Neidio at y cynnwys

S4C

Ŵyna, adeiladu, Pantos a beicio

Wel mae'r gaeaf mwyn wedi mynd ac mae'r gaeaf oer wedi dod i'n croesawu!! Erbyn hyn rydym wedi cael nifer o nosweithie ble mae'r tymheredd wedi cwympo ym mhell o dan y rhewbwynt ac yn anffodus mae hyn wedi achosi i rai o'r pibau dŵr rewi yn y siedau (yn ogystal a'r garafan!!). Ar wahân i'r pibau'n rhewi (sydd wedi dadleth yn itha rhwydd ar y cyfan), dyw'r tywydd ddim wedi peri gormod o drwbl i ni, gan fod y stoc i gyd mewn ar y silwair. Edrych 'mlan fyddwn ni i weld pa mor hir fydd y tywydd oer yn para, oherwydd s'dim gobaith i'r borfa dyfu pan mae hi mor oer a hyn!!

Mae'r defaid 'di bod mewn ers dros fis bellach, ac mae amser ŵyna rownd y gornel, felly mae digon o ddiwrnode hir a nosweithie byr o'n blaenau ni. Pan ddaw ein ŵyn cyntaf wnai drial rhannu'r lluniau gyda chi yma. Mae'r tŷ wedi symud yn ei flaen yn gyflym dros y mis diwetha', ond wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen mae'r biliau yn pentyrru, a s'dim sôn am bethau'n gwella gan bod mwy o gostau am waith sydd dal ar ôl i'w wneud!! O wel, ma'n rhaid palu 'mlan!

Mae amser prysur o'n blaenau gyda'r Ffermwyr Ifanc hefyd, gyda nifer o glybiau ar hyd a lled Cymru'n paratoi i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth pantomeim eu sir. Mae gwahoddiadau wedi cyrraedd i fynd i wylio'r Pantomeims mewn sawl sir, ond yn anffodus ni fyddaf yn medru mynychu pob un, ond mi fydda i'n gwneud fy ngorau i fynd i gymaint ag y medra i. Rwy'n edrych ymlaen i wylio talent y CFfI ar y llwyfan unwaith eto.

Nes i weud tro diwetha' fy mod yn mynd allan i siopa am feic, ac rwyf yn medru dweud yn awr fy mod wedi prynu un. Y rheswm? Wel er mwyn codi arian tuag at Elusen y Flwyddyn - CFfI Cymru sef Ambiwlans Awyr Cymru. Rwyf wedi penderfynu gwneud taith feicio gan ymweld â phob swyddfa sirol y CFfI yng Nghymru yn ogystal a y 3 maes awyr y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu ohonynt. Fydd yn dipyn o her i mi (yn enwedig o ystyried pa mor "unfit" i fi!!), ond rwy'n benderfynol o dod i ben a'r daith 500 milltir er mwyn codi arian i'r achos da yma. Rwyf newydd dachre tudalen newydd ar Facebook i hybu'r ymgais, felly os ydych eisiau mwy o wybodaeth am "Daith Feicio Beefy" dilynwch y linc yma http://on.fb.me/xdu6U3 . Mi fydda i'n diweddaru'r dudalen yma gyda dyddiadau a'r wybodaeth ddiweddara'. Os oes gennych unrhyw 'dips' i mi, neu os fedrwch fod o unrhyw gymorth ar y ffordd, plis cysylltwch â mi.

Wel dyna ddigon am nawr, rwyf am fynd am sbin ar y beic newydd!

Hwyl am y tro