' hyn yn llwyddo i gadw'r costau i lawr gryn
dipyn. Gwaith caled yw cneifio cofiwch. Dwi'n codi 'nghap i'r rhai
sydd yn mynd allan bron bod dydd am wythnosau ac yn cneifio miloedd
mewn blwyddyn. Pacio'r gwlân fydda i'n hoffi gwneud.

Mae'r cynhaeaf wedi dechrau hefyd ac fe wnaethon ni dipyn bach o
silwair rhyw bythefnos nôl nawr pan ddaeth rhai diwrnodau sych a
chynnes ond ma' dal ychydig ar ôl i'w wneud. Aros am gyfnod bach
sych arall ry' ni ar hyn o bryd er mwyn cael gorffen
y cynhaeaf am eleni.

O ran y Ffermwyr Ifanc rydym ni wedi cael hoe fach o'r clwb
wythnosol ond mae dal digon wedi bod yn mynd yn ei flaen. Dwi'n
credu oni yng nghanol trefnu'r dathliadau y tro diwethaf y gwnes i
ysgrifennu ac aeth y digwyddiad hynny'n hwylus ofnadwy. Dwi bellach
hefyd yn gadeirydd ar glwb C.Ff.I Dyffryn Cothi felly bydd digon o
bethau i gadw fi allan o drwbl am y flwyddyn nesaf eto! Rydym
fel clwb wedi bod yn trefnu Gornest Gneifio Cothi. Digwyddiad
blynyddol y clwb sy'n denu nifer fawr o gneifwyr ar draw Cymru a
thu hwnt. Mae gennym ni nifer o gneifwyr profiadol a rhai ifanc yn
aelodau o'r pwyllgor ac mae'n braf gweld pawb yn dod ynghyd ar
ddiwrnod tebyg i fwynhau gweld rhai o gneifwyr gorau'r byd wrth eu
gwaith.  Dwi methu aros ar gyfer gornest Cymru v Seland
Newydd, mae'r awyrgylch yn wych a chystal â'r sioe frenhinol!
Gobeithio bydd hi'n ddiwrnod hwylus yfory.

Wedyn pacio yw'r gwaith nesa' y penwythnos yma yn barod i fynd
i'r Sioe. Dyma fy ngwyliau blynyddol! Edrych mlaen yn arw i gwrdd â
ffrindiau a mwynhau gwylio'r cystadlu a chwilio am ambell i fargen
ymhlith y stondinau! Efallai wela i chi 'na!

Enfys Evans
Oes rhywun arall heblaw fi a dim clem pa dymor ni ynddo!? Mae'r
tywydd ma wedi bod mor gyfnewidiol, sai'n gwbod beth i ddisgwyl yn
yr oriau nesaf, heb sôn am y dyddiau nesaf.

Mae wedi bod yn dymor y cneifio a'r cynhaeaf lawr ar y fferm.
Cafwyd diwrnod hwyliog gyda'r cneifio ond lwcus bod y defaid i gyd
wedi dod mewn y noson cynt yn sych neu ar stop fyddai di bod fel
arall. Dwi ddim yn arbenigwr o bell ffordd ond dwi'n siwr bo pawb
ar eu hôl hi gyda'r silwair ma eleni! Efallai taw'r gwahaniaeth
mwya yw bo pawb di bod yn scwlcan cyfleoedd gore medra nhw, gan fod
dim dal ar y tywydd ma. Un diwrnod mae'n sych gorcyn a dwi'n toddi
a'r diwrnod nesaf ma'n nghoesau i'n troi'n las a dwi nôl yn fy
nghot fawr.

Wythnos diwethaf a dros y penwythnos sydd newydd basio mae llwythi
o gaeau wedi eu clirio ar draws y wlad. Ma nhw wedi dod i ben a
beni'r cynhaeaf lawr ar y fferm hefyd - byrnau mawr a'r pit silwair
wedi llanw. Yn ystod tywydd sych diwedd wythnos diwethaf cafon nhw
wair hefyd felly ma pawb yn hapus! Dwi'n siwr nad yw tymor y
cynhaeaf yn dda i lefelau 'stress' unrhyw ffermwr. Ma na lot o
gerdded nôl a mlan ar hyd y clós yn mynd mlan a rhedeg i'r tŷ i
wylio'r tywydd wrth iddi nhw drio penderfynu ar y 'plan of
action'!

Ges i'n nala mas yn bert gan y tywydd cyfnewidiol ma wythnos nôl.
Edrych mas o'r ffenest ar fore diwrnod chwaraeon CFfI Cymru ac oedd
hi'n ddiwrnod mwll a diflas felly gwisgo'n addas. Erbyn cyrraedd
Aberhonddu roedd hi'n wahanol fyd ac a'r haul yn dan boeth erbyn
ganol dydd. Roedd pâr o siorts yn y car, felly dyma newid iddi nhw
rhag i mi ferwi yn fy nhrowsus hir. Ond doedd dim cysgod lle on i'n
stiwardio'r hoci a llosgais fy nhroed chwith yn ofnadw', ofnadw'!
Oni bai am y sombrero ar fy mhen (oedd yn digwydd bod yn y car ar
ol parti iâr y noson cynt!), dwi ddim yn siwr shwt siap fydde wedi
bod arnai! Chwyddodd fy nhroed i ddwy waith ei faint am dridie a
finne'n hercian fel môr leidr a choes bren o gwmpas y lle. Gwers
galed iawn i'w dysgu ond fydd yr eli haul yn fy mag am weddill yr
haf, rhag ofn!

Dwi di bod yn brysur iawn gyda'r CFfI yn ystod y mis diwethaf ac yn
teimlo fel 'sy fi wedi byw ar olwynion. Y Sioe Fawr sy'n mynd a'n
bryd ni nawr a bois bach dwi'n dechrau mynd yn egseited. Dwi'n
edrych ymlaen i weld yr holl gystadlu yn adran y CFfI a mwynhau'r
adloniant yn y Pentref Ieuenctid. Un peth fyddai yn gwneud dros yr
wythnos nesaf yn bendant, gweddi fach yn gofyn yn garedig am dywydd
ffafriol yn ystod y Sioe. Sai'n meddwl bo fi'n gofyn gormod!

Teifi Jenkins
Braf yw cofnodi ein bod wedi gorffen gyda'r cneifio bore 'ma a
mae'r defaid yn mwynhau allan yn y gwres 'ma gyda'r ŵyn.
Rydym eisioes wedi gwerthu nifer o ŵyn tew i'r farchnad ac i'r
lladd-dŷ lleol am bris digon derbyniol er bod y pris wedi gostwng
tipyn yn y bythefnos diwethaf. Wedi gwylio'r tywydd ar y wê
rydym wedi mentro torri 75 cyfair o silwair yn barod i'w gynaeafu
yn y diwrnodau nesaf.

Mae pris y bîff yn codi'n raddol a da o beth ydi hyn gan bod
nifer o dda tew gyda ni i werthu yn ystod yr wythnosau nesa'.

Hwyl am y tro, ta ra.

Enfys Evans
Mae 'di tawelu ychydig wythnos ma, diolch byth. Mae'n hanner
tymor felly cyfle am ychydig o seibiant ar ôl cyfnod bishi.

Cynhaliwyd rali CFfI Ceredigion ddydd Sadwrn diwethaf ar gaeau
fferm Pantdefaid, Prengwyn, Llandysul. Roedd hi 'di bod yn gyfnod
prysur o ymarferion cyn cyrraedd pinacl y flwyddyn i bob
ffederasiwn sirol, y rali flynyddol. Dyma ddiwrnod sy'n llawn o
gystadlaethau amrywiol sy'n rhoi cyfleon i aelodau arddangos
sgiliau mewn sawl maes, o osod blodau i feirniadu defaid Suffolk, o
ganu i brisio eitemau ar gyfer arwerthiant. Cafodd criw CFfI
Llanddeiniol ddiwrnod bach da a digon o resymau i ddathlu gyda'r
nos.

Eleni gan mod i'n gadeirydd CFfI Cymru dwi'n crwydro o amgylch y
siroedd o un rali i'r llall. Dw i eisoes wedi bod i Ynys Môn,
Maldwyn ac Eryri a mae Brycheiniog, Maesyfed a Gwent i ddod eto cyn
diwedd y mis.

Ymweld ag un rali ar ddydd Sadwrn sy'n arferol ond ddydd Sadwrn
diwethaf on i mewn tipyn o bicl gan fod Eryri, Sir Benfro a
Cheredigion, ill tri yn cynnal rali ar yr un diwrnod. Bodlonodd un
o ferched swyddfa'r CFfI fynd i Sir Benfro, a oedd yn gadael Eryri
a Cheredigion ar ôl i mi. Wel nes i throi hi am y gogledd ben bore
a gorfod trafaelu trwy dywydd digon diflas, glaw trwm a niwl
trwchus. Fe ges i'r pleser o feirniadu cystadleuaeth band yr ardd
yng nghwmni aelodau Eryri a gweld ychydig o'r cystadlaethau eraill
cyn ei throi hi nôl am adre! On i nôl ar gae rali Ceredigion erbyn
3pm a'r siwrne adre'n dipyn gwell gyda'r haul wedi dod mas i wenu
erbyn hynny.

Ers i mi flogio ddiwethaf dwi heb gal llawer o siawns i fynd
lawr i'r fferm ond yn clywed am yr hyn sy'n mynd ymlaen gan dad!
Aeth y da mas i gyd ganol mis Mai, sydd wrth gwrs yn ysgafnhau
dipyn ar y gwaith dyddiol o garthu'r sied a bwydo. On i'n trafaelu
fyny i Ynys Môn ganol Mai ac yn gweld y gwartheg wedi troi allan i
bori mewn sawl man ar hyd y daith. Er dwi'n siwr bo nhw di gweld
gwahaniaeth gan i'r tywydd droi yn dipyn oerach ddiwedd y mis. Ath
fy mrawd yng nghyfraith nôl i'w drwsus hir ddiwedd wythnos diwetha
ar ôl bod yn ei siorts bob dydd ers mis Mawrth!

Er fod llai o waith wedi i'r da gael eu troi mas, mae'r defaid
yn dal i gadw pawb yn ddigon bishi ar hyn o bryd - dosio a thocio.
Dw i di cal fy mwcio i fynd i helpu fory, felly diwrnod allan yn yr
awyr agored fydd hi, gan obeithio fydd hi'n sych.

Mae'n gyfnod y silwair gyda ni yma ar yr arfordir, ond oherwydd
y tywydd ansefydlog mae 'di bod yn 'stop start' ma. Torrodd fy
nghymydog y cwbl lawr a wedyn daeth y glaw trwm am ddiwrnod i darfu
ar bopeth, cyn iddo fe allu mynd ati i ddechrau codi. Yn aml mae
ymarferion gogyfer a'r rali CFfI yn bentost os yw'r bois ar y
silwair yn yr wythnosau'n arwain lan at y diwrnod mawr, ond eleni
fuo ni'n lwcus o'r tywydd cyfnewidiol (pidwch dweud wrthyn nhw bo
fi'n dweud na)!! Dim un ohonyn nhw di colli dim un ymarfer! Da iawn
chi bois!

Bethan Griffiths
Diolch byth, ni wedi cael bach o law ers i mi 'sgrifennu
ddiwethaf! Roedd hyn yn oed cyflenwad dŵr y tŷ yn dechrau mynd yn
brin gyda ni, gan taw ffynnon ein hunain sydd gyda ni adre a dim
gobaith troi i ddŵr 'mains' gan fod y cyflenwad agosa' bron 3
milltir bant!  Ond daeth bach o law mewn pryd! Mae'r caeau
silwair wedi cael eu cau allan erbyn hyn a digon o dyfiant i'r
defaid a'r gwartheg gael pori.

Chi'n cofio fi'n sôn am rali C.FF.I. Sir Gâr? Wel cafwyd diwrnod
arbennig y penwythnos diwethaf gyda holl aelodau'r sir yn
cystadlu'n frwd ar Faes y Sioe yn Nantyci. Dyma i chi heb os un o
uchafbwyntiau'r calendr i holl aelodau'r mudiad. Buodd ymarferion
di-ri a pharatoadau trylwyr cyn y diwrnod mawr a thipyn o
nosweithiau hwyr a pheintio munud ola' hefyd! Roedd pob math o
dalentau yn cael eu harddangos o goginio, i osod blodau, perfformio
ar y llwyfan, cneifio, paratoi oen i sioe, crefft, arddangosfa
clwb ac adloniant yn y prif gylch a llawer mwy. Mae'n ddiwrnod
pwysig iawn i swyddogion newydd y sir hefyd gyda seremoni'r
Llysgenhades. Unwaith eto eleni roedd y merched yn edrych yn odidog
iawn yn eu ffrogiau newydd a bydd blwyddyn brysur iawn o'u blaenau
rwy'n siŵr.

Ar ddiwedd y dydd roedd tipyn o gyffro i gael clywed y
canlyniadau. Cyhoeddwyd canlyniadau'r adran iau..... roedd CFf.I.
Llangadog yn 1af, a ni C.Ff.I. Dyffryn Cothi yn 2il. Wedyn
canlyniadau'r adran hŷn... wel dyna beth oedd sioc... cyhoeddodd
Cadeirydd y Sir bod dau glwb yn gydradd gyntaf!  A ie, chi
wedi dyfalu'n iawn... eleni roeddem ni C.Ff.I. Dyffryn Cothi yn
rhannu'r safle 1af gyda C.Ff.I. Llangadog!  Rali fythgofiadwy
arall yn wir a digon o ddathlu yn y ddawns oedd i ddilyn y noson
honno!

Teifi Jenkins
Gyda gwaith y gwanwyn wedi ein cadw'n brysur yn ystod yr
wythnosau diwethaf, braf yw nodi ein bod wedi cael ambell
gawod o law  trwm yn ystod y diwrnodau diwethaf.

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn brysur yn hau barlys gwanwyn,
cyrch a phys er mwyn porthi'r anifeiliaid yn ystod y gaeaf ac
i geisio lleihau ar y swm sylweddol o ddwysfwyd rydym yn
prynu yn ystod y gaeaf.

Mae'r caeau silwair wedi eu cau er mwyn iddynt gael llonydd i
dyfu. Byddwn yn gobeithio torri'r silwair ymhen rhyw chwech
wythnos.

Mae'r lloia yn dod yn ei flaen yn hwylus rhwng y ddwy fferm gyda
rhyw 45 allan o 115 wedi lloia ac yn mwynhau allan, gan ei bod hi'n
iachach iddynt nag yn y siediau.

Enfys Evans
Wel, shwt beth yw glaw gwedwch? Mi fuodd hi'n dymor ŵyna
perffaith eleni o ran tywydd, dim problem o gwbl i droi ŵyn allan a
gallu cadw'r lloce yn gymharol wag. Aeth y tymor yn hwylus heb
ddim problemau mawr a mae'n braf nawr i weld yr ŵyn yn dod
'mlan yn dda. Mae digon o borfa yn y caeau ar hyn o bryd, ma di bod
yn tyfu'n dda er gwaetha'r cyfnod sych. On i mas yn crynhoi cerrig
a brigau o amgylch y cloddie diwrnod o'r blan ag on i'n synnu faint
o dyfiant odd. Wedi dweud hynna, does dim sôn am law ar hyn o bryd
a mi fyddwn ni'n galw mas am ddiwrnodau gwlyb yn go gloi!

Ma na lot yn sôn bod haf sych o'n blaenau ni yn
dilyn ymddangosiad cyntaf blodau'r ddraenen wen. Ond ma
na ddywediad arall Saesneg 'ash before oak, in for a soak'
a nath Dad sôn bo lot yn dweud bo dail yr onnen di ymddangos gynta
eleni. Amser a ddengys mae'n debyg, ond ma'r ardd adre angen bach o
law yn barod i gryfhau'r planhigion sy'n dechre ymddangos.

Dw i ffili credu'r gwynt ma sy gyda ni ar hyn o bryd. Bore ma dw
i di bod yn ymladd gyda Polytunnel bach o'n i wedi rhoi lan yn yr
ardd. Ma fe wedi gorfod dod lawr cyn bod e'n hedfan bant achos ma'r
gwynt di bod mor gryf.

Ddoe, es i lawr i wylio gêm rygbi dysteb Dafydd Jones yn
Aberaeron. Ma parc Drefach ar lan y môr ac odd na dipyn o awel na,
ond odd hi'n ddigon cynnes. On i mas yn fy sandals ond odd lot dal
yn eu bŵts! Dwi wedi mentro mewn i'r trywsus byr ers cwpl o
wythnose nawr, ond ma nghoese i'n wyn, peidwch a sôn! O'n nhw'n
falch iawn cael gweld bach o haul, ac er eu lles nhw, bydded i'r
tywydd da barhau!

Bethan Griffiths
Does dim llawer wedi newid o ran y patrwm gwaith ar y
fferm. Mae rhai defaid a'r hesbinod dal yn ŵyna gyda ni o hyd ond
rydyn ni'n dod i ben yn araf bach. Mae'r ŵyn hynaf yn dod 'mlaen yn
dda iawn ac mae'r tywydd wedi bod yn ffafriol iawn rhaid
dweud.  Does dim byd gwell na gweld nhw'n cael rasys yn y
caeau tra bod eu mamau'n cael eu bwydo. Ma fy mrawd i adref o'r
Brifysgol ar hyn o bryd hefyd dros wyliau'r Pasg, felly mae pâr
ychwanegol o ddwylo yn gwneud byd o wahaniaeth! Mae'r gwanwyn yn
bendant yn ei hanterth erbyn hyn gyda'r caeau yn glasu, rwyf hefyd
wedi clywed y gwcw am y tro cyntaf eleni. Yn anffodus doedd gen i
ddim ceiniog yn fy mhoced ac ar y pryd roeddwn allan yn edrych
ar y defaid, felly pwy a wŷr os yw'r dywediad yn wir a
bod hyn yn arwydd o'r flwyddyn sydd o'm blaen i!

Ers i mi ysgrifennu ddiwetha' cafwyd diwrnod prysur gyda
Chystadlaethau Siarad Cyhoeddus y Ffermwyr Ifanc a braf yw cael
dweud mai Sir Gâr oedd yn fuddugol yn yr adran Gymraeg. Bu
cystadlu hefyd yn ystod Diwrnod Gwaith Maes sy'n gyfle i barhau i
feithrin crefftau gwledig yn ogystal â datblygu sgiliau newydd. Mae
un o uchafbwyntiau'r calendr ar y gorwel, y Rali Sirol, sydd mewn
rhai wythnosau, felly bydd pawb yn brysur yn paratoi ac mae'r
swyddogion newydd wedi cael eu dewis yn barod. Bydd yr aelodau i
gyd yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr.

Pasg Hapus, ac mi wna i ysgrifennu eto cyn hir.

Enfys Evans (1)
Sai'n hoff iawn o uchder, ma mynd ar y trên bach lan y graig las
yn Aberystwyth di peri gofid i fi ers pan yn fach, felly peth dwl
fydde penderfynu neud 'skydive', hyd yn oed i fi!

Ond ddydd Sul 13 Mawrth ges i'n nhaflu mas o awyren 12,000
troedfedd uwchben y Gŵyr, gan ychwanegu'n gyflym fy mod i'n sownd i
'skydiver' profiadol. Doedd dim cwmwl yn unman, yr awyr yn las
bendigendig a'r môr yn sgleinio yn yr haul, galle ni ddim di holi
am ddiwrnod gwell ar gyfer neud shwt beth. Pam nes i fe, dwi'n
clywed chi'n holi!? Pan dwi'n neud pethe twp dyw'r CFfI byth ymhell
o'n ateb i! Codi arian i elusen CFfI Cymru, Mind Cymru odd pwrpas y
naid a chware teg i 6 o'n ffrindiau am wirfoddoli i neidio gyda fi
gan godi cyfanswm sy'n edrych yn debyg o gyrraedd £3000.  Beth
sy'n fwy o syndod yw fy mod i wedi eitha mwynhau y profiad ac yn
wahanol i rai, dwi heb ddweud nai byth neud e eto. Efallai wir bo
fi ar y ffordd i fod yn 'adrenalin junkie!'.

Mae'n eitha oer pan chi'n cwympo 6000 troedfedd drwy'r awyr yn
gwneud 120 milltir yr awr mewn 45 eiliad! Unwaith i'r parasiwt agor
wnes i ymacio fwy a gwerthfawrogi golygfeydd godidog dros y Gŵyr ac
Abertawe. Yn y tywydd ffantastig on i'n gallu gweld am
filltiroedd.

On i lawr yn Abertawe ar gyfer Gwledd Adloniant CFfI Cymru, 12 o
berfformiadau Hanner Awr Adloniant yn cael llwyfan haeddianol yn
Theatr y Grand. Bois bach roedd y safon yn arbennig a bron 400 o
aelodau di cael teimlo'r wefr o berfformio ar lwyfan proffesiynnol.
Roedd hi'n benwythnos ffantastig a'r haul yn gwenu'n braf arno ni
trwy gydol. Un rhan arall o'r penwthnos oedd plannu 75 o goed yn
rhoddedig gan Coed Cadw yn mharc glwedig Clyne i nodi 75 mlynedd
CFfI Cymru. Ro'n i'n falch iawn o'n hunan ar ôl i fi blannu un ar
ddeg o goed ar fy mhen fy hun bach!!

Gwahanol iawn yw'r penwythnos sydd newydd fod o'i gymharu a'r
penwythnos yn Abertawe. Dwi di bod yn ŵyna am dridie a dwi'n meddwl
i fi bigo'r cyfnod prysura i fod yno! Nelo ni ddim stopio dydd
Sadwrn, ŵyn yn popo mas fel pys a'r llocie yn llenwi'n gyflym. Ŵyna
mewn ma'n Wncwl ond ma'r tywydd braf yn gymaint o gymorth wrth i ni
allu troi'r ŵyn bach mas yn prin ddiwrnod oed.

Erbyn hyn mae'n swyddogol yn wanwyn ac yn sicr ma gweld ŵyn bach
yn prancio a gwres yr haul ar eu cefnau yn un o arwyddion gorau'r
gwanwyn i mi. Ma nhw weld yn altro dipyn cynt pan fo'r tywydd fel
mae ar hyn o bryd.

Dydd Llun dwi'n meddwl odd y diwrnod twyma, bois bach odd hi'n
twlu gwres ar un adeg yn yr haul. Gymres i funud i eiste ar y
clawdd wrth i fi aros i'r defaid a'r ŵyn gael eu casglu ynghyd a
chymorth y ci, a na beth oedd braf. Rhowch chi funud felna i fi
unrhyw ddydd o'i gymharu a munud ar draeth un o'r cyrchfeydd
gwyliau tramor yma. Glywes i ddywediad gan fy Wncwl ddoe on i heb
glywed o'r blaen, cadno o ddiwrnod i ddisgrifio'r tywydd braf.

Mae porfa digon da yn y caeau ar gyfer y defaid a'r ŵyn ond am
ba hyd cyn bo ni'n galw allan am law eto? Dwi'n siwr alle sawl
ffarmwr neud tro ag ambell i gawod erbyn hyn i roi hwb i'r borfa
eto. Ond plis, a ddaw'r cawodydd yma gyda'r nos os gwelwch yn
dda!!

Un peth arall sy di cadarnhau newid mewn tymor, statws fy ffrind
ar facebook yn dweud bod hi di rhoi dillad ar y lein am tro cynta
leni a felly'n bendant roedd y gwanwyn yma. Licen i di gallu
manteisio ar y tywydd braf wythnos dwetha i roi dillad ar y lein,
ond pan ma'n nghymydog mas a'r slyri sdim gobaith rhoi dim ar mas
neu nôl i'r peiriant golchi i gael gwared ar y drewdod byd nhw'n
gorfod mynd eto!

Enfys Evans
Dwi ddim cweit yn siŵr i ble ddiflannodd mis Chwefror, ma'r cliw
yn yr enw arall amdano sbo - mis bach!

Fe fuodd tipyn o bethe mlân a finne'n byw ar olwynion! Ges i
drip i gynhadledd flynyddol yr NFU yn Birmingham, lle bu cyfle i
wrando ar nifer o siaradwyr yn rhannu eu safbwyntiau ar sefyllfa
bresennol amaethyddiaeth. Roedd y naws yno ar y cyfan yn bositif ac
ambell gyfeiriad amlwg at y gwaith da sy'n cael ei wneud gan y
cynulliad er budd ffermwyr Cymru. Wrth gwrs, bu tipyn o
gwestiynnu ar y pwnc sy'n boen meddwl i lawer, sef TB. Dwi ddim yn
ffermio o ddydd i ddydd ond mae'n dda o beth cael y cyfle i fynychu
cyhadledd o'r fath a dysgu rhywbeth yr un pryd.

Hanner Awr Adloniant oedd tri gair pwysig arall a gyfrannodd at
ddiflaniad Chwefror a chynnydd yn fy mhwysau gwaed i dwi'n siŵr! Ma
criw o aelodau brwdfrydig gyda ni yn CFfI Llanddeiniol ond mae'n
dipyn o sialens cal nhw gyda'i gilydd mewn un 'stafell ar gyfer
ymarfer! Ond gyda bach o lwc aeth y perfformiad yn golew a daeth
cynhyrchiad y clwb o 'Byd o Liwiau' i'r 3ydd safle, ma hwnna'n
dipyn o gamp gyda 12 clwb yn cystadlu. Lwcus bod y tywydd 'di bod
yn garedig i ni a dim rhew na eira 'di amharu ar gyrraedd yr
ymarferion leni yn wahanol iawn i fel odd hi yn 2010!

Mae di bod yn dywydd grêt, yr union math o dywydd dwi'n joio -
crisp a sych. Dyw hi dal ddim yn gynnes ond ma'r haul yn gwenu'n
braf felly ma pawb yn teimlo'n well. Ond ma na rai sy'n codi 'goose
pimples' arnai o'u gweld nhw, mas yn eu shorts yn wythnos
gynta' Mawrth, pan odd y tymheredd yn bendant ddim di pasio
10°C!

Ges i gyfle i dreulio diwrnod bach lawr ar y ffarm ddechrau
Mawrth yn helpu gyda paratoadau gogyfer ŵyna. Mae'n wir beth ma
nhw'n ddweud bod ffermwyr yn dilyn sawl galwedigaeth - saer oni'r
diwrnod yna wrth i fi atgyweirio giatie yn barod i neud lloce.
Dwi'n edrych yn eitha danjeris â mwrthwl yn fy llaw! Daeth
Mawrth i mewn fel oen a dwi wir yn gobeithio neith y tywydd ffein
yma bara a na ddaw, mas fel llew yn wir, neu bydd hi'n neud y tymor
ŵyna yn dipyn anoddach.

Bethan Griffiths
Y tro diwethaf y gwnes i flogio roeddwn ar fin cystadlu yn y
gystadleuaeth hanner awr o adloniant gyda'r C.Ff.I. Dyna beth oedd
profiad anhygoel! Roedd cael perfformio ar lwyfan y Grand, Abertawe
yn wych ac roeddem wrth ein bodd pan wnaethon gael y canlyniadau a
chlywed ein bod ni wedi dod yn ail yn yr adran Gymraeg. Edrych
ymlaen at weld y pigion ar S4C nawr! Mae hi dal yn brysur iawn ar y
fferm gyda'r ŵyna. Mae'r defaid i gyd wedi dychwelyd adref erbyn
hyn ar ôl bod allan ar dac dros y Gaeaf.  Llawer iawn o amser
yn mynd yn bwydo a gofalu bod yr ŵyn yn iawn. Fi sy'n cael y
'shifft' bore felly byddai'n codi'n gynnar bod dydd i wneud yn siŵr
fod popeth yn iawn cyn mynd i'r gwaith tra bod Dad a Mam yn godro.
Mae'r tywydd wedi bod yn dda iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf ac
o ganlyniad ry' ni wedi bod yn ŵyna llawer o'r defaid y tu allan.
Tipyn o ŵyn i ddod eto gan mai rhyw hanner ffordd trwyddo ry' ni
erbyn hyn. Tan y tro nesaf felly! Hwyl!

Teifi Jenkins
Braf ydy nodi bod y defaid wedi bod yn brysur yn ŵyna yn ystod y
cyfnod sych diwethaf yma a'r defaid ar ŵyn bach yn mwynhau'r haul
braf ar eu cefnau.

Er bod y tywydd wedi ffeinhau tipyn, mae'r porfa'n araf iawn yn
tyfu gan bod y nosweithiau wedi bod yn oer iawn tan yn
ddiweddar.

Mae yna ddau lwyth lori o wrtaith eisioes wedi cyrraedd y
fferm ac fe fydd angen gwasgaru hwn ar y tir pori er mwyn hybu'r
porfa i dyfu.

Hwyl am y tro.

Bethan Griffiths
Dwi ddim yn siŵr iawn i ble mae'r wythnosau diwethaf yma wedi
hedfan! Gwaith, ymarferion ac ŵyna dwi'n credu! Digon o bethau
yn digwydd ar y fferm ar hyn o bryd. Cyfnod yr ŵyna wedi dechrau
nawr a'r ŵyn bach yn dod yn gyson bob dydd. Mae hi wedi bod yn
dywydd da yn ystod y diwrnodau diwethaf felly gobeithio bydd hyn yn
parhau am ychydig eto. Mae hi hefyd wedi bod yn gyfnod prysur arall
gyda'r mudiad ffermwyr ifanc a'r tro yma, canolbwyntio ar y
gystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant ry' ni wedi bod yn ei wneud ac
wedi cael tipyn o hwyl a sbri wrth baratoi hefyd. Roedd y
gystadleuaeth sirol rhyw bythefnos yn ôl bellach a sioc fawr a
syndod oedd i ni aelodau Dyffryn Cothi ennill y gystadleuaeth.
Bonws bach hefyd imi oedd cael ennill y berfformwraig orau a fy
nghyd aelod Aled yn ennill y perfformiwr gorau 26 ac iau.
Heno bydd cyngerdd flynyddol y clwb ac mae o hyd yn noson
bendigedig i gael diddanu cynulleidfa leol. Rydym yn edrych ymlaen
at y penwythnos sy'n dod a chael y profiad o gystadlu a pherfformio
ein Hanner Awr yn Theatr y Grand Abertawe yng nghystadleuaeth
C.Ff.I. Cymru. Edrych ymlaen yn eiddgar ac yn esgus i mi gael dianc
wrth yr ŵyna am ychydig!

Enfys Evans
S'dim byd gwell na awyr iach, ond ddim am 5am y bore. Na, dwi
heb fod mas yn cymdeithasu nes yr oriau mân ond yn hytrach ffenest
fy ystafell wely sy' di bod yn agor led y pen yn y gwyntoedd
cryfion. Tair noson o'r bron wythnos diwethaf ces i'n neffro gan
sŵn y gwynt yn chwyrlïo ac 'oni ddim yn siwr os ma breuddwydio oni
bo fi â rhan yn y ffilm 'Bedknobs and Broomsticks' neu beidio!
Credu bo' angen cal rhywun i edrych ar ddolen y ffenest er lles fy
'beauty sleep!'.

Mi wnath hi gwpl o nosweithiau digon annifyr a gorfod i fi
drafaelu nôl dros 'Steddfa nos Iau a nos Sadwrn mewn gwynt, glaw a
niwl. Yn y tywyllwch roedd hi'n anodd gweld y pyllau dŵr oedd di
cronni, yn enwedig pan fo car yn dod o'r cyfeiriad arall yn olau i
gyd. Wnes i fwrw cwpl o'r pyllau yn go heger ma rhaid dweud ac odd
hi'n ddigon peryglus mewn ambell fan.

Mae di bod yn wythnos cyffrous ym myd y Ffermwyr Ifanc. Odd hi'n
ddiwrnod hir o bwyllgorau dydd Sadwrn gyda lot o benderfyniadau
pwysig wedi eu gwneud. Ond dwi'n siwr bydde pawb yn gytun taw'r
penderfyniad mwyaf hir ddisgwyliedig  a wnaed oedd cymeradwyo
logo newydd i CFfI Cymru. Mae di bod yn broses hir ond ni di
cyrraedd y terfyn a gwyliwch allan am y logo newydd yn fuan!

Treuliais i noson lawr ar y fferm dros y penwythnos, sai di cal
cyfle i fynd lawr ers sawl wythnos. Doedd deffro fore Llun i ddim
electrig ddim y ffordd gorau i ddechrau'r diwrnod ar ôl gwyntoedd
cryfion eto dros nos. Chware teg reodd y cyflenwad nôl erbyn 7.30am
felly rhaid canmol y cyflenwyr am hynny. Ar ôl noson mor wyntog chi
ddim yn siŵr pa ddifrod fydd yn eich wynebu tu allan, ond roedd
popeth mewn trefn diolch byth.

Ma'r defaid triplets a hanner y defaid twins yn tŷ ac felly ma'r
gwaith bwydo'n mynd i drymhau yn raddol o hyn nes diwedd wyna. Mi
fydd y defaid sydd ar ôl mas hefyd yn dechrau cal cêc yn fuan a ma
rhai eisoes yn cael.

Un peth sy'n bwysig cofio pan lawr ar y ffarm mewn tywydd gwlyb
a mwdlyd - dyw'r cŵn ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng dillad bob
dydd a dillad gorau. I ddweud y gwir dwi'n siwr bo nhw'n dueddol o
neidio fwy pan dwi'n trio cadw'n lân a ddes i adre nos Lun yn fwd i
gyd, diolch Celt!

Bethan Griffiths
Ma' tipyn o amser wedi pasio bellach ers i mi ysgrifennu
ddiwethaf a'r gwaethaf o'r Gaeaf wedi pasio gobeithio. Does dim
llawer wedi newid ar y fferm, digon i neud bob dydd a dyw'r tywydd
gwlyb ma' 'ni wedi cael yn ddiweddar ddim yn gwneud pethe'n haws.
Nid yw dyddiad 'swyddogol' dechrau wyna wedi cyrraedd eto ond
braf cael dweud bod 'na ddau bâr o efeilliaid wedi cyrraedd yn
barod! Dwy ddafad wedi bod ar grwydr yn rhywle mae'n amlwg!

Ma'r bywyd Ffermwyr Ifanc wedi bod yn ddigon prysur a llawer o
weithgareddau wedi cymryd lle ers i mi flogio ddiwethaf. Yr
uchafbwynt mae'n siŵr oedd dawnsfeydd y Frenhines neu Llysgenhades
yn y tair sir. Hefyd cafwyd noson arbennig yng Nghinio Dathlu 60
mlynedd Clwb Dyffryn Cothi. Bu rhaid gohirio'r cyngerdd dathlu
oherwydd y tywydd gwael, ond y penwythnos diwethaf cafwyd dwy noson
o gyngherddau yng nghwmni aelodau, cyn aelodau a ffrindiau'r clwb.
Roedd y tocynnau wedi gwerthu allan ar gyfer y ddwy noson ac
eitemau o bob math i'w gweld ar y llwyfan. Atgyfodwyd nifer o hen
sgetsau, dramâu a phartïon canu a ffurfiwyd yn y clwb dros y
blynyddoedd gyda'r cyn aelodau wrth eu bodd yn cael ail gyfle i
berfformio. Roedd pawb wedi mwynhau mas draw ac rwy'n siŵr
cawn gyfle i ddathlu eto'r garreg filltir bwysig cyn diwedd y
flwyddyn.

Enfys Evans
Traed gwlyb, dim unwaith ond ddwywaith. Dwi di gadel fy wellies
lawr ar y ffarm, o dyna bicl! Dyma wisgo wellies dad i fynd mas a
bwyd i'r hyrddod (cyn iddi droi'n sych a rhewllyd), ddes i nôl a'n
nhraed yn wlyb domen. Grêt, pam gwedwch chi ma na bâr o wellies
sy'n gollwng yn cael ei cadw yn y garej!? Drannoeth, rhoi tro arni
yn fy hen sgidie cerdded ond dod nôl eto a thraed gwlyb. Dau bâr o
sgidie i'r bin de am fod nhw werth dim de.

Pwdwr iawn a di-hwyl fues i wythnos dwetha - nes i aros yn llonydd
rhy hir a dalodd y 'bug' lan da fi neu'r traed gwlyb oedd ar fai!
Ma'n nhraed a'n nwylo i'n bethach oer ar y gore ond odd hi'n wath
nag arfer pan on i ddim yn teimlo'n dda.

Ma angen doctor ar y Peugeot sda fi fyd dwi'n meddwl. Dyw e ddim yn
lico'r tywydd oer ag unwaith mae'n mynd dan -3°c ma tipyn o waith i
ddechre fe'n bore. Ma rhywun di sôn falle ma'r 'heater plugs' sy
angen sylw, os yw hwnna'n golygu rhwbeth i chi!

Dwi bron a beni ysgrifennu sgript hanner awr adloniant i aelodau
CFfI Llanddeiniol. Ni'n dueddol o fod yn funud olaf a tair wythnos
sy da ni i roi'r cynhyrchiad at ei gilydd ond jiw ddown ni ben siwr
o fod. Dyna lle ma'n holl amser sbâr i'n mynd i fynd yn ystod yr
wythnosau nesaf. Gerddes i lawr i ymarfer heno a synnes i pa mor
slic odd yr hewl ond wedi dweud hynny mae'n noson glir braf a sêr
mas ymhobman.

O ie, gyda'r tywydd sych daeth arogl iachus cefn gwlad i lenwi'n
ffroenau. Ma'n nghymydog wedi bod a'r 'slurrey' mas felly tu mewn
fydd y dillad yn sychu yn tŷ ni am gwpl o ddiwrnode.

Teifi Jenkins
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Wedi Nadolig a dechrau digon oer
a gwlyb i'r flwyddyn newydd, braf yw gweld y tywydd yn sychu a'r
ddaear yn dechrau dihuno a glasu wedi'r rhew caled.

Mae yna dros 100 o wyn yn bach yn Tŷ Hen ar hyn o bryd ac
rwy'n falch i ddweud fod y rhan helaeth ohonynt allan erbyn hyn
wedi cyfnod hir dan do dros gyfnod y glaw trwm a'r
gwlybaniaeth.

Wythnos diwethaf roedd cinio blynyddol grŵp trafod Llambed a'r
Cylch yn nghwmni cyn-aelod o dîm rygbi Cymru sef John Davies
(Cilrhiwe). Yn y cinio mae canlyniadau cystadleuaeth silwair rhwng
yr aelodau, sy'n dipyn o hwyl a dweud y gwir.  Rwy'n falch i
ddweud ein bod wedi cael cyntaf ac ail gyda'r silwair byrnau mawr,
ac ail a thrydydd gyda'r gwair byrnau bach.

Hwyl am y tro i chi.

Enfys Evans
Dwi wrth fy
modd gyda'r diwrnodau oer ond braf yma. Yn anffodus pan ma gwaith
i'w wneud tu fewn sdim amser i fod allan yn mwynhau'r tywydd
sych.

Mor wahanol yw hi wythnos yma i gymharu a'r wythnos cynt. Glaw,
glaw a mwy o law. Cyn mynd ymlaen mae'n bwysig sôn nad yw'r
anghyfleustra mae'r glaw wedi achosi gyda ni yn ddim byd tebyg i'r
dilyw ma nhw wedi brofi yn Awstralia, Sri Lanka a Brasil. Mae'r
lluniau rydym ni wedi weld ar y teledu yn codi braw ac yn ein
hatgoffa o'r fath bwer sydd gan fyd natur a'r tywydd trosom.

Roedd hi'n bryd sganio'r defaid a buo ni'n lwcus o gael diwrnod
gweddol sych ddydd Mawrth i ddod ar defaid i mewn i'r sied dros
nos. Roedd hi'n anodd credu pa mor wlyb oedd y caeau a'r beic
pedair olwyn yn troi'r porfa glas yn drac brown diflas wrth fynd
ati i rowndio'r defaid. Roedd yr ardal o gwmpas y 'feeders' yn
bwdel a roedd yn amlwg na ddylai'r un nifer o ddefaid ddychwelyd
i'r cae yma gan ei fod mor wlyb.

Yn gynnar fore Mercher (dwi ddim yn grêt yn y bore ond ddes i ben!)
dyma fynd ati i sganio a'r canlyniadau yn plesio. Ma'r defaid
'triplets', sydd ddim yn rhy niferog, diolch byth, wedi eu cadw yn
tŷ ond mae'r gweddill wedi eu troi nôl allan am gyfnod eto. Mi fydd
hi'n amser wyna cyn troi rownd.

Dwi di mabwysiadu'r 17 o hyrddod blwyddi sy wedi ymgartrefu dros y
gaeaf yn y cae drws nesa i'r tŷ. Ni'n tipyn o fêts erbyn hyn!! Ma
nhw'n stompio tuag ata i pan fydda nhw'n clywed y gat yn agor gan
bo nhw'n gwbod bo bach o gêc ar y ffordd iddi nhw! Dynhw ddim yn
cael llawer ond ni wedi cario ymlaen i roi ychydig yn dilyn yr eira
sydd wedi gadael ei ôl ar y porfa. Ma nhw'n gymysgedd o hyrddod
mynydd Cymraeg a Speckle gydag un Suffolk yn eu plith. Yn anffodus
ma'r hyrddod mynydd Cymraeg yn anghofio am eu cyrnau wrth iddi nhw
gronni o'n nghwmpas i a ma nhw'n cal sawl tap ar y pen i'w callio
nhw!

Ma na wahaniaeth mawr di bod o un wythnos i'r llall a'r tir oedd yn
wlyb ac yn fwdlyd wythnos dwethaf wedi caledu gyda'r rhew yr
wythnos yma. Mae'r tymheredd wedi gostwng a thipyn o niwl wedi bod
am biti'r lle. Ddes i ar draws niwl ar y ffordd i gyfarfod Bwrdd
Rheoli CFfI Cymru yn Builth ddydd Llun. Ar y ffordd lan fues i'n
trafaelu drwy'r niwl rhwng Llangurig a Builth ond ar y ffordd adre
roedd hi'n glir heblaw am gwpl o filltiroedd tra'n pasio
Aberystwyth - roedd hi'n anodd gweld hyd yn oed pellter bach o'm
mlaen.

Cafwyd noson ddiddorol yn mhencadlys FUW yn Ngogerddan nos Fawrth -
Hawl i Holi Materion Gwledig CFFI Cymru yng nghwmni Gareth Vaughan,
FUW; Steve James, NFU a Dai Davies, HCC. Roedd tri testun dan sylw
sef Glastir, TB a maint y fferm fodern a chafwyd trafodaeth ddifyr
gan y siaradwyr.

Dwi di sôn o'r blaen nad ydw i'r gorau am godi gyda'r bore, a bu'n
dipyn o ymdrech fore Mercher wedi cwpl o ddiwrnodau bishi. Ond
trueni na fysen i di codi ynghynt - gyda'r car yn fflachio -6°
arnai roedd gwaith dadleth ar ffenestri'r car, yn enwedig gan bod
rhew ar yr ochr fewn hefyd! Wedyn dyma ga'l yn nal yn trio dod mas
ar dop lôn gan fod lori fawr newydd basio am lawr yn araf a
chynffon o geir yn dilyn ar ei ôl. Ac wrth gwrs gan fod lori
araf o'm mlaen penderfynais fynd ar yr hewl fach sy'n croesi dros y
top o Lanon i Ciliau Aeron er gwaetha'r rhew! Mi wnes i ddifaru gan
fod yr hewl yn slic ac angen tipyn o ofal a 'low gear' i gadw
llinell syth. Canlyniad hyn oll = hwyr i'r gwaith! Ond o leia fe
wnes i ddysgu gwers, dim y llwybr byrra sy gloia bob amser!

Enfys Evans
Dwi'n siwr fod pawb yn falch o weld gwyrddni yn dychwelyd i gefn
gwlad Cymru. Roedd y flanced wen wedi achosi digon o broblemau a
cymaint o ddigwyddiadau wedi eu canslo o'r herwydd. Fues i ddim
mewn dim un gwasanaeth carolau eleni a gorfod i fi ddibynnu ar CD o
garolau i'm hatgoffa fod yr Ŵyl wedi cyrraedd. Er poendod yr
eira roedd rhywbeth yn braf iawn am fynd mas am wac ar ddiwrnod
Dolig a hithau'n Ddolig gwyn go iawn. Dwi ddim wedi gweld cymaint a
hynny o eira ar lawr ar ddiwrnod Nadolig o'r blaen.

Wnes i dreulio dydd gŵyl San Steffan lawr ar y fferm. Un o'r
prif dasgau, wrth gwrs, oedd mynd mas a 'big bales' i'r defaid
a bois bach 'na beth oedd syrcas. Trueni mawr nag oedd camera gyda
fi i dynnu llun o'u acrobatics wrth iddynt ymrafael am y cyntaf i
gael gafael yn y silage.

Roedd hi'n eitha neis cael hoi yn yr wythnos rhwng Dolig a'r
flwyddyn newydd a'r pwyslais mwyaf fu ar gymdeithasu! Cefais
wahoddiad gan Sara Downes, Brenhines CFfI Ceredigion i dderbynwest
Dawns y Frenhines ym mhafiliwn Bont. Braf oedd gweld sawl cant o
ffermwyr ifanc wedi dod yno i gefnogi'r digwyddiad.

Mae wythnos cyntaf Ionawr wedi bod yn gynhesach o leiaf, er mae
di oeri eto dros y penwythnos yma. Dwi wedi dechrau swydd newydd
fel cynorthwy-ydd dysgu a lwcus fy mod i wedi prynu cot newydd i
gadw'n gynnes pan allan amser chwarae ar ddyletswydd. Un peth dwi
wedi sylwi, dyw plant ddim yn teimlo'r oerfel fel ni!

Roedd sêl mlan mewn siop awyr agored yn Abertawe felly dyma fi
yn mateisio ar y cyfle i brynu cot, sgidiau cerdded, menyg, fleece
a sane trwchus. Gofynnodd y boi bach os on i mynd i rhywle neis,
ond dwi ddim yn meddwl ma Aberystwyth odd yr ateb odd e'n ddisgwyl
glywed! Ond dwi'n barod nawr am fwy o eira a gobeithio wir gan bo
fi yn barod na ddaw e ddim nôl nes gaeaf nesa!

Ar y fferm mae rhai o'r gwartheg wrthi yn lloia ar hyn o bryd a
nos Wener dwetha bu tipyn o waith tynnu un llo. Er well i fi
ychwanegu bod y gwaith caled wedi ei wneud erbyn i fi fynd mas i'r
sied i fusnesa a chael pip ar y newydd ddyfodiad! Noson fach digon
annymunol oedd hi hefyd a rhaid oedd osgoi'r cawodydd trwm
ysbeidiol wrth fynd o le i le. Roedd tipyn o ddŵr ar yr hewl ar y
ffordd adre'r noson honno. Mae'r gwynt wedi codi dros nos y
penwythnos yma a'r glaw wedi bod yn tasgu yn erbyn y ffenest. Dyna
pryd dwi'n ddiolchgar bo fi'n y tŷ'n glyd ac yn gynnes a ddim mas
yn trampo!

Enfys Evans
Dwi'n meddwl bo fi'n dod i arfer â thymheredd
sydd ddim yn codi'n uwch na 0°c yn ddyddiol erbyn hyn. Mae'n hollol
normal i weld yr arwydd - o flaen y rhif ar fonitor tymheredd
y car. Ond wir i chi pan on i'n trafaelu lawr i Abergwaun yn hwyr
iawn ar nos Iau 9fed Rhagfyr i gwrdd a cwch draw i Rosslare, roedd
y tymheredd yn amrywio rhwng 4 a 5°c. Jiw, bron yn dywydd trwsus
byr!

Roeddwn i yn un o saith aeth ar daith Pwyllgor
Materion Gwledig CFfI Cymru am dridie i Iwerddon. Roedd arfordir
dwyreiniol y wlad wedi cael tipyn o eira ac er fod y prif ffyrdd yn
weddol glir roedd yr hewlydd bach ar y ffordd i'n hymweliad cyntaf,
ffatri Keenan yn Borris, wedi eu gorchuddio ag eira a rhew.
Diddorol iawn odd gweld y broses o gynyrchu un o beiriannau bwydo
Keenan, y linell gynhyrchu yn hollol hyblyg i gwrdd a gofynion
gwahanol yr archebion unigol. Teithio wedyn i goleg amaethyddol
Kildalton a chael sgwrs gyda'r unigolion oedd yng ngofal y gwartheg
godro a'r gwartheg biff a defaid yno. Ar y dydd Sadwrn fuo ni ar
ymweliad a dwy fferm yn ardal Longford. Roedd y ffarmwr godro yn
rhan o grwp trafod oedd yn cwrdd unwaith y mis ac arweinydd y grwp
fu'n sgwrsio a ni am y busnes a'r ffigurau pwysig (odd yn mynd dros
fy mhen i braidd!). Ar hyn o bryd ma na ysgogiad o €1000 i ffermwyr
godro ymuno a bod yn weithgar o fewn grwpiau trafod yn y wlad a
llawer o bwyslais ar hyn. Wac fach wedyn o amgylch fferm amrywiol
oedd yn cadw gwartheg biff, defaid a ceirw. Roedd contractwr lleol
yno yn cynhaeafu'r 'fodder beat' ond yn cael ychydig o broblem. Fe
ddechreuwyd y gwaith wythnos ynghynt ond daeth yr eira a hwn oedd y
cyfle cynta' a fu i gwblhau'r gwaith ond roedd niwl trwchus yn
golygu bod y dail yn llaesu ac yn anodd i'r peiriant gael gafel
ynddynhw. Roedd tipyn o'r cnwd felly yn cael ei adael yn y ddaear
ond roedd y ffarmwr am droi'r defaid yn ôl i'r cae iddi nhw gael
gwneud y mwyaf o'r hyn oedd yn weddill ac i osgoi gwastraff. Anodd
iawn oedd gweld y ceirw ynghanol y niwl trwchus. Roedd e wedi bod
yn eu cadw nhw ers 12 mlynedd ac yn gymharol hapus ar pris roedd
e'n gael. Yn wahanol falle i'r drefn o ddanfon wyn pan fydde nhw'n
barod, roedd y ceirw ifanc oll yn mynd mewn un llwyth i'r lladd-dy
unwaith y flwyddyn. Y rheswm pennaf oedd pellter y lladd-dy oedd yn
derbyn y ceirw o'r fferm. Wrth gwrs doedd dim un ymweliad ac
Iwerddon yn gyflawn heb ymweliad a Temple Bar yn Nulyn a'r ffatri
Guinness!

Roedd y croesi nôl yn gymharol llyfn on in
meddwl er nath y capten sôn bo ni'n hwyr yn cyrraedd Abergwaun
oherwydd gwyntoedd uchel. Wrth gwrs, nath y tymheredd uchel
(wel ma 5°c yn uchel ar hyn o bryd) ddim para, ag roedd rhaid
clirio'r rhew oddi ar ffenest flaen y car cyn troi am adre a'r
arwydd - cyfarwydd yn fflachio arnai yr holl ffordd.

Enfys Evans (1)
Roedd wythnos diwethaf yn un bishi ac ma amser wedi
hedfan! Dwi di bod mewn sawl cyfarfod a theithio sawl gwaith ar hyd
yr A44. Ni wedi penderfynu pa gwmni dylunio sy'n mynd ati yn y
flwyddyn newydd i greu logo newydd i CFfI Cymru; fuo ni'n cyfarfod
gyda Dolen Ffermio ynglyn a'r posibilrwydd o gynnig trip i
aelodau'r CFfI i Uganda; a trafodwyd pentref ieuenctid Sioe
Frenhinol Cymru 2011! Ar ôl yr holl drafod roedd hi'n amser am
barti cyn bo swyddfa CFfI Cymru yn cau dros yr wŷl, felly bant a ni
am bryd o fwyd blasus i'r Gelli Gandryll nos Iau. Doedd dim un
pluen eira wedi cwympo yn Builth y noson honno ond pan ddeffres i
bore Gwener roedd y lle yn wyn ac adroddiadau yn cyrraedd o adre
fod yr A44 ar gau! Doedd dim lot o awydd arnai fod yn sownd yn
Builth dros y penwythnos ond ar ôl profiad anymunol yn gyrru adre
dros 'Steddfa ddechrau'r flwyddyn mewn sawl modfedd o eira, doedd
yr opsiwn hynny ddim yn apelio llawer chwaith! Beth bynnag, doed i
benderfyniad a Helen a finne yn ei throi hi am Langurig gyda'n
gilydd - roedd Helen yn mynd i Lanrbynmair felly allen i gyrraedd
Caersws a dala tren o mynny i Aberystwyth. Gorfod i ni glirio rhyw
3 modfedd o eira oddi ar y car cyn cychwyn ar y siwrne, fi a fy
mrws! Er syndod roedd yr hewl i Langurig ddim yn rhy ffôl, ychydig
o slwtsh ond dim byd mawr. Y pishyn gwaetha oedd rhwng Llanidloes a
Llandinam. Glywes i nôl gan Helen wedyn ac roedd 9/10 modfedd yn
Llanbrynmair a'r eira'n dal i gwympo.

Odd hi'n braf iawn cael teithio ar y trên drwy gefn gwlad oedd yn
edrych yn bert iawn yn yr eira a pheidio gorfod poeni am fy sgiliau
gyrru! Dwi'n meddwl ma ar ei wyliau yn Builth fydd y Peugeot bach
dros Dolig nawr! Does dim car wedi gallu mynd ar hyd ein lôn ni ers
dydd Gwener, dim ond cerbydau 4x4, felly dyw car mam na dad di bod
mas o'r garej. Mae fel rinc sglefrio (sy'n golygu fod fy nghi
defaid Nel yn treulio mwy o amser ar ei thin pan ewn ni am wac
druan!) a dim golwg bod yr hewl yn mynd i wella yn y dyddiau
nesaf.

Mae fy nghymydog sydd a fferm ordro ond a hewl arall i fynd ato
wedi gorfod mynd ati i'w glirio ddwy waith, er mwyn rhoi mynediad
i'r lori laeth. Unwaith fore Gwener a wedyn eto fore Sadwrn ar ôl i
sawl modfedd arall o eira gwympo. Mae e hefyd yn fishi yn bwydo'r
defaid tac sydd gyda fe yn ei gaeau, sy'n ychwanegu tipyn mwy o
waith at ei ddiwrnod arferol.

Ma tipyn o eira lawr ar y topiau uwchben Llanfair Clydogau ar fferm
fy Wncwl hefyd. Fues i'n siarad gyda fe nos Sul ar ei benblwydd yn
65, ond doedd e heb gael diwrnod i'r brenin! Roedd problemau wedi
bod gyda'r pibellau dwr ac wrth gwrs ma dadleth y pibellau yn rhan
arferol o'i ddiwrnod yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hefyd roedd
angen symud y defaid lawr o'r caeau top er mwyn gallu mynd ati i'w
bwydo'n haws. Roedd lluwchefydd yn gwneud y dasg hyn yn anodd iawn
a'r 'quad' yn methu mynd i rhai llefydd. Roedd fy chwaer a fy mrawd
yng ngyfraith di gallu mynd ato fe yn y 4x4 i'w helpu gyda'r gwaith
a fel bod e'n cael ei anrhegion penblwydd. Dyw'r eira ma ddim yn
gwneud bywyd ffermwyr yn hawdd o gwbl.

Ddoe, wnes i ddarganfod bydd y 'boiler suit' yn y tywydd oer ma pan
es i allan i fwydo'r wyn hyrddod sydd yn y cae drws nesa'. Pan wnes
i ddechrau ysgwyd y bwced sugarbeat, odd e'n eitha doniol gweld dau
hwrdd oedd ar ôl ar dop y cae yn rhedeg cath i gythrel drwy'r eira
a'r powdr gwyn yn hedfan i bobman o'i cwmpas nhw!  Mae'r wyn
yn joio gorwedd yn y man lle ni di bod yn rhoi'r silage mas iddi
nhw, sai'n beio nhw, ma ishe manteisio ar unhryw beth sy'n mynd i
roi ychydig bach o wres ychwanegol yn y tywdd oer ma! Dwi'n mynd i
wisgo'r 'boiler suit' tipyn mwy!

Teifi Jenkins
Ma' tipyn wedi digwydd ers i mi 'sgrifennu yma ddiwethaf. Ar y
fferm mae'r defaid cyntaf yn agosáu i wyna ar y 5ed o Ionawr. Rydym
eisioes wedi gwahanu'r defaid sy'n cario dau neu dri oen bach wrth
weddill y praidd er mwyn rhoi rhagor o fwyd iddynt.

Mae'r tywydd oer yma yn rhoi'r ddaear i gysgu gyda'r caeau'n
araf iawn yn aildyfu ar ôl y pori, oherwydd hyn rydym yn cynnig
byrnau mawr o silwair i'r defaid i'w helpu i ymdopi â'r
amgylchiadau.

Braf yw nodi fod prisiau'r farchnad ar i fyny wrth i ni
werthu llwyth o wartheg tew i'r lladd-dŷ lleol am bris digon
deche.

Yn ein siop cigydd a delicatessen yn dref farchnad Castell
Newydd Emlyn mae prysurdeb y Nadolig wedi cyrraedd, gydag archebion
am hamperi yn cynnwys cig, cawsiau, alcohol, siocled, jam, a
shytneis yn ein cadw ni'n brysur. Mae'r hamperi sy'n cynnwys rhan
helaeth o gynhwysion Cymreig yn amrywio mewn maint a
phris, o £10 i £150 yn cael eu hanfon i gartrefi dros Brydain Fawr
erbyn hyn.

Hwyl am y tro, siaradai a chi eto cyn y Nadolig.

Enfys Evans
Wel, ges i'n nala mas yn bert fore Gwener diwethaf Tachwedd. On
i wrthi yn pacio i fynd ar dramp i Ayr i benwythnos cystadlaethau
Ffermwyr Ifanc yr Alban a wedyn i'r Ffair Aeaf, pan ddechreuodd yr
eira gwympo. 'Sdim llawer o eira yn cwympo ffor hyn gan bo ni'n
agos i'r môr ond diawch erioed o fewn hanner awr roedd popeth yn
wyn a dros fodfedd o eira ar lawr. Mi nes i benderfynu mynd amdani
a thrio cyrradd maes awyr Bryste, ond nes i ddim hyd yn oed
cyrraedd yr hewl fawr. Dwi yn cydnabod ma' ar y gyrrwr odd y diffyg
mwya' o bosib!

Cafodd y Ffermwyr Ifanc ddau ddiwrnod da yn y Ffair Aeaf a'r
mwyafrif wedi troi allan i gystadlu er gwaethaf'r eira a'r rhew. Mi
wnes i ddechrau ffasiwn newydd gyda fy 'sgidiau cerdded a sanau
trwchus gyda ffrog, ond oni'n dwym ac yn saff ar fy nhraed a dyna
beth oedd yn bwysig! Odd hi'n oer yna, a tymheredd gyda'r nos yn
disgyn yn isel iawn. Dwi'n siwr bod ffermwyr yn falch o gael y
cyfle i ddianc i'r ffair i gael newid o ddadleth pibellau a chario
dŵr sydd wedi bod yn waith ychwanegol iddynt yn ystod y cyfnod oer
yma.

Oni'n sylwi ar yr ŵyn sydd yn y cae drws nesa' yn mynd i'r cloddie
i chwilio gwyrddni oedd yn dod i'r golwg drwy'r flanced o eira. Dwi
'di gweld sawl anifail yn hwpo'i ben allan drwy'r ffens yn edrych
am borfa yng nghanol yr eira ma wrth drafaelu yn ystod yr wythnos
diwethaf.

Odd rhaid fi fynd nôl i Lanelwedd ddydd Gwener i gyfarfod.
Roedd yr hewl yn golew ar y ffordd yno ond ar y ffordd adre tua 4
o'r gloch roedd hi'n bwrw eira eto a phopeth yn dechrau gwynu.
Pwyll pia hi mewn amgylchiadau fel hyn ag roedd hi'n braf cyrraedd
yn ôl lawr i lefel y môr, lle roedd glaw yn hytrach nag eira ar ôl
pasio dros 'Steddfa.

Bethan Griffiths
Dwi erioed wedi teimlo hi mor oer! Oni wedi clywed bod tywydd
oer ar y ffordd ond oni ddim yn disgwyl hi mor oer â hyn chwaith!
Mae'r tywydd 'ma wedi creu digon o drafferthion y dyddiau diwetha'
ma ta beth! Diolch byth am gerbydau 4x4 weden ni! Oni'n lwcus i
gyrraedd adre yn y car wedi i'r eira syrthio'r wythnos diwetha!
Gyda'r tywydd mor oer, a'r caeau dal wedi gorchuddio gan eira a
rhew ma' tipyn o waith bwydo'r anifeiliaid gyda'r defaid a'r
gwartheg yn bwyta tipyn o silwair bellach gan fod dim porfa ar
gael. Hefyd ma hi'n bwysig bod y lori laeth yn medru cyrraedd y
fferm i fynd a'r llaeth i ffwrdd felly penwythnos diwetha' roedd
rhaid mynd allan a thaflu halen ar y rhewlydd ein hunain i helpu'r
lori gyrraedd ein fferm. Cefais ddiwrnod bach yn y Ffair Aeaf dydd
Mawrth ac fe wnaeth imi deimlo'n Nadoligaidd iawn! Roedd rhywbeth
yno at ddant pawb! Roeddwn yn helpu i stiwardio yn y bore, yn y
gystadleuaeth barn stoc y ffermwyr ifanc. Bu cystadlu brwd unwaith
eto eleni! Tipyn o sgil yw beirniadu pedwar anifail, eu gosod mewn
trefn ac yna rhoi rhesymau. Ond sgil bwysig i feithrin ffermwyr y
dyfodol a chadw stoc o safon uchel. Yna ar ôl cinio fe wnes i
fwynhau gweld gweddill y cystadlu a gwylio'r gwerthu, yn ogystal â
gwneud tamed bach o siopa 'dolig hefyd! Diolch byth oni wedi gwisgo
digon o ddillad a llwyddais i gadw'n weddol dwym trwy gydol y dydd.
Dechrau Gaeaf yw hi ond mae wedi creu argraff yn barod! Am faint
eto bydd cyfnod oer tybed?...

Enfys Evans
Ers rhyw bythefnos bellach mae'r da wedi dod mewn o'r caeau i'r
siediau dros y gaeaf. Roedd hyn ynghanol y tywydd garw ond nagyw
hi'n od bod y tywydd yn sychu er yn oeri yn union wedi iddynt cael
eu troi mewn.

Balch iawn on i o gael diwrnod sych ddydd Sadwrn diwethaf ar
gyfer 'Steddfod CFfI Cymru. Roedd hi'n ddiwrnod gret o gystadlu yn
y Neuadd Fawr, Aberystwyth a phawb yn mwynhau y wledd o dalent sy'n
byrlymu ymysg aelodau'r CFfI. Ychydig yn brin oedd y lle gefn
llwyfan, yn enwedig ddechrau'r prynhawn a dyna ddiolch am ddiwrnod
sych i helpu gadw hwyliau pawb yn uchel! 'Sdim yn wath na gorfod
redeg yn ôl ac ymlaen i'r llwyfan gan osgoi cawodydd. Mi fu'r
darllediad o'r 'steddfod ar S4C yn dipyn o lwyddiant a chanmol
uchel wedi bod i'r rhaglen.

Mae'r wythnos yma wedi hedfan ond daeth prawf pellach fod y
flwyddyn yn hedfan heibio hefyd ar fy ymweliad blynyddol i Ffair
Fawr Aberystwyth. Dyw'r 'Dolig ddim ymhell os yw goleuadau llachar
y ffair yn denu pawb i'w grombil wedi eu lapio mewn cotiau mawr,
scarff, menyg ac ambell i het liwgar. Mae gen i swydd bwysig ar y
noson yma, a'r teitl 'daliwr bag swyddogol' yn hunan esboniadwy!
Dwi ddim yn hoff o'r reids ond mi wnes i fentro ar y 'Waltzers' fel
bo fi'n gallu dweud bo fi di trio un reid yn y ffair.

Daeth cyfle ddydd Mercher i finne a fy nghyd-swyddogion gyda
CFfI Cymru gwrdd ac Elin Jones, y gweinidog materion gwledig a
hynny yng Nghaerdydd. Rydym yn lwcus iawn ein bod yn cael y cyfle i
gwrdd a'r gweinidog yn rheolaidd er mwyn cael diweddariad ar brif
bynciau trafod y sector amaethyddol. Mae'n gret fod barn y ffermwyr
ifanc yn cael ei werthfawrogi ac ein bod yn cael ein cynnwys mewn
trafodaethau a daeth gwahoddiad i gynrychiolydd o'r CFfI eistedd ar
banel adolygu Glasdir. Bu sgwrsio helaeth ar CAP a Glasdir yn
ogystal a'r Cynllun Cymorth i Newydd Ddyfodiaid.

Brrrrrrr, yw'r ffordd orau o ddisgrifio bore dydd Iau. Dwi ddim
yn berson bore ond roedd rhaid codi am 4.20am i ddala tren o
Aberystwyth i Lundain am 5.15am. Roedd hi'n rhewllyd iawn tu allan,
ond r'on i wedi grochuddio sgrin flaen y car y noson cynt gan bo
dim chwant arnai fod allan gyda'r de-icer amser hynny o'r bore. A
gredwch chi mae -6°c oedd yn fflachio yn y car? R'on i di gwisgo
fel y 'Michelin man' yn barod ar gyfer taith ar dren oer. Yn
Machynlleth roedd blanced o eira yn orchudd dros y dref, ond welais
i ddim eira wedi hynny ar y daith. A pham wedwch chi on i'n mynd i
Lundain, wel am ginio i Dy'r Arglwyddi. Roedd Arglwydd Plumb yn
gwesteio cinio i ddathlu 150 mlynedd o RABI, i nodi diwedd ei
gyfnod e fel llywydd yr elusen ac i groesawi'r Duke of Gloucster yn
lywydd newydd. Yn wir fues i'n ddigon ffodus o gael eiste o gwmpas
bwrdd o 10 yn cael cinio gyda'r Duke, ond ges i ddim o'r cyfle i
siarad ag e yn anffodus. On i nol yn Aber neithiwr am 9.30pm a sdim
ond un gair i ddisgrifio hyn eto ond brrrrrr.

Pa dywydd ddaw dros y penwythnos tybed? Efallai bod yr awyr coch
dros Llanddeiniol bore ma yn rhyw arwydd i ni achos fel dywed yr
hen ddywediad 'red skies in the morning, sheperds warning'.

Blog Teifi
Wedi wythnos brysur yn paratoi gwartheg ar gyfer sioeau'r
Nadolig, braf oedd cael dangos gwartheg yn y sioe gyntaf sef Ffair
Aeaf Lloegr sy'n cael ei chynnal ym Mhyrmingham.

Ar ôl cystadlu brwd dros dydd Sadwrn a dydd Sul (20fed a 21fed o
Dachwedd) fe gaethom gyntaf a dau drydydd. Dechrau da felly i'r
gaeaf ac edrychwn ymlaen nawr i'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd wythnos
nesa' gyda chwech o'n hanifeiliaid yn cystadlu. Byddaf hefyd yn
treulio amser ar stondin Fferm Ffactor yn hyrwyddo'r gyfres ac
annog rhagor o bobol i gystadlu yn y rhaglen nesaf yn 2011.

Hwyl am nawr ac fe welai chi yn y Ffair Aeaf gyda'r tywydd yn ei
addo i oeri i ni gyd yma yng Nghymru.

Bethan Griffiths
Wel wythnos arall a aeth heibio a dyna beth oedd cawodydd
trymion o law  a daflwyd atom ar ddechrau wythnos diwethaf.
Roedd lefel y dŵr yn afonydd yr ardal yn uchel iawn ar ôl iddi fwrw
mor drwm. Mae ein fferm ni yn ddigon uchel ond mae'r tir serch
hynny yn wlyb iawn ar hyn o bryd. Wrth imi deithio lawr yn agosach
at Ddyffryn Tywi roedd yr afon wedi gorlifo a'r tir ffermio o dan
ddŵr. Bydd hyn yn digwydd yn aml pan fydd cawodydd trymion fel y
cafwyd wythnos diwetha' gyda dŵr o'r ucheldiroedd i gyd yn rhedeg
lawr i'r dyffryn. Tywydd oer a rhewllyd sydd orau gan ffermwyr
yr adeg yma o'r flwyddyn gan fod llai o ddifrod yn cael ei wneud
i'r tir ac yn ôl y rhagolygon fe fydd hi'n oeri!

Roedd Dydd Sadwrn yn ddiwrnod cyffrous a llawn bwrlwm ym myd y
ffermwyr ifanc, gydag un o uchafbwyntiau'r calendr sef yr
Eisteddfod C.Ff.I. Cymru. Roedd y Neuadd Fawr, Aberystwyth yn
orlawn gyda chystadleuwyr a chefnogwyr brwd. Braf oedd gweld y
cyfryngau yn rhoi cyfle i arddangos talentau'r aelodau, a dod a
difyrrwch y dydd i gartrefi dros Gymru gyfan a thu hwnt. Roedd hi'n
brofiad gwych cael cystadlu ar y llwyfan yn cynrychioli Sir Gâr yn
y llefaru unigol dan 26 a daeth y sgets o'n clwb ni i'r brig yn
cynrychioli'r sir hefyd. Ar ôl yr holl waith caled o
baratoi ac ymarfer roedd hi'n awyrgylch wych yn y neuadd a
chael cyfle i gymdeithasu ychydig gyda ffrindiau'r mudiad ar draws
Cymru gyfan. Llongyfarchiadau mawr i bawb!

Enfys Evans
Ar yr hewl fues i dros y penwythnos gan ymweld â Hwlffordd,
Aberhonddu, Llandrindod, Llanelwedd, Caerdydd, Caeredin a Brynbuga
rhwng nos Iau a nos Lun! Do, mi fues i ar ymweliad sydyn â'r Alban
hyd yn oed.

Roedd gwyntoedd cryfion yr wythnos cynt yn parhau ddiwedd
wythnos diwethaf a'r babell a adeiladwyd dros dro ar gyfer gwobrau
Gwir Flas yn Hwlffordd yn cael ei hyrlio'n ddidrugaredd gan y
gwynt. Yn wir, bu rhaid iddynt symud y bar i'r brif sied oherwydd
canllawiau iechyd a diogelwch. Er gwaetha hyn bu'n noson dda ac yn
agoriad llygaid i'r amrywiaeth o'r bwydydd o safon uchel sy'n cael
eu cynhyrchu yma yng Nghymru. Roeddwn yno yn cynrychioli'r CFfI ar
wahoddiad Dunbia oherwydd iddynt hwy ennill gwobr efydd am gynllun
marchnata Cig Oen sy'n cael ei redeg mewn cydweithrediad a'r CFfI a
Sainsburys. Llongyfarchiadau i holl enillwyr y noson.

Tra mod i yn trafaelu Cymru bu'n ddiwrnod bishi dydd Sadwrn ar y
ffarm wrth iddynt ddethol a pharatoi'r ŵyn menwod ar gyfer mynd mas
ar dac.  Roedd angen pâr o 'leggins' ar gyfer y jobyn 'ma yn
ôl dad gan bod hi di bod yn bwrw'n gyson a'r ŵyn yn wlyb. Ma tipyn
mwy o waith gyda symud defaid nawr wrth gwrs gyda'r angen am dagio
dwywaith.

Digon oer oedd hi fore Llun yng Nghaeredin a'r palmentydd wedi
gwynu dros nos. Ro'n i yno ar gyfer cyfarfod y 5 gwlad, sef
mudiadau ffermwyr ifanc yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac
Iwerddon yn dod ynghyd i rannu profiadau a thrafod syniadau. Cyfle
gwych i ddysgu mwy am yr hyn sy'n mynd ymlaen yn y gwledydd eraill
a gobeithio bydd cyfle i gydweithio ar brosiect newydd 5 gwlad yn
ystod 2011. 'Dwi wastad yn synnu pa mor gloi ma tywydd yn gallu
newid o fewn pellteroedd cymharol fach. R'on i'n trafaelu adre ar y
M4 yn hwyr nos Lun ac mi brofais gawodydd trymion o law gyda dŵr yn
tasgu oddi ar y draffordd, yna cyfnodau sych heb dystiolaeth o law
diweddar, yna niwl trwchus a phrin fy mod yn gallu gweld 100 metr
o'm mlaen. Roedd y tymheredd wrth gwrs yn amrywio hefyd a nos Lun
Alltwalis, Sir Gâr oedd y man lle bu'n nhraed ar eu hoeraf gyda
thymheredd o -3°c yn fflachio yn y car.

Heddi mae'r ŵyn menwod wedi cyrraedd ar eu gwyliau dros y gaeaf
o ochrau Llanbed yn agosach i'r arfordir yma yn Llanddeiniol. Mi
fyddaf yn gallu cadw llygad ar rai ohonynt allan o ffenest fy
'stafell wely nawr ond wrth i'r glaw ddisgyn dros amser cinio a'r
haul dorri mas drwy'r cymylau ymddangosodd Enfys arall yn yr awyr
i'w cyfarch hefyd.

Bethan Griffiths
Bore bach digon oer oedd hi heddiw. Roedd hi dal yn rhewi yn ôl
y tymheredd ar y car! Wel 'ma wythnos arall wedi hedfan. Dwi ddim
yn gwybod i ble mae'r dyddiau yn mynd mor gloi. Efallai bod hi'n
rhywbeth i wneud â'r ffaith fod y dyddiadur wedi bod  mor
llawn! Ni chefais i lawer o gyfle'r wythnos yma i helpu ar y fferm,
gyda dyletswyddau arall yn galw. Roedd fy mrawd adref o'r Brifysgol
y penwythnos hwn felly fe gafodd yntau gyfle i helpu adref tra bues
innau yn cymryd rhan mewn tipyn o weithgareddau amrywiol mudiad y
Ffermwyr Ifanc. Dydd Sadwrn roeddwn yn cystadlu yng nghystadleuaeth
Siarad Cyhoeddus y Sir yn y Saesneg. Siarad ar ôl cinio oedd y dasg
i'r adran hŷn eleni, a braf oedd gweld cynifer o bob adran yn
cymryd rhan. Mae'n sgil pwysig iawn i bobl ifanc ac mae fy
nyled i'n fawr i'r Mudiad am lwyfannu cystadleuaeth o'r
fath, sydd wedi fy ngalluogi i, a nifer o rai eraill i
fagu hyder i fynd ati i siarad yn gyhoeddus.

Yna Dydd Sul roedd hi'n Ddiwrnod Briffio a Dethol Teithiau
Tramor Cymru yn Llanfair-ym-Muallt. Diwrnod arbennig ar gyfer
cael hanes y cyfranwyr a fuodd ar deithiau dros y flwyddyn a fu yn
cynrychioli'r mudiad ac yna  roedd cyfweliadau ar gyfer
teithiau at y flwyddyn sydd i ddod. Cefais y fraint y llynedd o
deithio gyda'r mudiad i Seminar yr Hydref oedd wedi'i drefnu gan
'Rural Youth Europe' sef yr ymbarél ar gyfer mudiadau ieuenctid
gwledig ar draws Ewrop. Lleoliad y Seminar oedd Ayr yn yr Alban ac
mae'n rhaid dweud roedd hi'n wythnos fythgofiadwy lle gwnes i lawer
o ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd am y byd gwaith wrth
fynychu nifer o weithdai arbenigol oedd wedi cael eu trefnu ar ein
cyfer yn ymwneud â thema'r wythnos sef 'Make It Work'. Braf yw cael
dweud cefais fy newis dros y penwythnos i deithio fel rhan o dîm
i'r Rali Ewropeaidd haf nesaf. Dwi methu aros! Mae'n dipyn o
anrhydedd i mi gael teithio i Slofenia lle lleolir y rali'r
flwyddyn nesaf fel aelod  o dîm o 5 o Gymru a fydd yn
llysgenhadon i'r mudiad ffermwyr ifanc yng Nghymru. Rwy'n hapus
dros ben ac yn edrych ymlaen at y profiad yn barod!

Enfys Evans
Ym mhentref bach Llanddeiniol mae fy nghartref i ac er nad yw'n
nheulu yn byw ar fferm mae yna gysylltiadau agos. Yn wir ma dad yn
ei throi hi am Lanfair Clydogau bob dydd Sadwrn i fferm fy Wncwl
lle bydd yn cynorthwyo gyda'r jobsys mawr sy'n cael eu cadw i'r
penwythnos! Dwi wrth fy modd yn mynd i'r fferm hefyd ond ma amser
yn brin ar hyn o bryd oherwydd fy rôl fel cadeirydd CFfI Cymru ac
yn aml dwi ar dramp i bob cwr o Gymru.

Dwi'n dal i ddod i arfer a'r newid yn yr awr, ma hwn di dwysáu'r
tywydd garw ry' ni wedi'i brofi dros yr wythnos dwethaf. Mae codi
mas gyda'r nos i fynd i gyfarfod yn dipyn anoddach pan mae'r tân ar
gyn yn y 'stafell fyw, y gwynt yn chwythu ac mae mor ddu â bola
buwch tu allan (neu falle bo fi'n dechre mynd yn hen!). Dros y
penwythnos mi fues i ar dramp i Eisteddfod CFfI Maldwyn yn
Llanidloes. Mi wnes i fwynhau gwylio'r cystadlu dros y cwpl o oriau
fues i yno, ond dim cweit cystal oedd y siwrne adre dros 'Steddfa
mewn glaw cyson a thrwm. Galwes i mewn yn hwyrach mlan nos Sadwrn i
noson agored yn Sgubor Tylau, bwyty newydd fy ffrind a'i theulu yn
Bwlchllan ac yn wir i chi tra buon ni'n glyd tu fewn mi fu hi'n
bwrw cesair. Ma'r gaeaf yn cau amdanom erbyn hyn.

Daeth mwy o dystiolaeth o hynny neithiwr pan es i nol i'r car
wedi cyfarfod ar faes y Sioe yn Llanelwedd. Roedd y tymheredd yn
0°c a'r sgrin fach ar y car yn fflachio 'ice alert' arnai. Dim y
noson orau i anghofio'n nghot fawr yn y stafell gyfarfod! A do yn
wir wrth ei throi hi am adre mi welais raean ar yr hewl am y tro
cyntaf eleni a phasio'r lori graean ychydig yn ddiweddarach. Dwi'n
siwr ma dyma'r tro cyntaf o lawer bydd y lori raean a minnau yn
cyd-yrru ar hyd hewlydd Cymru dros y gaeaf!

Bethan Griffiths (1)
Digon stormllyd yw hi wedi bod yn ystod wythnos gyntaf Tachwedd
gyda sawl diwrnod o gawodydd trymion. Wrth imi deithio i'r gwaith
gwelais sawl cangen a dail di-ri ar hyd y ffordd, ac un noson roedd
y rhewl y byddai'n ei defnyddio fel arfer ar gau gyda choeden
fawr wedi cwympo! Diolch byth roedd yna ffordd arall y
gallwn fynd er mwyn cael cyrraedd adref y noson honno!

Cefais benwythnos digon prysur ar y fferm, a threuliais y rhan
fwyaf o'm hamser yn helpu Dad i sortio'r defaid allan. Roedd 200 o
ddefaid ifanc a ŵyn benyw yn mynd allan ar dac dros y Gaeaf.
Mae'n rhaid chwilio am borfa ychwanegol i'r stoc gan ei fod yn
prinhau adeg yma o'r flwyddyn. Felly roedd rhaid eu rhannu a'u
paratoi yn barod i fynd i ffwrdd i fferm ger Caerfyrddin. Cefais
ddigon o ymarfer corff hefyd yn rhedeg ar ôl ambell ddafad benwen,
oedd yn benderfynol o fynd rhyw ffordd arall! Dyna ddefaid i
chi! Byddant yn dod yn ôl i'n fferm ni adeg y Gwanwyn cyn i gyfnod
yr wyna ddechrau.

Nos Sadwrn mi fues i yng nghinio Cadeirydd a Llywydd,
Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gâr. Mae'r flwyddyn gyfansoddiadol
yn dod i'w therfyn yn ein sir ni a swyddogion newydd ar fin cael eu
hethol. Roedd hi'n noson arbennig i sôn am lwyddiannau Sir Gâr o
dan arweiniad ein Cadeirydd Mr Owen Davies a'n Llywydd Mr Hugh
Richards. Mae calendr y C.FF.I. bob amser yn llawn dop a braf
oedd cael cyfle i edrych nôl a chymdeithasu ymysgu ffrindiau'r
mudiad!

Blog Teifi Jenkins (enillydd Fferm Ffactor)
Wedi cael hydref cymharol sych a mwyn ar y cyfan, gyda'r
gwartheg yn mwynhau allan, braf ydi nodi fod yr holl wartheg
bellach dan do yn barod i'w gaeafu. Gyda'r tywydd wedi troi wythnos
yma rydym wedi bod yn hel defaid allan i bori ar ffermydd yn
sir Benfro, ac wedi prynu dros 300 o wyn stor i'w tewhau yn ystod y
gaeaf ar 21 erw o "stuble turnips".

Amser yma o'r flwyddyn mae pawb wrthi yn torri cloddiau, rydym
wedi gorffen adref ac mae'r peiriant bellach nôl yn y sied am
flwyddyn arall.

Dydd Gwener (29.10.10) buom yn marchnad Aberhonddu a braf yw
gweld prisiau yn dal eu tir er fod gaeaf drud o'm blaenau
i borthu'r anifeiliaid gan fod prisiau dwysfwyd, gwellt a thanwydd
yn mynd i fyny yn wythnosol.

Rwyf wedi porri trwy canllawiau "Glastir" ond heb ddod i
benderfyniad pendant eto a fydd yn addas ar gyfer ein fferm ni
yn Tŷ Hen, felly hwyl i chi am y tro.

Blog Bethan
Merch fferm o Sir Gaerfyrddin wyf fi, sy'n gweithio llawn amser
gyda Menter Iaith leol ond hefyd yn byw gartref ar y fferm ac yn
cynorthwyo'n rheolaidd ar y fferm deuluol, sy'n cynnwys gwartheg
godro, ychydig o wartheg sugno a defaid.  Gyda'r Hydref ar ei
anterth a'r coed yn dadwisgo'u dail mae'r dydd bellach yn byrhau.
Mae hi wedi troi'n wlyb gyda chawodydd trymion yn ddiweddar. Mae'r
tywydd effeithio ar y tir sydd bellach yn ddirlawn gan achosi i'r
anifeiliaid adael olion traed dwfn yn y bylchau a'r caeau sy'n
troi'n fwdlyd yn gyflym iawn. Caiff y gwartheg eu symud dan do
erbyn hyn i glwydo am y Gaeaf. Digon oer oedd hi neithiwr hefyd
wrth i mi gael fy neffro yn oriau mân y bore gan fy nhad yn galw
bod angen help i dynnu llo! Lapiais yn gynnes cyn mentro allan i'r
tywyllwch! I fod yn onest ond ychydig oriau oni wedi bod yn cysgu
gan fy mod wedi bod yn y Clwb Ffermwyr ifanc y noson honno yn
ymarfer tuag at yr Eisteddfod. Cyfnod prysur iawn yw hi i'r mudiad
ymhob clwb a  sir, gyda blwyddyn newydd llawn top o
weithgareddau wedi cychwyn. Y swyddogion yn brysur yn trefnu a'r
aelodau yn paratoi yn ddyfal at y cystadlu. Cyfnod yr Eisteddfod yw
hi ymhob sir bron ar hyn o bryd, gydag amrywiaeth eang o
gystadlaethau i ddiddanu pawb o bob oedran; o'r adran ysgafn fel y
sgets a'r ddeuawd ddoniol, i'r canu corawl,  unawdau a'r
llefaru.  Ceir digon o amrywiaeth i ddiddanu pawb o bob oed.
Bydd Eisteddfod C.Ff.I. Cymru yn Aberystwyth felly os bydd
llwyddiant, efallai cawn fynd am dro yno i gynrychioli Sir Gâr!