S4C

Blog Enfys 06.12.10

Wel, ges i'n nala mas yn bert fore Gwener diwethaf Tachwedd. On i wrthi yn pacio i fynd ar dramp i Ayr i benwythnos cystadlaethau Ffermwyr Ifanc yr Alban a wedyn i'r Ffair Aeaf, pan ddechreuodd yr eira gwympo. 'Sdim llawer o eira yn cwympo ffor hyn gan bo ni'n agos i'r môr ond diawch erioed o fewn hanner awr roedd popeth yn wyn a dros fodfedd o eira ar lawr. Mi nes i benderfynu mynd amdani a thrio cyrradd maes awyr Bryste, ond nes i ddim hyd yn oed cyrraedd yr hewl fawr. Dwi yn cydnabod ma' ar y gyrrwr odd y diffyg mwya' o bosib! 

            Cafodd y Ffermwyr Ifanc ddau ddiwrnod da yn y Ffair Aeaf a'r mwyafrif wedi troi allan i gystadlu er gwaethaf'r eira a'r rhew. Mi wnes i ddechrau ffasiwn newydd gyda fy 'sgidiau cerdded a sanau trwchus gyda ffrog, ond oni'n dwym ac yn saff ar fy nhraed a dyna beth oedd yn bwysig! Odd hi'n oer yna, a tymheredd gyda'r nos yn disgyn yn isel iawn. Dwi'n siwr bod ffermwyr yn falch o gael y cyfle i ddianc i'r ffair i gael newid o ddadleth pibellau a chario dŵr sydd wedi bod yn waith ychwanegol iddynt yn ystod y cyfnod oer yma.

            Oni'n sylwi ar yr ŵyn sydd yn y cae drws nesa' yn mynd i'r cloddie i chwilio gwyrddni oedd yn dod i'r golwg drwy'r flanced o eira. Dwi 'di gweld sawl anifail yn hwpo'i ben allan drwy'r ffens yn edrych am borfa yng nghanol yr eira ma wrth drafaelu yn ystod yr wythnos diwethaf.

            Odd rhaid fi fynd nôl i Lanelwedd ddydd Gwener i gyfarfod. Roedd yr hewl yn golew ar y ffordd yno ond ar y ffordd adre tua 4 o'r gloch roedd hi'n bwrw eira eto a phopeth yn dechrau gwynu. Pwyll pia hi mewn amgylchiadau fel hyn ag roedd hi'n braf cyrraedd yn ôl lawr i lefel y môr, lle roedd glaw yn hytrach nag eira ar ôl pasio dros 'Steddfa.