S4C

Blog Teifi 14.12.10

Ma' tipyn wedi digwydd ers i mi 'sgrifennu yma ddiwethaf. Ar y fferm mae'r defaid cyntaf yn agosáu i wyna ar y 5ed o Ionawr. Rydym eisioes wedi gwahanu'r defaid sy'n cario dau neu dri oen bach wrth weddill y praidd er mwyn rhoi rhagor o fwyd iddynt.

Mae'r tywydd oer yma yn rhoi'r ddaear i gysgu gyda'r caeau'n araf iawn yn aildyfu ar ôl y pori, oherwydd hyn rydym yn cynnig byrnau mawr o silwair i'r defaid i'w helpu i ymdopi â'r amgylchiadau.

Braf yw nodi fod prisiau'r farchnad ar i fyny wrth i ni werthu llwyth o wartheg tew i'r lladd-dŷ lleol am bris digon deche.

Yn ein siop cigydd a delicatessen yn dref farchnad Castell Newydd Emlyn mae prysurdeb y Nadolig wedi cyrraedd, gydag archebion am hamperi yn cynnwys cig, cawsiau, alcohol, siocled, jam, a shytneis yn ein cadw ni'n brysur. Mae'r hamperi sy'n cynnwys rhan helaeth o gynhwysion Cymreig yn amrywio mewn maint a phris, o £10 i £150 yn cael eu hanfon i gartrefi dros Brydain Fawr erbyn hyn.

Hwyl am y tro, siaradai a chi eto cyn y Nadolig.