Helo, dyma beth hanes y fferm i chi yn ystod yr wythnosau
diwethaf. Rydym wedi cael y cynhaeaf mewn ac wedi
dechrau dod mewn â'r gwartheg i'r siedau dros y gaeaf.
Mae'r gaeaf yn agosáu a'r gwartheg yn torri tipyn ar y tir yr amser
yma o'r flwyddyn. Rydym wedi prynu dros fil o ŵyn er mwyn eu
pesgu yn ystod y gaeaf, felly gobeitho y bydd prisiau'r ŵyn yn
parhau ar i fyny! Mae gwaith y gaeaf eisioes wedi dechrau ac mae'r
nosweithiau yn tynnu mewn yn gyflym. Ar hyn o bryd rwyf wrthi'n
torri ben y cloddiau, ond mae'n jobyn sydd angen amser er mwyn ei
gyflawni'n ddeche.
Hwyl am y tro.