Gyda gŵyl y Nadolig yn agosáu, mae'n adeg brysur i bawb ymhlith
paratoadau'r dathlu ac yr un sydd yn wir am finne' a'r teulu. Mae'r
gaeaf hyd yn hyn wedi bod yn fwyn ond yn ddychrynllyd o wlyb, ac
mae'r caeau yn ddirlawn o ddŵr y cawodydd trymion. Mae'r gwartheg
wedi bod o dan do ers dechrau mis Tachwedd ac yn falch iawn o fod
yng nghynhesrwydd y gwellt. Daw hyn a'r gwaith ychwanegol o fwydo
silwair yn ddyddiol yn ystod y misoedd nesaf, a gobeithio y gallwn
gynnal eu cyflwr tan y Gwanwyn ble gallant gael eu ail droi mas i
wyrddni'r caeau.
Beth fydd ar eich plât chi'r Nadolig yma? Twrci, neu ŵydd
efallai? Beth am gig eidion neu flas o gig oen? Daw'r tymor unwaith
eto eleni lle mae'r galw am gynnyrch mwyaf safonol ffermwyr Cymru
ar ei uchaf, sydd heb os nac oni bai yn newyddion addawol i'r
diwydiant. Yn bersonol, teimlaf gymysgedd o deimladau yn ystod y
cyfnod yma. Ar ôl adeg hir o waith caled a thor chwys yng nghyfnod
ŵyna'r Gwanwyn, daw'r cyfle o werthu'r cynnyrch gorffenedig, a daw
teimlad naturiol o falchder sydd yn gwneud yr ymdrech i gyd yn
werth chweil. Ond ar y llaw arall, mae'n anodd anwybyddu'r ffaith
fod bywydau'r creaduriaid hynny a fues i'n annog i gymryd eu camau
cyntaf, a'r rhai brwydrais yn ddiflino i gadw'n fyw ar fin dod i
ben. Hwn yw ochr caletaf y diwydiant yn fy marn i, ac rwy'n siŵr
fod y rhan helaeth o ffermwyr Cymru yn cytuno. Dylid cofio serch
hynny mae dyna yw natur ein gwaith - a dylwn sicrhau fod y
creaduriaid hynny sydd yn rhan o'r diwydiant yn cael eu trin a'u
trafod gyda thegwch a'r parch uchaf posib. Mae gofyn bod yn galed
yn y diwydiant 'ma, bois bach!
Reit de, na fi wedi dweud fy nweud a rhoi'r byd yn ei le. Fe
ddaeth bore Mart Nadolig Aberteifi rownd yn ddigon cloi a dewisais
ugain o wŷn a oedd yn gymysgedd o 'Suffolks' a 'Texels' i'w
gwerthu. Gwelwyd masnach o ryw 150 o wartheg a dros 2,000 o ddefaid
gyda'r prisiau yn plesio pawb. O ni'n falch dros ben gyda'r prisiau
terfynol am ein ŵyn ni, a oedd yn amrywio rhwng £94 yr un a'r pum
oen gorau yn cael eu gwerthu am £99.50 yr un! Jacpot! Ar y cyfan,
diwrnod llwyddiannus iawn, llawn masnach gystadleuol sy'n argoeli'n
addawol ar gyfer y dyfodol.
Ar ddydd Mawrth olaf Tachwedd, fues i'n y Ffair Aeaf yn
Llanelwedd i fwynhau'r arlwy o stondinau, gweithgareddau a
chystadlaethau. Braf oedd blasu ambell i gacen a darn o gaws yn y
neuadd fwyd i ffwrdd o'r gwynt a'r glaw, a hefyd gweld ambell i
beiriant newydd. Gewn ni weld eleni eto os fydd Siôn Corn gyda
digon o le ar ei sled i ddod a thractor yr un i finne' a fy mrawd
Aled! Rydym hefyd wedi bod yn brysur gartref yn sganio'r gwartheg
am feichiogrwydd. Anrhydedd yw cyhoeddi fod fy hoff fuwch rhif
'532' yn disgwyl gyda dim ond rhyw fis i fynd! Genedigaeth
Nadoligaidd ar y gorwel - tybed a fydd digon o le yn y llety? Yn
ogystal â hynny, buom yn disbaddu'r tarwod ifanc a anwyd eleni fel
ein bod yn gallu eu cymysgu gyda'r heffrod ifanc eraill. Mae un
enedigaeth Nadoligaidd yn hen ddigon!
Fel y soniais yn gynharach mae'r caeau yn wlyb stecs ar ôl y
glaw diweddar. Dylwn gofio fod y bwydydd yr ydym yn bwydo'r stoc
jyst mor bwysig a beth sy'n cael ei droi allan ar ochr arall y
creadur, ac yn ddigon ffodus mae'n isgynnyrch weddol gyfleus.
Defnyddir slyri a thail fel gwrtaith organig er mwyn annog tyfiant
y borfa. O ganlyniad i gyflwr diweddar y caeau, mae'r peiriant sy'n
cael ei ddefnyddio i'w gorchuddio ar y tir yn gallu difrodi
arwynebedd y ddaear. Trown at y dyn tywydd felly yn y gobaith o
dywydd oerach er mwyn rhewi'r tir sydd o dan draed. Felly, croesi
bysedd! Gyda'r brifysgol ar fin torri am wyliau'r Nadolig, edrychaf
ymlaen at ddala' lan ychydig gyda'r gwaith fferm a heb anghofio i
fwynhau'r ŵyl. Efallai ei bod hi'n amser erbyn hyn hefyd i ddechrau
meddwl am siopa'r Nadolig.. o mowredd mowr!
Pob hwyl a chymerwch ofal,
Carwyn Bwlchclaw'.
Yn ôl i'r brig