Neidio at y cynnwys

S4C

Ionawr 2012

Amser yn hedfan

Helo!! Sut 'da chi?

 

Wel mae mis Ionawr yn brysur hedfan heibio! Bydd yr ŵyau Pasg allan cyn bo hir!

 

Mae'r tywydd wedi bod yn eithaf dros y bythefnos diwetha' sydd yn ei gwneud hi'n llawer haws i'r ŵyn bach sydd newydd ddod i'r byd! Fel dwedais yn fy mlog diwetha', roeddem yn cychwyn ŵyna ar y 10fed. . . ond, fel dwi'n gwybod fel Bydwraig - prin maent yn dod ar amser! Felly yn araf bach, mae'r ŵyn yn cynyddu.

 

Mae'r Ffermwyr Ifanc wedi bod yn brysur iawn mis yma. Mae Sioe Amaethyddol Môn yn dathlu 125 o sioeau y flwyddyn hon a chynhaliwyd noson fawreddog i ddathlu'r digwyddiad ym Mhafiliwn Môn ar faes Sioe Môn nos Sadwrn yr 21ain o Ionawr. Yn wahanol i'r arfer - nid Eisteddfota neu barnu stoc oedd aelodau y Ffermwyr Ifanc y mis yma, ond yn helpu i baratoi bwyd i'r cant a hanner o aelodau a ffrindiau'r sioe! Dyma i chi wythnos brysur iawn o baratoi y carped a'r byrddau yn gynharach yn yr wythnos, yna y bwyd a'r bar tuag at ddiwedd yr wythnos. Daeth cryn dipyn o aelodau'r sir at ei gilydd i helpu a mi fuodd yn noson lwyddiannus. Daeth criw ffilmio y rhaglen "Ffermio" S4C atom yr wythnos hon i ddilyn hanes C.Ff.I Ynys Môn. Maent yn dilyn un sir bob mis ar eu rhaglen felly cawsant hwythau ymuno â'r dathlu. Bydd y darn yn cael ei ddarlledu ar y rhaglen "Ffermio" tuag at ddiwedd y mis. Yn ogystal, gyda ond tair wythnos i fynd tan y gystadleuaeth Panto sirol, mae'r ymarferion yn prysuro gyda phawb wrthi'n brysur yn dysgu eu sgript.

 

Pedair arholiad yn ddiweddarach, mae'r arholiadau wedi dod i ben am rŵan yn y Brifysgol. Erbyn hyn, gallai ddweud mod i union hanner ffordd drwy'r cwrs, ac yn dal i fwynhau! Dyna i chi ychydig o'm hanes i dros y pythefnos ddiwetha'. Tan y tro nesa. . .

 

Hwyl fawr!

 

Siân Pierce.

Yn ôl i'r brig

 

Jacpot!

Blwyddyn Newydd Dda,

 

Tybed ai eleni a welwn ddiwedd y byd? Pwy a ŵyr? Tybed ai eleni a welwn Gymro yn cipio medal aur yn y Gemau Olympaidd? Cawn obeithio. A tybed ai eleni a welwn dywydd tebyg i Costa Brava yng Nghrymych? Wel, gallai fod o hyd yn bosibilrwydd (wedd pob un o hyd yn dweud fy mod i braidd yn optimistaidd). Beth bynnag ddigwyddir yn 2012, mae'n addo i fod yn flwyddyn gyffrous - diwedd y byd neu beidio.

 

Cyn sôn ychydig am ddigwyddiadau'r flwyddyn newydd, hoffwn rannu ambell i gyhoeddiad pwysig o'r flwyddyn a fu. Llongyfarchiadau mawr i'm mrawd annwyl Aled ar lwyddo yn ei brawf tractor ychydig o ddyddiau cyn y 'dolig - campus dros ben! Mae'r pellter o wyth milltir rhwng y ddwy fferm o hyd wedi bod yn anhawster, ond nawr gyda'r ddau ohonom wrth y llyw yn gyrru - fydd hi ddim yn broblem. A hefyd yn hanneru'r amser o garto 'bales' yn yr haf - jacpot! Soniais yn fy mlog diwethaf am enedigaeth Nadoligaidd posib ar y gorwel. Wel, bois bach gredwch chi fyth. Ar noswyl y Nadolig, ganwyd llo Henffordd yng nghanol y dathliadau (wedd y llety unwaith eto eleni yn orlawn - felly i'r sied gyfagos wedd hi fod). Croeso mawr i'r byd rhif '432' gyda '532' ein hoff fuches yn fam browd.

 

Dechreuodd y flwyddyn yn addawol iawn gyda phrawf TB clir gyda'r gwartheg, am ryddhad! Mae 'Bovine Tuberculosis' (TB) o hyd yn ofid i bob ffermwr, ac yn anffodus i ninnau yng Ngogledd Sir Benfro mae'r clefyd mor fyw ag erioed. Ers y flwyddyn 2000, mae dros £100 miliwn o gyllid llywodraethol wedi cael ei wario yng Nghymru ar iawndaliadau i ffermwyr sydd wedi colli stoc o ganlyniad i'r clefyd. Amcangyfrif fod rhyw 100,000 o wartheg wedi cael eu difa yn y ddegawd ddiwethaf. Mae buchesau cyfan wedi cael eu difa mewn ambell i achos a bywoliaeth sawl ffermwr wedi cael ei chwalu. Dylid cynllunio'n fanwl am strategaeth realistig a fydd yn gallu cael ei weithredu er mwyn gwaredu'r clefyd a'r gofid cysylltiedig oddi ar ysgwyddau ffermwyr Cymru. Mae gobeithion a hyder ffermwyr ifanc yn y dyfodol yn y fantol.

 

Mae'r mis diwethaf wedi bod yn ofnadwy o brysur ymysg gwaith y fferm adref yn ogystal â godro'n gyson i deulu'r Prichard ar ei fferm Rhosmaen sydd yn Nhrefdraeth. Fferm laeth o ryw 300 erw yw Rhosmaen ac erbyn yr adeg yma o'r flwyddyn mae rhyw 240 o wartheg 'Holstein' yn cael eu godro yno. Mae gweithio i rywun arall o hyd yn brofiad gwerth chweil er mwyn datblygu sgiliau a magu syniadau newydd a gallai fod o fudd ar gyfer ein fferm ninnau gartref. A dyma awgrym i unrhyw un sydd am golli ychydig o bwysau ychwanegol y Nadolig, heb fynd yn agos at unrhyw gampfa - ewch i odro fel hobi! Mae'n llawer rhatach 'nag aelodaeth campfa leol a fydd dim prinder llaeth ar gyfer eich 'corn flakes' y bore wedyn yn ogystal! Dylwn i sôn hefyd fy mod i yng nghanol arholiadau mis Ionawr yn y brifysgol - rhywbeth bach arall i gadw fy hunan yn fishi yn ystod y nosweithiau oer yma ar ôl gwaith caled y dydd. Ac yn bendant, mae'n oerach erbyn hyn! Mae'r tir wedi caledu o'r diwedd, felly ceisiaf ledaenu'r slyri a'r tail yr wythnos yma cyn i'r glaw ddychwelyd yn ôl y rhagolygon. Felly, croesi bysedd y bydd hi'n parhau i fod yn sych am ychydig o ddyddiau eto yma yng Ngogledd Sir Benfro.

 

Ysgrifennaf unwaith yn rhagor cyn ddiwedd y mis, felly tan hynny cofiwch gadw'n gynnes yn yr oerfel 'ma!

 

Pob hwyl am y flwyddyn newydd,

 

Carwyn Bwlchclaw'.

Yn ôl i'r brig

 

Blwyddyn newydd a dechrau newydd...

Blwyddyn newydd a dechrau newydd. Ar ôl gwledda a mwynhau cyfnod y Nadolig dechreuodd 2012 yn yr un modd â'r arfer gyda llond lle o addunedau a dros eu hanner nhw wedi'u torri erbyn diwedd yr wythnos gynta'!! Ry'ni wedi cael y noson rewllyd go iawn cyntaf o'r gaeaf yn y garafan, gyda'r dŵr a'r nwy 'di rhewi yn ystod y nos. Ond o ystyried yr amser hyn llynedd, roeddem bron 'di cael mis cyson o dywydd rhewllyd, dw i'n siwr fedrwn ni oddef un noson, jyst gobeithio na chewn ni ddim llawer mwy cyn ddiwedd y gaeaf! Fuodd hi'n eithaf gwlyb dros gyfnod y Nadolig a roedd y caeau yn llawn dŵr, felly fuodd rhaid ildio a dod a'r defaid i mewn. Mae hyn yn golygu peth gwaith ychwanegol, ond mae'n dipyn o gysur i wybod bod y defaid nawr yn eu gwlau sych a chyfforddus.

Braf yw cael adrodd fod y tŷ yn symud yn ei flaen yn dda, gyda'r adeiladwyr yn dod y rhan fwyaf o'r dyddiau, ond fydd hi'n brafiach fyth pan fydda i'n gallu gweud wrthych ein bod ni wedi symud mewn! Mae'r gwaith wedi bod yn eithaf prysur, mae gennyf un o fy nigwyddiadau iechyd y fuches laeth ar y gweill, a ma llawer o waith trefnu i neud yn siwr bod popeth yn ei le. Y tro hyn mae siaradwr o'r Unol Daleithiau yn dod draw, felly rwyf yn edrych ymlaen i glywed beth sydd ganddo i'w weud.

Yn ddiweddar rwyf wedi bod allan yn chwilio am feic newydd a gobeithio erbyn fy mlog nesaf mi fyddai'n medru gweud fy mod wedi prynu un! Gewch chi gwybod ychydig mwy am y rheswm pam tro nesa'!!

Hwyl am y tro,

Dylan (Beefy)

Yn ôl i'r brig

 

Blwyddyn Newydd Dda!

Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r dathlu a'r gwledda dros yr Ŵyl!! Rhaid deud...roedd y twrci 31 pwys yn fendigedig!!! Ac yn wir i chi...diflannodd y cyfan o fewn diwrnodau! Ond dw i'n siwr bod tŷ ni wedi gweld digon o dwrci tan blwyddyn nesa'!!!

 

Rhaid deud bod y tywydd wedi bod yn eithaf diflas dros yr wythnosau diwetha 'ma gydag ambell i gawod fan hyn a fan draw...ond argian mae hi wedi bod yn stormus dros ben yma dros y diwrnodau diwetha! Doedd hi ddim yn ddolig gwyn i ni eleni sydd yn gwneud petha' yn lawer haws o gymharu â'r llynedd!!

 

Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn dda iawn i ni ar y fferm, yn y Ffermwyr Ifanc ac rwyf yn sicr wedi dysgu lot mwy fel Bydwraig o gymharu a blwyddyn yn ôl! Rydym ar fin cychwyn ŵyna ar y 10fed felly mae'r defaid i mewn o dan do gydag ambell un wedi dod yn gynnar.

 

Bu rhaid i mi godi yn fore heddiw, roedd hi'n ddiwrnod recordio llaeth acw! Y cloc larwm yn canu am chwech ac wrth gerdded lawr y grisiau roeddwn yn clywed sŵn y gwynt yn taro'r ffenestri, felly nôl i fyny'r grisiau i lapio fel nionyn... teimlo bo' fy ngwyliau yn dod i ben!

 

Yn wir, mae hi'r amser yna o'r flwyddyn eto! O nadi ddim! O ydi mae hi! Bydd pantomein Ffermwyr Ifanc Môn yn cael ei gynnal fis nesaf felly mae'n amser cael y sgriptiau allan! Rydym fel clwb yn ymuno gyda chlwb arall ar yr ynys gan mai dim ond ychydig o aelodau sydd ganddom. Mae'r aelodau yn frwdfrydig ac yn edrach ymlaen yn arw, felly rydym yn gobeithio cychwyn yr ymarferion cyn hir. Mae'r flwyddyn yn edrych yn ddisglair iawn i'r mudiad gyda'r siarad cyhoeddus ym mis Mawrth, Rali Ffermwyr Ifanc Môn ym mis Mai o dan y thema 'Priodas', Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Sioe amaethyddol Môn ac wrth gwrs yr Eisteddfod yn Abergwaun! Yn sicr mae'r flwyddyn yn llawn gweithgareddau ar gyfer yr aelodau sydd siwr o fod at ddant pawb! Hoffwn ddiolch o galon i swyddogion y Sir a'r aelodau am eu holl waith called dros y flwyddyn diwetha', mae hi wedi bod yn flwyddyn wych!!

 

Hoffwn ddymuno blwyddyn lewyrchus iawn i bawb. Hwyl am y tro!

 

Siân Pierce

Yn ôl i'r brig