Nadolig Llawen!
Wel ma mis Rhagfyr wedi hedfan (fel arfer), a rhwng gwaith y
fferm, gwaith y tŷ a'r partion a gwasanaethau Nadolig, mae wedi bod
yn brysur fel arfer gyda digon o amrywiaeth. Yn anffodus yr unig
beth sy di bod yn gyson am y mis cyfan yw y tywydd, gyda'r glaw yn
cadw pethau'n itha diflas ar y cyfan!!
Fe gafon i 'spin' fach i Gaerlywelydd ar dechrau y mis ar gyfer
arwerthiant defaid Texel, ac mi roedd yn dipyn o brofiad i weld
rhai o'r bridwyr enwog yn cael arian mawr am eu stoc, ond roedd
rhaid hastu nôl er mwyn cael mynd i Gaerdydd i weld gêm ffarwel
Shane. Trueni mawr am y canlyniad, ond braf oedd gweld Shane yn
sgori cais i orffen y gêm a'i yrfa, ac er cau y to, fe
wnaeth hi aros yn sych y diwrnod hwnnw.
Roedd hi'n ddiwrnod itha pwysig ar y ffarm y penwythnos
wedyn, diwrnod sganio. Dyma'r diwrnod ble yr ydym yn ffeindio mas
faint o ŵyn ma'r defaid yn ddisgwyl, er mwyn i ni cael paratoi ar
gyfer y tymor ŵyna. A falch da fi weud bo ni di cal sganio gwych
eleni, digon o ŵyn i edrych ymlaen i gael o gwmpas diwrnod San
Ffolant, anrheg gwych i Louise!!!!
Er teimlo'n nadoligaidd rydym hefyd wedi bod yn plufio
twrcis, a mas yn canu carolau gyda'r Ffermwyr Ifanc er mwyn codi
arian i Ambiwlans Awyr Cymru, ac wrth gwrs mae na un neu ddau parti
Nadolig wedi bod! We
Wel dyna ddigon amdana i am eleni, cyfarchion yr Ŵyl i
chi gyd a gobeithio newch chi gyd dod nôl i ddarllen mwy o'n hanes
i yn y flwyddyn newydd.