Blwyddyn newydd a dechrau newydd. Ar ôl gwledda a mwynhau cyfnod
y Nadolig dechreuodd 2012 yn yr un modd â'r arfer gyda llond lle o
addunedau a dros eu hanner nhw wedi'u torri erbyn diwedd yr
wythnos gynta'!! Ry'ni wedi cael y noson rewllyd go
iawn cyntaf o'r gaeaf yn y garafan, gyda'r dŵr a'r nwy 'di
rhewi yn ystod y nos. Ond o ystyried yr amser hyn
llynedd, roeddem bron 'di cael mis cyson o dywydd rhewllyd, dw
i'n siwr fedrwn ni oddef un noson, jyst gobeithio na chewn ni
ddim llawer mwy cyn ddiwedd y gaeaf! Fuodd hi'n eithaf gwlyb dros
gyfnod y Nadolig a roedd y caeau yn llawn dŵr, felly fuodd
rhaid ildio a dod a'r defaid i mewn. Mae hyn yn golygu peth gwaith
ychwanegol, ond mae'n dipyn o gysur i wybod bod y defaid
nawr yn eu gwlau sych a chyfforddus.
Braf yw cael adrodd fod y tŷ yn symud yn ei flaen yn dda, gyda'r
adeiladwyr yn dod y rhan fwyaf o'r dyddiau, ond fydd hi'n
brafiach fyth pan fydda i'n gallu gweud wrthych ein bod ni
wedi symud mewn! Mae'r gwaith wedi bod yn eithaf prysur, mae gennyf
un o fy nigwyddiadau iechyd y fuches laeth ar y gweill, a ma llawer
o waith trefnu i neud yn siwr bod popeth yn ei le. Y tro
hyn mae siaradwr o'r Unol Daleithiau yn dod draw, felly rwyf yn
edrych ymlaen i glywed beth sydd ganddo i'w weud.
Yn ddiweddar rwyf wedi bod allan yn chwilio am feic newydd
a gobeithio erbyn fy mlog nesaf mi fyddai'n medru gweud fy mod
wedi prynu un! Gewch chi gwybod ychydig mwy am y rheswm pam tro
nesa'!!
Hwyl am y tro,
Dylan (Beefy)