Neidio at y cynnwys

S4C

Chwefror 2012

Gwaith graenus bois!

Nid wyf i erioed wedi bod yn un am dywydd oer - ond drwy bob cawod o eira a phob hyrddiad o wynt, mae cyfrifoldebau'r ffarmwr yn parhau.

 

 

Cadw fynd yw'r nod. Ymhlith y tasgau sydd wedi bod fy nghadw'n fisi yn ystod yr wythnosau diwethaf mae edrych ymlaen tuag at dymor yr ŵyna. Mae'r paratoadau wedi hen ddechrau erbyn hyn. Bues i ati yn pigo hyrddod addas ar gyfer ein defaid bridio ym Marchnad Ddefaid Crymych ar ddiwedd mis Medi. Yna cafodd yr hyrddod eu cyflwyno i'r ddiadell hynny o ryw 130 ar y 5ed o Dachwedd; pedwar hwrdd lwcus iawn. Mae dafad yn feichiog am ychydig yn llai na 5 mis, felly os yw'r hwrdd yn cael ei gyflwyno ar Noson Guto Ffowc (5ed o Dachwedd), dylid disgwyl ein ŵyn cyntaf ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill (1af o Ebrill). Mae ambell un ar y llaw arall yn penderfynu ŵyna'n gynharach er mwyn manteisio ar brisiau uwch y farchnad yn ystod Gwyliau'r Pasg. Dylid cofio serch hynny fod costau cynhyrchu uwch i'w hystyried, yn ogystal a tywydd garw o bosib. Un o'r rhesymau pennaf ein bod ni fel teulu yn penderfynu ŵyna yn ystod mis Ebrill yw bod tyfiant porfa ar ei orau erbyn hynny. Golyga hyn y gallwn droi'r defaid a'u ŵyn allan yn gynharach ac o ganlyniad, disgwylir costau is. Y cyn lleied o sieciau dylid Mam i'w arwyddo'r gorau! Croesawir amodau tywydd ffafriol y gwanwyn er lles yr ŵyn bach, ac wrth gwrs mae'n wyliau Pasg i finne' ac Aled i ffwrdd o'r ysgol a'r brifysgol er mwyn fod gartre' ar y fferm i fugeilio'r defaid. Ar ddiwedd Ionawr, buom yn sganio'r ddiadell (fel gynt y gwartheg) am feichiogrwydd er mwyn rhagweld beth allwn ddisgwyl pan ddechreuwn ŵyna. Rhyddhad oedd darganfod fod y rhan helaeth o'r ddiadell yn disgwyl gyda dros 80 ohonynt yn disgwyl gefeilliaid. Gwaith graenus bois! Mae'n ymddangos fod yr hyrddod a ddewisais wedi cymryd eu gwaith o ddifri, dim whare'! Edrychwn ymlaen at groesawi'r newydd ddyfodiad bach a ddaw dechrau Ebrill. Dwi ddim yn siŵr os ydw i'n edrych ymlaen at y prinder cwsg cymaint cofiwch!

 

 

Ar y 23ain o Ionawr, fe ddaeth amser i ffarwelio a gweddill ŵyn tew'r tymor diwethaf. Serch hynny, penderfynais gadw un oen gwryw eleni fel hwrdd 'Suffolk' ifanc. Clywch fwy amdano yn agosach i fis Medi dwi'n siŵr. Ond i weddill yr ŵyn tew gwelwyd unwaith yn rhagor fasnach frwd yn Mart Aberteifi er gwaethaf yr oerfel. Soniais mewn blog blaenorol cyn y Nadolig am brisiau o ryw £99.50 y pen. Nodir fod hinsawdd economaidd Ewrop wedi gadael dylanwad nodedig ar berthynas yr ewro (€) yn erbyn y bunt (£), yn bennaf oherwydd ansicrwydd dyfodol gwlad Groeg. O ganlyniad i ddibyniaeth diwydiant amaeth Cymru ar allforio, mae prisiau'r farchnad wedi gostegu braidd. Er cawlach Ewropeaidd, llwyddais i werthu'r ŵyn am £92 y pen yn ogystal â sicrhau pris uchel i'r cilo (kg) - canlyniad addawol!

 

 

 Buom hefyd yn weithgar iawn gyda'r gwartheg yn ddiweddar. Buom yn diddyfnu'r lloi oddi wrth eu mamau rhyw fis yn ôl, hynny yw eu gwahanu gan eu bod yn 8 mis oed. Yn ogystal, fues i ac Aled yn ail dagio'r rheini a oedd wedi colli eu tag. Mae'n bwysig dros ben er mwyn sicrhau ein bod ni ffermwyr yn gweddu gyda mesurau disgwyliedig y Cynulliad. Ac yna finne' a mam yn palu trwy'r gwaith papur - gwir ymdrech deuluol.

 

 

 Ambell i ddigwyddiad nodedig arall - llongyfarchiadau mawr i griw pantomeim CFfI Hermon ar faeddu Eglwyswrw er mwyn parhau i'r rownd nesaf yn Llandudno. Pob hwyl i'r criw gyda'u hymdrechion! Fues i hefyd yn rhan o'r gyfres newydd o Jacpot yn ddiweddar ar S4C, profiad gwefreiddiol! Dim jacpot y tro 'ma, ond daw cyfle i gystadlu yn yr ail gyfres eto - ffeili aros! Yn fy mlog nesaf soniaf ychydig yn fwy am baratoadau'r tymor ŵyna yn ogystal â sôn ychydig am ddiwrnod gwaith maes y Clwb Ffermwyr Ifanc. Cofiwch gadw'n sych yn y glaw trwm 'ma!

 

 

Tan hynny - cymerwch ofal a diolch am ddarllen,

 

 

Carwyn Bwlchclaw'.

Yn ôl i'r brig

 

Brwsh Paent!

Tydi amser yn fflio? Mae'n fis Chwefror yn barod! Y siopau'n llawn rhosod a siocled gyda'r ŵyau Pasg yn dilyn tu ôl iddynt. Yn wahanol i ambell ardal yng Nghymru, dwi'n ama fod Sir Fôn wedi bod yn lwcus iawn o ran yr eira - dim eira i ni hyd yn hyn! Ond yn bendant mae'r tywydd wedi bod yn arw iawn gyda'r tymheredd yn disgyn, â chryn dipyn o rew ar y ddaear. Gyda oriau gwaith ffermwyr yn cynyddu yr adeg yma o'r flwyddyn achos yr ŵyna mae'r tywydd yn ddifrifol o oer. Mae mam wastad yn dweud "mai'n dywydd long-johns!!" Mae'r tywydd yn effeithio ar bawb, hyd yn oed Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda gêm Ffrainc yn erbyn Iwerddon yn cael ei ohirio dros y penwythnos! Ond yn sicr nid oedd y tywydd yn effeithio dim ar perfformiad ein Tîm Cenedlaethol y penwythnos yma - gyda'r sgôr terfynol ar 27 i Gymru a 13 i'r Alban! Mae'r goron driphlyg yn agosáu a gan groesi bysedd - bydd y bois yn dychwelyd gyda'r Bencampwriaeth!

 

'Dwi'n gobeithio bod chi gyd wedi mwynhau rhaglen 'Ffermio' wythnos diwetha'! Yn enwedig y darn gan C.Ff.I Ynys Môn! Syniad gwerth chweil i ddweud y gwir. Mae'n rhoi cyfle i chi gyd weld beth mae'r Mudiad yn ei wneud tu ôl i'r cystadlu! Sôn am 'gystadlaethau' mae'r Panto yn cymryd siâp! Dim ond ychydig dros wythnos i fynd... gwisgoedd - tic! Props - tic! Dysgu'r sgript - hanner tic! Set - hanner tic! Rwy'n ama mai brwsh paent fydd yn fy llaw i bob nos wythnos yma! Braf darllen blog diweddara' Dylan am y daith feicio! Mi fyddwn i'n edrych 'mlaen i dy groesawu 'di yma i Fôn a nawni'n siwr fod 'na banad a bisgedan yn dy ddisgwl di!

 

Roedd gennai wythnos i ffwrdd o'r Brifysgol wythnos diwetha' ac felly roeddwn yn brysur yn helpu mam gyda'i busnes coginio. Nid wythnos arferol o goginio oedd hi wythnos yma ond wythnos ddiddorol iawn gan inni gael cyfarfod gyda chyn-brynwr 'Harrods' a 'Fortnum and Mason' gan fod diddordeb yng nghynyrch Mam yn Llundain! Rwyf yn falch iawn ohoni! O fusnes bach, mae'n cynyddu bob diwrnod! I Sôn am fy lleoliad gwaith gyda'r Brifysgol, ar hyn o bryd rwy'n ffarwelio gyda'r ysbyty ac yn mynd yn ôl i'r gymuned am gyfnod. Rwy'n falch o ddweud mod i wedi pasio bob un o'r arholiadau mis Ionawr ac felly un cam yn nes!    

 

Diolch i chi am ddarllen!

 

Tan y tro nesaf... Cymerwch ofal!

 

Siân Pierce Roberts

Yn ôl i'r brig

 

Ŵyna, adeiladu, Pantos a beicio

Wel mae'r gaeaf mwyn wedi mynd ac mae'r gaeaf oer wedi dod i'n croesawu!! Erbyn hyn rydym wedi cael nifer o nosweithie ble mae'r tymheredd wedi cwympo ym mhell o dan y rhewbwynt ac yn anffodus mae hyn wedi achosi i rai o'r pibau dŵr rewi yn y siedau (yn ogystal a'r garafan!!). Ar wahân i'r pibau'n rhewi (sydd wedi dadleth yn itha rhwydd ar y cyfan), dyw'r tywydd ddim wedi peri gormod o drwbl i ni, gan fod y stoc i gyd mewn ar y silwair. Edrych 'mlan fyddwn ni i weld pa mor hir fydd y tywydd oer yn para, oherwydd s'dim gobaith i'r borfa dyfu pan mae hi mor oer a hyn!!

Mae'r defaid 'di bod mewn ers dros fis bellach, ac mae amser ŵyna rownd y gornel, felly mae digon o ddiwrnode hir a nosweithie byr o'n blaenau ni. Pan ddaw ein ŵyn cyntaf wnai drial rhannu'r lluniau gyda chi yma. Mae'r tŷ wedi symud yn ei flaen yn gyflym dros y mis diwetha', ond wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen mae'r biliau yn pentyrru, a s'dim sôn am bethau'n gwella gan bod mwy o gostau am waith sydd dal ar ôl i'w wneud!! O wel, ma'n rhaid palu 'mlan!

Mae amser prysur o'n blaenau gyda'r Ffermwyr Ifanc hefyd, gyda nifer o glybiau ar hyd a lled Cymru'n paratoi i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth pantomeim eu sir. Mae gwahoddiadau wedi cyrraedd i fynd i wylio'r Pantomeims mewn sawl sir, ond yn anffodus ni fyddaf yn medru mynychu pob un, ond mi fydda i'n gwneud fy ngorau i fynd i gymaint ag y medra i. Rwy'n edrych ymlaen i wylio talent y CFfI ar y llwyfan unwaith eto.

Nes i weud tro diwetha' fy mod yn mynd allan i siopa am feic, ac rwyf yn medru dweud yn awr fy mod wedi prynu un. Y rheswm? Wel er mwyn codi arian tuag at Elusen y Flwyddyn - CFfI Cymru sef Ambiwlans Awyr Cymru. Rwyf wedi penderfynu gwneud taith feicio gan ymweld â phob swyddfa sirol y CFfI yng Nghymru yn ogystal a y 3 maes awyr y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu ohonynt. Fydd yn dipyn o her i mi (yn enwedig o ystyried pa mor "unfit" i fi!!), ond rwy'n benderfynol o dod i ben a'r daith 500 milltir er mwyn codi arian i'r achos da yma. Rwyf newydd dachre tudalen newydd ar Facebook i hybu'r ymgais, felly os ydych eisiau mwy o wybodaeth am "Daith Feicio Beefy" dilynwch y linc yma http://on.fb.me/xdu6U3 . Mi fydda i'n diweddaru'r dudalen yma gyda dyddiadau a'r wybodaeth ddiweddara'. Os oes gennych unrhyw 'dips' i mi, neu os fedrwch fod o unrhyw gymorth ar y ffordd, plis cysylltwch â mi.

Wel dyna ddigon am nawr, rwyf am fynd am sbin ar y beic newydd!

Hwyl am y tro

Yn ôl i'r brig