Neidio at y cynnwys

S4C

Nadolig ar y gweill!

Helo! Su' mai?

 

Wel mae'r Nadolig yn nesáu a'r siopa 'dolig (dwi'n falch iawn o ddeud) wedi gorffen!!  A'r batch cynta' o'r mins peis wedi eu pobi!! Yn bendant mae'r tywydd wedi troi tua Sir Fôn gyda gwyntoedd cryf ac ambell i bwll dŵr ar y lonydd a digon o sdompio yn y caeau! Yn wir i chi, mae hi wedi bod yn andros o wlyb yma. Ond oes yna sôn am eira 'leni? Yn sicr mae hi'n oeraidd yma ym Môn Mam Cymru.

 

Wel ers i mi 'sgwennu ddiwetha' ma 'na ambell i beth wedi bod ar y 'go'! O'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i Sioe Nadolig ein mart lleol. Mae'r gwartheg godro i mewn erbyn hyn hefyd, felly seilej bob dydd a ddaw!! 

 

Fel i Carwyn ddweud yn ei flog diweddara', mae'r cyfnod gwerthu wedi cyrraedd!! Yn ystod y dyddiau diwetha' rwyf wedi bod yn helpu fy mrawd ryw ychydig i sortio'i ddefaid gan bod prisiau da am wyn tew dyddia' yma!! Yn ogystal rydym wedi bod yn paratoi y sied ŵyna. Digon o wellt dan draed a digon o binnau yn barod, mi fydd y defaid yn dod i mewn yn reit fuan o gwmpas y Nadolig! Mae Sioe 'dolig ein mart lleol, safle Morgan Evans a'i gwmni yng Ngaerwen, Ynys Môn newydd fod ar yr ail o Ragfyr! Mae'n rhaid i mi ddweud bod y safon yn arbennig eleni a phrisiau da i'w cael! Braf oedd cael y gymdeithas ffermwyr yma ym Môn at ei gilydd cyn y Nadolig.

 

Pan roeddwn yn 'sgrifennu y tro diwetha' roeddwn ar fin cael fy ethol yn Gadeirydd Hyffroddiant Mudiad y Ffermwyr Ifanc yma ym Môn ac erbyn hyn rwyf yn y Gadair ac yn mwynhau! Mi es lawr i Lanelwedd bythefnos yn ôl ar ran y Mudiad ar gyfer y Ffair Aeaf i farnu gwartheg Beef. Rwyf yn falch o ddweud mod i wedi dod yn bumed allan o bedwar ar bymtheg mewn cystadleuaeth o dan 21 oed ac yn sicr rwyf wedi mwynhau'r profiad. Rwyf yn falch iawn o ddweud bod tîm barnu ŵyn tew wedi bod yn llwyddianus dros ben gan ddod yn drydydd! Llongyfarchiada' mawr i chi bois!! Roeddwn yn sôn wrthych yn gynharach am y Sioe Nadolig yn y mart lleol yma ym Môn. Yn y sioe bob blwyddyn mae yna gystadleuaeth 'dyfalu'r pwysau' ar gyfer aelodau'r Ffermwyr Ifanc. Wel toeddwn i 'rioed wedi trio yn y gystadleuaeth hon o'r blaen, ond mae'r Mudiad yn sicr yn cynnig cyfleuon gwych ac yn wir i chi, cefais gyntaf o dan 21 oed neu lai gyda 19kg o wahaniaeth gyda un bustach a 5kg o'r llall. 'Machi sioc!! Mae criw y clwb wedi bod acw neithiwr yn gwneud mins peis efo Mam (da 'di mam) ac rhaid dweud...roedd y ffedog yn siwitio'r hogia i'r dim!! Rydym ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer y Panto, sgript ayyb! Dwi'n siwr y cawn hŵyl!

 

Rwyf yn falch iawn o ddweud mod i dal yn mwynhau'r byd Bydwreigiaeth yn yr ysbyty. Rwyf yn gorffen wythnos nesa' dros y 'dolig gyda wythnos a hanner o wyliau ond buan ddaw yr arholiadau ar ôl y Nadolig!!  Felly fy mhen mewn llyfr fyddi!! Ond cyn hynny fe ddaw y gwledda' a'r mwynhau dros gyfnod y Nadolig - gan gychwyn gyda'r 'Gloddest' heno 'ma, sef dawns Nadolig Neuadd John Morris Jones, Prifysgol Bangor! Excitment di-ri!!

 

Dymunaf Nadolig Llawen i chi a Blwyddyn Newydd Dda!!

 

Siân!!