Wel mae'r tywydd sych a gaethon ni yng nghynt yn y flwyddyn
i weld ym mhell yn ôl nawr, ac mae'n anodd iawn credu bod
rhannau o'r DU yn dal i ddioddef o sychder. Cafodd y
gwartheg eu troi allan yn gynnar eleni ond mae'n ddigon posib y
byddwn yn ystyried dod a nhw nôl mewn os wneith y tywydd yma
barhau a'r caeau yn troi'n wlypach. Mae'r defaid a'r ŵyn yn
cael tipyn o amser caled hefyd, dy'nhw ddim yn gwerthfawrogi'r
holl dywydd gwlyb yma. Fyddai pethau ddim mor wael petai'r porfa'n
tyfu, ond mae'n debyg nad yw'r pridd yn ddigon mwyn
i hybu'r tyfiant. Rydym hefyd wedi derbyn canlyniadau ein
profion pridd, ac roeddwn yn hapus i weld bod lefelau'r prif
faetholion (Nitrogen,Potasiwm a Ffosfforws) yn dda iawn ar y cyfan,
er hyn mae'r pridd yn eithaf asidig, a rydym wedi cael ein cynghori
i roi dwy dunnell yr erw o galch ar y ddaear er mwyn
cywiro'r pH.
Fel cadeirydd CFfI Cymru, mae o hyd yn amser prysur. Penwythnos
diwethaf mi fues i'n ddigon ffodus i gael
gwahoddiad i fynd allan i Ogledd Iwerddon am CCB CFfI Ulster.
Penwythnos yma rwy'n bwrw lawr i Torquay am CCB CFfI Cymru a Lloegr
(dw i heb ysgrifennu fy araith eto!!) Hefyd mae yna nifer o
ddiwrnodau gwaith maes wedi bod yn ddiweddar gan ddiweddu gyda
diwrnod gwaith maes CFfI Cymru yn Aberhonddu. Fydd y siroedd nawr
yn dechrau paratoi ar gyfer eu Rali Sirol ac yn edrych ymlaen tuag
at y Sioe Frenhinol. Siarad am y Sioe, rwyf newydd edrych ar y
dyddiadur a newydd sylwi fod rhywbeth 'mlaen pob
penwythnos tan hynny. Felly digon i fy nghadw'n
fishi!!
Rwyf wedi bod allan yn ymarfer ar y beic yn ddiweddar hefyd,
araf bach mae pethau'n dod, ond rwyf yn llwyddo i gael mwy a mwy o
amser ar gefn y beic, a gobeithio wrth i'r diwrnodau ymestyn mwy a
mwy (a sychu gobeithio) gai fwy o amser. A gan bod 500 milltir
'da fi i feicio, ma ishe cymaint o amser ymarfer
a fedra i ei gael!
Oh a bron i mi anghofio, raid i mi longyfarch fy
nghwraig, Louise. Yn yr wythnosau diwetha' mae hi wedi cael ei
dewis fel Llysgenhades CFfI Sir Gar am 2012/13, mae'n uchelgais
ganddi ers blynyddoedd bellach ac rwyf yn hapus iawn drosti. Edrych
mlaen i'w gweld hi yn ei ffrog newydd ar diwrnod Rali CFfI Sir
Gâr ar y 5ed o Fai.
Tan tro nesa',
Beefy