Wedi cael hydref cymharol sych a mwyn ar y cyfan, gyda'r
gwartheg yn mwynhau allan, braf ydi nodi fod yr holl wartheg
bellach dan do yn barod i'w gaeafu. Gyda'r tywydd wedi troi wythnos
yma rydym wedi bod yn hel defaid allan i bori ar ffermydd yn
sir Benfro, ac wedi prynu dros 300 o wyn stor i'w tewhau yn ystod y
gaeaf ar 21 erw o "stuble turnips".
Amser yma o'r flwyddyn mae pawb wrthi yn torri cloddiau, rydym
wedi gorffen adref ac mae'r peiriant bellach nôl yn y sied am
flwyddyn arall.
Dydd Gwener (29.10.10) buom yn marchnad Aberhonddu a braf yw
gweld prisiau yn dal eu tir er fod gaeaf drud o'm blaenau
i borthu'r anifeiliaid gan fod prisiau dwysfwyd, gwellt a thanwydd
yn mynd i fyny yn wythnosol.
Rwyf wedi porri trwy canllawiau "Glastir" ond heb ddod i
benderfyniad pendant eto a fydd yn addas ar gyfer ein fferm ni
yn Tŷ Hen, felly hwyl i chi am y tro.
Yn ôl i'r brig