Noson fwyn iawn
NOS FERCHER
Y glaw yn clirio tua'r dwyrain i adael ambell ddiferyn o law
mân. Ardaloedd o niwl yn ffurfio a'r gwynt yn gostegu. Yn noson
fwyn iawn gyda'r tymheredd yn aros yn y ffigyrau dwbwl mewn sawl
man. 9 - 11°C
DYDD IAU
Cymylog gyda glaw mân gyda phocedi o niwl yn
gorchuddio'r bryniau. Ardaloedd i'r dwyrain ychydig yn brafiach.
Mewn gwynt cymedrol o'r de orllewin teimlo'n fwyn iawn gyda'r
tymheredd o bosib yn cyrraedd 15°C ar ei orau.
DYDD GWENER
Parhau'n gymylog yn ystod y bore gydag ambell gawod ond fe
ddylai fod yn brynhawn sychach a brafiach. Ddim mor fwyn â'r
tymheredd rhwng 8 a 12°C.
DYDD SADWRN
Sych gyda chyfnodau braf ac mewn gwynt gorllewinol y
tymheredd rhwng 7 - 11°C
DYDD SUL
Yn fwy cymylog gydag ambell gawod. 9 - 12°C
RHAGOLYGON GAN MARI GRUG