S4C

Ionawr 2011

Blog Teifi 24/01/11

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Wedi Nadolig a dechrau digon oer a gwlyb i'r flwyddyn newydd, braf yw gweld y tywydd yn sychu a'r ddaear yn dechrau dihuno a glasu wedi'r rhew caled.

Mae yna dros 100 o wyn yn bach yn Tŷ Hen ar hyn o bryd ac rwy'n falch i ddweud fod y rhan helaeth ohonynt allan erbyn hyn wedi cyfnod hir dan do dros gyfnod y glaw trwm a'r gwlybaniaeth.

Wythnos diwethaf roedd cinio blynyddol grŵp trafod Llambed a'r Cylch yn nghwmni cyn-aelod o dîm rygbi Cymru sef John Davies (Cilrhiwe). Yn y cinio mae canlyniadau cystadleuaeth silwair rhwng yr aelodau, sy'n dipyn o hwyl a dweud y gwir.  Rwy'n falch i ddweud ein bod wedi cael cyntaf ac ail gyda'r silwair byrnau mawr, ac ail a thrydydd gyda'r gwair byrnau bach.

Hwyl am y tro i chi.

Yn ôl i'r brig

 

Blog Enfys 21.01.11

         Dwi wrth fy modd gyda'r diwrnodau oer ond braf yma. Yn anffodus pan ma gwaith i'w wneud tu fewn sdim amser i fod allan yn mwynhau'r tywydd sych.

            Mor wahanol yw hi wythnos yma i gymharu a'r wythnos cynt. Glaw, glaw a mwy o law. Cyn mynd ymlaen mae'n bwysig sôn nad yw'r anghyfleustra mae'r glaw wedi achosi gyda ni yn ddim byd tebyg i'r dilyw ma nhw wedi brofi yn Awstralia, Sri Lanka a Brasil. Mae'r lluniau rydym ni wedi weld ar y teledu yn codi braw ac yn ein hatgoffa o'r fath bwer sydd gan fyd natur a'r tywydd trosom.

            Roedd hi'n bryd sganio'r defaid a buo ni'n lwcus o gael diwrnod gweddol sych ddydd Mawrth i ddod ar defaid i mewn i'r sied dros nos. Roedd hi'n anodd credu pa mor wlyb oedd y caeau a'r beic pedair olwyn yn troi'r porfa glas yn drac brown diflas wrth fynd ati i rowndio'r defaid. Roedd yr ardal o gwmpas y 'feeders' yn bwdel a roedd yn amlwg na ddylai'r un nifer o ddefaid ddychwelyd i'r cae yma gan ei fod mor wlyb.

            Yn gynnar fore Mercher (dwi ddim yn grêt yn y bore ond ddes i ben!) dyma fynd ati i sganio a'r canlyniadau yn plesio. Ma'r defaid 'triplets', sydd ddim yn rhy niferog, diolch byth, wedi eu cadw yn tŷ ond mae'r gweddill wedi eu troi nôl allan am gyfnod eto. Mi fydd hi'n amser wyna cyn troi rownd.

            Dwi di mabwysiadu'r 17 o hyrddod blwyddi sy wedi ymgartrefu dros y gaeaf yn y cae drws nesa i'r tŷ. Ni'n tipyn o fêts erbyn hyn!! Ma nhw'n stompio tuag ata i pan fydda nhw'n clywed y gat yn agor gan bo nhw'n gwbod bo bach o gêc ar y ffordd iddi nhw! Dynhw ddim yn cael llawer ond ni wedi cario ymlaen i roi ychydig yn dilyn yr eira sydd wedi gadael ei ôl ar y porfa. Ma nhw'n gymysgedd o hyrddod mynydd Cymraeg a Speckle gydag un Suffolk yn eu plith. Yn anffodus ma'r hyrddod mynydd Cymraeg yn anghofio am eu cyrnau wrth iddi nhw gronni o'n nghwmpas i a ma nhw'n cal sawl tap ar y pen i'w callio nhw!

            Ma na wahaniaeth mawr di bod o un wythnos i'r llall a'r tir oedd yn wlyb ac yn fwdlyd wythnos dwethaf wedi caledu gyda'r rhew yr wythnos yma. Mae'r tymheredd wedi gostwng a thipyn o niwl wedi bod am biti'r lle. Ddes i ar draws niwl ar y ffordd i gyfarfod Bwrdd Rheoli CFfI Cymru yn Builth ddydd Llun. Ar y ffordd lan fues i'n trafaelu drwy'r niwl rhwng Llangurig a Builth ond ar y ffordd adre roedd hi'n glir heblaw am gwpl o filltiroedd tra'n pasio Aberystwyth - roedd hi'n anodd gweld hyd yn oed pellter bach o'm mlaen.

            Cafwyd noson ddiddorol yn mhencadlys FUW yn Ngogerddan nos Fawrth - Hawl i Holi Materion Gwledig CFFI Cymru yng nghwmni Gareth Vaughan, FUW; Steve James, NFU a Dai Davies, HCC. Roedd tri testun dan sylw sef Glastir, TB a maint y fferm fodern a chafwyd trafodaeth ddifyr gan y siaradwyr.  

            Dwi di sôn o'r blaen nad ydw i'r gorau am godi gyda'r bore, a bu'n dipyn o ymdrech fore Mercher wedi cwpl o ddiwrnodau bishi. Ond trueni na fysen i di codi ynghynt - gyda'r car yn fflachio -6° arnai roedd gwaith dadleth ar ffenestri'r car, yn enwedig gan bod rhew ar yr ochr fewn hefyd! Wedyn dyma ga'l yn nal yn trio dod mas ar dop lôn gan fod lori fawr newydd basio am lawr yn araf a chynffon o geir yn dilyn ar ei ôl. Ac wrth gwrs gan fod lori araf o'm mlaen penderfynais fynd ar yr hewl fach sy'n croesi dros y top o Lanon i Ciliau Aeron er gwaetha'r rhew! Mi wnes i ddifaru gan fod yr hewl yn slic ac angen tipyn o ofal a 'low gear' i gadw llinell syth. Canlyniad hyn oll = hwyr i'r gwaith! Ond o leia fe wnes i ddysgu gwers, dim y llwybr byrra sy gloia bob amser!

 

Yn ôl i'r brig

 

Blog Enfys 10.01.11

Dwi'n siwr fod pawb yn falch o weld gwyrddni yn dychwelyd i gefn gwlad Cymru. Roedd y flanced wen wedi achosi digon o broblemau a cymaint o ddigwyddiadau wedi eu canslo o'r herwydd. Fues i ddim mewn dim un gwasanaeth carolau eleni a gorfod i fi ddibynnu ar CD o garolau i'm hatgoffa fod yr Ŵyl wedi cyrraedd. Er poendod yr eira roedd rhywbeth yn braf iawn am fynd mas am wac ar ddiwrnod Dolig a hithau'n Ddolig gwyn go iawn. Dwi ddim wedi gweld cymaint a hynny o eira ar lawr ar ddiwrnod Nadolig o'r blaen.

Wnes i dreulio dydd gŵyl San Steffan lawr ar y fferm. Un o'r prif dasgau, wrth gwrs, oedd mynd mas a 'big bales' i'r defaid a bois bach 'na beth oedd syrcas. Trueni mawr nag oedd camera gyda fi i dynnu llun o'u acrobatics wrth iddynt ymrafael am y cyntaf i gael gafael yn y silage.

Roedd hi'n eitha neis cael hoi yn yr wythnos rhwng Dolig a'r flwyddyn newydd a'r pwyslais mwyaf fu ar gymdeithasu! Cefais wahoddiad gan Sara Downes, Brenhines CFfI Ceredigion i dderbynwest Dawns y Frenhines ym mhafiliwn Bont. Braf oedd gweld sawl cant o ffermwyr ifanc wedi dod yno i gefnogi'r digwyddiad.

Mae wythnos cyntaf Ionawr wedi bod yn gynhesach o leiaf, er mae di oeri eto dros y penwythnos yma. Dwi wedi dechrau swydd newydd fel cynorthwy-ydd dysgu a lwcus fy mod i wedi prynu cot newydd i gadw'n gynnes pan allan amser chwarae ar ddyletswydd. Un peth dwi wedi sylwi, dyw plant ddim yn teimlo'r oerfel fel ni! 

Roedd sêl mlan mewn siop awyr agored yn Abertawe felly dyma fi yn mateisio ar y cyfle i brynu cot, sgidiau cerdded, menyg, fleece a sane trwchus. Gofynnodd y boi bach os on i mynd i rhywle neis, ond dwi ddim yn meddwl ma Aberystwyth odd yr ateb odd e'n ddisgwyl glywed! Ond dwi'n barod nawr am fwy o eira a gobeithio wir gan bo fi yn barod na ddaw e ddim nôl nes gaeaf nesa!

Ar y fferm mae rhai o'r gwartheg wrthi yn lloia ar hyn o bryd a nos Wener dwetha bu tipyn o waith tynnu un llo. Er well i fi ychwanegu bod y gwaith caled wedi ei wneud erbyn i fi fynd mas i'r sied i fusnesa a chael pip ar y newydd ddyfodiad! Noson fach digon annymunol oedd hi hefyd a rhaid oedd osgoi'r cawodydd trwm ysbeidiol wrth fynd o le i le. Roedd tipyn o ddŵr ar yr hewl ar y ffordd adre'r noson honno. Mae'r gwynt wedi codi dros nos y penwythnos yma a'r glaw wedi bod yn tasgu yn erbyn y ffenest. Dyna pryd dwi'n ddiolchgar bo fi'n y tŷ'n glyd ac yn gynnes a ddim mas yn trampo!

Yn ôl i'r brig