Neidio at y cynnwys

S4C

Gwaith graenus bois!

Nid wyf i erioed wedi bod yn un am dywydd oer - ond drwy bob cawod o eira a phob hyrddiad o wynt, mae cyfrifoldebau'r ffarmwr yn parhau.

 

 

Cadw fynd yw'r nod. Ymhlith y tasgau sydd wedi bod fy nghadw'n fisi yn ystod yr wythnosau diwethaf mae edrych ymlaen tuag at dymor yr ŵyna. Mae'r paratoadau wedi hen ddechrau erbyn hyn. Bues i ati yn pigo hyrddod addas ar gyfer ein defaid bridio ym Marchnad Ddefaid Crymych ar ddiwedd mis Medi. Yna cafodd yr hyrddod eu cyflwyno i'r ddiadell hynny o ryw 130 ar y 5ed o Dachwedd; pedwar hwrdd lwcus iawn. Mae dafad yn feichiog am ychydig yn llai na 5 mis, felly os yw'r hwrdd yn cael ei gyflwyno ar Noson Guto Ffowc (5ed o Dachwedd), dylid disgwyl ein ŵyn cyntaf ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill (1af o Ebrill). Mae ambell un ar y llaw arall yn penderfynu ŵyna'n gynharach er mwyn manteisio ar brisiau uwch y farchnad yn ystod Gwyliau'r Pasg. Dylid cofio serch hynny fod costau cynhyrchu uwch i'w hystyried, yn ogystal a tywydd garw o bosib. Un o'r rhesymau pennaf ein bod ni fel teulu yn penderfynu ŵyna yn ystod mis Ebrill yw bod tyfiant porfa ar ei orau erbyn hynny. Golyga hyn y gallwn droi'r defaid a'u ŵyn allan yn gynharach ac o ganlyniad, disgwylir costau is. Y cyn lleied o sieciau dylid Mam i'w arwyddo'r gorau! Croesawir amodau tywydd ffafriol y gwanwyn er lles yr ŵyn bach, ac wrth gwrs mae'n wyliau Pasg i finne' ac Aled i ffwrdd o'r ysgol a'r brifysgol er mwyn fod gartre' ar y fferm i fugeilio'r defaid. Ar ddiwedd Ionawr, buom yn sganio'r ddiadell (fel gynt y gwartheg) am feichiogrwydd er mwyn rhagweld beth allwn ddisgwyl pan ddechreuwn ŵyna. Rhyddhad oedd darganfod fod y rhan helaeth o'r ddiadell yn disgwyl gyda dros 80 ohonynt yn disgwyl gefeilliaid. Gwaith graenus bois! Mae'n ymddangos fod yr hyrddod a ddewisais wedi cymryd eu gwaith o ddifri, dim whare'! Edrychwn ymlaen at groesawi'r newydd ddyfodiad bach a ddaw dechrau Ebrill. Dwi ddim yn siŵr os ydw i'n edrych ymlaen at y prinder cwsg cymaint cofiwch!

 

 

Ar y 23ain o Ionawr, fe ddaeth amser i ffarwelio a gweddill ŵyn tew'r tymor diwethaf. Serch hynny, penderfynais gadw un oen gwryw eleni fel hwrdd 'Suffolk' ifanc. Clywch fwy amdano yn agosach i fis Medi dwi'n siŵr. Ond i weddill yr ŵyn tew gwelwyd unwaith yn rhagor fasnach frwd yn Mart Aberteifi er gwaethaf yr oerfel. Soniais mewn blog blaenorol cyn y Nadolig am brisiau o ryw £99.50 y pen. Nodir fod hinsawdd economaidd Ewrop wedi gadael dylanwad nodedig ar berthynas yr ewro (€) yn erbyn y bunt (£), yn bennaf oherwydd ansicrwydd dyfodol gwlad Groeg. O ganlyniad i ddibyniaeth diwydiant amaeth Cymru ar allforio, mae prisiau'r farchnad wedi gostegu braidd. Er cawlach Ewropeaidd, llwyddais i werthu'r ŵyn am £92 y pen yn ogystal â sicrhau pris uchel i'r cilo (kg) - canlyniad addawol!

 

 

 Buom hefyd yn weithgar iawn gyda'r gwartheg yn ddiweddar. Buom yn diddyfnu'r lloi oddi wrth eu mamau rhyw fis yn ôl, hynny yw eu gwahanu gan eu bod yn 8 mis oed. Yn ogystal, fues i ac Aled yn ail dagio'r rheini a oedd wedi colli eu tag. Mae'n bwysig dros ben er mwyn sicrhau ein bod ni ffermwyr yn gweddu gyda mesurau disgwyliedig y Cynulliad. Ac yna finne' a mam yn palu trwy'r gwaith papur - gwir ymdrech deuluol.

 

 

 Ambell i ddigwyddiad nodedig arall - llongyfarchiadau mawr i griw pantomeim CFfI Hermon ar faeddu Eglwyswrw er mwyn parhau i'r rownd nesaf yn Llandudno. Pob hwyl i'r criw gyda'u hymdrechion! Fues i hefyd yn rhan o'r gyfres newydd o Jacpot yn ddiweddar ar S4C, profiad gwefreiddiol! Dim jacpot y tro 'ma, ond daw cyfle i gystadlu yn yr ail gyfres eto - ffeili aros! Yn fy mlog nesaf soniaf ychydig yn fwy am baratoadau'r tymor ŵyna yn ogystal â sôn ychydig am ddiwrnod gwaith maes y Clwb Ffermwyr Ifanc. Cofiwch gadw'n sych yn y glaw trwm 'ma!

 

 

Tan hynny - cymerwch ofal a diolch am ddarllen,

 

 

Carwyn Bwlchclaw'.