Neidio at y cynnwys

S4C

Amser yn hedfan

Helo!! Sut 'da chi?

 

Wel mae mis Ionawr yn brysur hedfan heibio! Bydd yr ŵyau Pasg allan cyn bo hir!

 

Mae'r tywydd wedi bod yn eithaf dros y bythefnos diwetha' sydd yn ei gwneud hi'n llawer haws i'r ŵyn bach sydd newydd ddod i'r byd! Fel dwedais yn fy mlog diwetha', roeddem yn cychwyn ŵyna ar y 10fed. . . ond, fel dwi'n gwybod fel Bydwraig - prin maent yn dod ar amser! Felly yn araf bach, mae'r ŵyn yn cynyddu.

 

Mae'r Ffermwyr Ifanc wedi bod yn brysur iawn mis yma. Mae Sioe Amaethyddol Môn yn dathlu 125 o sioeau y flwyddyn hon a chynhaliwyd noson fawreddog i ddathlu'r digwyddiad ym Mhafiliwn Môn ar faes Sioe Môn nos Sadwrn yr 21ain o Ionawr. Yn wahanol i'r arfer - nid Eisteddfota neu barnu stoc oedd aelodau y Ffermwyr Ifanc y mis yma, ond yn helpu i baratoi bwyd i'r cant a hanner o aelodau a ffrindiau'r sioe! Dyma i chi wythnos brysur iawn o baratoi y carped a'r byrddau yn gynharach yn yr wythnos, yna y bwyd a'r bar tuag at ddiwedd yr wythnos. Daeth cryn dipyn o aelodau'r sir at ei gilydd i helpu a mi fuodd yn noson lwyddiannus. Daeth criw ffilmio y rhaglen "Ffermio" S4C atom yr wythnos hon i ddilyn hanes C.Ff.I Ynys Môn. Maent yn dilyn un sir bob mis ar eu rhaglen felly cawsant hwythau ymuno â'r dathlu. Bydd y darn yn cael ei ddarlledu ar y rhaglen "Ffermio" tuag at ddiwedd y mis. Yn ogystal, gyda ond tair wythnos i fynd tan y gystadleuaeth Panto sirol, mae'r ymarferion yn prysuro gyda phawb wrthi'n brysur yn dysgu eu sgript.

 

Pedair arholiad yn ddiweddarach, mae'r arholiadau wedi dod i ben am rŵan yn y Brifysgol. Erbyn hyn, gallai ddweud mod i union hanner ffordd drwy'r cwrs, ac yn dal i fwynhau! Dyna i chi ychydig o'm hanes i dros y pythefnos ddiwetha'. Tan y tro nesa. . .

 

Hwyl fawr!

 

Siân Pierce.