Tydi amser yn fflio? Mae'n fis Chwefror yn barod! Y
siopau'n llawn rhosod a siocled gyda'r ŵyau Pasg yn dilyn tu ôl
iddynt. Yn wahanol i ambell ardal yng Nghymru, dwi'n ama fod Sir
Fôn wedi bod yn lwcus iawn o ran yr eira - dim eira i ni hyd yn
hyn! Ond yn bendant mae'r tywydd wedi bod yn arw iawn gyda'r
tymheredd yn disgyn, â chryn dipyn o rew ar y ddaear. Gyda
oriau gwaith ffermwyr yn cynyddu yr adeg yma o'r
flwyddyn achos yr ŵyna mae'r tywydd yn ddifrifol o
oer. Mae mam wastad yn dweud "mai'n dywydd long-johns!!"
Mae'r tywydd yn effeithio ar bawb, hyd yn oed Pencampwriaeth y Chwe
Gwlad gyda gêm Ffrainc yn erbyn Iwerddon yn cael ei ohirio dros y
penwythnos! Ond yn sicr nid oedd y tywydd yn effeithio dim ar
perfformiad ein Tîm Cenedlaethol y penwythnos yma -
gyda'r sgôr terfynol ar 27 i Gymru a 13 i'r Alban! Mae'r goron
driphlyg yn agosáu a gan groesi bysedd - bydd y bois yn dychwelyd
gyda'r Bencampwriaeth!
'Dwi'n gobeithio bod chi gyd wedi mwynhau rhaglen 'Ffermio'
wythnos diwetha'! Yn enwedig y darn gan C.Ff.I Ynys Môn!
Syniad gwerth chweil i ddweud y gwir. Mae'n rhoi cyfle i chi
gyd weld beth mae'r Mudiad yn ei wneud tu ôl i'r cystadlu! Sôn
am 'gystadlaethau' mae'r Panto yn cymryd siâp! Dim ond ychydig dros
wythnos i fynd... gwisgoedd - tic! Props - tic! Dysgu'r sgript -
hanner tic! Set - hanner tic! Rwy'n ama mai brwsh paent fydd yn fy
llaw i bob nos wythnos yma! Braf darllen blog diweddara'
Dylan am y daith feicio! Mi fyddwn i'n edrych 'mlaen i dy groesawu
'di yma i Fôn a nawni'n siwr fod 'na banad a bisgedan yn dy
ddisgwl di!
Roedd gennai wythnos i ffwrdd o'r Brifysgol wythnos
diwetha' ac felly roeddwn yn brysur yn helpu mam gyda'i busnes
coginio. Nid wythnos arferol o goginio oedd hi wythnos yma ond
wythnos ddiddorol iawn gan inni gael cyfarfod gyda chyn-brynwr
'Harrods' a 'Fortnum and Mason' gan fod diddordeb yng nghynyrch Mam
yn Llundain! Rwyf yn falch iawn ohoni! O fusnes bach, mae'n cynyddu
bob diwrnod! I Sôn am fy lleoliad gwaith gyda'r
Brifysgol, ar hyn o bryd rwy'n ffarwelio gyda'r ysbyty ac yn mynd
yn ôl i'r gymuned am gyfnod. Rwy'n falch o ddweud mod i wedi pasio
bob un o'r arholiadau mis Ionawr ac felly un cam yn
nes!
Diolch i chi am ddarllen!
Tan y tro nesaf... Cymerwch ofal!
Siân Pierce Roberts