Gorddibyniaeth ar y car sydd dan y lach yn y rhaglen hon wrth i Ifor geisio dwyn perswâd ar rai o bobl ifanc y brifddinas i ddefnyddio dulliau amgen o deithio.
Bydd Nia Parry yn twrio drwy gypyrddau dillad cynllunydd gemwaith sy'n byw yn Hackney - Buddug Wyn; Margaret Hughes o Hendygwyn sydd wedi cadw dillad o'i gorffennol a Iago Llywelyn Griffiths sy'n cael ei ddylanwadu gan steil pobl Llundain.
I ddathlu deng mlwyddiant y gyfres boblogaidd 04 Wal mae Aled Samuel yn crwydro Cymru a thu hwnt i ganfod tai hyfryd i'ch danteithion. Ymunwch ag ef i weld gwledd o dai - o'r crand, i'r cartrefol ac o'r eco i'r cyfoes.
Cerddi a chrefft barddoni, plentyndod a phynciau mawr bywyd, wrth i'r Prifardd Dic Jones drafod oes o farddoni ac amaethu. Yn cynnwys cyfweliad hir gafodd ei recordio bedwar mis cyn ei farwolaeth, a sgyrsiau gyda theulu a ffrindiau agos fel y Prifardd Gerallt Lloyd Owen.
Bob wythnos, bydd PC Nicola Wilson yn cwrso ceir ar hyd yr M4, yn delio â meddwon ar strydoedd Llanelli ac yn dod wyneb yn wyneb â drwgweithredwyr bygythiol. Mae Andrea Davies-Tuthill yn nyrs ac yn filwr ac mae hi wedi treulio pedwar mis yng Nghamp Bastion, Afghanistan. Mae'r ddwy hefyd yn famau. Sut maen nhw a'u teuluoedd yn ymdopi â bywyd bob dydd?
Ar 'Pethe' heddiw bydd Nia Roberts a Rhun ap Iorwerth yn trafod hen lythyrau, yn edrych ar y grefft o greu cwiltiau, yn holi Arfon Gwilym am y dadeni ym myd canu gwerin Cymraeg, ac yn cael cip unigryw y tu ôl i lenni Neuadd Brynaman.
Cyfle i fwynhau pigion o gyfres Bro 2009 wrth i Shân Cothi ac Iolo Williams grwydro Cymru yn cwrdd â phob math o bobl yn eu bröydd.
Ar ymweliad â Llydaw bydd Aled Samuel yn dysgu mwy am wydr lliw ar gwrs yn Cleguerec; bydd Alex Jones yn gwella ei Ffrangeg ar gwrs 'Ffrangeg wrth y tân'; a bydd y ddau yn teithio mewn car traddodiadol Ffrengig - Citroen 2CV - i fynd ar drywydd bwyd Llydaw.
Yn fyw o Stadiwm y Mileniwm ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010 yn erbyn yr Eidalwyr. Cic gyntaf 2.30pm.
Mamma Mia! Mae tîm Bryn Coch yn cael gwahoddiad i fynd i chwarae yn yr Eidal adeg Cwpan y Byd. Beth fydd hanes y daith?
Ymunwch â'r tenor byd-enwog Dennis O'Neill wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed gyda'r Fonesig Kiri Te Kanawa.
Alun Williams a Malcolm Allen sy'n cyflwyno uchafbwyntiau'r penwythnos o Uwch Gynghrair Cymru gan ganolbwyntio ar Port Talbot v Caersws.
Ar noswyl gêm Cymru yn erbyn yr Eidal, ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens, Rowland Phillips ac Alex Jones ar gyfer pennod hwyliog arall o 'Jonathan'. Yn ymuno â'r criw heddiw bydd Malcolm Allen a'r actor Rhys Parry Jones.
Alwyn Humphreys sy'n cyflwyno cyngerdd gala arbennig o Bafiliwn Llangollen yng nghwmni Faryl Smith, Mark Evans, Côr Godre'r Aran, Côr Meibion y Fron, Cantorion Colin Jones a'r bariton ifanc Alexei Kalveks.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales