Neidio at y cynnwys

S4C

Fyn’ hyn, fyn’ co’ a fyn’ draw - Hynt a helynt diweddaraf Carwyn Bwlchclaw'

Gyda gŵyl y Nadolig yn agosáu, mae'n adeg brysur i bawb ymhlith paratoadau'r dathlu ac yr un sydd yn wir am finne' a'r teulu. Mae'r gaeaf hyd yn hyn wedi bod yn fwyn ond yn ddychrynllyd o wlyb, ac mae'r caeau yn ddirlawn o ddŵr y cawodydd trymion. Mae'r gwartheg wedi bod o dan do ers dechrau mis Tachwedd ac yn falch iawn o fod yng nghynhesrwydd y gwellt. Daw hyn a'r gwaith ychwanegol o fwydo silwair yn ddyddiol yn ystod y misoedd nesaf, a gobeithio y gallwn gynnal eu cyflwr tan y Gwanwyn ble gallant gael eu ail droi mas i wyrddni'r caeau.

 

Beth fydd ar eich plât chi'r Nadolig yma? Twrci, neu ŵydd efallai? Beth am gig eidion neu flas o gig oen? Daw'r tymor unwaith eto eleni lle mae'r galw am gynnyrch mwyaf safonol ffermwyr Cymru ar ei uchaf, sydd heb os nac oni bai yn newyddion addawol i'r diwydiant. Yn bersonol, teimlaf gymysgedd o deimladau yn ystod y cyfnod yma. Ar ôl adeg hir o waith caled a thor chwys yng nghyfnod ŵyna'r Gwanwyn, daw'r cyfle o werthu'r cynnyrch gorffenedig, a daw teimlad naturiol o falchder sydd yn gwneud yr ymdrech i gyd yn werth chweil. Ond ar y llaw arall, mae'n anodd anwybyddu'r ffaith fod bywydau'r creaduriaid hynny a fues i'n annog i gymryd eu camau cyntaf, a'r rhai brwydrais yn ddiflino i gadw'n fyw ar fin dod i ben. Hwn yw ochr caletaf y diwydiant yn fy marn i, ac rwy'n siŵr fod y rhan helaeth o ffermwyr Cymru yn cytuno. Dylid cofio serch hynny mae dyna yw natur ein gwaith - a dylwn sicrhau fod y creaduriaid hynny sydd yn rhan o'r diwydiant yn cael eu trin a'u trafod gyda thegwch a'r parch uchaf posib. Mae gofyn bod yn galed yn y diwydiant 'ma, bois bach!

 

Reit de, na fi wedi dweud fy nweud a rhoi'r byd yn ei le. Fe ddaeth bore Mart Nadolig Aberteifi rownd yn ddigon cloi a dewisais ugain o wŷn a oedd yn gymysgedd o 'Suffolks' a 'Texels' i'w gwerthu. Gwelwyd masnach o ryw 150 o wartheg a dros 2,000 o ddefaid gyda'r prisiau yn plesio pawb. O ni'n falch dros ben gyda'r prisiau terfynol am ein ŵyn ni, a oedd yn amrywio rhwng £94 yr un a'r pum oen gorau yn cael eu gwerthu am £99.50 yr un! Jacpot! Ar y cyfan, diwrnod llwyddiannus iawn, llawn masnach gystadleuol sy'n argoeli'n addawol ar gyfer y dyfodol.

 

Ar ddydd Mawrth olaf Tachwedd, fues i'n y Ffair Aeaf yn Llanelwedd i fwynhau'r arlwy o stondinau, gweithgareddau a chystadlaethau. Braf oedd blasu ambell i gacen a darn o gaws yn y neuadd fwyd i ffwrdd o'r gwynt a'r glaw, a hefyd gweld ambell i beiriant newydd. Gewn ni weld eleni eto os fydd Siôn Corn gyda digon o le ar ei sled i ddod a thractor yr un i finne' a fy mrawd Aled! Rydym hefyd wedi bod yn brysur gartref yn sganio'r gwartheg am feichiogrwydd. Anrhydedd yw cyhoeddi fod fy hoff fuwch rhif '532' yn disgwyl gyda dim ond rhyw fis i fynd! Genedigaeth Nadoligaidd ar y gorwel - tybed a fydd digon o le yn y llety? Yn ogystal â hynny, buom yn disbaddu'r tarwod ifanc a anwyd eleni fel ein bod yn gallu eu cymysgu gyda'r heffrod ifanc eraill. Mae un enedigaeth Nadoligaidd yn hen ddigon!

 

Fel y soniais yn gynharach mae'r caeau yn wlyb stecs ar ôl y glaw diweddar. Dylwn gofio fod y bwydydd yr ydym yn bwydo'r stoc jyst mor bwysig a beth sy'n cael ei droi allan ar ochr arall y creadur, ac yn ddigon ffodus mae'n isgynnyrch weddol gyfleus. Defnyddir slyri a thail fel gwrtaith organig er mwyn annog tyfiant y borfa. O ganlyniad i gyflwr diweddar y caeau, mae'r peiriant sy'n cael ei ddefnyddio i'w gorchuddio ar y tir yn gallu difrodi arwynebedd y ddaear. Trown at y dyn tywydd felly yn y gobaith o dywydd oerach er mwyn rhewi'r tir sydd o dan draed. Felly, croesi bysedd! Gyda'r brifysgol ar fin torri am wyliau'r Nadolig, edrychaf ymlaen at ddala' lan ychydig gyda'r gwaith fferm a heb anghofio i fwynhau'r ŵyl. Efallai ei bod hi'n amser erbyn hyn hefyd i ddechrau meddwl am siopa'r Nadolig.. o mowredd mowr!

 

Pob hwyl a chymerwch ofal,

 

Carwyn Bwlchclaw'.