
Roedd wythnos diwethaf yn un bishi ac ma amser wedi
hedfan! Dwi di bod mewn sawl cyfarfod a theithio sawl gwaith ar hyd
yr A44. Ni wedi penderfynu pa gwmni dylunio sy'n mynd ati yn y
flwyddyn newydd i greu logo newydd i CFfI Cymru; fuo ni'n cyfarfod
gyda Dolen Ffermio ynglyn a'r posibilrwydd o gynnig trip i
aelodau'r CFfI i Uganda; a trafodwyd pentref ieuenctid Sioe
Frenhinol Cymru 2011! Ar ôl yr holl drafod roedd hi'n amser am
barti cyn bo swyddfa CFfI Cymru yn cau dros yr wŷl, felly bant a ni
am bryd o fwyd blasus i'r Gelli Gandryll nos Iau. Doedd dim un
pluen eira wedi cwympo yn Builth y noson honno ond pan ddeffres i
bore Gwener roedd y lle yn wyn ac adroddiadau yn cyrraedd o adre
fod yr A44 ar gau! Doedd dim lot o awydd arnai fod yn sownd yn
Builth dros y penwythnos ond ar ôl profiad anymunol yn gyrru adre
dros 'Steddfa ddechrau'r flwyddyn mewn sawl modfedd o eira, doedd
yr opsiwn hynny ddim yn apelio llawer chwaith! Beth bynnag, doed i
benderfyniad a Helen a finne yn ei throi hi am Langurig gyda'n
gilydd - roedd Helen yn mynd i Lanrbynmair felly allen i gyrraedd
Caersws a dala tren o mynny i Aberystwyth. Gorfod i ni glirio rhyw
3 modfedd o eira oddi ar y car cyn cychwyn ar y siwrne, fi a fy
mrws! Er syndod roedd yr hewl i Langurig ddim yn rhy ffôl, ychydig
o slwtsh ond dim byd mawr. Y pishyn gwaetha oedd rhwng Llanidloes a
Llandinam. Glywes i nôl gan Helen wedyn ac roedd 9/10 modfedd yn
Llanbrynmair a'r eira'n dal i gwympo.
Odd hi'n braf iawn cael teithio ar y trên drwy gefn gwlad oedd yn
edrych yn bert iawn yn yr eira a pheidio gorfod poeni am fy sgiliau
gyrru! Dwi'n meddwl ma ar ei wyliau yn Builth fydd y Peugeot bach
dros Dolig nawr! Does dim car wedi gallu mynd ar hyd ein lôn ni ers
dydd Gwener, dim ond cerbydau 4x4, felly dyw car mam na dad di bod
mas o'r garej. Mae fel rinc sglefrio (sy'n golygu fod fy nghi
defaid Nel yn treulio mwy o amser ar ei thin pan ewn ni am wac
druan!) a dim golwg bod yr hewl yn mynd i wella yn y dyddiau
nesaf.
Mae fy nghymydog sydd a fferm ordro ond a hewl arall i fynd ato
wedi gorfod mynd ati i'w glirio ddwy waith, er mwyn rhoi mynediad
i'r lori laeth. Unwaith fore Gwener a wedyn eto fore Sadwrn ar ôl i
sawl modfedd arall o eira gwympo. Mae e hefyd yn fishi yn bwydo'r
defaid tac sydd gyda fe yn ei gaeau, sy'n ychwanegu tipyn mwy o
waith at ei ddiwrnod arferol.
Ma tipyn o eira lawr ar y topiau uwchben Llanfair Clydogau ar fferm
fy Wncwl hefyd. Fues i'n siarad gyda fe nos Sul ar ei benblwydd yn
65, ond doedd e heb gael diwrnod i'r brenin! Roedd problemau wedi
bod gyda'r pibellau dwr ac wrth gwrs ma dadleth y pibellau yn rhan
arferol o'i ddiwrnod yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hefyd roedd
angen symud y defaid lawr o'r caeau top er mwyn gallu mynd ati i'w
bwydo'n haws. Roedd lluwchefydd yn gwneud y dasg hyn yn anodd iawn
a'r 'quad' yn methu mynd i rhai llefydd. Roedd fy chwaer a fy mrawd
yng ngyfraith di gallu mynd ato fe yn y 4x4 i'w helpu gyda'r gwaith
a fel bod e'n cael ei anrhegion penblwydd. Dyw'r eira ma ddim yn
gwneud bywyd ffermwyr yn hawdd o gwbl.
Ddoe, wnes i ddarganfod bydd y 'boiler suit' yn y tywydd oer ma pan
es i allan i fwydo'r wyn hyrddod sydd yn y cae drws nesa'. Pan wnes
i ddechrau ysgwyd y bwced sugarbeat, odd e'n eitha doniol gweld dau
hwrdd oedd ar ôl ar dop y cae yn rhedeg cath i gythrel drwy'r eira
a'r powdr gwyn yn hedfan i bobman o'i cwmpas nhw! Mae'r wyn
yn joio gorwedd yn y man lle ni di bod yn rhoi'r silage mas iddi
nhw, sai'n beio nhw, ma ishe manteisio ar unhryw beth sy'n mynd i
roi ychydig bach o wres ychwanegol yn y tywdd oer ma! Dwi'n mynd i
wisgo'r 'boiler suit' tipyn mwy!
Yn ôl i'r brig