S4C

Ebrill 2012

Dyddiadur llawn!!!

Wel mae'r tywydd sych a gaethon ni yng nghynt yn y flwyddyn i weld ym mhell yn ôl nawr, ac mae'n anodd iawn credu bod rhannau o'r DU yn dal i ddioddef o sychder. Cafodd y gwartheg eu troi allan yn gynnar eleni ond mae'n ddigon posib y byddwn yn ystyried dod a nhw nôl mewn os wneith y tywydd yma barhau a'r caeau yn troi'n wlypach. Mae'r defaid a'r ŵyn yn cael tipyn o amser caled hefyd, dy'nhw ddim yn gwerthfawrogi'r holl dywydd gwlyb yma. Fyddai pethau ddim mor wael petai'r porfa'n tyfu, ond mae'n debyg nad yw'r pridd yn ddigon mwyn i hybu'r tyfiant. Rydym hefyd wedi derbyn canlyniadau ein profion pridd, ac roeddwn yn hapus i weld bod lefelau'r prif faetholion (Nitrogen,Potasiwm a Ffosfforws) yn dda iawn ar y cyfan, er hyn mae'r pridd yn eithaf asidig, a rydym wedi cael ein cynghori i roi dwy dunnell yr erw o galch ar y ddaear er mwyn cywiro'r pH.

 

Fel cadeirydd CFfI Cymru, mae o hyd yn amser prysur. Penwythnos diwethaf mi fues i'n ddigon ffodus i gael gwahoddiad i fynd allan i Ogledd Iwerddon am CCB CFfI Ulster. Penwythnos yma rwy'n bwrw lawr i Torquay am CCB CFfI Cymru a Lloegr (dw i heb ysgrifennu fy araith eto!!) Hefyd mae yna nifer o ddiwrnodau gwaith maes wedi bod yn ddiweddar gan ddiweddu gyda diwrnod gwaith maes CFfI Cymru yn Aberhonddu. Fydd y siroedd nawr yn dechrau paratoi ar gyfer eu Rali Sirol ac yn edrych ymlaen tuag at y Sioe Frenhinol. Siarad am y Sioe, rwyf newydd edrych ar y dyddiadur a newydd sylwi fod rhywbeth 'mlaen pob penwythnos tan hynny. Felly digon i fy nghadw'n fishi!!

 

Rwyf wedi bod allan yn ymarfer ar y beic yn ddiweddar hefyd, araf bach mae pethau'n dod, ond rwyf yn llwyddo i gael mwy a mwy o amser ar gefn y beic, a gobeithio wrth i'r diwrnodau ymestyn mwy a mwy (a sychu gobeithio) gai fwy o amser. A gan bod 500 milltir 'da fi i feicio, ma ishe cymaint o amser ymarfer a fedra i ei gael!

 

Oh a bron i mi anghofio, raid i mi longyfarch fy nghwraig, Louise. Yn yr wythnosau diwetha' mae hi wedi cael ei dewis fel Llysgenhades CFfI Sir Gar am 2012/13, mae'n uchelgais ganddi ers blynyddoedd bellach ac rwyf yn hapus iawn drosti. Edrych mlaen i'w gweld hi yn ei ffrog newydd ar diwrnod Rali CFfI Sir Gâr ar y 5ed o Fai.

 

Tan tro nesa',

 

Beefy

Yn ôl i'r brig

 

Rali, 'priodas' a pharti!

Helo!

 

Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw'n iawn.

 

Mae'n eithaf oer yma yn Sir Fôn ar hyn o bryd. Mae'r ŵyna wedi gorffen erbyn hyn, ac felly mae'r ŵyn bach i gyd allan yn mwynhau yn y caeau. Mae'r gwartheg godro allan ers ryw dair wythnos bellach ac yn wir mae gwair da yn gwneud byd o les. Pan yn godro gallwch weld y gwahaniaeth o ran safon a'r cynnydd yng nghyfanswm terfynol y llaeth.

 

Mae'r amser wedi dod ar gyfer un o uchafbwyntiau calendr y Ffermwyr Ifanc sef y Rali flynyddol. Ac wrth gwrs, mi fydd yr enillwyr i gyd yn mynd yn eu blaenau i'r Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf. Thema'r flwyddyn hon yw 'Priodas', felly mi fydd y rhan fwyaf o'r cystadlaethau yn gystylliedig â'r thema. Thema diddorol iawn i ddweud y gwir (dw i wrth fy modd 'efo priodasa'!!) .Mi fydd yna amryw o gystadlaethau'n cael eu cynnal fydd yn siwtio pob aelod- o grefft, i ddawnsio, i ganu, i dynnu rhaff!! Mae yna ddigon o ddewis! Rydym wedi penderfynu pa aelodau fydd yn cymryd rhan mewn gwahanol gystadlaethau ac rydym wedi cychwyn ar ambell gystadleuaeth yn barod. Mae'r hogia' ar hyn o bryd wrthi'n adeiladu'r arwydd! Mae hon yn gystadleuaeth ychwanegol er mwyn hyrwyddo'r Rali o gwmpas y sir, felly mae pob clwb yn gyfrifol am wneud arwydd a'i osod o fewn eu cylch nhw. Os ydych yn yr ardal ar y 12fed o Fai, dewch i safle Sioe Môn yn Mona, Llangefni i gefnogi ac i ymuno yn yr hwyl!

 

Roedd gan y Mudiad barti nos Wener i ddathlu, llongyfarch ac i ddiolch i'n Llywydd sirol am ei holl waith dros y flwyddyn diwetha'! Rydym wedi bod yn lwcus iawn i ddweud y gwir i gael llywydd mor frwdfrydig a pharod ei help mewn unrhyw sefyllfa!! Penderfynwyd i roi thema i'r noson, ac felly gwisgodd aelodau'r Ffermwyr Ifanc fel staff 'Casualty' ar y noson...roedd y parti'n llawn doctoriaid, nyrsus a chleifion!!

 

 

Diolch yn fawr i chi am ddarllen,



Hwyl am y tro,

 

Siân Pierce Roberts

Yn ôl i'r brig