Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r dathlu a'r gwledda dros
yr Ŵyl!! Rhaid deud...roedd y twrci 31 pwys yn fendigedig!!!
Ac yn wir i chi...diflannodd y cyfan o fewn diwrnodau! Ond dw i'n
siwr bod tŷ ni wedi gweld digon o dwrci tan blwyddyn nesa'!!!
Rhaid deud bod y tywydd wedi bod yn eithaf diflas dros yr
wythnosau diwetha 'ma gydag ambell i gawod fan hyn a fan draw...ond
argian mae hi wedi bod yn stormus dros ben yma dros y diwrnodau
diwetha! Doedd hi ddim yn ddolig gwyn i ni eleni sydd yn gwneud
petha' yn lawer haws o gymharu â'r llynedd!!
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn dda iawn i ni ar y fferm, yn y
Ffermwyr Ifanc ac rwyf yn sicr wedi dysgu lot mwy fel Bydwraig o
gymharu a blwyddyn yn ôl! Rydym ar fin cychwyn ŵyna ar y 10fed
felly mae'r defaid i mewn o dan do gydag ambell un wedi dod yn
gynnar.
Bu rhaid i mi godi yn fore heddiw, roedd hi'n ddiwrnod recordio
llaeth acw! Y cloc larwm yn canu am chwech ac wrth gerdded lawr y
grisiau roeddwn yn clywed sŵn y gwynt yn taro'r ffenestri, felly
nôl i fyny'r grisiau i lapio fel nionyn... teimlo bo' fy
ngwyliau yn dod i ben!
Yn wir, mae hi'r amser yna o'r flwyddyn eto! O nadi ddim! O
ydi mae hi! Bydd pantomein Ffermwyr Ifanc Môn yn cael ei gynnal fis
nesaf felly mae'n amser cael y sgriptiau allan! Rydym fel clwb yn
ymuno gyda chlwb arall ar yr ynys gan mai dim ond ychydig o aelodau
sydd ganddom. Mae'r aelodau yn frwdfrydig ac yn edrach ymlaen yn
arw, felly rydym yn gobeithio cychwyn yr ymarferion cyn hir. Mae'r
flwyddyn yn edrych yn ddisglair iawn i'r mudiad gyda'r siarad
cyhoeddus ym mis Mawrth, Rali Ffermwyr Ifanc Môn ym mis Mai o dan y
thema 'Priodas', Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Sioe amaethyddol
Môn ac wrth gwrs yr Eisteddfod yn Abergwaun! Yn sicr mae'r flwyddyn
yn llawn gweithgareddau ar gyfer yr aelodau sydd siwr o fod at
ddant pawb! Hoffwn ddiolch o galon i swyddogion y Sir a'r aelodau
am eu holl waith called dros y flwyddyn diwetha', mae hi wedi bod
yn flwyddyn wych!!
Hoffwn ddymuno blwyddyn lewyrchus iawn i bawb. Hwyl am y
tro!
Siân Pierce