Oes rhywun arall heblaw fi a dim clem pa dymor ni ynddo!? Mae'r
tywydd ma wedi bod mor gyfnewidiol, sai'n gwbod beth i ddisgwyl yn
yr oriau nesaf, heb sôn am y dyddiau nesaf.
Mae wedi bod yn dymor y cneifio a'r cynhaeaf lawr ar y fferm.
Cafwyd diwrnod hwyliog gyda'r cneifio ond lwcus bod y defaid i gyd
wedi dod mewn y noson cynt yn sych neu ar stop fyddai di bod fel
arall. Dwi ddim yn arbenigwr o bell ffordd ond dwi'n siwr bo pawb
ar eu hôl hi gyda'r silwair ma eleni! Efallai taw'r gwahaniaeth
mwya yw bo pawb di bod yn scwlcan cyfleoedd gore medra nhw, gan fod
dim dal ar y tywydd ma. Un diwrnod mae'n sych gorcyn a dwi'n toddi
a'r diwrnod nesaf ma'n nghoesau i'n troi'n las a dwi nôl yn fy
nghot fawr.
Wythnos diwethaf a dros y penwythnos sydd newydd basio mae llwythi
o gaeau wedi eu clirio ar draws y wlad. Ma nhw wedi dod i ben a
beni'r cynhaeaf lawr ar y fferm hefyd - byrnau mawr a'r pit silwair
wedi llanw. Yn ystod tywydd sych diwedd wythnos diwethaf cafon nhw
wair hefyd felly ma pawb yn hapus! Dwi'n siwr nad yw tymor y
cynhaeaf yn dda i lefelau 'stress' unrhyw ffermwr. Ma na lot o
gerdded nôl a mlan ar hyd y clós yn mynd mlan a rhedeg i'r tŷ i
wylio'r tywydd wrth iddi nhw drio penderfynu ar y 'plan of
action'!
Ges i'n nala mas yn bert gan y tywydd cyfnewidiol ma wythnos nôl.
Edrych mas o'r ffenest ar fore diwrnod chwaraeon CFfI Cymru ac oedd
hi'n ddiwrnod mwll a diflas felly gwisgo'n addas. Erbyn cyrraedd
Aberhonddu roedd hi'n wahanol fyd ac a'r haul yn dan boeth erbyn
ganol dydd. Roedd pâr o siorts yn y car, felly dyma newid iddi nhw
rhag i mi ferwi yn fy nhrowsus hir. Ond doedd dim cysgod lle on i'n
stiwardio'r hoci a llosgais fy nhroed chwith yn ofnadw', ofnadw'!
Oni bai am y sombrero ar fy mhen (oedd yn digwydd bod yn y car ar
ol parti iâr y noson cynt!), dwi ddim yn siwr shwt siap fydde wedi
bod arnai! Chwyddodd fy nhroed i ddwy waith ei faint am dridie a
finne'n hercian fel môr leidr a choes bren o gwmpas y lle. Gwers
galed iawn i'w dysgu ond fydd yr eli haul yn fy mag am weddill yr
haf, rhag ofn!
Dwi di bod yn brysur iawn gyda'r CFfI yn ystod y mis diwethaf ac yn
teimlo fel 'sy fi wedi byw ar olwynion. Y Sioe Fawr sy'n mynd a'n
bryd ni nawr a bois bach dwi'n dechrau mynd yn egseited. Dwi'n
edrych ymlaen i weld yr holl gystadlu yn adran y CFfI a mwynhau'r
adloniant yn y Pentref Ieuenctid. Un peth fyddai yn gwneud dros yr
wythnos nesaf yn bendant, gweddi fach yn gofyn yn garedig am dywydd
ffafriol yn ystod y Sioe. Sai'n meddwl bo fi'n gofyn gormod!
Yn ôl i'r brig